Llythyr at John Whittingdale - Ysgrifennydd Diwylliant Prydain (rhif 1)

Llythyr Brys am oblygiadau'r gyllideb i S4C 

Annwyl John Whittingdale AS a George Osborne AS, 

Ysgrifennwn atoch yn dilyn yr awgrym a gafodd ei gyhoeddi dros y penwythnos y
byddwch yn gwneud y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu yn rhad ac am
ddim i bobl dros 75 mlwydd oed. Hoffwn ofyn pa sicrwydd mae'r Llywodraeth wedi
ei dderbyn na fyddai newidiadau o'r fath yn golygu toriadau pellach i S4C.   

Yn ôl yn 2010, gwnaed penderfyniad ynghylch ariannu S4C heb unrhyw ymgynghori â
phobl Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Fel y gwyddoch, gwnaed toriad o
93% i'r grant gan y Llywodraeth i'r sianel, a hyd yn oed o ystyried cyfraniad
ariannol drwy'r ffi drwydded, bu toriad o tua 40% i gyllideb y sianel dros y pum
mlynedd diwethaf.   

Pryderwn yn fawr fod y gyllideb ddydd Mercher eto yn mynd i gael sgil effaith ar
S4C nas trafodwyd ymlaen llaw gyda phobl Cymru. Erfyniwn arnoch i sicrhau nad
oes newidiadau i gyllideb na strwythurau S4C heb ymgynghoriad llawn.    

Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda
nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth. Tra bod y cyfryngau
Saesneg dros y 20 mlynedd diwethaf wedi tyfu'n sylweddol, mae siaradwyr Cymraeg
ar draws Prydain yn parhau i orfod dibynnu ar un sianel yn unig.  

Edrychwn ymlaen at dderbyn sicrwydd na fydd y newidiadau arfaethedig yn y
gyllideb ddydd Mercher yn arwain at ragor o doriadau i S4C, nac unrhyw
newidiadau strwythurol  a fyddai'n peryglu'n bellach ei bodolaeth neu'i
hannibyniaeth.   

Yr eiddoch yn gywir, 

Jamie Bevan, 

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

cc: Stephen Crabb AS, Alun Cairns AS, Owen Smith AS, Susan Elan Jones AS,
Jonathan Edwards AS, Mark Williams AS, Gweinidog Diwylliant Ken Skates AC,
Cadeirydd S4C, Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC. 

Urgent letter about the consequences of the budget for S4C  

Dear John Whittingdale MP and George Osborne MP, 

We write to you following the suggestion over the weekend that the BBC will
become responsible for funding free TV licences to over-75s. We would like to
ask what assurance the Government has had that such changes would not mean
further cuts to S4C.  

Back in 2010, a decision was made about S4C's funding without any consultation
with the people of Wales or the National Assembly for Wales. As you know, the
Government's grant to the channel was cut by 93% and, even taking into account
the financial contribution taken from the licence fee, the Welsh channel's
budget has been cut by some 40% over the past five years.  

We are greatly concerned that Wednesday's budget will once again have effects on
S4C without any discussions in advance with the people of Wales. We urge you to
ensure that there are no changes to S4C's budget or structures without full
consultation. 

S4C is no ordinary channel, but rather a broadcaster established following a
mass campaign, with a number of people sacrificing their freedom to ensure it
came into being. While the English language media has grown substantially over
the last twenty years, Welsh speakers across Britain continue to have to depend
on just one television channel.   

We look forward to receiving an assurance that changes in this Wednesday's
budget will not lead to further cuts to S4C, nor any structural changes that
would further threaten its independence or existence. 

Yours, 

Jamie Bevan, 

Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg