Penderfyniadau Cyfarfod Cyffredinol 2019

1. Cymraeg – Iaith Hamdden

Mae'r Cyfarfod Cyffredinol yn cydnabod maes allweddol gweithgareddau chwaraeon a hamdden i'r iaith Gymraeg – o ran dylanwadu ar agweddau at y Gymraeg, ychwanegu dimensiwn at addysg Gymraeg a chreu cyfleon economaidd i gynnal cymunedau lleol. Nodwn hefyd lansiad ymgyrch yn siroedd Dyfed yn gynharach eleni yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn.

Byddwn yn sefydlu Swyddog arbennig i gynnull ynghyd gweithgor ‘Cymraeg – Iaith Hamdden’ a fydd â'r nod o wneud y Gymraeg yn brif iaith gweithgareddau chwaraeon a hamdden yn gynyddol trwy'r wlad. Bydd y Swyddog Hamdden yn aelod llawn o'r Senedd am flwyddyn, wedi hynny bydd penderfynu a ddylai barhau yn aelod llawn o'r Senedd neu ddod yn rhan o'r Grŵp Hawl i'r Gymraeg.

Bydd y gweithgor yn:

  • cynnwys aelodau o wahanol ranbarthau, gan rannu profiadau a threfnu ymgyrchoedd i ddwyn pwysau ar gyrff chwaraeon canolog ac ar Lywodraeth ganolog

  • gwahodd pobl sy'n weithredol yn y maes i gyfrannu o'u profiad at gyfarfodydd, digwyddiadau a phapurau polisi

  • hybu mentrau economaidd ym maes gweithgareddau hamdden a chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg

  • creu adroddiad chwarterol i'r Cyngor Cenedlaethol ac adroddiad blynyddol i'r Cyfarfod Cyffredinol ar gynnydd yn y maes.

 

2. Yr Argyfwng Hinsawdd

Yn cynnig bod y Cyfarfod Cyffredinol yn:

  1. datgan bod Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol byd eang

  2. cefnogi a chydsefyll ag ymgyrchwyr sydd wedi bod yn tynnu sylw at yr argyfwng rydym yn ei wynebu, yn arbennig arweiniad ysbrydoledig y bobl ifanc ar draws y byd sydd wedi cymryd rhan yn y streiciau ysgol dros yr hinsawdd

  3. collfarnu diffyg gweithredu digonol llywodraethau Prydain a Chymru yn wyneb yr argyfwng

  4. nodi’r effaith ddinistriol fydd newid hinsawdd a dirywiad yr amgylchedd naturiol yn cael ar gymunedau Cymraeg

  5. nodi taw pobloedd frodorol a chymunedau bregus lleiafrifol sy’n profi effeithiau newid hinsawdd fwyaf, er taw nhw sydd lleiaf cyfrifol am eu hachosi

  6. credu bod y frwydr dros ein hiaith ynghlwm â’r frwydr dros ddyfodol ein planed a’n plant ac yn cydnabod y cyswllt annatod rhwng cynaliadwyedd ein hiaith, ein cymunedau a’n hamgylchedd naturiol

  7. credu bod angen i’r Gymraeg ac ieithoedd a diwylliannau llai eraill fod wrth galon y gwaith o wireddu cyfiawnder hinsawdd

  8. penderfynu y bydd Cymdeithas yr Iaith yn:

a. adolygu ein gweithredoedd fel mudiad gyda’r nod o leihau eu heffaith amgylcheddol

b. datblygu ein gwaith ar faterion amgylcheddol a’r cyswllt rhwng y Gymraeg a’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys cyhoeddi polisïau penodol yn y maes

c. cymryd cyfleoedd i gydweithio a chydsefyll gydag ymgyrchwyr a mudiadau eraill yn y maes amgylcheddol

ch. annog ein haelodau i gymryd rhan mewn streiciau a gweithredoedd uniongyrchol sydd â’r nod o ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd, lle mae’r rhain yn cyd-fynd â’n hegwyddorion fel mudiad.

 

3. Addysg Uwch

Yn cynnig bod y Cyfarfod Cyffredinol yn:

  1. nodi pryder am doriadau diweddar a chynlluniau sydd ar y gweill mewn sawl prifysgol Gymreig, gan gynnwys israddio adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, torri swyddi a chyrsiau cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor a chau cwmni adnoddau addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth

  2. cydsefyll â gweithwyr addysg uwch sydd wedi bod yn gwrthwynebu camau gan brifysgolion i dorri swyddi, pensiynau a chyflogau a gwaethygu amodau gwaith.

Credu:

  1. bod y sector addysg uwch yng Nghymru mewn creisis, o ganlyniad i flynyddoedd o bolisïau neoryddfrydol niweidiol yn y maes, gan gynnwys polisi ffioedd dysgu Llywodraeth Cymru sydd wedi arwain at gynyddu allfudiad pobl ifanc a gwaethygu sefyllfa ariannol ein prifysgolion

  2. dylai polisi cyhoeddus drin prifysgolion fel sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol, nid busnesau i gystadlu yn erbyn ei gilydd a rhoi elw cyn addysg

  3. bod gwerth addysg dda i gymdeithas, y gymuned a’r unigolyn yn amhrisiadwy, a bod gan bob person yr hawl i addysg gydol oes o ansawdd ac am ddim.

Galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:

a. ddileu ffioedd dysgu i fyfyrwyr yng Nghymru

b. ddemocrateiddio strwythurau rheoli prifysgolion fel eu bod yn cynnwys cynrychiolaeth ystyrlon gan staff, myfyrwyr a’r gymuned

c. ymwrthod â fframweithiau mesur perfformiad sy’n annog cystadlu ac yn niweidiol i brofiadau staff a myfyrwyr

ch. osod targedau ar brifysgolion i hyfforddi gweithlu’r dyfodol mewn gwasanaethau cyhoeddus megis iechyd, gofal ac addysg

d. osod dyletswyddau ar brifysgolion i ehangu mynediad i’r gymuned leol a darparu cyrsiau a rhaglenni am ddim i’r gymuned

dd. osod yr hawl i addysg gydol oes am ddim mewn statud.

 

4. Ethol swyddogion y Gymdeithas ar-lein

Nodwn fod bod yn gynhwysol a sicrhau mynediad i bobol gymryd rhan yn ein prosesau democrataidd yn hollbwysig.

Nodwn fod, ar hyn o bryd, rhaid bod yn bresennol mewn Cyfarfodydd Cyffredinol er mwyn gallu pleidleisio dros swyddogion.

Nodwn fod pob math o resymau y gall pobol ddim fod yn gallu mynychu Cyfarfodydd Cyffredinol, gan gynnwys rhesymau iechyd corfforol a meddyliol a mynediad i drafnidiaeth. Nodwn fod modd gwneud cais am bleidlais post ar hyn o bryd.

Nodwn y byddai hi’n hollol bosibl pleidleisio ar-lein.

Nodwn na fyddai hyn yn hollol berffaith oherwydd heriau mynediad i’r we ond y byddai yn welliant sylweddol ar y broses bresennol.

Cyfarwyddwn yr Ysgrifennydd Cyffredinol i ymchwilio i’r posibilrwydd o bleidleisio ar-lein, gan ystyried ymarferoldeb a chost symud i system o’r fath.

 

5. Iaith a Gweinyddiaeth Cynghorau Sir

Cyngor Gwynedd yn unig sy'n gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd ond, er mwyn creu gwell swyddi a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ifainc gorllewin Cymru, mae'n hanfodol i gynghorau Sir Fôn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin fabwysiadu cynlluniau ac amserlenni cadarn i ddechrau gweinyddu'n fewnol yn y Gymraeg, a hynny ar frys.

I'r diben hwn, galwn ar gynghorau sir gorllewin Cymru i gydweithio'n agosach er mwyn datblygu a magu gweithlu gyda'r sgiliau angenrheidiol trwy rannu arfer dda ac adnoddau a sefydlu ‘Academi Ragoriaeth’, efallai mewn partneriaieth gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i hyfforddi a datblygu swyddogion uwch a rheolwyr y dyfodol.

Yn yr un modd, galwn ar aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i bwyso ar gynghorau Gwynedd, Sir Fôn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i sefydlu strwythurau ffurfiol i hwyluso'r broses o newid iaith fewnol yr awdurdodau hyn.

