Ymgynghoriad ynglŷn â newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
1.Cyflwyniad
1.1.Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros hawliau i'r Gymraeg ers dros 50 mlynedd. Credwn fod gan bob unigolyn sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddynt yr hawl i glywed, i weld, i siarad, i ddysgu, ac i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw.
1.2.Croesawn y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad ar newid enw ein Cynulliad Cenedlaethol. Rhy hyn gyfle i ni ystyried enw ein corff democrataidd cenedlaethol yn ofalus.
2.Safbwynt y Gymdeithas
2.1. Credwn mai’r enw sy’n disgrifio swyddogaeth a chyfrifoldebau’r sefydliad orau yw’r enw uniaith Gymraeg ‘Senedd.’
2.2. O ran teitl yr aelodau, credwn mai ‘Seneddwyr’ / ‘Seneddwr’ yw’r teitl mwyaf addas. Byddai’r aelodau felly yn arddel y teitl ar y ffurf ganlynol: “Sen. Elin Jones”.
2.3. Mae lle gan y sefydliad i anelu at fod yn esiampl ac yn ysbrydoliaeth i’r genedl, o ran ei bolisïau a’i ddeddfwriaeth flaengar, ond hefyd ei ddefnydd o’r iaith genedlaethol unigryw. Mae’r gair 'Senedd' yn un sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar lawr gwlad, a dylid manteisio ar y cyfle i fod yn unigryw drwy gael enw swyddogol uniaith Gymraeg.
2.4. Nodwn fod y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft yn nodi nifer o enwau uniaith Gymraeg a ddefnyddir yn barod nad ydynt yn creu trafferth na phroblem i neb, sef: y Llywydd, y Senedd, Neuadd, Cwrt, Oriel, Siambr, Tŷ Hywel a Siambr Hywel.
2.5. Mae ein llywodraeth ddatganoledig eisoes yn cefnogi llu o sefydliadau sydd ag enwau uniaith Gymraeg: ‘Chwarae Teg’, ‘yr Urdd’, ‘Merched y Wawr’ a’r ‘Mudiad Meithrin’ i enwi rhai yn unig. Mae geiriau ein hanthem genedlaethol yn uniaith Gymraeg yn ogystal.
2.6. Gwyddom fod rhai wedi dadlau mai enw’r adeilad yw’r Senedd ac y dylai fod enw arall ar y ddeddfwrfa. Un ateb syml i hynny fyddai ail-enwi’r adeilad yn ‘Senedd-dŷ’ pe dymunir.
2.7. Dadleuir bod angen enw dwyieithog er mwyn cynnwys siaradwyr Saesneg. Fodd bynnag, mae’r enw ‘Senedd’ yn ffordd i dynnu pobl o bob cefndir ac iaith ynghyd, gan gofio nad y Gymraeg a’r Saesneg yw'r unig ieithoedd y siaredir yng Nghymru. Credwn fod gan ein corff democrataidd cenedlaethol gyfle euraid i fabwysiadu’r arfer gorau o ran hybu a hyrwyddo’r Gymraeg drwy ddewis enw uniaith Gymraeg.
Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith
Chwefror 2017