Oedi rhag cyhoeddi NCT 20
Annwyl Weinidog,
Ysgrifennwn atoch er mwyn mynegi pryder ynghylch yr oedi rhag cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20. Fel y gwyddoch, daeth yr ymgynghoriad ynghylch y nodyn newydd i ben flwyddyn yn ôl, ar 30 Mawrth 2016.
Yn sgil yr oedi, rydym wedi cysylltu â'ch swyddogion nifer o weithiau gan ofyn pryd y gallwn ni ddisgwyl i'r nodyn cyngor gael ei gyhoeddi. Ar un adeg awgrymwyd wrthym y cai'r nodyn ei gyhoeddi yn hydref 2016, ac wedyn mis Ionawr 2017.
Rydym ar ddeall bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn dal i dreialu model newydd yn Sir Fôn, wrth gynllunio ar gyfer yr Wylfa B newydd arfaethedig yr ydym yn ei wrthwynebu. Ymhellach, rydym ar ddeall y gallai gwerthusiad gymryd blwyddyn a mwy eto cyn cael ei gyhoeddi. Mae hyn yn destun pryder i ni; credwn fod peryglon llunio system genedlaethol o asesu effaith iaith ar sail un datblygiad yn unig, yn enwedig un mor ddadleuol ag atomfa niwclear newydd. Hoffem dderbyn sicrwydd bod bwriad i gyhoeddi'r nodyn cyngor newydd yn fuan iawn, yn hytrach nag oedi ymhellach oherwydd un datblygiad sy'n eithriadol o beryglus ac anghynaliadwy.
Ymddengys fod problemau yn codi mewn nifer o siroedd oherwydd yr oedi rhag cyhoeddi'r nodyn cyngor technegol newydd. Mae swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin o'r farn bod yr oedi yn achosi problemau iddynt wrth arfer eu swyddogaethau, sy'n gysylltiedig â'r dyletswyddau iaith newydd yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, o ran asesu effaith iaith datblygiadau unigol yn ogystal â Chynlluniau Datblygu Lleol.
Cytunwn ag arbenigwyr yn y maes fod angen methodoleg asesu effaith iaith llawer mwy soffistigedig arnom i fesur effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg, ac nid effaith stadau tai yn unig ar yr iaith, ond effaith crynodol nifer o glystyrau bach eu maint mewn cymunedau gwledig. Fel dywedom yn ein hymateb i'r ymgynghoriad ynghylch NCT 20, credwn mai rôl Comisiynydd y Gymraeg ddylai fod cysoni, safoni a datblygu methodoleg asesiadau effaith iaith ym maes cynllunio.
Er gwybodaeth i chi, atodaf grynodeb o'r prif newidiadau rydym wedi galw amdanynt i'r nodyn cyngor drafft newydd a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ddechrau 2016. Gallwch weld ein hymateb llawn i'r ymgynghoriad yma: http://cymdeithas.cymru/dogfen/ymateb-i-nodyn-cyngor-technegol-20
Diolch am ystyried ein sylwadau. Erfyniwn arnoch chi i gyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol 20 newydd cyn gynted â phosibl.
Yr eiddoch yn gywir,
Tamsin Davies
Cadeirydd, Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Atodiad I - Crynodeb Ymateb Cymdeithas yr Iaith i NCT 20
1.Credwn y dylid sefydlu 'continwwm datblygu'r Gymraeg' sy'n cynnwys, ar wahanol lefelau neu gategorïau, holl diriogaeth Cymru, yn hytrach na sefydlu ardaloedd o 'sensitifrwydd' iaith.
Fel y nodwyd yn strategaethau iaith Llywodraeth Cymru, mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac ym mhob rhan o'r wlad. Bydd continwwm datblygu'r Gymraeg yn galluogi pob rhan o Gymru i dyfu a/neu ddiogelu ei defnydd o'r Gymraeg yn hytrach nag amddifadu rhai rhannau o Gymru o'r cyfle i fod yn rhan o wlad wirioneddol ddwyieithog.
Dylid cyhoeddi rhestr o ofynion sylfaenol, neu isafswm, sy'n berthnasol i ardaloedd ledled Cymru megis arwyddion, cynllunio ar gyfer twf neu ddiogelu addysg cyfrwng Cymraeg, tai fforddiadwy i bobl leol a materion eraill y dylid eu mabwysiadu a fyddai'n llesol i'r Gymraeg. Dylid rhestru'r rhain yn y canllawiau.
Dylid sôn am 'fesurau hybu' yn y ddogfen yn hytrach na 'lliniaru'. Ymddengys fel arall ei bod yn anochel y caiff unrhyw ddatblygiad effaith negyddol ar y Gymraeg. Yn hytrach, dylid edrych am gyfleoedd i gynyddu defnydd y Gymraeg drwy bob cais cynllunio a'r cynllun datblygu lleol ym mhob rhan o'r wlad.
2. Mae angen newid geiriad y ddogfen ymgynghorol am asesiadau effaith ceisiadau unigol ar y Gymraeg fel eu bod yn atgoffa swyddogion a chynghorwyr bod modd ystyried effaith datblygiad ar y Gymraeg ym mhob rhan o Gymru ac o dan amryw o sefyllfaoedd.
Ni ddylid awgrymu bod angen cyfyngu asesiadau effaith datblygiadau ar y Gymraeg i rai sefyllfaoedd ac i rai ardaloedd yn unol â'r Cynllun Datblygu. Mae geiriad y ddogfennaeth ymgynghorol yn rhoi'r argraff na fyddai modd cynnal asesiad o dan unrhyw amgylchiadau os yw'r tir wedi ei ddosrannu o dan y Cynllun Datblygu Lleol yn barod. Nid yw canllaw o'r fath yn gyson â geiriad nac ysbryd y ddeddfwriaeth na safbwynt polisi'r Llywodraeth.
3. Mae'n hollbwysig bod y canllawiau yn nodi nad yw ystyriaeth berthnasol newydd y Gymraeg, a sefydlwyd gan adran 31 Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, yn cyfyngu ystyriaeth o'r Gymraeg i rai ardaloedd yn unig oherwydd natur y Cynllun Datblygu Lleol.
Mae angen nodi bod modd i ystyriaeth berthnasol, fel y Gymraeg, gymryd blaenoriaeth dros y Cynllun Datblygu Lleol lle bo'n briodol, a hynny ym mhob rhan o'r wlad yn hytrach na rhai ardaloedd daearyddol yn unig.