Annwyl aelodau’r Cabinet,
Ysgrifennwn atoch mewn perthynas ag eitem 14 cyfarfod y Cabinet ar 17 Gorffennaf, Strategaeth Hybu’r Gymraeg y Cyngor.
Er bod nifer o gynlluniau da yn y ddogfen, rydym yn pryderu’n ddybryd am y diffyg uchelgais sydd ynddi. Er bod mesurau yn cael eu gosod a ffyrdd o fesur cynnydd yn cael eu cynnig, does dim targedau o ran cynnydd ynghlwm ag unrhyw un o’r pwyntiau hyn - dim ond un targed sydd yn y Strategaeth (cynnydd o 1.5% yn y canran o drigolion y sir sy’n medru’r Gymraeg).
Hoffem nodi felly nad yw’r targed o gynnydd o 1.5% yn nghanran y siaradwyr Cymraeg dros y 5 mlynedd nesaf yn ddigonol. Mae hwn yn darged cwbl besimistaidd, gyda'r nod o sicrhau cyrraedd targed yn unig.
Dylai’r Strategaeth Hybu'r Gymraeg anelu at sicrhau bod Ceredigion yn dychwelyd i gyfran o leiaf 50% o ddefnyddwyr y Gymraeg yn y sir yn ystod cyfnod y Strategaeth (neu fel rydym yn dadlau nes ymlaen, 52%). Byddai hyn yn golygu cynnydd o 1% bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf, 2024-29. Dylai'r Strategaeth sicrhau ein bod ni’n cynllunio ar gyfer hyn, a bod adnoddau a chynlluniau yn eu lle i wireddu’r cynnydd hwn.
Rydym yn derbyn yn llwyr fod heriau o ran cyrraedd y ffigur yr ydym wedi’i awgrymu, mae pobl ifanc yn gadael yr ardal oherwydd diffyg tai a gwaith, mae’r boblogaeth yn heneiddio, mae pobl di-Gymraeg yn symud i’r sir heb gael eu cymhathu ac ati. Nid yw’r heriau yma yn anorchfygol er hynny.
Nod y Strategaeth Hybu ddylai fod i ddod â chymunedau, cynrychiolwyr, mudiadau, a sefydliadau at ei gilydd i fynd i’r afael â’r heriau hyn a chynllunio ar gyfer a dechrau cynyddu nifer a chanran y siaradwyr a chymunedau Cymraeg yng Ngheredigion.
Mae awdurdodau lleol eraill wedi paratoi cynlluniau mwy beiddgar na Cheredigion, gan gynnwys Cyngor Powys, Cyngor Conwy a Sir Benfro. Er bod niferoedd is yn siarad Cymraeg yn y siroedd hynny maen nhw i gyd wedi gosod targedau twf uchelgeisiol. Rydym yn annog y Cyngor i ddilyn esiampl siroedd eraill sy’n anelu at ddychwelyd y canran sy’n siarad Cymraeg at y canran a welwyd mewn Cyfrifiadau blaenorol, megis cyfrifiad 2001. Yn achos Ceredigion byddai hyn yn golygu targed o 52.0% yn siarad Cymraeg yn y sir. Trwy droi’r Gymraeg yn iaith mwyafrifol y sir eto, gellid adennill balchder, gosod esiampl i siroedd eraill a gwneud y Gymraeg yn ganolog i fywyd y sir.
Gofynnwn i’r Cabinet beidio â derbyn y Strategaeth fel y’i hysgrifennwyd, a gweithio gyda’r Fforwm Dyfodol Dwyieithog a rhan-ddeiliaid eraill i lunio strategaeth fydd yn arwain at, a chynllunio ar gyfer, twf y Gymraeg a’n cymunedau Cymraeg.
Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno ymateb llawn i’r ymgynghoriad cyhoeddus os bydd penderfyniad y Cabinet i fwrw ymlaen â’r Strategaeth heb ei diwygio, ond gofynnwn i chi ystyried ein sylwadau wrth drafod y Strategaeth Hybu yfory.
Diolch yn fawr iawn,
Dr Jeff Smith,
Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, Cymdeithas yr Iaith