Is-deitlau Saesneg ar S4C - cwyn swyddogol at Ofcom

Annwyl Ofcom,

Ysgrifennwn atoch er mwyn cwyno am y ffaith bod S4C wedi cyhoeddi y byddant wythnos hon yn darlledu'r rhan fwyaf o'u rhaglenni oriau brig gydag is-deitlau Saesneg arnynt na fydd modd eu diffodd.

Credwn fod y sianel yn gweithredu'n groes i bwrpas y sianel fel y'i datganir yn Neddf Darlledu 1990, yn ogystal â thorri Cod Ofcom ar Wasanaethau Mynediad Teledu, a'r dyletswyddau yn Neddf Cyfathrebu 2003. Mae Deddf 1990 yn gosod dyletswydd statudol ar S4C i ddarlledu rhaglenni Cymraeg yn bennaf yn ystod yr oriau brig. Nodwn fod Adran 56 (2)(b) Deddf 1990 yn datgan bod dyletswydd ar S4C: "i sicrhau bod cyfran sylweddol o'r rhaglenni a ddarlledir ar S4C yn y Gymraeg a bod y rhaglenni a ddarlledir ar S4C rhwng 18:30-10:00 yn cynnwys rhaglenni Cymraeg yn bennaf". Nodwn nad yw rhaglen a ddarlledir gydag is-deitlau Saesneg gorfodol yn rhaglen Gymraeg.  

Gyda chynnydd sylweddol yn nifer y rhaglenni a ddarlledir gan y sianel lle mae gorfodaeth i'w gwylio yn Saesneg, credwn fod y sianel yn gweithredu'n groes i'r cod a'r ddeddfwriaeth.

Dywed S4C mai 'arbrawf' am bum niwrnod yn unig fydd hwn. Fodd bynnag, mewn gwirionedd, credwn fod y penderfyniad yn golygu na fydd gwasanaeth teledu Cymraeg yr wythnos hon. Bydd gwasanaeth dwyieithog yn unig yn hytrach nag un Cymraeg. Yn ogystal, credwn, er bod S4C yn ceisio gwadu hyn, fod yr 'arbrawf' yn gosod cynsail peryglus o ran eu darpariaeth yn y dyfodol.

Cwynwn hefyd nad yw is-deitlau Cymraeg ar gael ar gyfer y rhaglenni hyn – yn wir, yn ôl ein cyfrifon mae is-deitlau Cymraeg ar gyfer llai na 7% o holl raglenni'r sianel, yn groes i Ddeddf 2003 sy'n gosod lleiafswm o 80%. 

Nodwn fod eich Cod ar Wasanaethau Mynediad Teledu yn ei wneud yn glir mai diben isdeitlau yw darparu gwasanaeth i'r rhai sydd â nam ar y clyw, nid ar gyfer pobl nad ydyn yn gallu iaith y rhaglenni – credwn hefyd nad yw isdeitlau Saesneg yn 'gywir' yn ôl adran A.20 y cod hwnnw.

Nod S4C yw darparu gwasanaethau Cymraeg, felly wrth reswm, dylai unrhyw wasanaeth Saesneg maent yn ei gynnig eisoes fod ar gael yn Gymraeg. Mae S4C wedi methu â darparu is-deitlau Cymraeg digonol er gwaetha'r ffaith eu bod yn wasanaeth hanfodol i bobl â nam ar eu clyw, a'r ffaith eu bod llawer yn fwy defnyddiol nac is-deitlau Saesneg wrth ddysgu'r iaith.

Mae'n holl bwysig, o ystyried sefyllfa'r iaith, bod gwasanaeth neu opsiwn Cymraeg yn cael ei gynnig yn rhagweithiol –  mae'n hynod anffodus eu bod nhw'n mynd yn gwbl groes i'r egwyddor trwy orfodi gwasanaeth is-deitlo uniaith Saesneg.

Ymhellach, gresynwn fod S4C yn dal i ddefnyddio technoleg o'r 1990au er mwyn llosgi’r isdeitlau ar y llun er mwyn gorfodi isdeitlau. Mae isdeitlau yn rhan safonol o'r platfform darlledu digidol, gyda theledu analog wedi ei ddifodd yn 2010.

Edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb i'n cwyn. Os hoffech dderbyn rhagor o wybodaeth gennym, mae croeso i chi ein ffonio ar 01970 624501.

Yr eiddoch yn gywir,

Curon Wyn Davies

Cadeirydd, Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

cc: Awdurdod S4C

Ymateb Ofcom: