Darlledwr Amlblatfform Cymraeg Newydd

[Cliciwch yma i agor y ddogfen fel PDF]

Darlledwr Amlblatfform Cymraeg Newydd

Papur Trafod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Hydref 2015

Cyflwyniad

Yn y ddogfen yma, cyflwynir ein gweledigaeth ar gyfer darlledwr Cymraeg newydd, gan gynnwys argymhellion penodol ynghylch amcanion a strwythur y gwasanaeth o fewn cyd-destun modelau a phrosiectau tebyg sy’n bodoli eisoes.

Prif nodau’r gwasanaeth newydd fydd:

  • Creu cynnwys gwreiddiol o’r safon uchaf

  • Gweithredu arlein yn bennaf, ond hefyd ar radio ac ar deledu

  • Gosod fframwaith a thechnoleg dosbarthu effeithiol ac arloesol ar gyfer ffonau symudol, tabledi, setiau teledu clyfar, consolau gemau ac ati

  • Cynnig platfform i leisiau newydd ac amgen ar y cyrion, er mwyn adlewyrchu ystod ehangach o bobl a bywyd cyfredol yng Nghymru

  • Cynyddu defnydd y Gymraeg, yn enwedig ymysg pobl ifanc

  • Cynorthwyo ac ategu gwasanaethau S4C a Radio Cymru

  • Rhyddhau S4C a Radio Cymru o’r baich o geisio gwasanaethu’r gynulleidfa gyfan

Pam bod angen gwasanaeth newydd?

Dros y degawdau diwethaf, tra bu twf aruthrol yn nifer y sianeli teledu a gorsafoedd radio Saesneg eu hiaith, mae’r gwasanaethau Cymraeg wedi aros yn eu hunfan, gydag un sianel deledu, un orsaf radio, a gwasanaethau eraill sy’n eilradd o gymharu â’r gwasanaethau Saesneg cyfatebol. Yn aml, beirniadir S4C a Radio Cymru am geisio, a methu, plesio'r holl gynulleidfa Gymraeg.

Mae dyfodol S4C eisoes yn fregus. Drwy newidiadau yn y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus, diddymwyd y fformiwla ariannu statudol a roddai sicrwydd ynghylch yr arian a roddir i’r sianel. Hyd yn oed wedi ystyried y cyfraniad o ffi drwydded y BBC, roedd y toriadau i S4C yn gyfystyr â 40%, ffigwr y dywedwyd y byddai’n gwneud y gwasanaeth yn anghynaladwy. Ar ben hynny, cyhoeddwyd dros yr haf bod disgwyl i’r BBC, sydd nawr yn gyfrifol am gyfran helaeth o gyllid S4C, gwneud arbedion o 20% er mwyn dalu am drwyddedau i bobl dros 75. Yn ôl Ysgrifennydd y DCMS John Whittingdale, mae’n “rhesymol” bod S4C gwneud arbedion tebyg.

Ar drothwy 2016, prin fod modd gwadu bod newidiadau enfawr yn y ffordd y mae cynulleidfaoedd, yn enwedig pobl ifanc 16-24 oed, yn gwylio ac yn gwrando ar gynnyrch cyfryngol. Mae’r ffin rhwng sianel deledu draddodiadol a’r we yn brysur ddiflannu. Mae patrymau gwylio wedi newid, ac yn parhau i newid ar gyfradd aruthrol. Yn ôl Ofcom (2015), mae’r ganran o bobl 16-24 oed sy’n gwylio teledu neu ffilm arlein o leiaf unwaith yr wythnos wedi cyrraedd bron i 40%, gyda’r ffigwr yn neidio i 65% o bobl yn yr un grŵp oedran yn gwylio clipiau fideo byr ar y we. Mae’r grwp oedran 16-24 hefyd yn treulio mwy o amser arlein (27.6 awr yr wythnos) nag unrhyw grwp oedran arall. Mae’r ystadegau yma wedi gweld cynnydd blynyddol ers 2007. Gweler tueddiadau tebyg yn y nifer o bobl 16-24 oed sy’n gwrando ar, neu’n lawrlwytho, cerddoriaeth a chynnyrch clywedol arlein yn wythnosol hefyd. Yn ychwanegol, gwelwyd twf cyson yn y nifer o bobl ifanc sy’n defnyddio eu ffonau clyfar i wylio a gwrando ar gynnwys trwy apiau pwrpasol. Rydym yn falch y bu twf yn nifer gwylwyr S4C, yn ôl adroddiad blynyddol y Sianel eleni, gyda thwf mawr yn nifer y gwylwyr arlein. Ymhellach, gwelwyd cynnydd sylweddol, o 10%, yn nifer gwylwyr y sianel ar draws gweddill y Deyrnas Gyfunol. Ond, yn sgil yr holl ystadegau uchod, mae’n synhwyrol i weld gwasanaeth Gymraeg newydd yn cael ei gynllunio fel endid amlblatfform o’r cychwyn, er mwyn osgoi’r trafferthion sy’n gysylltiedig â throsglwyddo neu ehangu strwythurau a chynnwys teledu neu radio traddodiadol i blatfformau eraill.

