Llythyr at Carwyn Jones - Y Cyfrifiad

Annwyl Carwyn Jones,

Diolch yn fawr am gwrdd â ni ar y 6ed o Chwefror. Roeddem yn falch iawn i chi gytuno i ymateb i’r holl argymhellion yn ein Maniffesto Byw erbyn Mehefin 6ed eleni, ac i gynnal adolygiad annibynnol o ôl-troed ieithyddol holl wariant y Llywodraeth ar draws pob adran. 
 
Edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi yn fuan ar ôl derbyn eich ymateb llawn i drafod ymhellach. 
 
Cyllid
 
Fel y gwyddoch, mae ein Maniffesto Byw yn galw am: “Adolygiad cyflawn o holl wariant y llywodraeth, gan gorff annibynnol fel Comisiynydd y Gymraeg, ac asesu perthynas y gwariant hwnnw â’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant...”
 
Hoffwn wybod sut yr ydych yn bwriadu symud y materion hyn ymlaen, yn fwy penodol, pryd fydd cyhoeddiad am fanylion yr asesiad, amserlen ac amlder yr adolygiad, a rôl Comisiynydd y Gymraeg yn yr adolygiad hwnnw. Ymhellach, credwn y dylai’r Comisiynydd gynnal adolygiad o’r fath ar gyfer pob cyllideb flynyddol, a gofynnwn i chi ystyried hyn.  
 
Yn ystod y drafodaeth am yr adolygiad hwnnw, fe godon ni bedair enghraifft benodol lle gwelwn fod patrwm gwariant y Llywodraeth yn milwrio yn erbyn y Gymraeg. Roeddech yn bwriadu adrodd yn ôl efo gwybodaeth bellach ar y pwyntiau hyn: 
 
(i)  Cyfanswm gwariant ar hyfforddiant yn y gweithle trwy gyfrwng y Saesneg a chyfrwng y Gymraeg, yn benodol, beth oedd cyfanswm y gwariant ar hyfforddiant yn y gweithle yn ystod 2012-2013 a beth fydd y gyllideb ar gyfer 2013-2014? Pa ganran o'r gyllideb yma sydd wedi ei neilltuo ar gyfer hyfforddiant cyfrwng Cymraeg?
 
(ii) Cyfanswm gwariant y Llywodraeth ar wasanaethau ieuenctid a’r canran o’r gwariant sy’n mynd ar wasanaethau cyfrwng y Saesneg a gwasanaethau cyfrwng y Gymraeg;
 
(iii) Cyfanswm gwariant ar addysg i oedolion yn y gymuned a’r canran sy’n mynd ar gyrsiau cyfrwng Cymraeg wrth gymharu â’r gwariant ar gyrsiau cyfrwng Saesneg.
 
(iv) Gwariant cyfrwng Cymraeg gan Gyngor y Celfyddydau, Cyngor Chwaraeon ac Undeb Rygbi Cymru.
 
Byddem yn gwerthfawrogi derbyn ymateb i’r pwyntiau penodol uchod. 
 
Tai/Cynllunio
 
Ymhellach, croesawn eich ymrwymiad i ystyried gosod asesiadau effaith iaith datblygiadau lleol ar sail statudol. Credwn y bydd y cam hwnnw yn cryfhau’r gyfundrefn fel y byddai modd i’r asesiadau fod yn ddigon o reswm ynddynt eu hunain i wrthod cais cynllunio. 
 
Fel y codwyd yn y cyfarfod, rydym yn galw am adolygiad o’r holl gynlluniau datblygu lleol, gan ofyn bod seilio'r cynlluniau ar anghenion lleol, ar gryfhau cymunedau a safle'r Gymraeg. Gofynnwn felly bod dileu cynlluniau presennol a chreu rhai newydd yn eu lle yn ôl yr angen. Credwn ymhellach na ddylid gweithredu ar unrhyw gynlluniau datblygu presennol nes y daw'r NCT 20 newydd i rym. Yn hynny o beth, hoffem wybod pryd mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi'r NCT 20 newydd, y bu ymgynghoriad arno a ddaeth i ben ar Fehefin 13eg 2011. Rydym wedi cael ar ddeall mai 16 asesiad effaith iaith yn unig a gynhaliwyd gan awdurdodau cynllunio Cymru dros y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, sef 0.03% o ddatblygiadau. A fydd y Llywodraeth felly yn gofyn i awdurdodau cynllunio egluro pam nad ydynt wedi bod yn cynnal asesiadau iaith ar bob datblygiad tai sylweddol dros y blynyddoedd diweddar?
 
Nid yw’n glir i ni pam nad ydych chi’n fodlon sefydlu arolygaeth gynllunio ddatganoledig i Gymru. Gwelwn fod hyn yn ffordd o sicrhau nad yw’r gyfundrefn gynllunio yn seiliedig ar ragdybiaethau neu ragolygon twf poblogaeth anaddas. Ac yn ogystal felly, ffordd o sicrhau nad oes gor-ddatblygu tai a fyddai’n tanseilio’r Gymraeg. Credwn ymhellach y byddai hwn yn gam naturiol ymlaen yn y broses ddatganoli gan ystyried y bydd fframwaith deddfwriaethol newydd yn ei le.
 
Yn ogystal, trafodom ein hargymhelliad polisi i roi’r grym i gynghorau yng Nghymru godi treth cyngor hyd at 200% ar ail dai. Gofynnoch chi am ddiffiniad cyfreithiol o ail dai cyn i chi ystyried y mater yn bellach. Ceir nifer o ddiffiniadau mewn deddfau a rheoliadau San Steffan, gan gynnwys Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a Deddf Llywodraeth Leol 2003. Mewn gwirionedd, mae gostyngiad ar ail dai, ac felly mae diffiniad ohonynt, fel rhan o dreth cyngor ers dyfodiad y dreth, ac maent wedi eu diffinio mewn deddfau a rheoliadau ers hynny.  
 
Safonau iaith arfaethedig
 
Yn y cyfarfod, gofynnom a fyddai’r Llywodraeth yn cefnogi’r safonau iaith fel y’u cyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ym Mis Tachwedd 2012. Dywedwyd wrthym yn y cyfarfod, gennych chi a’ch swyddog, nad oedd penderfyniad wedi ei wneud gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar y mater. Ers y cyfarfod, rhyddhawyd llythyr gan Leighton Andrews ar ran y Llywodraeth at Meri Huws, yn ddyddiedig Chwefror y 5ed, sef y diwrnod cyn ein cyfarfod efo chi, yn amlinellu’r rhesymau pam na fyddai’r Llywodraeth yn gweithredu safonau arfaethedig y Comisiynydd. Hoffwn dderbyn esboniad pam y dywedwyd wrthym nad oedd penderfyniad wedi ei wneud pan, mewn gwirionedd, roedd penderfyniad wedi ei wneud, fan leiaf, y diwrnod cyn ein cyfarfod. 
 
Yn amlwg, rydym wedi ein siomi gan benderfyniad Leighton Andrews. Ein blaenoriaeth ni fel mudiad yw sicrhau bod pobl Cymru yn cael y safonau iaith gorau, oherwydd y bydd hynny yn golygu rhagor o swyddi cyfrwng Cymraeg a gwell gwasanaethau yn yr iaith. Mae gan y safonau rôl i’w chwarae wrth sicrhau twf yn y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod - rhywbeth y gwnaethon ni son amdano yn ein cyfarfod gyda chi. Dymuniad Cymdeithas yr Iaith yw chwarae rhan adeiladol yn y broses dros y cyfnod nesaf gan sicrhau hawl pobl Cymru i fyw yn Gymraeg.
 
Y Gynhadledd Fawr - cynrychiolaeth Gwlad y Basg
 
Fel dywedom yn y cyfarfod, rydym yn croesawu’r newyddion y byddwch yn cynnal y gynhadledd hon. Yn ogystal, rydym yn croesawu’ch cadarnhad na fydd y gynhadledd yn atal eich Llywodraeth rhag gweithredu ar yr wyth argymhelliad penodol a godwyd gyda chi yn ein cyfarfod na’r argymhellion eraill yn ein Maniffesto Byw. Hoffem gynnig un syniad penodol parthed trefniadau’r gynhadledd, credwn y dylid gwahodd cynrychiolaeth sylweddol o Wlad y Basg i ddod i’r gynhadledd. Fel y dywedom yn ein dogfen wyth pwynt, mae gennym lawer iawn i ddysgu o Wlad y Basg, a chredwn y dylid achub ar y cyfle i ddod â’u harbenigedd nhw i’r digwyddiad. Os hoffai un o’ch swyddogion cysylltiadau mudiadau yn y wlad honno, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â’r swyddfa yng Nghaerdydd ar 02920 486469.  
 
Yn olaf, hoffem ddiolch i chi am gytuno i gwrdd â ni eto yn y dyfodol, gobeithiwn y bydd yn bosibl i ni gynnal ein cyfarfod nesaf yn ystod Mis Mehefin, ar ôl derbyn eich sylwadau manwl ar ein Maniffesto Byw.
 
Yr eiddoch yn gywir,
 
Robin Farrar
Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg