Annwyl Brif Weinidog,
Ysgrifennaf atoch yn dilyn misoedd o ymdrechion gan ein swyddogion i geisio trefnu cyfarfod gyda'r Ardd Fotaneg ynghylch ei pholisi iaith. Byddwch yn ymwybodol o'r cefndir a nifer o achosion o ddiffyg darpariaeth Gymraeg y corff. Yn y bôn, er bod gennym hawl i gael cyfarfod gyda swyddogion yr Ardd yn Gymraeg, mae pennaeth y sefydliad, Dr Rosie Plummer, wedi gwrthod trefnu cyfarfod gyda ni ar y sail nad ydy hi'n fodlon cynnal y cyfarfod yn y Gymraeg.
Mae'n rhaid dweud, wrth geisio trafod a threfnu cyfarfod gyda Dr Rosie Plummer, mae gennym fel mudiad amheuon mawr iawn a fydd modd i'r Ardd, o dan yr arweinyddiaeth bresennol, fod yr hwb i'r Gymraeg sydd gwir ei angen yn sir Gaerfyrddin. Dyma ddwy enghraifft o'r hyn ddywedodd hi wrth ein swyddogion:
1. Ar 20fed Mai, dywedodd Dr Plummer wrth aelod o staff y Gymdeithas dros y ffôn na ddylen ni fel mudiad anfon e-byst ati yn Gymraeg gan mai ei dewis iaith hi yw'r Saesneg. Esboniodd swyddog y Gymdeithas wrth Dr Plummer fod ganddynt hawl i gyfathrebu'n ysgrifenedig â'r Ardd yn Gymraeg, yn unol â'r cynllun iaith. Ymhellach, datganodd Dr Plummer na ddylid disgwyl i'r Ardd gadw at holl ofynion ei chynllun iaith gan mai cynllun gwirfoddol ydyw.
2. Mewn e-bost at swyddog arall o Gymdeithas yr Iaith ar yr 2il o Orffennaf, dywedodd Dr Plummer: "... dydw i ddim yn barod i ddarparu nac ariannu gwasanaeth cyfieithu y tro hwn. Rwy’n cydnabod y bydd hyn yn eich siomi, ac felly bodlonaf os hoffech ddod â dehonglydd gyda chi er eich lles eich hun ac at eich cost eich hun – a byddaf yn barod i ymgyfranogi yn y broses cyhyd â nad yw hyn yn debyg o greu rhwystr inni rhag cyfnewid syniadau’n rhwydd. Rhaid imi felly eich cynghori os y’ch chi am gymryd yr opsiwn hwn, ac yn ystod y cyfarfod y daw hi’n glir imi bod y cyfieithu yn ei gwneud hi’n anodd inni gyfathrebu, dywedaf hynny wrthoch chi. O dan yr amgylchiadau hyn, gwahoddaf chi naill ai i barhau gyda’r cyfarfod heb gyfieithu, neu wrthod â gwneud hynny."
Fel sefydliad sy'n derbyn llawer iawn o arian cyhoeddus mae dyletswydd foesol arnynt i gadw at eu cynllun iaith, ac i ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Drwy wrthod cwrdd â ni drwy'r Gymraeg, a thrwy drin ein swyddogion yn y fath fodd, maen nhw'n sicr yn torri eu cynllun iaith, ond rydyn ni hefyd yn meddwl eu bod yn torri'r amod iaith sydd yn eu cytundeb grant gyda chi.
Hoffem ofyn i chi ddefnyddio grym yr amod iaith yn y cytundeb er mwyn sicrhau bod yr Ardd yn cydymffurfio gyda gofynion sylfaenol ei chynllun iaith, gan obeithio y bydd hyn yn arwain at greu sefydliad sy'n hwb i'r Gymraeg yn genedlaethol ac yn lleol, yn hytrach nag yn un sy'n codi cywilydd, fel y mae ar hyn o bryd.
Yn olaf, rhaid dweud mai prin yw'r achlysuron pan fo'n swyddogion yn gorfod wynebu'r fath agwedd anwybodus tuag at y Gymraeg gan bennaeth sefydliad cyhoeddus o'r fath. Rydyn ni'n apelio arnoch chi i ymyrryd yn y sefyllfa er lles tynged yr iaith yn sir Gaerfyrddin ac yn genedlaethol, yn ogystal ag er lles yr Ardd ei hunan.
Yr eiddoch yn gywir,
Manon Elin James
Is-Gadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg