Darllenwch yn Saesneg yma | Read English version here
Mae fersiwn pdf ar gael i'w lawrlwytho yma.
Cymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg
Cymdeithasiaeth i’r 21ain ganrif
Maniffesto Cymdeithas yr Iaith 2022
Dyma chweched maniffesto Cymdeithas yr Iaith, y ddogfen rydym wedi’i chyhoeddi bob degawd i amlinellu ein gweledigaeth fel mudiad. Datblygwyd ef dros gyfnod o fisoedd mewn trafodaethau gyda’n haelodau, a daeth yn glir y byddai’n rhaid iddo ymateb i’r argyfwng hinsawdd a’i gyswllt â’r Gymraeg.
Mae’r ddogfen hon felly’n amlinellu dadansoddiad y Gymdeithas o sefyllfa bresennol y Gymraeg a’n cymunedau, a’n hathroniaeth wleidyddol o gymdeithasiaeth a sut mae hynny’n berthnasol i Gymru heddiw. Yna, mae’n cynnig syniadau ar gyfer sicrhau Cymru gynaliadwy ymhob ystyr o’r gair, a sut mae grymuso ein cymunedau — un o brif egwyddorion cymdeithasiaeth — yn golygu cryfhau ein hiaith a diogelu ein hamgylchedd hefyd.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y maniffesto, a’n holl waith dros y blynyddoedd. Cymdeithas o bobl ydym ni ac rydym yn llwyr ddibynnol ar sgiliau, syniadau ac ymroddiad ein haelodau er mwyn cyflawni unrhyw beth.
Cawsom ein hysbrydoli wrth ddarllen maniffestos blaenorol y Gymdeithas a fuodd yn sail i weledigaeth radical dros y degawdau, a chymaint o weithredu sydd wedi cyflawni camau mawr ymlaen i’n hachos. Ein dymuniad fydd i’r darllenydd ddarganfod yn y tudalennau yma hefyd syniadau fydd yn sbarduno
trafodaeth, gweithredu, ac o bosib, gobaith.
Mae heriau mawr o’n blaenau ond rydym wedi ymateb i heriau mawr o’r blaen. Ymatebwn unwaith eto felly gyda’r dychymyg a’r cydweithrediad sydd wedi bod yn nodweddiadol o’n mudiad a’n gwlad fach erioed; i greu, gweithredu a gwireddu gweledigaeth o Gymru arall, Cymru well.
Cymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg.
Cyflwyniad — Cymru yn 2022
Ers ein sefydlu 60 mlynedd yn ôl, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i sawl her dyngedfennol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru. Yn 1962, roedd geiriau Saunders Lewis yn Tynged yr Iaith yn darogan y byddai terfyn ar y Gymraeg fel iaith fyw ar ddechrau’r 21ain ganrif oni bai bod chwyldro. Atebodd pobl Cymru’r her, a sbardunwyd degawdau o ymgyrchu sydd wedi ymateb, dro ar ôl tro, i sefyllfa’r iaith a Chymru fel ag y mae, ac wedi llwyddo i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg.
Fodd bynnag, nid yw’r her wedi diflannu, ac mae’n glir ein bod yn parhau i orfod gweithio yn erbyn, yng ngeiriau Tynged yr Iaith, ‘traddodiad politicaidd y canrifoedd [a] holl dueddiadau economaidd y dwthwn hwn’ sy’n parhau i filwrio yn erbyn y Gymraeg, fel pob iaith leiafrifol. Ein casgliad hanner canrif wedyn ym Maniffesto 2012, Tynged yr Iaith 2, oedd ein bod yn hyderus erbyn hynny y bydd dyfodol i’r Gymraeg ar ryw ffurf, ond pa fath o ddyfodol?
Yng Nghymru 2022, mae’r farchnad dai yn gwthio pobl o’u cymunedau i wneud lle i’r rhai â chyfoeth, ac mae seiliau cymunedol yr iaith yn dirywio o ganlyniad. Wedi degawdau o bolisïau neoryddfrydol Llywodraethau San Steffan a Chaerdydd, mae ein cymunedau’n edwino, yn colli gwasanaethau hanfodol megis meddygfeydd, banciau, ysgolion a gofodau cymunedol. Mae canoli economaidd yn dwysáu, a’n cymunedau’n or-ddibynnol ar ddiwydiannau echdynnol megis twristiaeth neu gorfforaethau mawr tramor sy’n cynnig cyflogau isel a thelerau gwael.
Mae 80% o blant a phobl ifanc yn parhau i gael eu hamddifadu o’r iaith oherwydd methiant ein system addysg i dyfu a normaleiddio addysg Gymraeg. Plant o rai cefndiroedd cymdeithasol ac ardaloedd penodol sy’n cael eu hamddifadu fwyaf, yn benodol cymunedau difreintiedig, mudwyr a chymunedau croenliw. Hyd yn oed mewn ardaloedd lle siaredir yr iaith gan fwyafrif o’r boblogaeth, mae nifer o bobl ifanc yn colli eu sgiliau iaith wrth fynd trwy’r system addysg oherwydd methiannau’r system ‘ddwyieithog’ a’r drefn asesu. Mae nifer fawr o oedolion eisiau dysgu Cymraeg, ond yn profi rhwystrau rhag gwneud hynny, megis rhwystrau ariannol, daearyddol a diffyg hyblygrwydd.
Er gwaethaf y dwyieithrwydd swyddogol sy’n cael ei frolio gan ein sefydliad gwleidyddol, y gwir yw mai Saesneg yw’r norm ar draws pob maes. Brwydr yw hi i bobl gyffredin allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg wrth ymwneud â gwasanaethau bob dydd. Nid oes hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector preifat na chynllunio digonol i ddatblygu sgiliau iaith y gweithlu ar draws meysydd hanfodol megis iechyd, gofal ac addysg. Mae’r Saesneg yn dominyddu ar y cyfryngau digidol, ac mae ein hunig sianel deledu cyfrwng Cymraeg wedi gweld toriadau sylweddol i’w chyllideb ac wedi colli ei hannibyniaeth sefydliadol. Prin iawn yw’r gofodau uniaith Gymraeg, lle mae’r iaith yn cael ei defnyddio’n naturiol mewn gweithleoedd, busnesau neu weithgareddau diwylliannol, ac nid oes unrhyw ymgais swyddogol i gefnogi neu gynyddu’r gofodau hyn. Mae ein harweinwyr honedig yn parhau i arddel mythau am y Gymraeg fel iaith sy’n eithrio pobl, a heb yr hyder i’w chofleidio hi fel priod iaith y wlad a gwireddu hawl pob dinesydd i’w dysgu, ei defnyddio a’i mwynhau yn eu bywydau bob dydd.
Y gwir yw, bron i chwarter canrif ers datganoli, nad yw’r freuddwyd o ddemocratiaeth Gymreig wedi’i wireddu. Mae apathi, diffyg ymwneud a dealltwriaeth o’r broses gwleidyddol yn rhemp.
Unig weithred wleidyddol nifer o bobl yw pleidleisio, ond llai na hanner o’r etholwyr a bleidleisiodd yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ac fe wnaeth llai na thraean bleidleisio mewn rhai siroedd yn etholiadau lleol 2022. Mae diffyg addysg a dealltwriaeth o’n strwythurau gwleidyddol a grymoedd datganoledig yn gyffredinol, ac nid yw pobl yn teimlo’n rhan o’n democratiaeth a’u bod yn gallu gwneud gwhaniaeth. Nid oes fawr o awydd gan wleidyddion i newid y sefyllfa hon, gan ei bod yn golygu nad ydyn nhw’n cael eu dal i gyfrif.
Ar y cyfan, mae Cymru’n cael ei rhedeg gan sefydliad bach, cul, o gefndir penodol sydd — er gwaethaf ei rethreg ar rai materion — yn gweithredu polisïau nad ydynt yn torri’n rhydd oddi wrth y drefn gyfalafol Brydeinig, sydd wedi bod mor niweidiol i’n hiaith, ein cymunedau a phobl gyffredin. Mae’r sefydliad yn hunanfodlon, ac yn amharod i gydnabod gwir natur y problemau rydym yn eu hwynebu, na chymryd camau fydd yn gwneud gwir wahaniaeth.
Yn rhy aml, mae rhethreg yn cuddio diffyg gweithredu o sylwedd. Mae hyn yn amlwg pan ddaw hi at yr iaith, lle mae consensws a chefnogaeth eang i’r Gymraeg, ond nid yr ewyllys wleidyddol i gymryd y camau beiddgar sydd eu hangen. Mae’r Llywodraeth yn brolio ei hymrywmiad i’r iaith ond yn methu â chyrraedd ei thargedau ei hun dro ar ôl tro, ac wedi methu â chyhoeddi camau gweithredu credadwy i gyrraedd y miliwn. Mae awdurdodau lleol, yn yr un modd, yn gwneud y lleiafswm posibl sy’n cael ei ddisgwyl ganddynt, er mwyn ticio blychau yn hytrach nag er mwyn gwasanaethu trigolion lleol. Maent yn ystyried bod ‘mesurau lliniaru’ ar sail asesiad effaith iaith arwynebol yn ddigon i ddangos bod y Gymraeg yn ystyriaeth i bolisïau.
Mae’r Gymraeg yn parhau i gael ei hymylu mewn polisi cyhoeddus, yn hytrach na’i phrif ffrydio ar draws pob maes, ac o dan y geiriau twymgalon am y Gymraeg, mater o dwtio fan hyn a fan draw yw polisi iaith. Ac fel y gwelwyd yn y penderfyniad i roi enw dwyieithog ar ein Senedd genedlaethol, rydym ymhell o weld y Gymraeg yn cael cydnabyddiaeth swyddogol fel priod iaith y wlad.
Datblygir y maniffesto hwn cyn i ganlyniadau llawn cyfrifiad 2021 gael eu cyhoeddi, ac ni allwn wybod beth fydd y canlyniadau o flaen llaw. Ond beth bynnag am ganlyniadau’r Cyfrifiad, ni allwn fod yn hunanfodlon. Nid mater o ffigurau yn unig yw’r Gymraeg. Y gwir ddangosyddion fydd pobl ifanc yn gadael yr ysgol yn medru’r Gymraeg, yr iaith yn cael ei defnyddio yn naturiol ar draws pob maes a chymunedau Cymraeg hyfyw.
Rhaid gosod sefyllfa’r Gymraeg hefyd o fewn cyd-destun ehangach. Datblygwyd y maniffesto hwn wedi dwy flynedd o bandemig COVID-19 a achosodd gymaint o golled ac ymyrraeth yn ein bywydau bob dydd. Mae sioc economaidd ac argyfwng costau byw wedi dilyn — argyfwng fydd yn gwaethygu problemau’r farchnad dai a sail economaidd ein cymunedau. Mae effeithiau blynyddoedd o lymder yn parhau, ac mae tlodi ac anghydraddoldeb ar gynnydd, gyda nifer o bobl yn cael trafferth yn bodloni eu hanghenion sylfaenol am loches, bwyd a gwres. Mae cyfoeth yn cael ei gronni ar y brig, yn nwylo nifer fechan sydd wedi defnyddio’r pandemig i gynyddu eu helw a’u hasedau. Mae problemau iechyd meddwl megis iselder a gorbryder yn endemig, heb fod cymorth digonol ar gael, a nifer fawr yn profi unigedd wrth i rwymau cymunedol ddirywio.
Mae mwy a mwy o’n bywydau’n cael ei fyw ar-lein, ond mae hyn yn digwydd ar blatfformau technoleg preifat ac annemocrataidd, gydag algorithmau sy’n annog gwrthdaro ac yn tanseilio democratiaeth a phreifatrwydd. Mae tueddiadau cymdeithasol dwfn o ragfarn ac anghyfiawnder megis hiliaeth, casineb at ferched, homoffobia a thrawsffobia yn parhau, ac yn cael eu hybu gan wleidyddion, cyfryngau a mudiadau adweithiol. Ym Mhrydain, fel mewn gwladwriaethau eraill, gwelwn fesurau i gyfyngu ar hawliau sylfaenol a democratiaeth. Mae gwrthdaro, gormes a rhyfel yn dinistrio bywydau ar draws y byd, a’u ffoaduriaid yn cael eu troi i ffwrdd o loches.
Fodd bynnag, mae un her yn amlygu ei hun uwchben pob dim, gan ei bod yn cynrychioli bygythiad i bob cymuned ar y blaned, sef yr argyfwng hinsawdd. Mae effeithiau dynol-ryw ar y blaned yn dwysáu, a gwyddom yn dilyn asesiadau’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd bod y degawd presennol yn dyngedfennol o ran gweithredu os ydym am atal y rhagolygon gwaethaf rhag cael eu gwireddu. Heb weithredu brys a phellgyrhaeddol, trychineb fydd canlyniad ein trywydd presennol.
Seiliau gobaith
Serch hyn oll, nid oes raid anobeithio am ein sefyllfa. Oes, mae sawl her o’n blaenau, ond mae seiliau gobaith o’n cwmpas ni i gyd. Trwy ymgyrchu bwriadus ac effeithiol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi ennill sawl cam ymlaen i’r Gymraeg dros y degawd ers cyhoeddi ein maniffesto diwethaf. Yn dilyn siom cyfrifiad 2011, cychwynnwyd ar gyfnod o weithredu i alw ar y Llywodraeth i ymateb, a’r ymgyrch lwyddiannus gan y Gymdeithas dros fabwysiadu’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, sydd wedi llwyddo i’n symud i ffwrdd o dderbyn dirywiad anochel i anelu at dwf yn lle. Dyma darged sydd wedi ennyn cefnogaeth ar draws y pleidiau, sefydliadau cyhoeddus a’r cyhoedd, ac wedi newid y disgwrs am y Gymraeg, gan roi fframwaith clir i bolisi iaith a’n galluogi i bwyso am y camau sydd eu hangen i gyrraedd y nod a dal y Llywodraeth i gyfrif.
