Llythyr at Gyngor Sir Benfro - ydy'r Cyngor yn ceisio tanseilio Safonau'r Gymraeg?

Annwyl....

Ymhellach i'n negeseuon blaenorol ynglŷn â'r llythyr mae Cyngor Sir Benfro wrthi yn ei anfon at gartrefi Sir Benfro, mae rhagor o aelodau sydd yn byw yn y sir wedi derbyn y llythyr ac wedi cysylltu gyda ni i nodi eu pryder.
Nodwyd y gallai rhai pobl ddewis gohebiaeth Saesneg gan fod gwybodaeth Saesneg wedi bod yn fwy dibynadwy yn y gorffennol, yn enwedig gwybodaeth sydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. Petai dewis i dderbyn gwybodaeth ddwyieithog, bydden nhw'n dewis hynny.

Ein pryder pennaf yw bod Cyngor Sir Benfro wedi apelio yn ebyn y gofyn iddo gydymffurfio â Safon 5, sydd yn nodi:
"Os nad ydych yn gwybod a yw person yn dymuno cael gohebiaeth oddi wrthych yn Gymraeg rhaid ichi ddarparu fersiwn Gymraeg o'r ohebiaeth pan fyddwch yn gohebu â'r person hwnnw."

O ganlyniad i'r her, penderfynodd y Comisiynydd ohirio gweithredu'r Safon honno tan 30/3/2017, yn lle 30/3/16 fel y rhoddwyd yn yr hysbysiad cydymffurfio gwreiddiol.
Pryderwn felly bod y Cyngor wedi gwneud ymgais llwyddiannus i oedi ar weithredu ar Safon 5 a hynny gyda'r bwriad o danseilio effaith Safon 5 pan ddaw i rym ym mis Mawrth 2017. Trwy gymryd yn ganiataol bod pawb sydd heb ymateb i'w lythyrau ddim ond eisiau gohebiaeth yn Saesneg, maent yn ceisio gwneud Safon 5, pan ddaw i rym, yn anweithredol a/neu lai gweithredol.
Pan ddaw'r Safon honno i rym bydd y Cyngor YN torri'r Safon gan y bydd yn dal i fod yn y broses o lythyru gyda thrigolion, a'r llythyr yn nodi mai Saesneg fydd iaith gohebiaeth oni fydd ateb. Hoffem wybod felly a yw'r Cyngor yn mynd i barhau i lythyru, gan wybod y bydd yn torri'r Safonau drwy wneud?

Yn ein llythyr blaenorol fe wnaethon ni holi yn benodol pam bod y Cyngor yn bwriadu cymeryd yn ganiataol mai Saesneg yw dewis iaith unrhyw un sydd ddim yn ymateb. Wnaethon ni ddim cael ateb i'r cwestiwn hwnnw felly dyma ofyn eto: hyd yn heb ystyried gofynion y Safonau, pam bod y Cyngor yn cymeryd mai Saesneg yw dewis iaith unrhyw drigolion nad ydynt yn ateb i lythyr? Awgrymwn yn gryf eich bod yn gohebu â thrigolion yn ddwyieithog, nid yn uniaith Saesneg, os na wyddoch eu dewis iaith.

Ymwneud â'r Gymraeg yn unig mae'r Safonau. Mae Safonau 2 a 3 yn nodi'r glir mai holi os yw rhywun eisiau gohebiaeth yn Gymraeg dylid gwneud. Mae llythyr y Cyngor yn nodi:
 "Mae deddfwriaeth ddiweddar yn dweud bod rhaid i inni ofyn ichi a fyddai'n well gennych i ni gyfathrebu â chi yn y Gymraeg neu yn Saesneg".
Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg a hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg yw ei egwyddorion sylfaenol. Er nad yw'r llythyr yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol yn yr ystyr fod y llythyr yn y ddwy iaith, mae'r llythyr yn nodi y bydd y Cyngor yn gohebu yn Saesneg o beidio cael ateb ac felly yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'n rhoi'r argraff mai agwedd a meddylfryd y Cyngor yw mai Saesneg yw'r brif iaith a bod y Gymraeg ar gael os yw rhywun yn gofyn amdano, yn hytrach na bod y Cyngor yn trin y ddwy iaith yn gwbl gyfartal.

Ymhellach mae Safon 21 yn dweud fel a ganlyn:
"Pan fyddwch yn ffonio unigolyn ("A") am y tro cyntaf, rhaid ichi ofyn i A a yw'n dymuno cael galwadau ffôn oddi wrthych yn Gymraeg; ac os yw A yn ymateb i ddweud ei fod yn dymuno hynny, rhaid ichi gadw cofnod o'i ddymuniad, a chynnal galwadau ffôn a wneir i A o hynny ymlaen yn Gymraeg."
Fel sy'n amlwg o'r llythyr torfol mae'r Cyngor wrthi'n ei anfon at holl aelwydydd Sir Benfro, mae'r Cyngor dan yr argraff y gall ddibynnu ar ymatebion preswylwyr – neu eu diffyg ymateb – i ddyfalu y bydd eu dewis iaith ar gyfer gohebiaeth ysgrifenedig yr un peth â'u dewis iaith wrth sgwrsio ar y ffôn. Mae'r llythyr yn ddiamwys yn hyn o beth: "mae cyfathrebu yn golygu llythyrau, e-byst a galwadau ffôn ".
Gallai dewis iaith pobl o ran gohebiaeth ysgrifenedig a chyfathrebiadau llafar amrywio. Rydyn wedi cyfeirio eisoes at ddysgwyr allai fod yn fwy hyderus ar lafar nac yn ysgrifenedig er enghraifft. Fe gydnabyddir hyn yn y Safonau gan fod safonau ar wahân ar gyfer nodi dewis iaith ar gyfer llythyru a ffonio. Nid yw llythyr y Cyngor yn cydnabod hyn er hynny, gan ei fod yn cynnwys blwch i nodi 1 dewis iaith ar gyfer unrhyw gyfathrebu sydd yn golygu nad oes dewis. Hefyd, dywed y Safonau mai dros y ffôn pan fydd y Cyngor yn ffonio unigolion am y tro cyntaf y dylid cofnodi'r dewis yn yr achos hwnnw.

Rydym eisoes wedi awgrymu y dylair Cyngor ddal nôl rhag cysylltu gyda rhagor o aelwydydd Sir Benfro er mwyn ail-ystyried, rydym yn ategu'r alwad honno.

Dylai'r Safonau fod yn sylfaen i weledigaeth a chynlluniau'r Cyngor ar gyfer y Gymraeg ar draws y sir, nid yn uchafswm i anelu ato. Mae rhai datblygiadau ym maes addysg Gymraeg ond mae angen i'r Gymraeg dreiddio i bob rhan o fywyd y sir. O ystyried hynny, hoffem wybod pryd bydd strategaeth hybu'r Gymraeg y sir i'w weld? Dydy e ddim yn amlwg ar wefan y Cyngor, er bod Safon 145 yn dweud bod angen iddo fod i'w weld ar wefan y Cyngor. Fe wnaethon ni holi ym mis Medi i gael gwybod pryd byddai'r strategaeth ar gael i'w gweld, a fyddai modd gweld y strategaeth felly?

Petai'n fuddiol i ni gyfarfod i drafod mae croeso i chi gysylltu, byddem yn ddiolchgar iawn.

Yn Gywir