Annwyl Gyngor Prifysgol Aberystwyth,
Ysgrifennwn atoch ynghylch swydd yr is-ganghellor.
Wrth i chi fynd ati i benodi is-ganghellor newydd, dros dro tan fis Gorffennaf, ac yn barhaol wedi hynny, gofynnwn i chi sicrhau fod y person a gaiff ei benodi yn rhugl yn y Gymraeg fel y gall ddefnyddio'r Gymraeg wrth weithio bob dydd, ac yn deall anghenion y gymuned Gymraeg sydd yn y brifysgol.
Er i'r is-ganghellor presennol addo dysgu'r Gymraeg cyn cael ei phenodi, nid ydy hi wedi cyflawni'r addewid hwnnw. Dengys hyn mai'r unig ffordd i sicrhau fod yr is-ganghellor nesaf yn medru'r Gymraeg ydy mynnu fod y Gymraeg yn sgil hanfodol wrth hysbysebu'r swydd.
Nid oes rheswm pam na ddylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i'r swydd hon, ac i bob swydd yr hysbysebwch yn y dyfodol.
Wrth drafod y gymuned Gymraeg, pryderwn na fydd adroddiad ar yr ymchwil a gomisiynwyd gan y brifysgol ynglŷn â llety cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei gyhoeddi tan fis Chwefror, er mai'r bwriad gwreiddiol oedd i hynny ddigwydd fis Rhagfyr.
Does dim amheuaeth am yr hyn mae myfyrwyr ei eisiau ar gyfer neuadd Gymraeg: coridorau agored, digon o ystafelloedd i gymdeithasu a chynnal digwyddiadau ac ymarferion, a ffreutur. Mae myfyrwyr wedi bod yn gwbl glir am hyn o'r dechrau.
A allwch chi ddweud beth yw'r amserlen ar gyfer dechrau'r gwaith i Bantycelyn wedi i'r Bwrdd Prosiect drafod yr adroddiad?
Edrychwn ymlaen at glywed eich ymateb.
Yn gywir,
Elfed Wyn Jones
Cadeirydd Cell Cymdeithas yr Iaith Pantycelyn