Dim profion gyrru Cymraeg yn y Bala - Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau

Annwyl Brif Weithredwr Alastair Peoples,

Ysgrifennaf ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg er mwyn mynegi ein gwrthwynebiad
llwyr i'ch penderfyniad i atal pobl yn ardal y Bala rhag derbyn profion gyrru yn
Gymraeg yn y dref.

Credwn ei fod yn fater o hawl i bob un yng Nghymru i dderbyn profion gyrru yn
Gymraeg, ac mae'n hurt nad yw'r cynnig am brawf Cymraeg ar gael yn Y Bala lle
mae canran uchel iawn o bobl yn siarad Cymraeg. Rwy ar ddeall eich bod yn parhau
i gynnig profion gyrru uniaith Saesneg yn y Bala.

Ymhellach, rydym ar ddeall eich bod wedi bod yn derbyn ceisiadau am brofion
gyrru Cymraeg am rai misoedd, gan dderbyn arian gan gwsmeriaid, ond i bobl
gyrraedd y prawf ac wedyn sylweddoli mai yn y Saesneg y byddai'n cael ei gynnal.
Credwn fod hyn yn codi cwestiynau am gyfreithlondeb y cynnig yr oeddech chi'n ei
wneud i gwsmeriaid. Os nad yw'r gwasanaeth Cymraeg yn cael ei adfer yn
ddiymdroi, mi fyddwn ni'n ymchwilio i'r materion yn bellach gan gynnwys unrhyw
gamau cyfreithiol y gallai pobl eu cymryd yn erbyn eich asiantaeth.

Nid yw'r gwasanaeth yn ateb anghenion pobl ardal y Bala yn iawn os nad oes modd
iddynt dderbyn y gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Fel y gwyddoch, mae'r
Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac mae'ch methiant i ddarparu gwasanaeth
Cymraeg yn yr ardal yn hurt, sarhaus ac yn tramgwyddo ar hawliau iaith sylfaenol
pobl yr ardal. Os nad ydych yn adfer y gwasanaeth Cymraeg yn syth, byddwn yn
cysylltu'n bellach gyda Chomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi ddefnyddio'r camau
gorfodi sydd ganddi i sicrhau eich bod yn cydymffurfio gyda'ch dyletswyddau
moesol a statudol.

Edrychwn ymlaen at glywed eich bod yn ailsefydlu profion gyrru Cymraeg yn
ddiymdroi.

Yn gywir,

Menna Machreth,

Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

cc: Elfyn Llwyd AS

Dafydd Elis-Thomas AC

Grŵp Hawliau Cymdeithas yr Iaith

Carwyn Jones AC, Prif Weinidog, Llywodraeth Cymru

Patrick McLoughlin AS, Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Claire Perry AS, Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg