Deddf Iaith: Cymraeg ar y We?

Cyflwyniad

O'r diwedd mae'r banciau a'r cwmniau ffôn symudol yn dechrau cydnabod yr angen am wasanaethau Cymraeg, ac erbyn hyn maen nhw'n cynnig ambell i wasanaeth Cymraeg yn eu canghennau ac ar y ffôn. Nid yw'r darpariaethau ceiniog a dimau yma'n ddigonol - mesurau i geisio ein tewi ydyn nhw yn fy marn i.

Wrth ddechrau ennill un brwydr mae brwydr arall yn codi.

Er ein bod ni wedi dechrau ennill y frwydr o gael gwasanaethau Cymraeg wyneb yn wyneb (mae llawer mwy o dir i'w ennill cofiwch), mae yna frwydr arall wedi dod i'n cwfwr ni, brwydr na allwn ei anwybyddu yn y byd modern technolegol sydd ohoni. Y frwydr hon yw cael gwasanaethau ar-lein a gwefanau Cymraeg.

Sut felly fedrwn ni gyfiawnhau ymladd rhyfel ar ddwy ffrynt? Ymladd am wasanaethau Cymraeg wyneb yn wyneb ac ymladd am wasanaethau Cymraeg ëhi-tech'? Mae'n syml, mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio'r rhyngrwyd i fancio, siopa dillad a hyd yn oed siopa am fwyd! Ni allwn anwybyddu y chwyldro yma sydd fel caseg eira ers degawd a mwy bellach! Rhaid i ni fynnu bod y Gymraeg yn rhan o'r dyfodol technolegol sy'n wynebu cymru a'r byd.
Deddf Iaith Newydd

Felly beth mae gofynion y Gymdeithas am ëDdeddf Iaith Newydd' i wneud â gwasanaethau ar-lein/gwefanau Cymraeg? Yn Ùl y Ddeddf Iaith bresenol nid oes disgwyl i gwmniau a gwasanaethau preifat (megis y banciau a'r cwmniau ffÙn symudol) gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, heb sÙn am gynnig gwasanaethau dwyieithog ar y w'. Mae gofynion Deddf Iaith y Gymdeithas yn hawlio tegwch i'r Gymraeg ar y w' yn ogystal â gwasanaethau wyneb yn wyneb.
Tystiolaeth

Ers mis Mawrth eleni (2002) mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn e-bostio'r banciau a'r cwmniau ffÙn symudol yn gyson yn eu holi ynghlŷn â'r ddarpariaeth (h.y diffyg ohono) Gymraeg ar eu gwefanau. Dyma flas o'r adborth:

    "At present, there are no plans to introduce on-line services in Welsh Öwe have many requests for improvements Öit is necessary to prioritise this changes accordingly." - HSBC

    "As we appreciate that some of our customers may not use English as their first language, we have no immediate plans to provide a service in Welsh or any other language." - Abbey National

    "I am sorry that you have had cause to complain. As Barclays Bank has such a diverse cultural customer base, we designed our site to cater for the majority, and the most common language in the UK is English." - Barclays

    "As our web site is used by customers all over the world, we have it in English." - LloydsTSB

    ìWe currently have no plans to offer services on the site in anything but English.î - T Mobile

Atebion tebyg y cafwyd gan yr holl gwmniau eraill hefyd. Un ateb a ddaeth gwen i'm wyneb oedd ateb Virgin Mobile:

    We do understand the problem that the Welsh people may experience due to lack of information in their native country.'

Emosiynol iawn!

Mae ffrwyth yr ymgyrch e-bostio yn brawf pellach nad oes parch gan y cwmniau at y Gymraeg, ac nad oes bwriad gan unrhyw un ohonynt i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg ar-lein yn y dyfodol (agos prun bynag). Byddai Deddf Iaith Newydd y Gymdeithas yn ymestyn yr orfodaeth o wasanaethau dwyieithog i'r sector breifat ac i'r byd technolegol. Pryd hynny yn unig bydd y Gymraeg yn cael cyfiawnder yn y chwyldro rhyngrwydol yma! Ni wnaiff y cwmniau unrhywbeth am wasanaethau Cymraeg ar-lein heb ddeddf i'w gorfodi i barchu'r Gymraeg.
Nodyn Cadarnhaol

Pan yn astudio gwefanau y gwasanaethau cefais fy synnu ar y 10fed o Fehefin pan ddarganfyddais nad oedd gwefan Heddlu Dyfed Powys yn Gymraeg! E-bostiais hwynt gan dderbyn yr ymateb yma:

    Disgwylir y bydd gennym Wefan hollol ddwyieithog erbyn canol mis Gorffennaf 2002.

Erbyn diwedd mis Awst nid oedd y Gymraeg i'w chanfod ar eu gwefan. E-bostiais hwynt eto gan dderbyn yr ymateb yma y tro hwn:

    Rwyf newydd siarad y bore 'ma â'n Datblygydd Gwefan ac mae wedi fy sicrhau ei fod bron â chael y maen i'r wal. Rwyf mor awyddus â chi i weld y gwasanaeth hwn yn ddwyieithog ac rwy'n hyderus y bydd hynny yn digwydd yn fuan iawn. Diolch i chi am dynnu ein sylw at y mater hwn. Trueni na fyddai rhagor o bobl yn cwyno fel wnaethoch chi!

Erbyn hyn pleser yw cyhoeddi fod y wefan yn gwbl ddwyieithog. Rhaid canmol Bet Eldred (Cyfieithydd yr Heddlu) am bwyso ar Heddlu Dyfed Powys i ddarparu'r wefan yn ddwyieithog. Un frwydr fach wedi ei hennill mewn rhyfel fawr yw'r stori yma.

Mae'r frwydr yn parhau!

Cafodd y ddogfen yma ei baratoi gan Rhys Llwyd. Ymddangosodd gyntaf fel erthygl yn y Tafod yn 2003.