Cyrraedd y Filiwn o Siaradwyr drwy'r Gyfundrefn Addysg - Polisïau Allweddol Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith

[agor fel PDF] [agor fel .docx]

 

Cyrraedd y Filiwn o Siaradwyr drwy'r Gyfundrefn Addysg

 

Polisïau Allweddol Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith

 

 

cymdeithas.cymru
 

 

 

 

Bil Addysg Gymraeg i Bawb

Ymateb i adolygiad Bwrdd CSGA

 

1. Cyflwyniad 

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ers dros hanner canrif.   

1.2. Rydym yn cytuno’n gryf bod angen newid y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Erfyniwn ar y Llywodraeth i beidio â gwanhau Mesur y Gymraeg 2011, ac yn lle hynny, canolbwyntio ar newid deddfwriaeth addysg Gymraeg.   

1.3. Croesawn yn benodol y penderfyniad i gynnull panel o arbenigwyr i ystyried newidiadau i'r gyfraith. Mae'n drueni nad oedd y Llywodraeth wedi dilyn y model yma cyn mynd ati i lunio cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. 

1.4. Nid yw Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi cyflawni, ac mae angen creu strwythur fydd yn arwain at normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae gwaith yr adolygiad hwn yn cynnig cyfle euraid i fynd i'r afael â’r diffygion difrifol hynny. Nid yw’n addas, yn sgil yr addewidion pwysig a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei strategaeth iaith ddiweddar, i oddef cyfundrefn mor aneffeithiol ac ymatebol. Rhaid sefydlu cyfundrefn sy’n sicrhau cynllunio rhagweithiol, bwriadus, cadarn a hirdymor, gan fod y drefn bresennol wedi methu.

 

2. Prif Argymhellion 

2.1. Gallwn grynhoi ein prif argymhellion fel a ganlyn: 

(i) Yn sgil y consensws trawsbleidiol a pholisi cadarn y Llywodraeth o blaid y targed miliwn o siaradwyr, mae angen newid sail ddeddfwriaethol y gyfundrefn addysg Gymraeg. Yn rhesymegol, mae angen dileu ‘mesur y galw’ fel sail ac yn lle hynny, cynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, fel y gwneir yng Nghatalwnia lle mae’r gyfraith yn datgan: “Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol”.

(ii) Er mwyn gweddnewid y gyfundrefn o fewn ychydig ddegawdau i gyfundrefn fel un Catalwnia, dylid disodli cyfundrefn fethedig Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg gyda chyfundrefn sy’n gosod targedau clir, di-droi'n-ôl. Mae angen targedau tymor byr, bob pum mlynedd, targedau canolig, bob deng mlynedd fel cerrig milltir cadarn tuag at nod deddfwriaethol tymor hirach a hynny drwy ddeddfwriaeth gynradd ac is-ddeddfwriaeth.

(iii) Dylai’r ddeddfwriaeth newydd gynnwys:  

  • nod hirdymor sy’n gyrru’r gyfundrefn; 

  • targedau tymor byr a chanolig statudol er mwyn cyflawni’r nod; 

  • cymhellion ariannol clir a fformiwla eglur er mwyn sicrhau y cyflawnir y targedau hynny mewn ffordd nad yw'n ddibynnol ar fympwy cynghorau sir unigol; 

  • targedau ar gyfer normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y nod hirdymor erbyn dyddiad(au) pendant; 

  • targedau dros gyfnod hirach, e.e. 10 mlynedd, gydag adolygiad bob pum mlynedd o'r llwyddiant i gyflawni;

(ii) Dylid uwchraddio Uned y Gymraeg i fod yn adran lawn o fewn y Llywodraeth er mwyn sicrhau bod mwy o rym i'r Gymraeg o fewn y Llywodraeth; 

(iii) Dylai fod cymhellion ariannol clir – refeniw a chyfalaf – i gyflawni ar dargedau addysg Gymraeg a dylai hyn fod o fewn cyllidebau prif-ffrwd yn hytrach nag fel bonws; 

(iv) Mae angen gosod dyletswydd ar gynghorau i esbonio manteision addysg cyfrwng Cymraeg yn eu holl waith a'r rhesymau dros gynllunio ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg i bawb wrth drosglwyddo i gyfundrefn fel un Catalwnia; 

(v) Dylid gosod targedau o ran cynyddu nifer a chanran y pynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion traddodiadol Saesneg (argymhelliad adroddiad yr Athro Sioned Davies); 

(vi) Ymysg y cymhellion ariannol (gweler adran 9 isod) rydym yn eu ffafrio er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar y nod hirdymor a thargedau cenedlaethol: 

  • Dylid clustnodi arian cyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif yn amodol ar sicrhau cynnydd yn y ganran o addysg trwy’r Gymraeg yn y sir;

  • Dylid ymestyn a chynyddu'r gronfa bresennol ar gyfer prosiectau penodedig Cymraeg; 

(vi) O ran atebolrwydd a monitro cyflawni ar y targedau, credwn y dylid ystyried rhoi pwerau a chyfrifoldeb ymchwilio naill ai i Estyn er mwyn iddo blethu gyda'r gyfundrefn atebolrwydd ehangach neu i Gomisiynydd y Gymraeg  

(vii) bydd angen addasu ieithwedd unrhyw gyfundrefn gan gydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl

 

3. Cyd-destunau Deddfwriaethol Rhyngwladol 

 

3.1 Wrth gloriannu'r gyfundrefn bresennol yng Nghymru, credwn ei bod yn bwysig ystyried yr enghreifftiau gorau o gwmpas y byd. O edrych ar dair tiriogaeth sy’n berthnasol i sefyllfa ieithyddol Cymru, mae’n eglur bod y ddeddfwriaeth yn llawer iawn mwy cadarn ynghylch addysgu yn eu hieithoedd brodorol. Er bod gwahaniaethau rhwng deddfwriaeth yr ardaloedd hyn, mae’n eglur mai nod y gyfundrefn yw gwneud yr iaith frodorol yn norm cyfrwng yr addysgu.  

 

3.2. Dywed Erthygl 20 – deddf addysg Catalwnia: 

"1.Mae’r Gatalaneg, fel priod iaith Catalwnia, hefyd yn iaith addysg, ar bob lefel ac ym mhob math o addysgu.  

2.Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol." 

 

3.3. Dywed Erthygl 15 y gyfraith yng Ngwlad y Basg 

"Cydnabyddir hawl yr holl fyfyrwyr i gael eu haddysgu... yn y Fasgeg...ar y lefelau addysgol gwahanol.  

I’r perwyl hwn bydd y Senedd a’r Llywodraeth yn mabwysiadu’r mesurau angenrheidiol hynny a fydd yn gogwyddo tuag at ehangu cynyddol yn nwyieithrwydd cyfundrefn addysg Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg." 

 

3.4. Dywed Siarter yr Iaith Ffrangeg – Québec

"PENNOD II 

HAWLIAU IAITH SYLFAENOL 

... 6. Mae gan bob person sy’n gymwys i dderbyn addysg yn Québec yr hawl i dderbyn yr addysg honno yn y Ffrangeg. 

PENNOD VIII 

IAITH YR ADDYSGU 

72. Trwy gyfrwng y Ffrangeg y bydd yr addysgu yn yr ysgolion meithrin, ac yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda’r eithriadau a nodir yn y bennod hon. 

 

4. Y Gyfundrefn Bresennol yng Nghymru 

 

4.1. Yn y bôn, nid yw'r gyfundrefn ddeddfwriaethol yng Nghymru ond yn gosod dyletswydd ar gynghorau i fabwysiadu cynllun a 'mesur y galw' mewn rhai amgylchiadau.  Diben y cynlluniau yw: "gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal"; a "gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal". Yn ogystal, mae gan Weinidogion rym i fynnu bod cynghorau yn asesu'r galw am addysg Gymraeg. O ran y cynlluniau, mae gan Weinidogion rym i wrthod neu addasu cynllun nad ydyn nhw'n fodlon ag ef.

