Gohebiaeth â'r Ardd Fotaneg

Annwyl Dr Rosie Plummer, 

Diolch am eich gohebiaeth yn ddiweddar.  

Rydym yn falch i gadarnhau y byddwn yn bresennol ar ddydd Iau, 23ain Gorffennaf 2015. Byddwn ni'n siarad yn Gymraeg yn y cyfarfod yn unol a'n hawliau sylfaenol i'r Gymraeg fel dinasyddion Cymru, ymrwymiadau eich cynllun iaith, ymrwymiadau eich cytundebau ariannol gyda Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir, egwyddorion Deddf Iaith 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a chan fod nifer o'n haelodau yn anghyfforddus yn siarad Saesneg. Bydd angen i chi felly drefnu cyfieithydd ar y pryd os bydd cynrychiolwyr o'r Ardd nad ydynt yn medru'r Gymraeg yn bresennol yn y cyfarfod.  

Nodwn eich bod wedi gwneud cytundeb cyfreithiol gyda Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Sir i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Atodaf, er gwybodaeth i chi, ein cofnodion o'r sgyrsiau ffon gyda chi wrth i ni geisio trefnu cyfarfod i drafod polisi iaith yr Ardd.  

 

Yn gywir, 

Manon Elin James 

Is-gadeirydd Grwp Hawl i'r Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

cc: Comisiynydd y Gymraeg, Cyng. Mair Stephens, Cyng. Emlyn Dole, Rhodri Glyn Thomas AC, Simon Thomas AC, William Powell AC, Joyce Watson AC, Rebecca Evans AC, Y Prif Weinidog Carwyn Jones, Uned y Gymraeg Llywodraeth Cymru

Ymateb yr Ardd Fotaneg

21 Gorffenaf 2015
Annwyl Manon Elin

Cyfarfod
Fy nghynnig a’m gwahoddiad personol ichi oedd er mwyn ein gallogi chi i gwrdd yn anffurfiol â mi, Cyfarwyddwraig yr Ardd, a Phennaeth Marchnata’r Ardd.  Fy amcan oedd cynnal cyfarfod anffurfiol yma er mwyn trafod y materion ry’ch chi wedi eu codi ynglŷn â’r iaith Gymraeg a’r Ardd, a chaniatáu inni rannu ein safbwyntiau mewn dull positif a chynhyrchiol, er mwyn ein helpu ni i ddatblygu perthynas effeithiol a ffyrdd realistig o fynd ymlaen â’r drafodaeth, gan gymryd i ystyriaeth ein huchelgeisiau a’n cyfyngiadau.

Mae’n ymddangos imi fod y trefniadau ry’ch chi’n eu hawgrymu yn debyg o arwain at gyfarfod o natur cwbl wahanol, yn anffodus – cyfarfod sy’n anhebyg, yn fy marn i ac yn yr amglychiadau sydd ohoni, o gefnogi’r amcanion a ffurfiwyd yn wreiddiol.

Mae’n flin gen i nad oeddech chi’n fodlon derbyn fy ngwahoddiad i’r Ardd yn yr ysbryd a’r diwyg y cynigiwyd ef. Golyga hyn, yn anffodus, bod rhaid imi ystyried bod y cyfarfod wedi’i ganslo, ac yn y tymor byr ni allaf ymgymryd ag unrhyw ddeialog pellach ar y mater hwn.

Fodd bynnag, yn y dyfodol, os hoffech ail ystyried, byddaf yn fwy na bodlon eich gwahodd yma unwaith eto.

Yn y cyfamser, dymunaf y gorau ichi a’ch cyd-ymgyrchwyr.

Yn gywir iawn,
Dr Rosetta M. Plummer
Director/ Cyfarwyddwr