Grŵp Gorchwyl sy'n ystyried dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol - argymhellion

[Cliciwch yma am y PDF]

Grŵp Gorchwyl sy'n ystyried dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol

Argymhellion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cynnal uned ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1963. Mae'r Gymdeithas hefyd wedi bod yn trefnu adloniant yn yr Eisteddfod a hynny ar raddfa bur helaeth ers tros ddeugain mlynedd. Nid yn unig hynny, ond yr ydym hefyd wedi trefnu protestiadau a llu o gyfarfodydd cyhoeddus ar y Maes yn flynyddol. Cyrhaeddodd hyn benllanw llynedd (2012) wrth i ni drefnu nifer o ddigwyddiadau ar y Maes i ddathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn hanner cant.

Parhau fel Eisteddfod Symudol

Mae’r profiad hwn wedi ein hargyhoeddi y dylai'r Eisteddfod barhau i fod yn ddigwyddiad symudol, gan ymweld â llefydd gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn. Mae'r eisteddfod yn cryfhau yr ymdeimlad o Gymreictod yn yr ardal y mae'n ymweld â hi gan roi cyfle i'r bobl leol ymfalchïo yn eu Cymreictod. Mae yr ardal yr ymwelir â hi hefyd yn cael sylw ar y cyfryngau ac yn gallu ymorchestu yn ei hetifeddiaeth Gymreig. Nid yn unig hynny, ond mae'r ardal hefyd yn gadael ei hôl ar yr ymwelwyr hynny sydd yn ymweld â'r Eisteddfod. Cyfoethogir profiad yr Eisteddfodwr mewn ardal Gymraeg ei hiaith fel y Bala, ardal ddinesig fel Caerdydd, ardal wledig fel Meifod neu caiff ei foddi gan groeso cynnes y Cymoedd mewn ardal fel Glyn Ebwy.

Wrth deithio ar y bws Eisteddfodol o'r Maes Parcio mewn ardal fel Wrecsam neu Glyn Ebwy byddwch yn aml yn clywed brodorion di-Gymraeg o'r llefydd hynny yn siarad am eu profiad ar y Maes gyda brwdfrydedd. Sylwn hefyd fod yr Eisteddfod yn dod â budd economaidd sylweddol i ardal yn arbennig i ddarparwyr bwyd a'r rhai sy'n cynnig llety i ymwelwyr.

Pwysicach fyth yw'r modd y mae pobl yn dod yn rhan o'r gweithgarwch wrth baratoi at yr Eisteddfod. Gwneir hyn wrth gymryd rhan mewn ymgyrchoedd codi arian a gwasanaethu ar bwyllgorau. Mae dyfodiad yr eisteddfod i ardal yn sicr yn arwain mewn cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n dangos diddordeb mewn dysgu Cymraeg ac mae'n rhoi cyfle i fewnfudwyr sydd wedi symud i'r ardal o'r tu allan i Gymru i gydweithio gyda'r brodorion ar brosiect sydd yn hybu Cymreictod.

Mae effaith yr Eisteddfod ar yr ifanc yn yr ardal yr ymwelir â hi yn allweddol. Fe sylwodd y Gymdeithas fod llawer o bobl ifanc yn cael eu denu at Gymreictod am y tro cyntaf oherwydd yr adloniant a drefnir gennym. Mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc ym mhob rhan o Gymru yn cael y cyfle i fod yn rhan o'r bwrlwm hwn.

Rhagor o fudd i gymunedau lleol

Credwn yn gryf y gellid gwneud llawer mwy er mwyn sicrhau bod cymunedau, busnesau lleol a siopau annibynnol lleol yn elwa o’r ffaith bod yr Eisteddfod yn teithio ledled y wlad yn ystod wythnos yr ŵyl.

Gwelwn fod potensial i’r Eisteddfod, ei pholisi caffael, ei phresenoldeb yng nghymunedau hyd a lled y wlad wneud mwy i hybu’r economi a’r iaith yn lleol. Cymerwch, er enghraifft, stondinau bwyd a darparwyr arlwyo’r ŵyl. Credwn y gellid gwneud llawer mwy i sicrhau bod y contractau yn mynd at gwmnïau lleol a, fan leiaf, cwmnïau o Gymru. Mae nifer o’r cwmnïau nad ydynt yn rhai lleol yn methu darparu gwasanaeth Cymraeg yn iawn ychwaith, mae’r Eisteddfod felly yn gyfle pwysig i hybu busnesau Cymraeg sydd yn diwallu anghenion ieithyddol unigryw yr ŵyl yn ogystal â sicrhau bod buddsoddiad y pwrs cyhoeddus yn cael effaith mwy cadarnhaol ar economi Cymru.

Ymhellach, trwy gynnal rhagor o ddigwyddiadau yng nghanol trefi a phentrefi yn ystod wythnos yr ŵyl, gellid rhoi hwb mwy i’r economi’n lleol.  Yn fwyfwy dros y blynyddoedd diwethaf mae gweithgareddau’r Eisteddfod wedi eu canolbwyntio ar y maes a’r maes carafannau, a does dim ymdrech wirioneddol i annog pobl i fynd tu hwnt i ffiniau meysydd yr Eisteddfod. Rydym yn siarad o brofiad uniongyrchol o drefnu digwyddiadau ein hunain.