4.2. O gymharu'r gyfundrefn â'r enghreifftiau rhyngwladol uchod, ymddengys fod nifer o ddiffygion amlwg, gan gynnwys y canlynol:

  • Nid oes hawl statudol i addysg cyfrwng Cymraeg; 

  • Nid oes nod nac amcan hirdymor yn y ddeddfwriaeth gynradd;  

  • Nid oes dull o sicrhau cynllunio tymor canol na cherrig milltir ar amserlen 5-10 mlynedd o fewn y gyfundrefn;

  • Nid oes disgwyliad o gynnydd;

  • Mae cynlluniau yn ddulliau clogyrnaidd a chymhleth o gymharu â theclynnau deddfwriaethol eraill, megis Safonau'r Gymraeg, sy'n gosod templed er mwyn sicrhau bod cynghorau yn gweithredu'n unol â nhw;

  • Nid oes cymhelliant i gynghorau – boed yn ariannol nac fel arall – i gyflawni ar ymrwymiadau'r cynlluniau 

5. Perfformiad Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ers 2010 

5.1. Mae'r cynlluniau wedi methu â chyflawni ar dargedau cenedlaethol y Llywodraeth ers 2010. Nid oes angen edrych ymhellach nag adroddiadau'r Llywodraeth o ran y 'twf' mewn addysg cyfrwng Cymraeg: 

5.2. Twf o 1% yn unig dros gyfnod o saith mlynedd. Yn wir, ar y graddfeydd twf presennol, byddai'n cymryd sawl canrif i gyrraedd addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Nid yw'r gyfundrefn yn addas i unrhyw ddiben positif, heb sôn am darged o filiwn o siaradwyr Cymraeg nac ychwaith y nod o wneud y Gymraeg yn norm fel cyfrwng y gyfundrefn addysg. Wrth edrych ar fesurau perfformiad plant hŷn, mae perfformiad y gyfundrefn hyd yn oed yn waeth.

6. Strategaeth Iaith y Llywodraeth a’i goblygiadau  

6.1. Mae strategaeth iaith 'miliwn o siaradwyr' a'r targedau addysg yn "Cymraeg mewn addysg: cynllun gweithredu 2017 i 2021" yn newid y cyd-destun yn llwyr, ac yn amlygu anaddasrwydd y gyfundrefn bresennol. 

6.2. Yn gryno, mae'r Llywodraeth am weld: 

  • 70% o blant yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg erbyn 2050 

  • 40% o blant yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg penodedig erbyn 2050.

6.3. Mae'r targedau hynny yn golygu bod rhaid cael cyfundrefn sy'n cynllunio'n rhagweithiol dros gyfnod hir i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, nid un sy'n dibynnu ar 'fesur y galw' neu gynlluniau di-gyfeiriad.

7. Gweithredu ar argymhellion Adroddiad yr Athro Sioned Davies 

7.1. Cred y Gymdeithas ei bod yn hanfodol bwysig bod y gyfundrefn newydd yn gweithredu ar rai o argymhellion allweddol adroddiad yr Athro Sioned a gyhoeddwyd yn 2013 ynghylch Cymraeg Ail Iaith. Yn benodol, credwn y dylai'r gyfundrefn gyfreithiol sicrhau'r canlynol:

(i) dileu 'Cymraeg Ail Iaith' a'i ddisodli gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl (argymhelliad 6) 

(ii) gosod "targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg" (argymhelliad 15) 

 

7.2. Mae'n hollbwysig bod y gyfundrefn newydd, yn ogystal â sicrhau twf addysg benodedig cyfrwng Cymraeg, yn symud ysgolion unigol ar hyd y continwwm ieithyddol. Credwn fod gweithredu ar argymhelliad 15 adroddiad yr Athro Sioned Davies o fewn y gyfundrefn statudol newydd yn ffordd o wireddu hyn.

8. Cynllunio'r Gweithlu 

8.1. Mae cynllunio’r gweithlu addysg yn gwbl greiddiol i gyflawni pob targed o ran ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n hollol bosib cynllunio ar gyfer twf sylweddol os cymerir y camau priodol nawr i sicrhau llwyddiant ac os oes mesurau digon cadarn yn eu lle. Cynhaliodd y Gymdeithas seminar gydag arbenigwyr i drafod sut i wneud hyn, ac mae argymhellion y sesiwn i’w gweld yma1. Fodd bynnag, mae’n eglur bod potensial i wneud cynnydd sylweddol gan gofio bod oddeutu 6% o’r holl weithlu yn medru’r Gymraeg ond heb fod yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, a bod 80% o’r myfyrwyr sydd ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon o’r newydd wedi bod yn ddisgyblion mewn ysgolion yng Nghymru.  

8.2. Mae adolygiad brys Aled Roberts, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, yn llygaid ei le ac yn ddamniol am y sefyllfa bresennol gan ddweud:

Prin iawn oedd yr awdurdodau hynny oedd yn cynllunio’n strategol anghenion eu gweithlu yn seiliedig ar asesiad cyfredol o fedrau iaith. Dylai asesiadau iaith fod yn hanfodol ac yna sicrhau bod disgwyliadau pendant mesuradwy ar bolisïau recriwtio a hyfforddiant. Oni bai fod hynny'n digwydd nid wyf o'r farn bod unrhyw bwynt parhau efo'r deilliant yma yn seiliedig ar faint o weithredu sydd wedi bod o fewn y cynlluniau blaenorol.

“… Prin iawn yw unrhyw drafodaeth ar sut bydd awdurdodau lleol yn blaenoriaethu a diwallu’r anghenion hynny yn arbennig o ran y defnydd a wneir o Gynllun Sabothol yr Iaith Gymraeg. Disgrifiad o’r anawsterau i recriwtio staff a geir yn hytrach nac unrhyw gynllunio strategol i fynd i’r afael â’r broblem. … Rhaid holi pa bwrpas sydd i gynllunio ar gyfer twf sylweddol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod y tair mlynedd nesaf heb bod penderfyniadau brys yn cael eu cymryd ar hyfforddi rhagor o athrawon newydd sydd yn medru’r Gymraeg, yn arbennig yn y sector uwchradd.”

8.2. Credwn y dylai fod mesurau pendant o fewn y gyfundrefn statudol newydd i wneud y canlynol: 

(i) Sefydlu targedau statudol er mwyn cynyddu canrannau'r bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg; 

(ii) Sicrhau mai nod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yw bod pob gweithiwr yn mynd ymlaen i addysgu drwy’r Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant;

(iii) Rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd gwahaniaethol yn y gweithle, gan gynnwys: 

a) cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid i Gymru;  

b) rhaglen hyfforddiant gloywi Iaith ar gyfer y 6% o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ond ddim yn addysgu drwyddi ar hyn o bryd, gan arwain at dystysgrif gallu o fewn blwyddyn;

c) rhaglenni hyfforddiant gwahaniaethol i atgyfnerthu gallu’r mwyafrif i gefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm gan dargedu’r rhai mwyaf hyderus ac abl yn y Gymraeg ar gyfer rhaglenni mwy dwys yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnodau hyfforddiant preswyl – gan arwain at ennill tystysgrif sgiliau dros gyfnod o dair blynedd; 

ch) atgyfodi ac ymestyn y rhaglenni athrawon bro i lywio'r cynlluniau uchod, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o fentoriaid, grwpiau cefnogi ysgol/ardal. 

d) Ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith;

 

9. Cymhellion Ariannol ac Eraill 

9.1. Credwn ei bod yn gwbl greiddiol i lwyddiant y gyfundrefn newydd bod yna gymhellion cryf, cadarn a hirhoedlog i sicrhau bod awdurdodau yn cyflawni ar y nod hirdymor a/neu dargedau cenedlaethol.  

9.2. Rydym yn croesawu llwyddiant y gronfa newydd i ddarparu 100% o'r arian cyfalaf angenrheidiol ar gyfer prosiectau addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym yn cytuno â RhAG y dylid ehangu'r gronfa ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Fodd bynnag, nid oes modd seilio trefn gyfreithiol wedi ei dylunio i weithio dros gyfnod o ddegawdau ar sail ddewisol, fympwyol.

9.3. Ymysg y cymhellion ariannol rydym yn eu ffafrio er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni ar y nod hirdymor a thargedau cenedlaethol: 

  • Dylai arian cyfalaf Ysgolion yr 21ain ganrif ar gyfer adeiladau newydd i gyd gael ei glustnodi i hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg.

  • Ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor sy'n darparu canran is o’r addysg drwy gyfrwng y Gymraeg na’r sefydliadau addysg yn yr ardal leol, na gyda llai na 50% o’r addysg drwy’r Gymraeg yn unman yng Nghymru.

  • Yn y cyfamser, cyn mabwysiadu'r polisi uchod, dylid parhau a chynyddu'r gronfa bresennol sy'n cynnig 100% o'r arian cyfalaf i awdurdodau lleol ar gyfer prosiectau penodedig Cymraeg. 

9.4. Credwn ymhellach bod modd ystyried yn ogystal â neu yn lle'r uchod:

  • Lle nad yw awdurdod lleol yn cyrraedd eu targedau statudol i ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg, dylid trosglwyddo’r arian refeniw i gonsortia neu ysgolion unigol sy'n dangos cynnydd ar sail cynllun strategol.

  • Parhau â chronfa gyfalaf ar wahân sydd â maint digonol er mwyn cyrraedd targedau/nod hirdymor y ddeddfwriaeth.

  • Mabwysiadu rheol genedlaethol fel yr un a ffafrir gan gyn-Arweinydd Cyngor Caerdydd na ddylid ond ariannu drwy gyfalaf ysgolion newydd sy'n ysgolion penodedig Cymraeg neu 'ddwyieithog' (sef 50%+ cyfrwng Cymraeg) 

10. Cyfundrefn Amgen ar gyfer 2050 – Casgliadau  

Credwn felly fod angen cyfundrefn newydd sy'n cyd-fynd â'r egwyddorion canlynol: 

(i) Nod a threfn cynllunio addysg Gymraeg uchelgeisiol a chyraeddadwy yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol 

(ii) Mesurau pendant o ran cynllunio'r gweithlu (gweler atodiad) 

(iii) Cymhelliant ariannol clir a pharhaol 

(iv) Cynlluniau strategol cenedlaethol a lleol cynaliadwy 

(v) Cefnogaeth statudol er mwyn sicrhau cynllunio manwl 

(vi) Fframwaith strategol hirdymor, a chynlluniau tymor byr a thymor canol manwl

 

Atodlenni

I. Dogfennau Perthnasol 

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2013/1/enacted/welsh/data.xht?wrap=true  

http://www.rhag.net/hen/dogfennau/maniffesto_Rhag_2015_Cymraeg_terfynol.pdf  

https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/Miliwn%20o%20siaradwyr%20Cymraeg%20-%20gwe%20llai.pdf  

II. Ymchwil Cymdeithas yr Iaith – Targedau Addysg 

Gweler: https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/Targedau%20Addysg%20Lleol2.pdf

 

Awst 2018

 

 

 

 

 

 

 

Dadansoddiad Interim

Targedau Addysg Lleol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

  1. Cyflwyniad

    1. Darn o waith ystadegol cychwynnol yw'r hyn sy'n dilyn; gobeithio y bydd yn sbarduno sgwrs ehangach ynghylch y camau trawsnewidiol sydd eu hangen yn y maes addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    2. Dim ond un darn o'r jig-so yw'r ystadegau hyn, ond mae'n ddarn allweddol os yw'r Llywodraeth am gyrraedd ei tharged. Mae targedau o'r math yma, fel rhan o becyn o fesurau, yn allweddol er mwyn cyflawni'r dyhead trawsbleidiol i sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Fel dywedon ni ddwy flynedd yn ôl yn ein dogfen weledigaeth, yn ogystal â'r elfen addysg, bydd angen mesurau i leihau'r allfudiad, o bobl ifanc yn enwedig, ynghyd â normaleiddio defnydd yr iaith ym mhob rhan o fywyd.

    3. Mae'r targedau arfaethedig hyn yn seiliedig ar dybiaethau optimistaidd o ran newidiadau demograffig, felly dyma'r lleiafswm sy'n bosib ei ganiatáu o ran twf addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd y filiwn o siaradwyr. Yn wir, mae dadl gref bod rhaid symud yn gyflymach ac yn bellach.

    4. Rydym eto i weld newidiadau trawsnewidiol, sydd eu hangen ar frys erbyn hyn.

    5. Mae rhanbarthau'r Gymdeithas wedi ymateb a chraffu ar eu cynlluniau Cymraeg mewn addysg lleol: maent yn annigonol a dweud y lleiaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ystyried cyfundrefn sy'n gosod targedau ar awdurdodau lleol, sy'n cynnwys lleiafswm o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rydyn ni'n credu y dylai'r gyfundrefn orfodi awdurdodau i gynllunio sut y byddan nhw'n cyflawni eu targedau, er mwyn creu'r filiwn o siaradwyr.

    6. Ar yr ochr gadarnhaol, mae bwriad y Llywodraeth i symud pob ysgol i fyny'r continwwm o ran darparu mwy a mwy o addysg cyfrwng Cymraeg, a'r penderfyniad i ddileu Cymraeg Ail Iaith, yn galonogol iawn. Ym mhob sir, dylai'r gyfundrefn addysg sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg.

    7. Mewn nifer o siroedd, dilyniant yn y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg yw'r her fwyaf. Mewn siroedd fel Gwynedd, mae dileu'r opsiwn o sefyll yr arholiad ail iaith yn rhan hanfodol o wella'r sefyllfa, gan fod hynny'n atal y posibiliad bod y gyfundrefn yn caniatáu iddynt golli eu gafael ar yr iaith. Mae'r diffyg dilyniant rhwng addysg gynradd Gymraeg ac ysgolion uwchradd yn broblem fawr mewn nifer o siroedd, yn enwedig yn y gogledd-orllewin a'r de-orllewin.

    8. Rydym yn gobeithio adeiladu ar y gwaith ystadegol cychwynnol isod er mwyn dangos yr her o ran dilyniant yn y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg sy'n wynebu nifer o ardaloedd yn y wlad.

       

  2. Nodyn am y Fethodoleg

    1. Daeth y fethodoleg wreiddiol o 'Darlun Ystadegol o Sefyllfa'r Gymraeg' a gyhoeddwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Fodd bynnag, newidiwyd hyn ychydig gan y penderfynwyd mai nifer y plant a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yw'r newidyn allweddol i'w newid yn hytrach na nifer y plant a ddiffinnir fel siaradwyr Cymraeg yn y Cyfrifiad.

    2. Daw'r amcangyfrifon poblogaeth o ragamcanion poblogaeth cenedlaethol 2014. Daeth ffigurau'r boblogaeth yn 2012 a 2013 o amcangyfrifon canol-blwyddyn. Daw'r amcangyfrifon siaradwyr Cymraeg o'r Cyfrifiad “DC2106WAla – Sgiliau iaith Gymraeg fesul oedran a rhyw".

    3. Daw'r amcangyfrifon ar gyfer nifer y plant sydd wedi'u haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o adroddiad blynyddol diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

    4. Gwneir tybiaeth bod nifer y plant a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn sefydlog drwy gydol addysg gynradd (felly mae'r nifer ym mlwyddyn 2 yn 2007 yn amcangyfrif gweddol ar gyfer blwyddyn 6 yn 2011) ac erys yr un dybiaeth ar gyfer addysg uwchradd (nifer ym mlwyddyn 9 yn 2013 yn amcangyfrif gweddol ar gyfer blwyddyn 7 yn 2011).

    5. Camau'r Fethodoleg

Cam 1

      1. Cyfunwyd y setiau data a chreu dwy set ddata newydd. Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer pob blwyddyn o 2012 i 2050 oedd y cyntaf. Mae'r llall yn cynnwys amcangyfrif poblogaeth 2011 ar gyfer pob oedran, nifer y siaradwyr Cymraeg ar gyfer pob oedran a nifer y plant a arholwyd drwy'r Gymraeg ar gyfer pob oedran.

Cam 2

      1. Cyfrifwyd canran y plant nas arholwyd drwy'r Gymraeg a fyddai'n siaradwyr Cymraeg yn ôl y Cyfrifiad yn 2011. Ar gyfer pob oedran, defnyddiwyd y cyfrifiad canlynol: (nifer siaradwyr Cymraeg – nifer a arholwyd yn Gymraeg) /(nifer nas arholwyd yn Gymraeg)

Cam 3 – gwneud rhagfynegiad

      1. Mae'r dull ar gyfer rhagfynegi yn amrywio fesul grŵp oedran penodol:

Dros 21 mlwydd oed erys canran y siaradwyr Cymraeg ar yr un lefel a fu ar gyfer yr un garfan y flwyddyn flaenorol. Felly, pe bai 18% o bobl 21 mlwydd oed yn siarad Cymraeg yn 2011, yna rhagfynegir y byddai 18% o bobl 22 mlwydd oed yn siarad Cymraeg yn 2012. Mae hyn yn tybio bod mudo net, oedolion yn dysgu'r iaith a marwolaethau yn canslo ei gilydd.

8-11 mlwydd oed a 13-16 mlwydd oed – arholir yr un nifer o blant yn Gymraeg â'r un garfan yn y flwyddyn flaenorol. Darperir cyfanswm nifer y siaradwyr Cymraeg o'r nifer a fyddai'n cael eu harholi yn Gymraeg yn ogystal â'r nifer na fyddai'n cael eu harholi, wedi eu lluosi gyda'r ganran a gyfrifwyd yng ngham 2 uchod.

12 mlwydd oed – oherwydd cwymp yn y nifer a arholir yn Gymraeg rhwng blwyddyn 2 a 9, tybir bod hyn yn digwydd rhwng addysg gynradd ac uwchradd ac felly mai'r nifer a arholir drwy'r Gymraeg pan fônt yn 12 mlwydd oed yw 0.9*(y nifer sy'n 11 oed yn y flwyddyn flaenorol). Cyfrifir cyfanswm y siaradwyr Cymraeg yn yr un modd.

17-21 mlwydd oed – gwyddys mai dau draean o'r rhai a arholir drwy'r Gymraeg ym mhob carfan a fydd yn dal i fod yng Nghymru ac yn siarad Cymraeg pan gyrhaeddant 21 mlwydd oed. Er mwyn ystyried hyn, nifer yr ymgeiswyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg sy'n cael eu cynnwys fel siaradwyr Cymraeg yw 0.92 y nifer a fu yn y flwyddyn flaenorol. Pe byddai 5,000 o bobl 16 mlwydd oed yn cael eu harholi drwy'r Gymraeg yn 2011, yna tybir mai (5000*0.92=4600) fyddai'n parhau i fyw yng Nghymru ac yn siarad Cymraeg yn 17 oed yn 2012, mai (4600*0.92=4232) fyddai'n siarad Cymraeg yng Nghymru yn 18 oed yn 2013, ac yn y blaen. Nifer y siaradwyr Cymraeg yw cyfanswm y rhif hwn a'r ganran nad ydynt yn mynychu addysg cyfrwng Cymraeg a gyfrifwyd yng Ngham 2 uchod.

3-6 mlwydd oed – mae canran y siaradwyr Cymraeg 3 mlwydd oed yn hafal â chanran oedolion rhwng 19 a 50 mlwydd sy'n siarad Cymraeg ar y pryd. Mae hyn wedyn yn cynyddu bob blwyddyn gan ddilyn patrwm Cyfrifiad 2011 nes i ni gyrraedd 7 oed pan newidir y dull cyfrifo.

7 mlwydd oed – yn y model cychwynnol, fe dybir bod nifer y bobl 7 mlwydd oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn aros ar yr un lefel. Amrywir y dybiaeth hon wedyn.

    1. Adnabod y cynnydd sydd ei angen

      1. Defnyddir y model gydag addasiadau fel bod canran y plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu'n gyson bob blwyddyn o 2017 tan 2040 ac wedyn yn aros ar yr un lefel. Y nod yw darganfod y ganran hon. Mae cynnydd o 2.5% bob blwyddyn bron â chyrraedd y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

         

  1. Prif Ganfyddiadau'r Ymchwil

     

    1. Gofynnwyd i ystadegwyr ystyried sut y byddai modd cymhwyso targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 i dargedau ar gyfer 'Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg' awdurdodau lleol. Canolbwyntiwyd ar ddeilliant cyntaf y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2010 ar gyfer yr ymarferiad ystadegol hwn.

       

    2. Ar sail y tybiaethau a restrir yn yr adran uchod, lluniwyd y graff isod sy'n dangos y cynnydd yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg pe na bai cynnydd yn nifer y plant 7 mlwydd oed sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o gymharu â chynnydd o 2.5% y flwyddyn yn y ganran a addysgir drwy'r Gymraeg:

 

 

*mae'r llinell 2.5% y flwyddyn yn dangos y twf yn niferoedd siaradwyr y Gymraeg pe bai twf o 2.5% y flwyddyn yng nghanran y plant 7 mlwydd oed sy'n derbyn addysg Gymraeg

**mae'r llinell 'dim cynnydd' yn dangos y rhagamcan ar gyfer nifer y siaradwyr pe na bai twf yn y ganran sy'n derbyn addysg Gymraeg

***mae'r llinell 'canran gyson' yn dangos y newid yn niferoedd y siaradwyr pe bai canran y siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth yn aros yr un fath rhwng nawr a 2050

 

    1. Gan ddefnyddio'r targed o dwf blynyddol addysg cyfrwng Cymraeg o 2.5% fel sail, dosrannwyd y canrannau hyn o blant 7 mlwydd oed a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg yn y blynyddoedd canlynol (siawns cyfrannol) gan sefydlu'r targedau isod ar gyfer 22 awdurdod lleol Cymru:

 

 







 

2014

2025

2030

2035

2040

Ynys Môn

72.1%

87.6%

91.7%

94.9%

97.4%

Gwynedd

97.8%

99.2%

99.5%

99.7%

99.8%

Conwy

25.1%

47.9%

58.7%

70.9%

82.8%

Sir Ddinbych

24.5%

47.1%

58.0%

70.2%

82.3%

Sir y Fflint

5.7%

14.2%

20.4%

30.5%

46.4%

Wrecsam

12.0%

27.2%

36.7%

49.7%

66.1%

Powys

19.3%

39.6%

50.4%

63.5%

77.4%

Ceredigion

74.0%

88.7%

92.4%

95.4%

97.6%

Sir Benfro

19.7%

40.2%

51.0%

64.0%

77.8%

Sir Gaerfyrddin

55.4%

77.3%

84.1%

90.0%

94.7%

Abertawe

14.1%

31.1%

41.1%

54.4%

70.1%

Castell-nedd Port Talbot

18.7%

38.7%

49.4%

62.5%

76.7%

Pen-y-bont ar Ogwr

8.6%

20.5%

28.6%

40.6%

57.4%

Bro Morgannwg

12.9%

28.9%

38.6%

51.8%

68.0%

Rhondda Cynon

Taf

 

19.9%

 

40.5%

 

51.3%

 

64.3%

 

78.1%

Merthyr Tudful

11.7%

26.7%

36.0%

49.0%

65.5%

Caerdydd

15.1%

32.8%

43.0%

56.4%

71.8%

Caerffili

18.9%

39.0%

49.7%

62.8%

76.9%

Blaenau Gwent

5.1%

12.9%

18.6%

28.1%

43.5%

Torfaen

10.2%

23.8%

32.5%

45.2%

61.9%

Sir Fynwy

5.8%

14.5%

20.7%

30.9%

46.8%

Casnewydd

4.5%

11.5%

16.7%

25.5%

40.3%

Cymru gyfan

19.4%

39.7%

50.5%

63.6%

77.5%

*mae gwahaniaeth rhwng y ffigyrau yn y tabl uchod a'r canrannau a nodwyd yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg oherwydd bod dadansoddiad y Gymdeithas yn seiliedig ar ragamcanion poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol, sy'n cynnwys plant a addysgir yn y cartref ac yn y sector breifat

  1. Casgliadau

    1. Mae'r ymchwil uchod yn dangos bod her fawr yn wynebu Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, consortia addysg, ac yn wir yr holl gyfundrefn addysg; ond, gan gynllunio yn awr ar gyfer y newidiadau hyn, bydd yn bosib cymryd camau breision ymlaen.

Gobeithiwn y bydd y dadansoddiad interim hwn yn sbarduno trafodaeth ehangach ynghylch yr angen i gynllunio twf addysg cyfrwng Cymraeg a gwneud targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yn realiti. Bwriadwn ddatblygu'r ymchwil cychwynnol hwn yn bellach dros y misoedd i ddod. Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

 

Mai 2017

 

 

Cynllunio'r Gweithlu Addysg – Casgliadau Seminar

Cyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg
 

1. Cyflwyniad

    1. Nodwyd ar ddechrau'r cyfarfod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo:

      • i ddisodli'r cymwysterau 'Cymraeg Ail Iaith' gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021; ac

      • i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

    2. Cafwyd trafodaeth ddofn dwy awr rhwng asiantaethau addysg ac arbenigwyr iaith ynghylch y newidiadau sydd eu hangen i'r gweithlu addysg yn sgil y datblygiadau polisi uchod. Nodir isod nifer o brif gasgliadau'r drafodaeth.

       

Casgliadau / Argymhellion

  1. Pwyntiau Cyffredinol

2.1. Argymhellwyd bod angen buddsoddi arian sylweddol yn addysgu'r gweithlu addysg er mwyn arbed arian yn y tymor hir.

2.2. Nodwyd bod angen gweithredu ar dair elfen bwysig:

      1. Targedu cyfnodau hollbwysig – blynyddoedd cynnar, trosglwyddiad o'r cynradd i'r uwchradd gan sicrhau dilyniant di-dor, a rhaglenni teulu ar gyfer y cyfnod sylfaen a blynyddoedd 1 a 2.

      2. Datblygu defnydd o'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu – nodwyd bod awr y dydd o addysg yn y Fasgeg mewn ysgolion dwyieithog yng Ngwlad y Basg ac o leiaf 40% o ddysgu ar draws y cwricwlwm drwy'r Fasgeg.

      3. Ymestyn y rhaglen datblygu sgiliau athrawon gan arwain at achrediad Tystysgrif Sgiliau. Nodwyd bod angen denu mwy o athrawon, a bod awdurdodau Gwlad y Basg yn rhoi o leiaf flwyddyn ar y tro er mwyn i athrawon wella eu sgiliau fel rhan o gynllun sabothol.

2.3. Dywedwyd yn hytrach na gwneud mwy o ymchwil, bod angen dilyn 7 cam:

      1. Gwella dealltwriaeth o ddysgu iaith – newid agweddau ac ysbrydoli

      2. Datblygu rhaglen hyfforddiant mewn swydd gydag athrawon yn gweithio mewn timau ar draws ardal mewn cydweithrediad â thimau athrawon bro

      3. Rhyddhau staff ar gyfer hyfforddiant drwy raglen cynllun sabothol diwygiedig

  1. Targedu gweithlu yfory – sicrhau bod pob rhaglen Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru yn cynnwys paratoad ar gyfer dysgu a/neu gefnogi’r Gymraeg.

  2. Sefydlu rhwydwaith o ysgolion 'iaith ar waith' lle mae arolwg mewnol 'teulu'r ysgol' o ran beth sydd ei angen er mwyn darparu cwricwlwm drwy gyfrwng yr iaith, yn ogystal â sicrhau trochi yn y cyfnod sylfaen a 40% o'r cyfnod sylfaen drwy gyfrwng y Gymraeg

  3. Rhannu deunyddiau – er mwyn sicrhau bod modd dysgu drwy'r iaith

  4. Gwneud cymhwyster ieithyddol yn hanfodol i athrawon newydd, a chynnig cymhwyster cyffelyb ar gyfer athrawon mewn swydd – er enghraifft y Tystysgrif Sgiliau Cymraeg sydd ar waith mewn Addysg Uwch. Sicrhau bod y Gymraeg yn un o ddangosyddion perfformiad Estyn.

  5. Codi medrusrwydd iaith a llythrennedd disgyblion lledaenu’r ddealltwriaeth o ddwyieithrwydd fel ffordd o godi safonau llythrennedd yn gyffredinol.

2.4. Mynegwyd pryder am y ffaith bod swyddogion ac asiantaethau yn oedi ar y broses o weithredu newidiadau angenrheidiol: ai 'oedi' yw ystyr 'pwyll'? Dywedwyd bod angen chwyldroi'r gyfundrefn o ran cynllunio'r gweithlu, nid chwarae ar yr ymylon.

2.5. Nodwyd na ddylai fod angen gradd B mathemateg i fod yn athro Cymraeg. Yn lle hynny, dylid rhoi'r sgil i athrawon wrth iddynt ddechrau gweithio.

2.6. Awgrymwyd y dylid adfer cynllun llythrennedd CILT Cymru a arweiniodd at adrannau iaith sefydliadau addysg yn cydweithio gyda'i gilydd. Argymhellwyd y dylid creu adrannau ieithoedd a fyddai'n golygu cydweithio rhwng athrawon iaith.

2.7. Dywedwyd y dylid adfer yr arfer o hyrwyddo'r iaith ar draws y cwricwlwm ac awgrymwyd bod angen blaenoriaethu dau neu dri maes yn hynny o beth, megis iechyd a gofal cymdeithasol, addysg bersonol a chymdeithasol, technoleg gwybodaeth ac addysg gorfforol.

2.8. Dywedwyd y dylid targedu'r oddeutu 6% o'r gweithlu sy'n medru'r Gymraeg ond ddim yn dysgu drwy'r iaith er mwyn sicrhau enillion cyflym.

2.9. Mynegwyd pryder bod pob athro Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn gorfod ceisio dyfeisio eu cwrs iaith eu hunain, a bod angen mwy o arweiniad cenedlaethol ar gynnwys y cwrs a chydweithio ar draws ardaloedd a rhanbarthau.

2.10. Teimlwyd ei bod yn bwysig bod yr adnoddau ychwanegol a gafodd Cymraeg i Oedolion yn y gyllideb eleni ar gael i'r gweithlu addysg (gan gynnwys y gweithwyr hynny nad ydynt yn ymarferwyr dosbarth), yn ychwanegol at y gyfran o'r £20 miliwn ychwanegol ar gyfer gwella safonau ysgolion a ddylai fynd at wella safonau o ran y Gymraeg.

2.11. Mynegwyd pryder bod cynllun 'Cam-wrth-gam' y Mudiad Meithrin wedi colli arian sylweddol er ei fod yn enghraifft brin o ymdrech benodol i gynllunio'r gweithlu addysg.

2.12. Cytunwyd bod gwir angen gwella dealltwriaeth consortia a gweision sifil o'r Gymraeg, a bod dirfawr angen cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar nifer fawr ohonynt.

2.13. Dywedwyd bod dulliau trochi yn allweddol er mwyn sefydlu'r un continwwm dysgu Cymraeg yn iawn a normaleiddio'r Gymraeg ym mhob sector.

2.14. Awgrymwyd y dylid penodi pencampwyr iaith ar gyfer pob ysgol gynradd yn ogystal â phencampwr ardal/bro.

2.15. Awgrymwyd y dylid clustnodi dau neu dri o'r diwrnodau hyfforddiant mewn swydd statudol bob blwyddyn yn 2017/18 a 2018/19 ar gyfer hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith a chefnogi Cymraeg ar draws y cwricwlwm, datblygu cyfleoedd allgyrsiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Gymraeg fel pwnc.

2.16. Pwysleisiwyd pwysigrwydd adfer ac ymestyn rôl y gwasanaeth athrawon bro i gynnwys elfen gref o hyfforddiant ar gyfer athrawon yn y dosbarth, datblygu rhaglenni teulu a llunio rhaglen hyfforddiant ar gyfer cymorthyddion dosbarth a staff ategol.

  1. Cynllun Sabothol

    1. Roedd teimlad cryf y dylid diwygio nod a natur y Cynllun Sabothol, er mwyn bod yn eglur mai ei rôl yw sicrhau bod gweithwyr addysg ac athrawon yn cyrraedd rhuglder fel modd iddynt ddysgu drwy gyfrwng yr iaith wedi'r cwrs. Mae angen targedu mwy effeithiol ar athrawon yn y blynyddoedd cynnar ac ysgolion cynradd er enghraifft.

    2. Nodwyd, er gwaethaf llwyddiannau'r cynllun sabothol o ran cyflwyno ail iaith, nad dyna'r nod sydd ei eisiau. Dywedwyd bod nifer o gynlluniau er mwyn cyrraedd lefelau mynediad a sylfaen yn y Gymraeg, ond nad ydynt yn addas er mwyn gwireddu amcanion a newidiadau polisi'r Llywodraeth. Dywedwyd bod angen anelu at lefel canolradd neu uwch, a bod athrawon sy'n mynd ar y cynlluniau presennol yn mynnu bod angen un cwrs arall arnynt er mwyn bod yn rhugl.

    3. Nodwyd y bu'r Coleg Hyfforddi Athrawon yn y Barri yn rhoi blwyddyn gyfan i'r gweithlu er mwyn sicrhau eu bod yn gallu dysgu drwy'r Gymraeg. Bu cynllun tebyg yng Ngwynedd a ddarparai ddwy flynedd er mwyn sicrhau sgiliau Cymraeg. Nodwyd gyda phryder y ffaith bod y cynlluniau dwys hyn wedi cael eu disodli, a bod gan y cynllun hwnnw ddisgwyliadau cymharol uchel o ystyried cyn lleied o fewnbwn a ddarperir. Teimlwyd hefyd ei bod yn bwysig bod mwy o bobl yn cwblhau cyrsiau o'r fath.

  2. Blynyddoedd Cynnar

    1. Nodwyd pwysigrwydd y cyfnod cyn oedran ysgol o ran cynllunio twf a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg i bawb. Nododd nifer o siaradwyr pa mor allweddol bwysig yw'r Mudiad Meithrin. Nodwyd bod 86% o'r rhai sy'n mynychu cylchoedd meithrin yn mynd ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Yn hynny o beth, dywedwyd ei bod yn allweddol bwysig bod addewid y Llywodraeth o ofal plant 30 awr am ddim yn prif- ffrydio'r Gymraeg.

    2. Pwysleisiwyd bod angen buddsoddiad yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar a bod angen mwy o gydnabyddiaeth o hynny yn strategaeth iaith y Llywodraeth.

  3. Addysg Gychwynnol Athrawon

    1. Argymhellwyd na ddylid achredu canolfan ar gyfer hyfforddi athrawon oni bai bod modd hyfforddi myfyrwyr ar gyfer darparu addysg cyfrwng Cymraeg cynhwysfawr ar lefel eang. Nodwyd bod angen digon o diwtoriaid cyfrwng Cymraeg.

    2. Roedd pryder mawr nad oedd targedau o ran niferoedd sy'n gadael addysg gychwynnol sy'n gallu dysgu drwy'r Gymraeg. Cytunwyd nad oedd yn dderbyniol nad oes dim targedu o ran pynciau o brinder nac athrawon cyfrwng Cymraeg.

    3. Nodwyd bod ysgoloriaethau lle bo prinder a'u bod ar gael ar gyfer y Gymraeg, ond mynegwyd pryder nad oes cymhelliant ariannol i aros yn y gyfundrefn addysg yng Nghymru wedi'r hyfforddiant cychwynnol.

    4. Cytunwyd bod angen targedau statudol clir ac uchelgeisiol i gael canran gynyddol o'r gweithlu sy'n gallu:

  1. dysgu'r Gymraeg fel pwnc; ac

  2. addysgu drwy'r Gymraeg

Cytunwyd bod angen gweithredu ar y targedau hyn ar frys, o fis Medi flwyddyn nesaf: ni ellir fforddio rhagor o oedi.

  1. Mesurau Perfformiad

    1. Cytunwyd ei bod yn hanfodol bwysig cynnwys y Gymraeg fel mesur perfformiad ar gyfer pob ysgol, a hynny ar frys. Dywedwyd yn ogystal bod angen i gynnwys Cymraeg fod yn rhan hanfodol o'r Fagloriaeth.

    2. Dywedwyd bod angen newid agwedd rhai athrawon; nodwyd gyda phryder bod gwersi Cymraeg mewn nifer o ysgolion yn digwydd drwy gyfrwng y Saesneg.

Rhagfyr 2016

 

Camau Polisi er mwyn

cynllunio'r gweithlu addysg

 

Datblygu'r gweithlu addysg

Prif ofynion: Mesurau pendant i gynyddu’n sylweddol gapasiti’r gweithlu addysg i addysgu drwy’r Gymraeg

(i) Sefydlu targedau statudol er mwyn cynyddu canrannau'r bobl sy'n hyfforddi i fod yn athrawon o’r newydd fydd yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

(ii) Sicrhau mai nod pob un cwrs yn y cynllun sabothol yw bod gweithwyr yn mynd ymlaen i addysgu drwy’r Gymraeg wedi’r cwrs, gyda thystysgrif sgiliau fel gwarant

(iii) Rhaglen ddwys o hyfforddiant mewn swydd gwahaniaethol yn y gweithle, gan gynnwys:

a) cyrsiau ymwybyddiaeth iaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid i Gymru;

b) rhaglen hyfforddiant gloywi Iaith ar gyfer y 6% o athrawon sy’n medru’r Gymraeg ond ddim yn addysgu drwyddi, gan arwain at dystysgrif gallu o fewn blwyddyn;

c) rhaglenni hyfforddiant gwahaniaethol i atgyfnerthu gallu’r mwyafrif i gefnogi defnydd o'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm gan dargedu’r rhai mwyaf hyderus ac abl yn y Gymraeg ar gyfer rhaglenni mwy dwys, yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer cyfnodau hyfforddiant preswyl – gan arwain at ennill tystysgrif sgiliau dros gyfnod o dair blynedd;

ch) atgyfodi ac ymestyn y rhaglenni athrawon bro i lywio'r cynlluniau uchod gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o fentoriaid, grwpiau cefnogi ysgol/ardal.

(iv) Ymestyn cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon am hyd at flwyddyn ychwanegol i alluogi darpar athrawon i ddysgu Cymraeg a gloywi iaith;

Mae cynllunio’r gweithlu addysg yn gwbl greiddiol i gyflawni pob targed o ran ehangu a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n hollol bosib cynllunio ar gyfer twf sylweddol os cymerir y camau priodol nawr i sicrhau llwyddiant ac os oes mesurau digon cadarn yn eu lle. Cynhaliodd y Gymdeithas seminar gydag arbenigwyr i drafod sut i wneud hyn, ac mae argymhellion y sesiwn i’w gweld yma.

Mae adolygiad brys Aled Roberts, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru, yn ddamniol am y sefyllfa bresennol:
“Prin iawn oedd yr awdurdodau hynny oedd yn cynllunio’n strategol anghenion eu gweithlu yn seiliedig ar asesiad cyfredol o fedrau iaith. Dylai asesiadau iaith fod yn hanfodol ac yna sicrhau bod disgwyliadau pendant mesuradwy ar bolisïau recriwtio a hyfforddiant. Oni bai fod hynny'n digwydd nid wyf o'r farn bod unrhyw bwynt parhau efo'r deilliant yma yn seiliedig ar faint o weithredu sydd wedi bod o fewn y cynlluniau blaenorol.

“… Prin iawn yw unrhyw drafodaeth ar sut bydd awdurdodau lleol yn blaenoriaethu a diwallu’r anghenion hynny yn arbennig o ran y defnydd a wneir o Gynllun Sabothol yr Iaith Gymraeg. Disgrifiad o’r anawsterau i recriwtio staff a geir yn hytrach nac unrhyw gynllunio strategol i fynd i’r afael â’r broblem. … Rhaid holi pa bwrpas sydd i gynllunio ar gyfer twf sylweddol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn ystod y tair mlynedd nesaf heb bod penderfyniadau brys yn cael eu cymryd ar hyfforddi rhagor o athrawon newydd sydd yn medru’r Gymraeg, yn arbennig yn y sector uwchradd.”

Fodd bynnag, mae’n eglur bod potensial i wneud cynnydd sylweddol, o gofio bod oddeutu 6% o’r holl weithlu yn medru’r Gymraeg ond heb fod yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, a bod 80% o’r myfyrwyr sydd ar gyrsiau hyfforddi cychwynnol athrawon o’r newydd wedi bod yn ddisgyblion mewn ysgolion yng Nghymru.

 

 

 

Un cymhwyster Cymraeg i bawb

Argymhellion Ymgynghorol Gweithgor Cymwysterau Cymdeithas yr Iaith

 

 

1.Cyflwyniad

    1. Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, am sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Nododd yr adroddiad: “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro

… Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”

    1. Argymhellodd adroddiad yr Athro Davies y dylid disodli Cymraeg Ail Iaith gyda chontinwwm lle byddai pob disgybl yng Nghymru yn cael cyfran o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan argymell y canlynol:

“Argymhelliad 6

Llywodraeth Cymru i adolygu’r rhaglen astudio Cymraeg, dros gyfnod o dair i bum mlynedd, a defnyddio’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm diwygiedig gan gynnwys:

-un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog; a chanllawiau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant.

“O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith.”

    1. Yn ogystal, argymhellodd yr adroddiad annibynnol y dylid “… ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”. Yn ôl ymateb i gwestiwn ysgrifenedig diweddar, ymddengys nad yw’r Llywodraeth wedi gweithredu ar yr argymhelliad pum mlwydd oed hwn o gwbl.

    2. Er ei bod bellach yn bum mlynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies gael ei gyhoeddi, mae Cymraeg Ail Iaith yn parhau i gael ei addysgu mewn ysgolion, a hynny er gwaethaf nifer o ymrwymiadau gan Weinidogion i'w ddileu.

    3. Ar 18fed Tachwedd 2015, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod e a'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dod i'r un casgliad: "Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol ... Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn."

    4. Ar 28 Medi 2016, yn siambr y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb am y Gymraeg ar y pryd y byddai Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gan un cymhwyster Cymraeg erbyn 2021.

    5. Ym mis Mawrth 2018, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith presennol.

2. Rhagarweiniad

2.1. Model

2.1.1. Dylid dilyn model tebyg i Gymraeg i Oedolion, sef Sylfaen, Canolradd, Uwch, Hyfedredd.

2.1.2. Credwn fod nifer o fanteision i'r model, gan gynnwys sicrhau bod y gyfundrefn gymwysterau yn cefnogi pob disgybl i ddysgu Cymraeg ar hyd yr un continwwm yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc ddatblygu sgiliau drwy’r ysgol.

2.1.3. Yn ogystal, mae’n sicrhau bod disgyblion yn gallu parhau gyda, neu ategu, eu haddysg ysgol gyda dosbarthiadau nos neu gyrsiau dwys a ddarperir gan y gyfundrefn Cymraeg i Oedolion.

    1. Fframwaith Asesu

      1. Dylai fod pwyslais ar asesiadau ffurfiannol gydag elfen o asesiadau terfynol.

      2. Dylai’r gwaith cwrs ganolbwyntio ar ddeall y gymuned leol o ran ei hanes, ei daearyddiaeth, ei hiaith unigryw a'r heriau sy'n ei hwynebu, a sut mae'r rheiny’n plethu â hanes Cymru a hanes a defnydd cyfoes yr iaith. Dylid darparu adnoddau sy'n cynnwys straeon atyniadol am yr iaith neu’r wlad fyddai’n ysgogi plant i'w dysgu, megis diwylliant cyfoes a pherthnasol.

      3. Bydd un asesiad llafar cyffredin i bob disgybl 14 oed, ac asesiad llafar cyffredin arall yn 16 oed gyda phapur haen is a haen uwch fel asesiad ysgrifenedig yn 16 oed.

      4. Bydd yr asesiadau yn mesur cyrhaeddiad llafar yn 14 oed. Bydd un asesiad llafar i bawb, fydd yn cyfateb i safonau llafar presennol TGAU. Bydd yr asesiad yn arwain at dystysgrif sy’n cyfateb i lefelau presennol Cymraeg i Oedolion. Gallai’r asesu gynnwys elfennau ffurfiannol yn ogystal â therfynol.

      5. Yn dilyn canlyniadau’r asesiadau 14 oed, bydd modd i ddisgyblion ddilyn un o ddau lwybr sy’n arwain at yr asesiadau canlynol yn 16 oed:

        • I’r rheini sydd eisoes wedi pasio lefel hyfedredd iaith yn 14 oed, bydd asesiad llenyddol ac iaith ychwanegol.

        • I’r rheini sydd heb basio lefel hyfedredd iaith, bydd asesiad llafar pellach er mwyn cyrraedd lefel hyfedredd iaith.