Twf Cyfryngau Ewrop – Cymru ar ei hôl hi

Ers sefydlu Radio Cymru yn 1977 ac S4C yn 1982, mae darlledu Cymraeg wedi aros yn ei hunfan, yn wahanol i ieithoedd lleiafrifoledig eraill Ewrop. Nid yw’r ddarpariaeth Gymraeg wedi ehangu ac felly nid yw canran sylweddol o’r gynulleidfa posib yn cael ei wasanaethu.

Yng Ngwlad y Basg, sefydlwyd y cwmni darlledu cyhoeddus EITB (Euskal Irrati Telebista) yn 1982, sef yr un flwyddyn ag S4C. Maent erbyn hyn yn gyfrifol am ddwy sianel deledu gyfan gwbl yn yr iaith Fasgeg a 2 sianel arall sy’n darlledu’n rhannol yn Fasgeg. O dan ei hadain hefyd, mae yna 2 orsaf radio sy’n gyfan gwbl yn y Fasgeg, gydag un arall yn rhannol Fasgeg. Anelir y brif sianel deledu iaith Fasgeg (ETB1) at gynulleidfa gyffredinol, tra bod yr ail sianel (ETB3) yn targedu cynulleidfa ifanc. Bwriad y sianeli eraill sy’n rhannol Fasgeg yw lledaenu newyddion, diwylliant a iaith Gwlad y Basg i gynulleidfaoedd rhyngwladol ar draws Ewrop a Gogledd America. Yn yr un modd, mae’r brif orsaf radio Basgeg ei hiaith (Euskadi Irratia) yn darlledu cynnwys ar gyfer cynulleidfa cyffredinol, tra bod yr ail orsaf (Euskadi Gazeta) yn targedu pobl ifanc.

Gweler sefyllfa debyg yng Ngalisia. Mae’r gorfforaeth ddarlledu gyhoeddus CRTVG (a sefydlwyd dwy flynedd ar ôl S4C, ym 1984) yn gyfrifol am 4 orsaf deledu Galisieg (2 daearol a 2 lloeren), a cheir hefyd tair gorsaf radio genedlaethol yn y Galisieg trwy Radio Galega, sydd o dan adain CRTVG. Mae’r sianeli a gorsafoedd yn targedu cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys cynulleidfaoedd cyffredinol, pobl ifanc a chynulleidfaoedd tramor/rhyngwladol.

Mae’n bwysig nodi fod nifer y sianeli a gorsafoedd yma wedi datblygu dros ddegawdau ers dyfodiad y corfforaethau yn yr 80au. Nid yw S4C, na darlledu Cymraeg, wedi datblygu yn yr un ffordd. Yng Ngwlad y Basg a Galisia, mae yna ddarpariaeth ar wahân ar gyfer cynulleidfa gyffredinol a chynulleidfa ifanc. Ar hyn o bryd, er eu hymdrechion, nid yw S4C na Radio Cymru yn gwasanaethu pobl Cymru yn yr un ffordd. Darlledir iaith a diwylliant Fasgeg a Galisieg yn rhyngwladol, gyda strwythur ag amcanion penodol. Er bod S4C ar gael trwy Clic ac iPlayer y BBC, nid yw’r sianel yn adnabod a chyrraedd cynulleidfaoedd ifanc a rhyngwladol yn yr un ffordd. Gwelir angen felly i ryddhau S4C a Radio Cymru o’r baich o orfod ceisio (a methu’n anochel) gwasanaethu’r holl gynulleidfa Gymraeg a phob grŵp oedran.

Ceir enghreifftiau o brosiectau cyfryngol arlein mewn ieithoedd lleiafrifol a lleiafrifoledig eraill Ewrop. Yng Ngalisia, dechreuwyd EuFalo.tv yn 2011, fel prosiect dogfen gydweithredol. Cynhyrchwyd cynnwys gwreiddiol gan griw o newyddiadurwyr proffesiynol ac unigolion a grwpiau amatur. Ymhlith eu hamcanion roedd cenhadaeth ieithyddol, er mwyn rhoi llais i’r di-lais nad oedd y cyfryngau traddodiadol yn rhoi lle iddynt. Anelir hefyd at arbrofi yn dechnolegol er mwyn cynhyrchu cynnwys mewn ffyrdd nad oedd yn draddodiadol.

