Llythyr at Maria Miller - cyllideb S4C

Annwyl Maria Miller,

S4C - Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr (CSR)

Ysgrifennaf ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i godi cwestiynau ynghylch
dyfodol ariannu S4C yn wyneb yr adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth
Prydain.

Nodwn eich bod eisoes wedi gwneud nifer o doriadau ychwanegol ar ben y toriadau
enbydus a gyhoeddwyd fel rhan o’r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr yn 2010. Yn
ogystal â’r toriad gwreiddiol o 36% i gyllideb y sianel mewn termau real,
rhagwelir toriad pellach o 1.09% ar gyfer Mawrth 2013/14 a thoriad arall o 1.06%
yn y flwyddyn ganlynol yn ôl adroddiad diweddar gan BBC Cymru.

S4C yw’r unig sianel iaith Gymraeg. Mae cannoedd o sianeli Saesneg eu hiaith ond
dim ond un yn y Gymraeg. Nid yw cynulleidfa’r sianel yn haeddu’r erydu cyson yma
o’u hawl i weld rhaglenni yn eu hiaith eu hunain. Credwn fod llai o arian yn
golygu llai o raglenni, yn ogystal â safon is o wasanaethau yn sgil
diswyddiadau. Mae angen dyfodol ariannol diogel i S4C ac mae’n hanfodol felly
nad yw’r sianel yn gweld mwy o doriadau i’w chyllid.

Dangosodd Llywodraeth Prydain agwedd gwbl sarhaus tuag at y Gymraeg pan
gyhoeddwyd y newidiadau cyllidol i S4C yn 2010. Penderfynoch gwtogi 94% o’ch
cyfraniad i gyllideb S4C, toriad a oedd yn llawer mwy na’r toriadau a roddwyd i
gyrff darlledu iaith Saesneg ym Mhrydain. Yn ogystal â’r sarhad hynny, ni wnaed
unrhyw ymdrech i gyfathrebu â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, sef yr asiantaeth
gynllunio iaith ar y pryd, ynghylch effaith newid y strwythur gyllido ar yr
iaith Gymraeg. Fel Cymdeithas, cawsom gyfarfod â Chomisiynydd Diwylliant Ewrop
Androulla Vasilliou, a dangosodd bryder am y sefyllfa - yn enwedig y perygl o
gyllideb annigonol i’r sianel a fyddai’n amddifadu plant a phobl ifanc o’r
urddas o gael clywed a gweld eu hiaith eu hunain ar y cyfryngau.

Dymunwn ofyn i chi am eich bwriadau ynghylch ymgynghori â Chomisiynydd y
Gymraeg, Meri Huws, sydd â’r prif gyfrifoldeb am oruwchwyliaeth dros y Gymraeg,
cyn gwneud penderfyniadau pellach? Hefyd, a fwriadwch gysylltu â Phwyllgor
Arbenigwyr Siarter Cyngor Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol,
sydd yn y broses o arolygu’r iaith Gymraeg ar hyn o bryd? Cofier bod Prydain
wedi arwyddo dogfen gyfreithol yn sicrhau darpariaeth Cymraeg yn y cyfryngau.

Gofynnwn i chi Weinidog i beidio â gwneud toriadau pellach i gyllideb S4C. Mae’r
sianel eisoes wedi colli cyllideb a fyddai’n gwneud gwasanaethau yn
anghynaliadwy. Mae nifer fawr o staff eisoes wedi colli ei swyddi a mae’r
gwasanaeth yn gwegian. Credwn y dylech chi osgoi cyrraedd sefyllfa lle mae
cyllideb S4C yn dibynnu yn gyfan gwbl ar benderfyniadau’r BBC. Byddai toriadau
pellach i grant pitw y Llywodraeth yn peryglu bodolaeth y sianel. Galwn arnoch i
osod fformiwla ariannu statudol a fyddai’n gosod gwaelodlyn i gyllideb S4C, a
hynny erbyn yr adolygiad gwariant cynhwysfawr.

Gofynnwn felly am gyfarfod gyda chi fel bod modd trafod sut mae’r Llywodraeth yn
bwriadu diogelu’r gwasanaeth, ei chyllideb a’i hannibyniaeth a sicrhau dyfodol
ffyniannus iddi, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol a allai ei hamddiffyn yn
y tymor hirach.

Yr eiddoch yn gywir,

Greg Bevan
Llefarydd Darlledu, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
post@cymdeithas.org
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Ystafell 5
Y Cambria
Rhodfa’r Môr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 2AZ