      6. Bydd disgwyl i ysgolion gynnig oriau dysgu nad ydyn nhw’n llai na’r lleiafswm a argymhellir yng nghanllawiau Cymraeg i Oedolion, gan gynnwys normaleiddio’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm a dysgu pynciau eraill drwy’r Gymraeg. Drwy’r ymrwymiadau hynny, bydd cyfle gan bob disgybl i gyrraedd lefel ragorol o ruglder ar lafar.

    1. Cynnwys / Manyleb y Cymhwyster:

      1. Dylai’r cwrs ganolbwyntio ar sgiliau/gallu llafar er mwyn sicrhau bod gan bob disgybl botensial i gael y marciau uchaf.

      2. Bydd modd i elfennau llenyddol cyrsiau gael eu hadnabod yn fwy drwy un cymhwyster llenyddiaeth, gydag elfen o lenyddiaeth Gymraeg i bob disgybl. Bydd pwyslais hefyd ar lenyddiaeth yn y gwaith cwrs. Bydd ymgorffori siarad a gwrando yn greiddiol i'r cwrs hyfedredd.

    2. Nodau ac Amcanion y Cymhwyster Cyfunol

      1. Drwy gyfuno nodau ac amcanion y cymwysterau Cymraeg Iaith Gyntaf ac Ail Iaith presennol, lluniwyd y nodau ac amcanion canlynol ar gyfer un cymhwyster cyfunol:

  • deall a defnyddio’r Gymraeg yn llafar ac yn ysgrifenedig i gyfathrebu mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd

  • deall a defnyddio amrywiaeth o batrymau, strwythurau a ffurfiau iaith wrth gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig

  • dangos dealltwriaeth ac addasu’r defnydd o iaith, gan gynnwys tafodiaith ac ymadroddion mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac i wahanol gynulleidfaoedd, gan gynnwys deall cywair ac ymateb yn addas i bwrpas.

  • defnyddio a dehongli amrywiaeth o destunau ysgrifenedig i ddangos dealltwriaeth o iaith ar lafar

  • meithrin chwilfrydedd a dangos dealltwriaeth o Gymru ac o’r Gymraeg yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol

  1. Cynnwys y Pwnc

    1. Trefnwyd y cyd-destun ar gyfer dysgu'r iaith ar sail pum maes trafod:

  1. Iaith a diwylliant – Cymru a'r Byd

  2. Yr amgylchedd byd-eang

  3. Hawliau a chyfiawnder personol a chymdeithasol

  4. Y dechnoleg newydd mewn byd gwaith a hamdden

  5. Gwleidyddiaeth a democratiaeth yng Nghymru a’r tu hwnt

    1. Bydd unedau’r cymhwyster fel a ganlyn:

  1. Disgrifio

  2. Cyfathrebu

  3. Dadansoddi ac Egluro

  4. Crynhoi a dod i farn

    1. Asesiadau Llafar (oedran 14)

TASG 1 – Cyflwyniad Unigol ar sail Ymchwil

Un cyflwyniad unigol ar sail ymchwil a all gynnwys ymateb i gwestiynau ac adborth wedi’u seilio ar themâu penodol.

Disgwylir i ymgeiswyr gymryd rhan mewn gweithgaredd llafar unigol gan gyflwyno gwybodaeth ar unrhyw agwedd neu agweddau yn ymwneud ag un o’r themâu canlynol:

  1. Cymru a’r Gymraeg, gan gynnwys hanes, daearyddiaeth a gwleidyddiaeth

  2. Diwylliant (Celf, Arlunio, Cerddoriaeth ayyb)

  3. Byd Gwaith a Hamdden

  4. Byd Gwyddoniaeth/Technoleg

  5. Democratiaeth, sef addysg gymdeithasol a gwleidyddol cymuned, gwlad a’r amgylchedd. Mae’r dasg hon yn rhoi cyfle i ymgeiswyr gyflwyno gwybodaeth a dangos rhesymu geiriol.

    TASG 2 – Ymateb a Rhyngweithio

Un drafodaeth grŵp ar sail symbyliad ysgrifenedig a/neu weledol a ddarperir gan CBAC i hybu trafodaeth.

Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar gydag eraill er mwyn mynegi a chefnogi barn. Mae’r gweithgaredd yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr gyfleu eu profiadau personol a/neu berswadio eraill.

Ar gyfer y ddwy dasg, dyfernir hanner y marciau am gynnwys a threfn a’r hanner arall am gywair priodol, cywirdeb gramadegol ac ystod o batrymau brawddegol.

 

  1. Asesu

    1. Prif ddiben y cymhwyster a’r cwrs hyd at 14 oed yw creu siaradwyr rhugl a datblygu sgiliau llafaredd, yn hytrach na sgiliau ysgrifenedig.

    2. Dyma’r sgiliau llafaredd a ddisgwylir:

      • Cyflwyno gwybodaeth a dethol/trefnu gwybodaeth a syniadau yn effeithiol ac yn ddarbwyllol, e.e. ar gyfer cyflwyniad llafar wedi’i baratoi neu drafodaeth grŵp.

      • Dangos dealltwriaeth o gonfensiynau'r iaith lafar mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

      • Siarad yn gywir ac yn rhugl, gan addasu arddull ac iaith fel eu bod yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ffurfiau, cyd-destunau, cynulleidfaoedd a dibenion.

      • Arbrofi gydag iaith a thechnegau i fynegi barn, creu effeithiau a denu diddordeb cynulleidfaoedd.

      • Talu sylw priodol i gywirdeb cystrawen a mynegiant.

      • Cyfleu profiadau, syniadau a gwybodaeth yn glir, yn gywir ac yn briodol.

      • Defnyddio sgiliau rhesymu geiriol, llunio barn annibynnol ac arddangos sgiliau gwrando effeithiol drwy grynhoi pwyntiau allweddol, herio’r hyn a glywir ar sail rheswm, tystiolaeth neu ddadl.

      • Ymateb yn adeiladol ac yn feirniadol i amrywiaeth eang o destunau ysgrifenedig a digidol/dynamig, gan ddefnyddio dulliau creadigol o ymchwilio i faterion, datrys problemau a datblygu syniadau.

      • Myfyrio ar eu defnydd o iaith a defnydd pobl eraill ohoni a rhoi sylwadau beirniadol ar hynny, cymryd rhan mewn amrywiaeth o gyd-destunau bywyd go iawn, ac addasu'r sgwrs yn briodol i'r sefyllfa a'r gynulleidfa.

  2. Casgliadau

    1. Credwn fod modd creu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl drwy ddilyn model Cymraeg i Oedolion o ganolbwyntio’n bennaf ar sgiliau llafaredd. Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cymhwyster enghreifftiol newydd cyn gynted â phosib a’i estyn i bob sefydliad addysg dros amser. Ar yr un pryd, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar argymhellion eraill adroddiad yr Athro Davies, yn enwedig yr argymhelliad i “… ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”

    2. Bydd asesiadau llafar cyffredin i bob disgybl yn 14 ac yn 16 oed, fydd yn arwain at gymwysterau cyffredin mewn Cymraeg iaith. Bydd modd cydnabod sgiliau ysgrifenedig ac elfennau llenyddol drwy bapurau llenyddol estynedig. Credwn y bydd cynnal yr asesiadau cyffredin ar oedran iau yn atal ysgolion rhag caniatáu i ddisgyblion golli sgiliau iaith, ynghyd ag estyn pob person ifanc i'w llawn botensial ym mhob cyd-destun addysgol.

Gweithgor Cymwysterau Cymdeithas yr Iaith, 27 Medi 2018

Byddai’r gweithgor yn croesawu adborth ar ei argymhellion drafft. Gallwch chi e-bostio sylwadau at post@cymdeithas.cymru

1 http://cymdeithas.cymru/dogfen/cynllunior-gweithlu-addysg-cyrraedd-miliwn-o-siaradwyr-cymraeg