Hanes ymgyrch weithredol Coleg Sir Gar

1997 - Blwyddyn y deffro! O'r diwedd dechreuodd y Gymdeithas ymgyrchu yn erbyn Coleg sydd ers degawd wedi darparu cyrsiau trwy gyfrwng y Saesneg yn unig i genedlaeth o bobl ifanc Sir Gar.

Mawrth 1997 - Cyhoeddodd y Gymdeithas ddogfen "Addysg Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin - Argyfwng!" Ynddo tynnwyd sylw at y diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y coleg sy'n "cadarnhau'r rhagfarn mai iaith yr aelwyd yw'r Gymraeg ond mai Saesneg yw iaith gwaith a chyrsiau galwedigaethol". Cafodd y ddogfen sylw'n y wasg leol a chenedlaethoi. Danfonwyd copi at Brifathro'r Coleg - ond ni chawsom ymateb.

Mai 1997 - Y CCTA yn mabwysiadu enw a delwedd newydd- Coleg Sir Gaerfyrddin. Aeth y Gymdeithas ati'n syth i roi enw newydd iddynt - "COLEG BRADYCHU SIR GAERFYRDDIN", gan eu bod yn bradychu pobl ifanc Sir Gar. Peintiwyd dros eu hanNyddion ym Mhibwriwyd a Llanelli a rhoi'r "enw" newydd arnynt.

30 Mehefin 1997 - Cyfarfod rhwng y Gymdeithas a Phrifathro'r Coleg. Doedd e ddim ar yr un blaned a ni! Mae'n credu bod y ffaith y byddant yn cynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg o 5% ymhen 5 mlynedd yn wych! (gan bod y ddarpariaeth mor bitw nawr- mae'n gynydd bach iawn).

Gorffenhaf 1997 - Protest ar y to! Aeth tua 12 o aelodau t i ben to adeiladau'r Coleg Bradychu ym Mhibwrlwyd gan chwifio baner fawr o'r to. Cafodd sylw yn y wasg lleol a chenedlaethol.

Awst 1997 - Cynhaliodd y Gymdeithas gyfarfod cyhoeddus yn y `steddfod i dynnu sylw at ddiffygion mewn Colegau Addysg Bellach led-led Cymm.

Medi 1997 - Cynhaliwyd "Noson Agored" yn y coleg, hynny yw gwnaeth aelodau feddiannu `stafelloedd ym Mhibwrlwyd. Treuliwyd noson yno. Yn "noson agored" swyddogol y Coleg ei hun yng Nghorffenhaf, gwnaeth y coleg danseilio'r galw am gyrsiau Cymraeg gyda'r hwyr trwy holi cwestiynau fel:- "Os na fydd y cwrs hwn ar gael yn Gymraeg a fyddwch yn fodlon ei wneud yn Saesneg."

Mai a Mehefin 1998 - Gweithredu'n wythnosol yn erbyn y CCTA - ymosodiad ffon, ymosodiad ffacs, peintio sloganau, cau'r Coleg trwy osod glud yn y cloeon.

Gorffenanf 1998 - Cyflwyno deiseb wedi'i hawyddo gan fyfyrwyr ysgol y Sir

Medi 1998 - Wythnos o weithredu'n erbyn y CCTA :Gollwng cynnyrch llaeth wrth prif ddrws campws Gelli Aur gan nad yw'r cwrs Llaethydda ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, creu gwaith celf ar furiau campws y Graig gan nad yw'r cwrs Celf ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, torri mewn a pheri i'r sincs orlifo ym Mhibwrlwyd gan nad yw'r cwrs plymwaith ar gael trwy gyfiwng y Gymraeg.

18 Medi 1998 - Ffred a Mabon yn torri mewn i Pibwrlwyd a chreu miloedd o bunnoedd o ddifrod a chael eu harestio, gan na fu unrhyw addewid gan y Coleg i ymdroi'n Goleg Cymraeg.

Ionawr 1999 ñ Disgwylir i Gynllun Addysg Gymraeg (drafft) Y Coleg ymddangos ... disgwyliwn yn eiddgar!

28 Ionawr 1999 ñ Achos Llys Ffred a Mabon yng Nghaerfyrddin.