Mae Brezhoweb (Llydaw) yn sianel deledu ar y we sy’n annibynnol yn yr ystyr nad yw’n rhan o gorfforaeth deledu. Serch hynny, mae Brezhonweb yn ceisio efelychu sianeli teledu trwy ariannu a rhoi llwyfan i ystod fechan o raglenni sydd wedi eu hamserlennu’n ofalus. Maent yn cynhyrchu a darlledu cynnwys gwreiddiol yn ogystal â ffilmiau, rhaglenni a chartwnau wedi eu trosleisio i’r Llydaweg.

Yn 2012, sefydlwyd Sianel 62 fel sianel deledu Cymraeg ar y we. Darlledwyd rhwng 1.5 a 2 awr o gynnwys bob wythnos, gan gynnwys deunydd gwreiddiol a hynny gan gynhyrchwyr proffesiynol ac amatur. Denwyd dros 1,000 o wylwyr i’r darllediad gyntaf, gyda chyrhaeddiad rhyngwladol eang dros y cyfnod darlledu. Mae Sianel 62 yn parhau i gynhyrchu’n achlysurol ac yn llwyddo i gyrraedd miloedd o wylwyr yn rheolaidd.

Diffyg sicrwydd cyllid digonol (ac felly o adnoddau) yw’r brif rwystr i ffyniant y prosiectau yma i gyd, boed yn amatur neu’n broffesiynol.

Yn ogystal â’r enghreifftiau uchod, mae Prif Weinidog yr Alban ac RTÉ yn Iwerddon yn ddiweddar wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer rhagor o wasanaethau yn eu gwledydd nhw, ac felly dylai fod gwasanaeth(au) newydd yng Nghymru ac yn Gymraeg hefyd.

Strwythur y Gwasanaeth Newydd

Ein cred yw y dylai gwasanaeth newydd weithredu ar draws platfformau – yn bennaf ar y we ond gan gynnwys teledu a radio. Ni ddylid meddwl yn nhermau mor gul ag ail orsaf radio neu sianel deledu Gymraeg. S4C yw’r unig gorff proffesiynol sylweddol gyda strwythur rheoli a chynhyrchu soffistigedig yn y Gymraeg. Mae’n naturiol felly i weld y gwasanaeth newydd o dan ei goruchwyliaeth. Serch hynny, credwn fod sefydlu corff annibynnol hefyd yn opsiwn, a gellid fod yn atebol i S4C fel rheoleiddiwr. Gall corff newydd gynllunio gwasanaeth sy’n addas at y diben ar gyfer hynodweddau technolegol y we ag arferion gwylio a gwrando cynulleidfaoedd y gymdeithas gyfoes. Dylai’r BBC, S4C, ITV a gwasanaethau eraill gynnig arbenigedd ac adnoddau i’r gwasanaeth newydd, ar ffurf hyfforddiant, llifau gwaith, cynnwys a chynhyrchu. Mae’r BBC ac ITV eisoes wedi cynnig cefnogaeth o’r fath i radio lleol ac i gynhyrchwyr newyddion – mae’n rhesymol i gymryd y bydd y corfforaethau yma hefyd yn ymfalchïo yn y cyfle i ddarparu cymorth tebyg i ddarparwr cenedlaethol newydd felly.

Credwn ymhellach y byddai gwasanaeth newydd i greu cynnwys yn llawer iawn gwell fel un annibynnol o'r BBC, sydd eisoes yn dominyddu darlledu yng Nghymru ac yn y Gymraeg yn enwedig. Mae angen atal monopoli rhag datblygu yng Nghymru gan yr un darlledwr cyhoeddus Cymraeg. Ymhellach, mae’r enghreifftiau uchod o Wlad y Basg a Galisia yn awgrymu mai trwy gorff sy’n gweithredu trwy gyfrwng yr iaith lleiafrifoledig y daw twf mewn gwasanaethau, yn hytrach na thrwy ddarlledwr gwladwriaeth-gyfan fel y mae'r BBC ar lefel Prydain. Os mai corff newydd annibynnol neu S4C sy’n gyfrifol am y gwasanaeth newydd, gellir sicrhau blaenoriaethu materion Cymru a’r Gymraeg.

Dylid seilio strwythur gwasanaeth newydd ar fframwaith o gynnwys gwreiddiol newydd, gan ddarlledu rhwng 7 yr hwyr a chanol nos bob dydd, er mwyn targedu pobl ifanc. Dylai’r cynnwys gwreiddiol adlewyrchu lleisiau cyfoes ymhlith y grwp oedran 16-24 oed, gyda phwyslais ar ddarparu adloniant a gwybodaeth. Mae angen hefyd diwallu’r hawl sylfaenol i bobl dderbyn newyddion yn Gymraeg bob dydd a thrwy bob cyfrwng, felly dylai fod gan y darlledwr amlblatfform newydd wasanaeth newyddion sy’n annibynnol o’r BBC. Gyda buddsoddiad ychwanegol, mae’n bosib gall Golwg360, sydd eisoes wedi ceisio ehangu ei ohebiaeth i gynnwys eitemau clywedol, gyflawni’r rôl yma.

Er mai cynnwys gwreiddiol fydd gonglfain y darparydd newydd, bydd rhaid hefyd ystyried yr opsiynau i fanteisio ac ehangu ar gynyrch safonol a fframweithiau sy’n bodoli eisoes. Gellir rhannu rhaglenni naws ifanc presennol S4C ar y platfform newydd, e.e. Ochr1, Rownd a Rownd, a Hacio. Gellir ymestyn defnydd a chyrhaeddiad deunydd trwy adnabod nodweddion unigryw y rhaglenni yma a’u hail-becynnu ar gyfer llwyfannau eraill. Yn ogystal â rhaglen deledu weledol, gellid darlledu podlediad o Ochr1 (e.e.) ar y radio a’i gynnig fel lawrlwythiad trwy iTunes neu GooglePlay. Bu rhaid hefyd ymchwilio i’r posibiliad o drefnu eithriad i hawliau darlledu ffilmiau a rhaglenni ieithoedd tramor i’r gwasanaeth newydd fel darlledwr iaith lleiafrifol, gan isdeitlo neu drosleisio i’r Gymraeg fel y bo’n briodol.

Ym mis Awst 2014, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith bapur oedd yn cynnwys opsiynau amgen er mwyn ariannu darlledu Cymraeg. Ymhlith yr opsiynau, argymhellwyd codi ardoll ar elw cwmnïau cyfryngol a thelathrebu mawr (megis Google, Sky, Virgin Media, EE, TalkTalk) sydd wedi parhau i weld cynnydd enfawr yn eu trosiant trwy gydol y dirwasgiad. Yn seiliedig ar y ffigyrau yn y papur hwnnw, dangoswyd y posibiliad real o godi £10 miliwn ychwanegol y flwyddyn i ddarlledu cyhoeddus Cymraeg, gan gynnwys sefydlu gwasanaeth newydd a hefyd chwistrelliad ariannol ychwanegol i S4C. Gan gymryd bod costau cynhyrchu ar y we yn rhatach na chostau cynhyrchu teledu traddodiadol, awgrymir cost gychwynnol o £10 miliwn er mwyn sefydlu’r gwasanaeth newydd yn y flwyddyn ariannol gyntaf, gyda £5 miliwn yn flynyddol ar ôl hynny. Dylai swm o’r fath sicrhau cynllunio a chynhyrchu safonol a phroffesiynol. Awgrymir hefyd na ddylai’r gwasanaeth newydd gael ei lansio tan fod cyfnod cynllunio manwl wedi ei gwblhau, er mwyn sicrhau’r dechreuad mwyaf cadarn ac effeithiol.

Casgliad

Mae angen i ddarlledu Cymraeg fod yn uchelgeisiol ac arloesol, a hynny o ran ei gweledigaeth, cyllido, fformat a thechnoleg. Mae’n ddigon bosib na fyddai’n ddelfrydol efelychu unrhyw fodel sy’n bodoli eisoes – yn hytrach, rhaid ystyried creu model newydd. Mae’r gymhariaeth â’r sefyllfa yng Ngwlad y Basg ac yn Galisia yn amlygu sefyllfa grebachlyd darlledu Cymraeg. Mae’r enghreifftiau o brosiectau darlledu amgen o Galisia a Llydaw yn dangos bod awydd i arloesi yn y gwledydd hynny, a hynny mewn sefyllfa debyg i’r hyn rydym yn ei wynebu yng Nghymru, sef diffyg buddsoddiad yn y mannau cywir a ffynonellau cyllido dibynadwy. Gyda chyllid digonol a chynllunio manwl, gall wasanaeth newydd Cymraeg osod model digynsail ar gyfer darlledu amlblatfform byd-eang.

Yn rhydd o hualau disgwyliadau’r gynulleidfa draddodiadol, a thrwy ddathlu creadigrwydd, arbrofi a risg, bydd gan y gwasanaeth newydd cyfle i ysbrydoli ac ymgysylltu â chynulleidfa ifanc sydd, ar hyn o bryd, heb raglenni digonol sy’n berthnasol iddynt, heb synau na delweddau ystyrlon o fywyd cyfoes yng Nghymru, heb gynrychiolaeth na lleisiau cyfarwydd sy’n siarad gyda nhw a throstyn nhw. Bydd gwasanaeth newydd yn magu hyder a balchder yn yr iaith Gymraeg, yn meithrin uchelgais a hunaniaeth gryfach ymysg y genhedlaeth ifanc, ac yn helpu sicrhau’r holl fuddiannau mae gwlad a phobl hyderus yn ei fwynhau.

Hydref 2015

Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith Cymraeg