Credwn y gellir gwneud mwy i dynnu sylw at yr ardal lle cynhelir darpar Eisteddfod drwy ganolbwyntio nid yn unig ar godi arian a threfnu rhaglen ond hefyd trwy ganolbwyntio sylw ar sut y gellir hybu a datblygu y Gymraeg yn yr ardal. Nid lle yr Eisteddfod yn unig fyddai gwneud hyn. Gallai fod yn waith hefyd i'r Cynghorau Sir a Chymuned, mudiadau lleol a Mentrau Iaith. Ond mae dyfodiad yr Eisteddfod i ardal yn gyfle i dynnu sylw at anghenion ieithyddol yr ardal honno.

Mae'n bwysig hefyd ar ôl i'r Eisteddfod fynd heibio fod cynllun gennym i gynnal a hybu y brwdfrydedd a'r diddordeb mewn Cymreictod a achoswyd gan ddyfodiad yr ŵyl. Dylai'r Eisteddfod fod yn brofiad y gellir adeiladu arno i'r dyfodol o ran hybu'r Gymraeg mewn ardal.

Cryfhau’r Gymraeg o fewn yr ŵyl

Mae'n holl bwysig fod yr Ŵyl yn parhau yn Ŵyl Gymraeg, a chryfhau hynny mewn nifer o feysydd. Dylid gwneud pob ymdrech i ddenu Cymry di-Gymraeg a thramorwyr i'r ŵyl ond ni ddylid ar unrhyw gyfrif lacio dim ar y rheol Gymraeg. Yn wir mae angen ei chryfhau. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn werthfawr i ddysgwyr ac i’r rhai sy’n ymddiddori yn yr iaith am ei fod yn cynnig profiad gyfan gwbl Gymraeg, ac fe ddylid hybu’r ŵyl ar y sail yna. Credwn ei fod yn hanfodol bod pob agwedd o’r Eisteddfod yn cael ei gynnal yn Gymraeg - gan gynnwys stondinau bwyd a chyfleusterau eraill yn ogystal â’r cystadlu a’r perfformio. Bob blwyddyn yn ddiffael fe fydd y Gymdeithas yn derbyn cwynion am stondinwyr nad ydynt yn parchu y rheol Gymraeg (mae'r cwynion am y stondinau bwyd yn lluosog iawn fel arfer). Cred y Gymdeithas y byddai cryfhau’r rheolau o blaid y Gymraeg yn cryfhau’r ŵyl gan mai dyna sydd ei gwneud yn unigryw ac yn fwy atyniadol felly.

Cryfhau Digwyddiadau Ymylol er lles y gymuned leol

Denu'r ifanc yw un o’r nodau mawrion eraill. Fel arfer fe ellir gwneud hynny trwy adloniant (a bu hynny yn nod gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf). Ond mae yn rhaid i'r Eisteddfod hefyd fod yn fagwrfa diwylliant amgen. Mae angen 'fringe' ar yr Eisteddfod os yw i lwyddo o ddifri. Yn anffodus, yn ddiweddar, bu tuedd i ganolbwyntio popeth ar y Maes (Maes B, Maes C). Gwneir hyn fe ymddengys er hwylustod i'r carafanwyr a'r gwersyllwyr. Ond trwy ganoli popeth ar y Maes neu yn agos iawn iddo fe beidiodd yr ardal leol a chael y profiad gorau o'r Eisteddfod, yn arbennig yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun. Dylid cynnal cymaint o ddigwyddiadau ag sy'n bosibl yn y gymuned leol, mewn tafarnau a neuaddau, ac nid ar y Maes yn unig. A dylid cefnogi mudiadau eraill i gyflawni hynny.

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n bwysicach byth bod y dref, pentref ac ardal leol yn elwa’n economaidd o’r digwyddiad cymaint ag sydd yn bosibl. Credwn fod angen gwneud mwy i sicrhau bod hynny’n digwydd yn ogystal â sicrhau bod busnesau lleol yn elwa’n sylweddol o’r Eisteddfod yn ymweld â’u hardal hwy.

Casgliadau

Felly, pwysleisiwn unwaith eto yr angen i'r Eisteddfod dod â budd i gymunedau Cymru trwy barhau yn ddigwyddiad symudol a thrwy gryfhau digwyddiadau ymylol. Rhaid sicrhau fod y gymdeithas gyfan yn rhan o'r trefniadau. Mae angen manteisio ar y cyfle i hybu'r Dysgwyr a'r ifanc ac mae yna angen hefyd i dynnu sylw at anghenion ieithyddol a chymdeithasol yr ardal y cynhelir yr Eisteddfod ynddi. Yn olaf rhaid sicrhau fod dilyniant ym mhob ardal yn dilyn yr  Eisteddfod fel nad yw'r ymwybyddiaeth o gydweithio dros y Gymraeg yn cael ei golli, yn ogystal gwneud rhagor i sicrhau bod y gymuned yn lleol a’i busnesau yn elwa o’r profiad.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mai 2013

cymdeithas.org

@cymdeithas