Ymysg ein llwyddiannau, rydym wedi ennill ymrwymiad i ddileu Cymraeg ail iaith, cyflwyno Bil Addysg Gymraeg newydd, rhoi diwedd ar y cysyniad o ‘fesur y galw’ am addysg Gymraeg a darparu gwersi Cymraeg am ddim i geiswyr lloches. Mae’r rheoliadau ysgolion nawr yn gosod tybiaeth o blaid cadw ysgolion bach a gwledig ar agor. Mae’r Llywodraeth bellach yn cefnogi datganoli grymoedd dros ddarlledu a chyfathrebu yn swyddogol. Mae sawl cyngor sir wedi cyflwyno’r dreth gyngor uwch ar ail dai y buom yn galw amdano; bydd ganddynt hefyd yn fuan y grym i osod cap ar nifer yr ail dai a llety gwyliau mewn unrhyw gymuned ac i’w gwneud yn ofynnol i bobl ofyn am ganiatâd cynllunio er mwyn newid defnydd tŷ i fod yn ail dŷ neu’n llety gwyliau. Mae’r Llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i reoleiddio’r sector llety gwyliau a chyflwyno treth ar dwristiaeth. Llwyddom i atal y Llywodraeth rhag diddymu rôl Comisiynydd y Gymraeg ac mae ymrwymiad erbyn hyn i ymestyn hawliau iaith i sectorau newydd.
Mae cefnogaeth i’r Gymraeg a theimladau o hyder ynddi a pherthyn iddi yn uwch nag erioed ymysg pobl Cymru, gan gynnwys pobl nad ydynt yn siarad yr iaith, ac mae mwy a mwy o bobl eisiau dysgu’r iaith a’i rhoi i’w plant. Dethlir yr iaith fel un fodern a chynhwysol o fewn diwylliant cyfoes ac ymysg yr ifanc, ac ar draws meysydd fel chwaraeon a cherddoriaeth. Yn wir, y sefydliad sydd ar ei hôl hi o ran meddu ar yr ewyllys wleidyddol i weithredu ar ddyheadau pobl Cymru dros yr iaith.
Rydym hefyd wedi gweld twf yn niddordeb a pharodrwydd pobl i ymgyrchu a gweithredu’n uniongyrchol dros yr hyn sy’n bwysig iddynt o gwmpas y byd — o’r mudiad ‘mae bywydau du o bwys’, i’r streiciau hinsawdd ymysg disgyblion ysgol, mudiadau annibyniaeth, y twf mewn gweithgarwch undebau llafur ac ymgyrchoedd yn erbyn trais rhywiol. Ar draws y byd, mae pobl yn deall bod angen newid, a bod rhaid gweithredu i’w ennill. Daw gobaith o wybod nad yw’r dyfodol wedi’i benderfynu eto, ac mae ein profiad fel mudiad ymgyrchu yn dangos bod modd ei ffurfio.
Ymateb Cymdeithas yr Iaith
Fel erioed felly, mae’n rhaid i Gymdeithas yr Iaith ymateb i heriau niferus i’r Gymraeg a chymunedau Cymru — rhai ohonynt yn heriau cyfarwydd, rhai’n heriau mwy newydd. Dyma ran greiddiol o’n gwaith fel mudiad ac rydym wedi gwneud hynny o hyd trwy gynnig gweledigaeth radical i ymateb i’r Gymru sydd ohoni a’r Gymru a all fod.
Rhan o’r gwaith hwn yw cyhoeddi maniffesto bob deng mlynedd sy’n amlinellu ein dadansoddiad o’r sefyllfa bresennol a’n gweledigaeth ar gyfer y degawd i ddod. Dyma ein chweched maniffesto, ac mae’n rhan o’r rhaglen ehangach i nodi ein 60 mlwyddiant. Nid dogfen bolisi fanwl ynghlwm ag unrhyw etholiad yw ein maniffesto, ond ymateb i heriau ein hoes a gweledigaeth ehangach i roi fframwaith i’n gwaith ac ysbrydoli ein haelodau, a phobl Cymru, i weithredu dros weledigaeth amgen, gyffrous, o’r wlad y gall Cymru fod.
Nid yw’r maniffesto hwn yn disodli ein hymgyrchoedd eraill na’r cynigion polisi sydd wedi’u cyhoeddi gennym. Dylid ei ddarllen ar y cyd â’n dogfen weledigaeth ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021, Mwy na miliwn — dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb, sy’n amlinellu ein galwadau ar Lywodraeth Cymru, a chynigion ar sut y gallwn sicrhau fod pawb yn y wlad yn gallu dysgu, defnyddio a mwynhau’r Gymraeg mewn modd ystyrlon yn eu bywydau bob dydd. Mae cynigion manwl yn y ddogfen honno ar draws meysydd addysg, yr economi, cynllunio iaith, y cyfryngau a thai. Mae’r maniffesto hwn yn gosod fframwaith ehangach, ac yn edrych y tu hwnt i’r tymor seneddol presennol a meysydd beunyddiol polisi iaith.
Gallwch ddarllen ein maniffestos blaenorol yn cymdeithas.cymru/maniffesto
Cymdeithasiaeth
Wrth gyhoeddi’r ddogfen hon, rydym yn adeiladu ar bob un o’n maniffestos a’n cyhoeddiadau blaenorol, ac yn
datblygu’r syniadau sydd ynddynt ymhellach. Mae ein syniadaeth wleidyddol fel mudiad wedi ei seilio ar gymdeithasiaeth. Datblygir y syniad hwn ym maniffesto 1982, ac yn ein pamffled o 1986, Cymdeithasiaeth — yr ail ffrynt, i esbonio athroniaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith a ddatblygodd trwy ein profiad o ymgyrchu. Mae esboniad o gymdeithasiaeth ym Maniffesto 1982:
Yn fyr, gwelodd Cymdeithas yr Iaith na phery'r Gymraeg oni bydd parhad i'r gymdeithas o bobl sy'n siarad yr iaith honno; golyga hyn amddiffyn seiliau materol y cymunedau. Y mae hyn yn wir am ein cymunedau ledled Cymru, o'r gymuned wledig Gymraeg i'r gymuned ddinesig Saesneg. Ni ellir adfer y Gymraeg ond yng nghyd-destun cymdeithas fyw, a bydd iachâd y Gymraeg ynghlwm wrth adferiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Dyna'r rheswm dros ddatblygu set o bolisïau a elwir yn gymdeithasiaeth, sef polisïau a fyddai'n rhoi'r grym i gymunedau i reoli eu tynged eu hunain, gan na chredwn y gall mympwy buddiannau'r farchnad a chyfalaf breifat fyth amddiffyn cymdeithasau Cymraeg.
Fel yr esbonia’r maniffesto hwnnw, o ddod i ddeall natur ein cymdeithas a grym gwleidyddol trwy ymgyrchu, ‘daeth y patrwm gwleidyddol ar gyfer parhad yr iaith a chymdeithasau lleol yn amlwg. Sylweddolwyd nad oes modd i'r Gymraeg barhau oni sefydlir yng Nghymru drefn economaidd a gwleidyddol a weinyddir o'i bôn i'w brig yn ôl egwyddorion sosialaeth Gymreig.’
Gellid ystyried cymdeithasiaeth felly yn rhan o’r traddodiad sosialaidd ehangach, ond mae hefyd yn cynrychioli damcaniaeth neilltuol Gymreig a Chymraeg. Mae sosialaeth yn derm eang, ac ym Mhrydain, mae ‘sosialaeth’ fel y mae wedi’i harddel gan rai, wedi bod yn ddamcaniaeth nad yw’n cwestiynu’r wladwriaeth Brydeinig yn ei hanfod, a’i natur imperialaidd, gyfalafol a chanoledig. Yn wahanol i’r tueddiadau hyn, mae cymdeithasiaeth yn ymwrthod â’r cysyniad o wleidyddiaeth o’r brig i lawr, a mesurau fydd yn canoli grym yn y wladwriaeth. Mae’n dadansoddi materion economaidd a’i heffaith ar yr iaith a chymunedau, ond hefyd yn rhoi ystyriaeth deilwng i ddiwylliant a hunaniaeth â’u perthynas hwythau gyda strwythurau economaidd.
Mae cymdeithasiaeth felly yn mynd i’r afael â seiliau materol ein sefyllfa, a’i heffaith ar y Gymraeg, ac yn cynnig mesurau economaidd a chymdeithasol fydd yn cryfhau’r iaith. Mae’n rhoi pobl a chymunedau wrth galon ein gwleidyddiaeth, fel gwir fodur newid, ac yn anelu at rymuso cymunedau yn ddemocrataidd, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Mae’n gyfraniad unigryw gan Gymru i’r traddodiad radicalaidd byd-eang, sy’n gyson gyda thraddodiadau gwleidyddol cenhedloedd bychain eraill o gwmpas y byd, o Iwerddon i ganolbarth a de America.
Trwy ein profiad ymgyrchu, down i ddeall mai’r un grymoedd sy’n bygwth y Gymraeg ag sy’n bygwth pob cymuned, yn ecsbloetio gweithwyr ac adnoddau naturiol, ac yn arwain at drais a gormes o bob math. Mae pob brwydr yn erbyn y grymoedd hyn ynghlwm, ac rydym yn gweld bod angen cynghreirio a chydweithio rhwng mudiadau ac ymgyrchoedd gwahanol er mwyn eu gwrthsefyll.
Credwn fod cymdeithasiaeth yn parhau i gynnig fframwaith ar gyfer dadansoddi a deall ein sefyllfa bresennol a’r ffordd ymlaen. Nid dogma ydyw, ond yn hytrach fframwaith ar gyfer trafod a datblygu ffyrdd o feddwl a gweithredu. Yng ngeiriau Sel Williams, ‘gall cymdeithasiaeth gynnig ffordd o weld y byd yn grwn a gweithio i’w drawsnewid.’
Rhyddid i Gymru
Mae cymdeithasiaeth yn ddefnyddiol wrth ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru — cwestiwn sydd wedi dod lawer yn fwy blaenllaw dros y blynyddoedd diwethaf wrth i seiliau cyfansoddiadol y Deyrnas Gyfunol gael eu siglo yn fwy nag erioed, ac annibyniaeth i’r Alban ac ail-uno Iwerddon yn debygol yn y dyfodol agos. Bu twf sylweddol yn y gefnogaeth i annibyniaeth yma yng Nghymru, a’r cwestiwn yn cael ei ystyried o ddifrif mewn ffordd na welwyd o’r blaen, gyda thrafodaethau am wahanol opsiynau cyfansoddiadol ym mhrif ffrwd bywyd cyhoeddus y wlad. Rhaid diolch i’r ymgyrchwyr sydd wedi rhoi annibyniaeth i Gymru ar yr agenda. Fel mudiad, mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn rhan o’r symudiad hwn, gan ein bod yn cefnogi hunan-lywodraeth i Gymru fel gwlad annibynol ar y llwyfan rhyngwladol, ac yn hyderus y bydd hynny’n dod yn realiti yn y degawdau i ddod. Ond, mae’n glir i ni fod yn rhaid i hynny fod yn fwy na newid cyfansoddiadol ar lefel genedlaethol yn unig. Rydyn ni o blaid rhyddid i Gymru.
Beth yw rhyddid i Gymru felly? Yng ngeiriau cynnig yn ein cyfarfod cyffredinol yn 2017, oedd yn ailddatgan safbwynt o Gyfarfod Cyffredinol 1996:
"Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn ailddatgan awydd Cymdeithas yr Iaith i weld rhyddid cenedlaethol llawn i Gymru, a hynny fel bod modd grymuso'n pobl i ddatblygu ein diwylliant fel cyfraniad at wareiddiad y byd, ac i ddatblygu ein cyfundrefnau cymdeithasol-economaidd fel esiampl i'r byd. Datganwn ein hawydd i weld y Gymraeg yn cael ei derbyn yn llawn ymhlith ieithoedd a diwylliannau'r byd, ac i Gymru hithau gymryd ei lle mewn sefydliadau cydwladol. Datganwn mai dim ond trwy gymryd ein lle yn y byd fel Cymry yr enillwn ein rhyddid ein hunain.
Ailddatganwn fod ennill rhyddid cenedlaethol llawn i Gymru'n golygu llawer yn fwy nag un newid cyfansoddiadol yn unig. Yn ogystal â sicrhau grymoedd llawn i senedd Cymru a rhyddid iddi wneud cytundebau cydwladol, golyga hefyd ryddhau a grymuso cymunedau lleol Cymru.
Ailddatganwn fod rhyddid llawn yn golygu grymuso ieuenctid Cymru fel y bydd y cyfrifoldeb a'r gallu ganddynt i lunio Cymru'r dyfodol. Golyga hefyd ryddid a chyfrifoldeb i weithwyr ym mhob sector o economi Cymru o ran llunio strategaeth eu mentrau. Golyga hefyd roi grymoedd i fyfyrwyr yn ein sefydliadau addysgol i gyfrannu at yr hyn sy'n digwydd yn y sefydliadau, a golyga ddatblygu cwricwlwm Cymreig sy'n eu grymuso gyda'r wybodaeth a sgiliau hanfodol i gymryd rhan lawn yn y ddemocratiaeth Gymreig newydd.
Ailddatganwn na ddylid amddifadu unrhyw garfan o ran llawn yn y rhyddid hwn, a bod croeso i bawb sydd am ddod i gyfrannu at y Gymru newydd."
Mae rhyddid, felly, yn cwmpasu gweledigaeth lawer ehangach o’r Gymru rydym am ei gweld. Gwlad annibynnol na fydd yn ail-greu’r wladwriaeth Brydeinig gyfalafol a gormesol ar raddfa lai, ond un a fydd yn adeiladu cymdeithas dra gwahanol, wedi’i seilio ar ryddid i holl bobl a chymunedau’r wlad. Mae hyn, yn ein barn ni, yn hanfodol. Oherwydd gwyddom na fydd annibyniaeth gyfansoddiadol ar ei phen ei hun yn ddigonol i sicrhau dyfodol y Gymraeg, heb fod yr iaith wedi’i sefydlu fel priod iaith Cymru a’r cysyniad o ddinasyddiaeth Gymraeg i bawb wedi’i chofleidio — yn hytrach na gwladwriaeth newydd fyddai’n arddel dwyieithrwydd ‘swyddogol’ ond yn gweld y Gymraeg yn dirywio yn ein cymunedau ac yn parhau i gael ei chyfyngu i leiafrif ein dinasyddion. Dim ond trwy newid sylfaenol yn ein strwythurau democrataidd, cymdeithasol ac economaidd y bydd sicrhau Cymru rydd, Gymraeg. Dyma’n gweledigaeth ni ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol a chymdeithasol Cymru, a byddwn yn parhau i arddel a gweithio tuag at y weledigaeth hon fel rhan o’r symudiad ehangach tuag at annibyniaeth.
Gweithredu
Mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi maniffesto newydd bob deng mlynedd gan ein bod yn deall bod angen inni barhau i drafod, datblygu a dyfnhau ein syniadau wrth i’r byd o’n cwmpas newid. A newid y mae. Heb inni ymateb i’r newid hwnnw, mae peryg y bydd y Gymraeg a’n cymunedau’n cael eu gadael ar ôl. Ond does dim rhaid cyfyngu hynny i gyhoeddiad bob deng mlynedd. Rydym am i’r ddogfen hon fod yn ddogfen fyw. Nid gweledigaeth orffenedig na chynigion manwl, pendant sydd yma, ond cychwyn ar sgwrs, a chynigion am y ffordd ymlaen i’n gwlad, fydd yn esblygu. Gwyddom nad yw'r holl atebion gennym ni. Ac nid syniadau’n unig sy’n bwysig wrth gwrs — mae hefyd angen gweithredu, ac mae syniadau ar ddiwedd y ddogfen am sut y gall pawb weithredu i weithredu’r weledigaeth.
Y Gymraeg a’r argyfwng hinsawdd
Mae’r argyfwng hinsawdd hefyd yn argyfwng iaith. Yn syml — ni fydd y Gymraeg yn fyw ar blaned farw. Gwelwn hefyd, o ystyried y sefyllfa, mai’r un grymoedd sy’n bygwth y Gymraeg ag sy’n bygwth ein hamgylchedd naturiol. Hynny yw, cyfalafiaeth fyd-eang a llywodraethau sy’n gaeth i resymeg y farchnad ‘rydd’ dros les cymunedau, pobl a’r blaned. Dim ond trwy drawsnewid ein system economaidd mae atal trychineb hinsawdd, a sicrhau dyfodol cadarn i’n cymunedau a’r Gymraeg.
Dyma argyfwng fydd yn effeithio ar Gymru fel pob gwlad arall, ac mae ein cymunedau yn agored i niwed o ganlyniad i newid hinsawdd. Bydd codiad lefelau’r môr ac erydiad yr arfordir yn bygwth rhannau mawr o’r wlad, yn arbennig ein cymunedau arfordirol. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd mewn llifogydd, gyda chymunedau yn y cymoedd, y gogledd a’r gorllewin i gyd wedi profi llifogydd trychinebus dros y blynyddoedd diwethaf — llifogydd fydd yn gwaethygu ac yn digwydd yn fwyfwy aml. Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd rhannau o Gymru dan ddŵr erbyn 2050, gan gynnwys rhannau mawr o’r brifddinas. Caerdydd yw un o’r dinasoedd sydd fwyaf agored i niwed o effeithiau newid hinsawdd yn y byd.
Bydd erydiad pridd, cynnydd mewn afiechydon planhigion ac anifeiliaid, tywydd eithafol, a methiant cnydau yn gwneud ffermio’n anoddach ac yn effeithio ar economi cymunedau cefn gwlad ac argaeledd bwyd lleol o safon. Bydd tirwedd ac adnoddau naturiol y wlad hefyd yn dirywio wrth i’r argyfwng natur ddwysáu. Byddwn yn colli planhigion ac anifeiliaid cynhenid, a’r eirfa hynafol Gymraeg sy’n perthyn iddynt yn diflannu gyda nhw.
Mae’r argyfwng hinsawdd hefyd yn argyfwng ieithyddol gan fod nifer o bethau sy’n niweidiol i’r amgylchedd yn bethau sy’n niweidiol i’r iaith a’r gymuned. Er enghraifft, pan fydd cymuned yn colli ysgol, gorfodir teuluoedd i deithio’n bellach i’r ysgol mewn ceir, yn lle cerdded. Mae teuluoedd ifanc yn llai tebygol o fyw yn y pentref, ac mae mwy o’r tai yn dod yn ail dai, neu’n dai i bobl wedi ymddeol. Mae rhwymau cymunedol yn dirywio, wrth i lai a llai o fywyd y pentref ddigwydd yn lleol, ac felly mae llai o ddefnydd o’r Gymraeg fel iaith fyw. Os ystyriwn enghraifft arall, mae amaeth yn ddiwydiant sy’n gefn i gymunedau gwledig, ac mae 40% o bobl sy’n gweithio yn y maes yn siarad Cymraeg. Bydd dirywiad amaeth leol a theuluol felly’n cael effaith niweidiol ar y Gymraeg ar lawr gwlad.
Tu hwnt i Gymru, gwelwn fod newid hinsawdd a dirywiad yn yr amgylchedd yn arwain at ddirywiad ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol o gwmpas y byd. O’r Amazon i’r Arctig, pobloedd frodorol yn aml sydd ar y rheng flaen yn dioddef effeithiau newid hinsawdd a cholli cynefinoedd, ac wrth iddynt gael eu gorfodi o’u cartrefi a’u ffyrdd o fyw, collir eu hieithoedd hefyd.
Mae cynaliadwyedd iaith, cymuned a’r amgylchedd i gyd ynghlwm. Ac mae’r pethau all ddiogelu’r amgylchedd hefyd yn rhai all gryfhau ein cymunedau a’r Gymraeg, ac rydym yn amlinellu ein cynigion ar hyn yn yr adran nesaf.
Mae’n amlwg bod rhaid gweithredu. Ond mae’n bwysig gwarchod hefyd rhag mathau penodol o ‘amgylcheddiaeth’ na fydd yn llesol i’n cymunedau, ein hiaith na phobl gyffredin. Rydym yn sôn am amgylcheddiaeth gorfforaethol, o’r brig i lawr, nad yw’n poeni dim am bobl gyffredin na’r Gymraeg. Ar ei gwaethaf, dyma amgylcheddiaeth gwyrddgalchu sy’n prynu tir yng Nghymru a’i ddefnyddio i blannu coed er mwyn ‘gwrthbwyso’ allyriadau carbon cwmnïau mawr. O ganlyniad, collir tir y gallai’r gymuned ei ddefnyddio, a newidir yr ecosystem lleol wrth wneud rhywbeth sy’n gwneud fawr ddim dros y blaned. Yn gyson gyda hyn yw’r ffenomenon a welwn lle mae pobl mewn cymunedau yng nghyfandir Affrica ac is-gyfandir India’n cael eu troi allan o’u tai a’u halltudio o’u cymunedau er mwyn i elusennau gorllewinol gyflwyno eu fersiwn nhw o ail-wylltio, gan wneud hyn yn gwbl groes i ddymuniad y cymunedau dan sylw.
Mae angen ymateb i’r argyfwng hinsawdd mewn modd sydd hefyd yn cryfhau’r Gymraeg a chymunedau. Ymateb cyfiawn sy’n rhoi grym yn nwylo pobl gyffredin a rheolaeth iddynt dros dir, adnoddau naturiol a phenderfyniadau lleol, ac sy’n gwella eu bywydau mewn ffyrdd real. Ymateb sy’n ail-adeiladu ein cymunedau, yn rhannu cyfoeth ac yn gwaredu anghydraddoldeb. Mae modd gwneud hyn, a dyma yw ein gweledigaeth ni, yr hyn rydyn ni’n ei olygu gan Gymru rydd, werdd, Gymraeg.
Roedd Cymru wrth galon y chwyldro diwydiannol a gychwynnodd y prosesau sydd wedi achosi newid hinsawdd. Gwyddom o’n hanes yr effaith niweidiol y mae’r diwydiannau echdynnol hynny wedi eu cael ar weithwyr, ein hadnoddau naturiol, a’n cymunedau. Diwydiannau sydd wedi creu cyfoeth mawr i rai, ond nid i’n cymunedau na phobl gyffredin, na’r gwledydd tu hwnt i’r Gorllewin. Nawr, mae rhai o wledydd tlotaf y byd, sydd leiaf cyfrifol am achosi newid hinsawdd, yn dioddef ei effeithiau gwaethaf ac yn cael eu hanwybyddu gan wledydd mwy cyfoethog a grymus. Bydd nifer fawr o bobl o’r gwledydd hynny yn cael eu gorfodi o’u cartrefi fel ffoaduriaid newid hinsawdd — sut fydd gwledydd y gorllewin yn eu trin?
Mae ymateb cyfiawn i’r argyfwng hinsawdd yn golygu cydnabod yr hanes yma a’r anghyfiawnder sy’n parhau ar draws y byd. Mae’n golygu cydsefyll gyda phobl sy’n dioddef effeithiau newid hinsawdd nawr ac yn y dyfodol, a gweithio i’w cefnogi nhw tra hefyd yn atal trychinebau pellach. Cyfalafiaeth fyd-eang sydd i’w beio am newid hinsawdd, nid pobl gyffredin, ac yn sicr nid y tlotaf. Ein nod dylai fod creu planed lle gall holl bobloedd a chymunedau’r byd fyw mewn heddwch gyda’i gilydd ac mewn cytgord â natur.
Canlyniad penderfyniadau gwleidyddol a’n system economaidd yw dirywiad yr iaith, ac mae’r un peth yn wir am y bygythiad i’r blaned. Nid argyfwng naturiol yw’r argyfwng hinsawdd nac argyfwng ein cymunedau, ond un sydd wedi’i greu gan ddynol-ryw. Ac mae modd felly ei newid. Trwy ymgyrchu, a dod â’n brwydrau at ei gilydd, gallwn newid penderfyniadau gwleidyddion a’n system economaidd i wasanaethu pobl a’r blaned. Fel yr oedd angen chwyldro i achub y Gymraeg, mae angen chwyldro heddiw i achub y blaned — ac eto, trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Nid enillwyd yr un frwydr dros gyfiawnder, hawliau a rhyddid yn y byd hwn erioed heb ymdrechion pobl gyffredin yn dod at ei gilydd. Dyna sydd raid ei gadw mewn cof wrth edrych at y dyfodol, wrth weld bod y frwydr dros y Gymraeg ynghlwm â brwydr ehangach, fyd-eang. Gweithio tuag at Gymru rydd, werdd, Gymraeg fydd ein cyfraniad ninnau at y frwydr honno.
Cymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg
Y ffordd ymlaen
Mae cymdeithasiaeth yn cychwyn gyda’r gymuned, ac yn deall, os gallwn rymuso cymunedau i reoli eu tynged eu hunain ac i ddatblygu’r mesurau fydd yn eu cryfhau, y bydd ein cymdeithas gyfan yn trawsnewid a bydd sail lawer cryfach i gyfiawnder a rhyddid o bob math. Pobl a chymunedau sy’n gwybod orau beth sydd ei angen arnynt ac mae’r gallu ganddynt i gyflawni hynny, yr hyn sydd ar goll yw’r grym, yn wyneb systemau economaidd a gwleidyddol gorchfygol, pell i ffwrdd.
Os dechreuwn ar lefel y gymuned, a rhoi’r adnoddau iddi ffynnu a bodloni ei hanghenion ei hun, bydd yr iaith yn ffynnu gyda hi, a’r amgylchedd yn cael ei hamddiffyn hefyd. Mae’r mesurau y gallwn eu cymryd er budd ein cymunedau a’r iaith hefyd yn rhai fydd yn diogelu ein hamgylchedd, ac felly creu Cymru sydd wir yn gynaliadwy ymhob ystyr o’r gair. Dyna beth rydym yn ei olygu gan Gymru rydd, werdd, Gymraeg.
Wrth reswm, nid oes modd gwireddu’r weledigaeth honno dros nos, na drwy gyfuniad o bolisïau penodol gan Lywodraeth Cymru o dan y drefn bresennol. Dim ond brwydro, gweithredu a chydweithio gan fudiadau, gweithwyr, cymunedau ac unigolion fydd yn cyflawni hynny yn y pen draw. Ond er mwyn cyrraedd y nod, mae angen camau gweithredu ymarferol ar y daith. Dyma rai camau y gallwn eu cymryd felly dros y blynyddoedd i ddod fydd yn symud ein gwlad yn nes at wireddu’r weledigaeth o Gymru rydd, werdd, Gymraeg.
Tai, tir a chynllunio
- Cyflwyno Deddf Eiddo i roi rheolaeth ddemocrataidd i gymunedau dros dai a chynllunio er mwyn sicrhau cartref i bawb, a chymunedau cryf, Cymraeg ymhob rhan o’r wlad.
- Dychwelyd y stoc tai cymdeithasol yn ôl i ddwylo cyhoeddus, dychwelyd stoc sy’n cael ei thanddefnyddio i ddwylo cyhoeddus, a sicrhau bod elfen sylweddol o dai newydd mewn dwylo cyhoeddus.
- Cyflwyno rhaglen genedlaethol i inswleiddio tai ar draws y wlad a’u gwneud yn garbon-niwtral, a dod â thai gwag i mewn i ddwylo cyhoeddus er mwyn eu huwchraddio i fod yn dai cymdeithasol gwyrdd at ddefnydd pobl leol.
- Cyflwyno trethi newydd ar dwristiaeth, llety gwyliau megis AirBnB, elw landlordiaid ac ail dai, a buddsoddi’r elw mewn tai a gwasanaethau i gymunedau lleol.
- Deddfu’n fwy cadarn ac eglur ar gynnal asesiadau effaith iaith ar ddatblygiadau newydd, a datganoli grymoedd cynllunio, gan gynnwys gosod targedau tai, i’r lefel fwyaf lleol sy’n briodol. Gwneud cynllunio ieithyddol yn orfodol er mwyn sicrhau bod datblygiadau yn cael effaith gadarnhaol yn hytrach na negyddol ar yr iaith.
- Deddfu a chodi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd er mwyn amddiffyn enwau lleoedd, tir a thai Cymraeg.
- Rhoi diwedd ar ymarferion ‘gwyrddgalchu’ gan reoleiddio arferion cwmnïau o brynu tir i’w ddefnyddio ar gyfer gwrthbwyso allyrriadau carbon.