 

6. Uno Senedd a Chyngor Cymdeithas yr Iaith

1. Noda’r Cyfarfod Cyffredinol:

  • fod strwythur presennol y pwyllgorau rheoli – y Senedd a’r Cyngor – yn ddryslyd ac yn ei gwneud yn anoddach i aelodau ymwneud â phrosesau democrataidd y mudiad.

  • fod angen sicrhau amser teilwng yng nghyfarfodydd y Senedd i drafod ymgyrchoedd cenedlaethol y Gymdeithas yn ogystal â gwaith celloedd a rhanbarthau, a’r weinyddiaeth sy’n cynnal ein hymgyrchoedd.

  • y byddai uno’r Senedd a’r Cyngor yn golygu bod holl swyddogion cenedlaethol y mudiad yn aelodau cydradd o un corff fyddai’n arwain gwaith y mudiad yn genedlaethol.

2. Penderfyna’r Cyfarfod Cyffredinol ddileu adran 6 bresennol y Cyfansoddiad (“Y Senedd a’r Cyngor”), ac yn ei lle, gosod y testun canlynol:

“6. Y Senedd

a. Senedd Cymdeithas yr Iaith fydd yn rheoli'r Gymdeithas rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol o'i haelodau oddi fewn i ganllawiau polisi a osodir gan Gyfarfodydd Cyffredinol.

b. Bydd y Senedd yn cwrdd ddeg gwaith y flwyddyn ac yn cynnwys yr aelodau a nodir yn is-adran (e). Dim ond yr aelodau hyn fydd â hawl i bleidleisio, er bod hawl gan unrhyw aelod i fynd i gyfarfod o'r Senedd.

c. Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith.

ch. Aelodau’r Gymdeithas fydd yn gyfrifol am ethol aelodau i wasanaethu ar y Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae gan bob aelod o’r Gymdeithas hawl i enwebu unrhyw aelod arall ar gyfer unrhyw swydd drwy lenwi’r ffurflen enwebiadau a fydd yn cael ei hanfon at sylw’r holl aelodau yn y cyfnod yn arwain at y Cyfarfod Cyffredinol.

d. Mae gan bob aelod o’r Gymdeithas hawl i bleidleisio dros unrhyw aelod arall sydd wedi derbyn enwebiad ar gyfer unrhyw swydd, trwy bleidlais gudd yn y Cyfarfod Cyffredinol, gyda phleidleisiau o bell ar gael ar gais i aelodau na allant fod yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol.

dd. Bydd y swyddogion etholedig yn cael eu henwi yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol. Gall unrhyw swyddi gwag gael eu llenwi trwy bleidlais yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol.

e. Gan y Cyfarfod Cyffredinol y mae'r hawl i ychwanegu, dileu neu newid natur unrhyw swydd ar y Senedd. Os oes sefyllfa yn codi lle mae’n rhaid creu swydd newydd ar y Senedd rhwng dau Gyfarfod Cyffredinol, mae hawl gan Senedd y Gymdeithas i wneud hynny, ond rhaid cadarnhau unrhyw benderfyniad o’r fath yn y Cyfarfod Cyffredinol dilynol. Caniateir i'r Senedd gyfethol hyd at dri aelod heb bortffolio bob blwyddyn.

f. Os bydd un o’r swyddi a etholwyd gan y Cyfarfod Cyffredinol yn dod yn wag yn ystod y flwyddyn, mae gan y Senedd hawl i ethol unrhyw aelod o’r Gymdeithas i wasanaethu hyd y Cyfarfod Cyffredinol nesaf. Mae deiliaid y swyddi canlynol fel y’u hetholwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn aelodau llawn o’r Senedd:

    • Cadeirydd Cenedlaethol, a fydd yn gyfrifol am reoli'r Gymdeithas wedyn rhwng cyfarfodydd y Senedd

    • Is-gadeirydd Ymgyrchoedd, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Grwpiau Ymgyrchu'n weithredol

    • Is-gadeirydd Cyfathrebu, a fydd yn gyfrifol am beiriant cyfathrebu'r Gymdeithas

    • Is-gadeirydd Gweinyddol, a fydd yn gyfrifol am ein gweinyddiaeth

    • Swyddog Aelodaeth, a fydd yn gyfrifol am ein hymgyrchoedd aelodaeth a’n system aelodaeth

    • Swyddog y We, a fydd yn gyfrifol am ein presenoldeb ar-lein

    • Swyddog Adloniant, a fydd yn gyfrifol am gydlynu gwaith pwyllgorau adloniant yn genedlaethol

    • Swyddog Dysgwyr, a fydd yn gyfrifol am drefnu darpariaeth i bobl ddysgu’r iaith

    • Trysorydd, a fydd yn gyfrifol am gyfrifon y Gymdeithas

    • Swyddog Codi Arian

    • Swyddog Mentrau Masnachol

    • Golygydd y Tafod

    • Swyddog Dylunio

    • Swyddog Rhyngwladol

    • Cadeirydd y Grŵp Hawl i’r Gymraeg

    • Is-gadeirydd y Grŵp Hawl i’r Gymraeg

    • Cadeirydd yr Is-grŵp Iechyd, sy’n is-grŵp o’r Grŵp Hawl

    • Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

    • Is-gadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

    • Cadeirydd y Grŵp Addysg

    • Is-gadeirydd y Grŵp Addysg

    • Cadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol

    • Is-gadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol.

ff. Os na all Cadeirydd neu Is-gadeirydd unrhyw grŵp ymgyrchu fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Senedd, dylai’r grŵp ddewis cynrychiolydd arall i’w gynrychioli ac i bleidleisio ar ei ran.

g. Bydd Cadeirydd pob rhanbarth, wedi’u hethol gan eu rhanbarthau, hefyd yn aelodau llawn o’r Senedd gyda’r un hawl i bleidleisio. Os na all Cadeirydd y rhanbarth fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Senedd, dylai’r rhanbarth ddewis cynrychiolydd arall i’w gynrychioli ac i bleidleisio ar ei ran.

ng. Bydd holl swyddogion cyflogedig y Gymdeithas yn aelodau llawn o’r Senedd yn ddiofyn. Y Senedd fydd yn penodi Swyddogion Cyflogedig.”

 

7. Mân ddiwygiadau i’r Cyfansoddiad

Cytuna’r Cyfarfod Cyffredinol i’r newidiadau i’r cyfansoddiad a nodir yn y ddogfen atodedig.

(Noder: y newidiadau wedi'u cynnwys yma: https://cymdeithas.cymru/cyfansoddiad)

 

8. Strwythur Staffio

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol fod y Senedd wedi dechrau adolygu’r strwythur staffio presennol ac yn bwriadu dod i benderfyniad terfynol erbyn diwedd y flwyddyn.

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol mai nod yr adolygiad yw sicrhau strwythur staffio sy’n galluogi’r gweithgarwch mwyaf effeithiol gan y Gymdeithas, amodau gwaith da i staff a sicrwydd ariannol i’r mudiad.

Noda'r Cyfarfod Cyffredinol na fydd rôl Swyddog Maes y De yn cael ei ail-hysbysebu tra bod yr adolygiad hwn yn parhau.

Gofynna'r Cyfarfod Cyffredinol i’r Senedd drefnu cyfarfod estynedig i ddatblygu strategaeth codi arian fydd yn galluogi’r Gymdeithas i gynnal ac adeiladu ar lefelau o weithgarwch presennol.

 

9. Disgyblaeth a Newidiadau i’r Cyfansoddiad

Nodyn esboniadol: er hwylustod, dyma adran berthnasol y cyfansoddiad presennol:

“5. Disgyblaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod y bydd safbwyntiau ei haelodau'n amrywio'n fawr a bod angen parchu a gwrando ar farn aelodau eraill, ond mae’r Gymdeithas yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw aelod nad yw'n cyflawni'r amodau aelodaeth. Bydd penderfyniad o'r fath yn cael ei wneud gan y Senedd. Bydd y rhesymau dros weithredu trefniadau disgyblu fel a ganlyn:

a. Gweithredoedd neu ddatganiadau sy'n groes i amcanion y Gymdeithas;

b. Aelodaeth o fudiad sy'n mynd yn groes i amcanion y Gymdeithas;

c. Ymddygiad parhaus yng nghyfarfodydd y Gymdeithas sy'n fygythiol neu sy'n aflonyddu ar eraill;

Bydd y cosbau isod ar gael i'r Senedd yn unol â thelerau'r Rheolau hyn:

i. Ceryddu;

ii. Atal aelodaeth am gyfnod;

iii. Diarddel o'r Mudiad.

Bydd gan unigolyn a waharddwyd rhag bod yn aelod o'r Gymdeithas o ganlyniad i bennu cosb ddisgyblaethol yn unol â'r rheolau hyn hawl i wneud cais i ymaelodi â'r Gymdeithas o'r newydd ddim cynt na dwy flynedd ar ôl pennu'r gosb.”

 

Newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad:

(i) Yn adran 5, ychwanegwch ar ôl “Bydd penderfyniad o'r fath yn cael ei wneud gan y Senedd.”:

“Mae hawl gan y Senedd i ddirprwyo'r broses ymchwilio a llunio argymhellion i swyddog neu grŵp o swyddogion eraill.

“Mewn sefyllfa eithriadol er mwyn diogelu iechyd neu les aelodau’r Gymdeithas, rhwng cyfarfodydd Senedd, mae hawl, drwy gytundeb unfrydol y Cadeirydd, y Swyddog Aelodaeth a’r Is-gadeirydd Gweinyddol atal aelodaeth rhywun am gyfnod dros dro hyd at gyfarfod nesaf y Senedd. Nid oes hawl gan yr aelodau hyn ail-ddefnyddio’r pŵer eithriadol hwn mwy nag unwaith o fewn cyfnod o 6 mis, ond mae modd i’r Senedd benodi tri swyddog arall i fedru arddel y pŵer yn eu lle.”

(ii) Yn adran 5, ychwanegwch bwynt ii. newydd (ac ail-rifo gweddill y pwyntiau eraill):

“ii. gwahardd o ddigwyddiadau a/neu gyfarfodydd y mudiad”

(iii) Yn adran 5, yn lle “c. Ymddygiad parhaus yng nghyfarfodydd y Gymdeithas sy'n fygythiol neu sy'n aflonyddu ar eraill;” mewnosodwch:

“c. Ymddygiad yng nghyfarfodydd neu ddigwyddiadau’r Gymdeithas sy'n fygythiol neu sy'n aflonyddu ar eraill;”

(iv) Yn adran 5, ychwanegwch bwynt 5ch. newydd:

“ch. Bod gan aelodau’r Senedd rheswm neu dystiolaeth eithriadol o gryf sy’n peri iddynt gredu bod risg wirioneddol bod aelod yn debygol, mewn cyfarfodydd neu ddigwyddiadau’r Gymdeithas, o ymddwyn yn fygythiol, aflonyddu ar eraill, neu beryglu diogelwch aelodau eraill;”

(v) Ychwanegwch baragraffau newydd ar ddiwedd adran 5:

"Er mwyn sicrhau diogelwch pob aelod o'r Gymdeithas, mae hawl gan gadeiryddion rhanbarthau, celloedd a grwpiau ymgyrchu'r mudiad gymryd penderfyniadau gweinyddol mewn ymateb i ymddygiad aelodau sy’n peri pryder iddynt, gan gynnwys peidio â'u gwahodd i gyfarfodydd. Fodd bynnag, nid oes hawl ganddynt newid statws aelodaeth unigolyn. Dylai unrhyw gamau felly gael eu cymryd wedi i'r cadeirydd rhanbarth, cell neu grŵp gyfathrebu ac ymgynghori gyda swyddogion perthnasol y Senedd."

“Bydd gan y Senedd bolisi urddas a pharch i roi arweiniad i bob rhan o'r Gymdeithas o ran ymddygiad aelodau, cefnogwyr a mynychwyr digwyddiadau’r Gymdeithas ynghyd â phrosesau disgyblu yn unol â’r cyfansoddiad hwn. Bydd y polisi yn cynnwys manylion unrhyw brosesau apelio."