Deddf Eiddo
Galwn am gyflwyno Deddf Eiddo a fydd, ymysg mesurau eraill, yn:
1) Sicrhau’r hawl i gartre’n lleol
Gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i weithredu ar gais pobl leol am gartref i'w brynu, ei rentu neu drwy gynllun hybrid, a hynny o fewn cyrraedd ac amser rhesymol.
2) Cynllunio ar gyfer anghenion lleol
Gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gyd-gynhyrchu asesiad cymunedol rheolaidd ym mhob ardal o'r sir gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal. Byddent yn sail i bolisïau tai, defnydd tir a pholisïau cyhoeddus fel trafnidiaeth ac addysg.
3) Grymuso cymunedau
Cryfhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol allweddol trwy sefydliadau a arweinir gan y gymuned. Gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i waredu neu brydlesu tir ac eiddo i fentrau cymdeithasol ym mherchnogaeth y gymuned.
4) Blaenoriaethu pobl leol
Ymyrryd â'r farchnad breifat i greu system tai ac eiddo sy'n diwallu anghenion lleol ac yn gwarchod cymunedau rhag effeithiau’r farchnad rydd; gosod amodau ar berchnogaeth a gwerthiant sy'n rhoi hawliau cyntaf i bobl leol neu sefydliadau a arweinir gan y gymuned i brynu neu rentu tai a phrynu tir ac eiddo yn unol â'r asesiadau cymunedol.
5) Rheoli’r sector rhentu
Rheoli lefel rhenti, safonau tai ac amodau tenantiaeth i sicrhau cartrefi fforddiadwy o safon yn y sector rhentu preifat a'r sector tai cymdeithasol.
6) Sicrhau cartrefi cynaliadwy
Sicrhau bod y stoc dai bresennol a chartrefi newydd yn fforddiadwy, yn cyrraedd safonau perfformiad ynni uchel, yn lleihau carbon ac yn gydnaws ag anghenion cymunedol — gan ddechrau gyda’r stoc bresennol.
7) Buddsoddi mewn cymunedau
Galluogi cymunedau i arfer eu hawliau i berchenogi tai, tir ac asedau cymunedol trwy Gronfa Cyfoeth Cymunedol fydd ar gael i awdurdodau lleol — drwy fanc cymunedol — i gynnig benthyciadau a grantiau i unigolion a sefydliadau a arweinir gan y gymuned.
Yr economi ac isadeiledd
- Sefydlu dyletswydd ar y Llywodraeth i ledaenu buddsoddiad a ffyniant ledled y wlad a hybu economïau lleol cadarn ymhob ardal.
- Cynyddu’r buddsoddiad mewn prentisiaethau cyfrwng Cymraeg a thargedu diwydiannau allweddol, megis y cyfryngau, iechyd, y blynyddoedd cynnar a thechnoleg.
- Uwchraddio’r rhwydwaith band eang ymhob rhan o’r wlad er mwyn cefnogi busnesau bach a galluogi pobl ymhob ardal i weithio’n lleol.
- Creu miloedd o swyddi gwyrdd ar draws y wlad trwy fuddsoddiad a rhaglen strategol i wella is-adeiledd, inswleiddio ac uwchraddio tai presennol a chreu cannoedd o brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol.
- Gwahardd unrhyw ddatblygiadau glo, olew neu nwy newydd, gan ddod â defnydd tanwyddau ffosil i ben yn llwyr ar frys. Rhoi diwedd ar ynni niwclear a gwahardd datblygiadau newydd yn y dyfodol. Sicrhau trosglwyddiad gweithwyr y meysydd hyn i’r diwydiant ynni gwyrdd, trwy raglen i ddatblygu sgiliau a diogelu pob swydd.
- Ail-agor rheilffyrdd Aberystwyth i Gaerfyrddin a Bangor i Borthmadog.
- Cydweithio gyda ffermwyr bychain a chymunedau i gynnal trafodaeth agored a datblygu strategaeth gynaliadwy ar gyfer dyfodol amaeth fydd o fudd i’r amgylchedd a chymunedau.
Gwasanaethau cyhoeddus
- Datganoli cannoedd o swyddi’r Llywodraeth a’r sector cyhoeddus o Gaerdydd i rannau eraill o’r wlad, gan gynnwys manteisio ar ofodau cymunedol a’r arfer newydd o weithio o gartref.
- Sefydlu cyrff newydd y tu allan i Gaerdydd i weinyddu yn Gymraeg, yn cynnwys menter ddigidol Gymraeg a Chyngor Cyfathrebu Cenedlaethol yn y Gorllewin, a chwmni ynni gwyrdd cenedlaethol yn Ynys Môn.
- Datblygu strategaeth genedlaethol i uwchraddio sgiliau iaith y gweithlu mewn meysydd allweddol yn cynnwys addysg, blynyddoedd cynnar, iechyd, gofal, hamdden a llywodraeth leol.
- Rhoi diwedd ar arferion polisi o ganoli gwasanaethau, a sefydlu hawliau cymunedol i wasanaethau sylfaenol yn cynnwys meddygfeydd, ysbytai, ysgolion a swyddfeydd post.
- Gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn rhad ac am ddim i bawb, a sefydlu dyletswydd genedlaethol i ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch a safonol i bob cymuned.
- Dileu ffioedd dysgu i’r rhai sy’n astudio yng Nghymru a buddsoddi mewn addysg gydol oes o safon yn rhad ac am ddim i bawb.
- Gweithio gydag undebau i wella tâl ac amodau gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, er mwyn gwyrdroi’r problemau o ran recriwitio a chadw gweithwyr mewn gwasanaethau allweddol megis addysg, iechyd a gofal.
Deddf Addysg Gymraeg i Bawb
Galwn am gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg i Bawb a fydd, ymysg mesurau eraill, yn:
- Gosod nod statudol o symud tuag at addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bob plentyn erbyn dyddiad penodol.
- Diddymu’r gyfundrefn o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg ac yn ei lle sefydlu cyfundrefn newydd o gynllunio ac ariannu addysg Gymraeg ar lefel leol a chenedlaethol, gyda thargedau statudol.
- Hwyluso’r broses o symud ysgolion unigol i fyny’r continwwm iaith i fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
- Sefydlu targedau statudol o ran recriwtio a hyfforddi’r gweithlu addysg Gymraeg.
- Gosod targedau ar gyfer cynyddu nifer a chanran y pynciau a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion sy’n addysgu’n bennaf drwy’r Saesneg ar hyn o bryd.
- Cryfhau’r rhagdybiaeth gyfreithiol o blaid cadw ysgolion bach ar agor a chryfhau hawliau cymunedau yn y broses o benderfynu ar ddyfodol ysgol.
Gellir darllen ein cynigion llawn ar gyfer Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yn cymdeithas.cymru/achosdeddfaddysg
Perchnogaeth a rheolaeth gymunedol
- Grymuso cymunedau ar draws y wlad i gychwyn a chynnal mentrau cydweithredol, gyda chymorth penodol a chymhellion ariannol i annog defnydd o’r Gymraeg.
- Deddfu i gryfhau hawliau cymunedau i brynu a rhedeg asedau cymunedol a’u cefnogi i wneud hynny trwy gronfeydd, cyngor a rhwydweithau newydd.
- Buddsoddi ar raddfa eang mewn annog a chefnogi prosiectau ynni gwyrdd cymunedol, lle mae ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu a’i berchnogi gan y gymuned er lles y gymuned.
- Deddfu i gryfhau hawliau gweithwyr i brynu a rhedeg eu cwmnïau, a sicrhau bod cynrychiolaeth gan weithwyr ar fwrdd rheoli pob cwmni a sefydliad.
- Annog a chefnogi prosiectau cynhyrchu a rhannu bwyd lleol, gan alluogi cymunedau i redeg gerddi, rhandiroedd a phantris cymunedol er mwyn taclo tlodi a gwastraff bwyd, tra hefyd yn cynyddu’r defnydd o gynnyrch lleol.
Mwy na miliwn
- Gwneud gwersi Cymraeg am ddim i bawb, o bob oed, a sefydlu hawl i bob gweithiwr ddysgu Cymraeg trwy’r gweithle.
- Gosod targed cenedlaethol o greu mil o ofodau newydd lle mae’r Gymraeg yn brif iaith, yn cynnwys cymunedau daearyddol, gweithleoedd, busnesau, clybiau hamdden ac ysgolion.
- Cyflwyno Bil y Gymraeg newydd fydd yn sefydlu hawliau sylfaenol i’r Gymraeg ar wyneb y ddeddfwriaeth, yn ymestyn hawliau iaith i’r sector preifat ac yn cryfhau grymoedd rheoleiddio Comisiynydd y Gymraeg.
- Sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg i gynyddu cynnwys Cymraeg ar-lein.
- Mabwysiadu agenda Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb, fydd yn cynnwys cronfa mynediad at yr iaith a dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i estyn yr iaith at grwpiau sydd wedi’u heithrio ohoni ar hyn o bryd, yn cynnwys pobl ar incwm isel, mudwyr a chymunedau croenliw.
- Ymrwymo i wario o leiaf 1% o gyllideb flynyddol y Llywodraeth ar brosiectau i hyrwyddo a hybu defnydd o’r Gymraeg, yn cynnwys menter ddigidol Gymraeg, cronfa ffilmiau Cymraeg a datblygu diwrnod Shwmae Su’mae.
Materion cyfansoddiadol a rhyngwladol
- Cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru pan fydd mandad democrataidd i wneud hynny, ac annog trafodaeth gyhoeddus wirioneddol ddemocrataidd ac agored gyda phobl Cymru am ddyfodol y wlad yn syth.
- Fel mater o flaenoriaeth yn y cyfamser, mynnu datganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau, cyfiawnder troseddol, y wladwriaeth les, hawliau a chydraddoldeb, ynghyd â meysydd blaenoriaeth eraill.
- Cryfhau democratiaeth Cymru trwy ehangu maint y Senedd a diwygio’r system etholiadol, a datganoli grym i’r lefel fwyaf lleol priodol. Cynyddu ymwneud yn y broses ddemocrataidd trwy wreiddio addysg wleidyddol yn y cwricwlwm a gwneud pleidleisio’n haws trwy fesurau megis cofrestru awtomatig.
- Datgan mai'r enw Cymraeg yn unig fydd enw swyddogol y Senedd.
- Rhoi diwedd ar gefnogi’r diwydiant arfau, y lluoedd arfog a NATO yng Nghymru, yn cynnwys gwahardd recriwtio i’r lluoedd arfog mewn ysgolion a dychwelyd tir a ddefnyddir gan y lluoedd arfog i gymunedau lleol.
- Eirioli a chydweithio gyda gwledydd bychain eraill ar draws y byd o blaid ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol, heddwch a chyfiawnder economaidd, cymdeithasol a hinsoddol.
Diweddglo
Yn 1957, cyhoeddwyd nofel Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd, sy’n cynnig dwy weledigaeth dra gwahanol o Gymru yn 2033. Mewn un fersiwn o’r dyfodol, mae Cymru’n wlad annibynnol, lewyrchus, heddychlon, lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mewn fersiwn arall, mae’r Gymraeg yn marw, mae Cymru’n rhanbarth o Loegr, cymunedau wedi’u colli i ddiwydiannau allanol, a thrais a gormes yn rhemp. Neges ganolog y nofel, sy’n cael ei chyfleu i’r prif gymeriad, Ifan Powel, ar y diwedd, yw bod y ddau ddyfodol yn bosib, ac mai gweithredoedd Cymry heddiw fydd yn penderfynu pa un fydd yn cael ei wireddu.
Mae elfennau o’r ddwy 2033 mae Ifan Powel yn eu profi yn debygol o gael eu gwireddu yn y byd go iawn. Ond sut le fydd Cymru yn 2053, neu 2063? Fel erioed, mae amryw bosibiliadau o’n blaenau, a phenderfyniad pobl Cymru yw hi pa lwybr y byddwn yn ei gymryd. Mewn un fersiwn bosib o’r dyfodol, bydd tywydd eithafol yn nodwedd o fywyd bob dydd, bydd nifer o’n cymunedau bellach yn anhrigiadwy, a nifer fawr arall yn feysydd chwarae i’r cyfoethog, i bobl wedi ymddeol neu i bobl ar eu gwyliau. Bydd y Gymraeg ar gael ar ddogfennau swyddogol, ac yn parhau i gael ei dysgu mewn ysgolion, ond lleiafrif fydd yn ei siarad, ac ni fydd yr un gymuned ar ôl lle mai’r Gymraeg yw iaith bywyd bob dydd.
Mewn fersiwn bosib arall o’r dyfodol, mae Cymru’n wlad annibynnol a’r Gymraeg yn iaith swyddogol y wladwriaeth newydd. Diolch i gamau a gymerwyd yn yr 2020au, mae’r gwaethaf o’r argyfwng hinsawdd wedi’i osgoi, a’r wlad yn elwa o sector ynni adnewyddadwy cryf sy’n defnyddio ein holl adnoddau naturiol, gyda chymunedau’n berchen ar brosiectau lleol. Nid oes neb yn ddigartref, ac mae pobl yn byw yn eu cymunedau lleol ac yn gweithio mewn amryw o swyddi ar draws y wlad. Cymunedau sy’n gwneud y penderfyniadau dros ddefnydd adnoddau lleol, cynllunio a gwasanaethau cyhoeddus, a hynny’n ddemocrataidd. Mae pob un plentyn yn y wlad yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg, a’r iaith yn cael ei defnyddio’n naturiol ymhob maes mewn bywyd.
Mae pob elfen o’r ddwy weledigaeth hon yn bosib. Nid hunllef yw’r gyntaf ac nid breuddwyd anghyraeddadwy yw’r ail; yn hytrach, dyma ddwy weledigaeth a allai ddod yn wir, yn dibynnu ar yr hyn wnawn ni.
Pa ddyfodol ydyn ni am ei weld? A pha gamau ydyn ni’n barod i’w cymryd er mwyn ei wireddu?
Gwybodaeth bellach
Gellir darllen mwy am bolisïau manwl Cymdeithas yr Iaith mewn gwahanol feysydd yn y dogfennau canlynol: