Annwyl Arweinydd y Cyngor,
Ysgrifennwn atoch ynglŷn ag eitem 6 ar agenda'r Pwyllgor Gwaith ddydd Llun 25ain Ebrill, sef Polisi Iaith Gymraeg drafft newydd Cyngor Ynys Môn.
Sylwn fod gwall sylfaenol ar dudalen gyntaf y Polisi drafft ynglŷn ag egwyddor gwaelodol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, am i'r Polisi nodi mai'r datganiad canlynol sy'n sail iddo:
"Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu’r egwyddor, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal. Mae’r polisi hwn yn nodi sut y bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn gweithredu’r egwyddor honno wrth ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd yng Nghymru."
Ymddengys eich bod yn camgymryd hen egwyddor Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 o drin y ddwy iaith ar sail 'cydraddoldeb', yn hytrach na 'pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg' fel sy'n ofynnol gan y Mesur Iaith cyfredol.2 Yn yr un modd, mae cymal 1.4.2 yn wallus:
"1.4.2 Un o swyddogaethau’r Mesur Iaith yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg a hybu cydraddoldeb â’r Saesneg."
Lle trafodir y cyd-destun deddfwriaethol yng nghymal 1.6.1, mae'r datblygiad yn yr athroniaeth sy'n sail i Fesur 2011 o'i gymharu â Deddf 1993 hefyd yn aneglur.
Rydych yn cam-ddehongli'r cyd-destun deddfwriaethol yn y Datganiad Polisi ar dudalen 7 yn ogystal:
"2.1 Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn cydnabod statws cyfartal i'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg. Y Gymraeg a'r Saesneg fydd ieithoedd swyddogol y Cyngor a bydd iddynt yr un statws a dilysrwydd yng ngweinyddiaeth a gwaith y Cyngor..."
Mae'n amlwg fod y camgymeriad hwn wedi digwydd am i'r cymalau uchod gael eu cymryd yn syth o'ch hen Gynllun Iaith – heb eu haddasu i'r fframwaith cyfreithiol presennol.
Fel Cyngor Ynys Môn, hyderwn y byddwch yn awyddus i barhau i roi blaenoriaeth i'r Gymraeg ym mhob agwedd ar waith y Cyngor – gan fanteisio ar athroniaeth ffafriol polisi iaith cyfredol Cymru i'ch cefnogi i wneud hynny ymhellach i'r dyfodol.
Mae'n hanfodol bwysig felly fod y Polisi – sy'n ymgorffori'r cyfrifoldebau newydd sydd arnoch o dan y Mesur – yn llawn gydnabod ac yn adlewyrchu fframwaith cyfreithiol cyfundrefn Safonau'r Gymraeg a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Yn hyn o beth, hoffwn dderbyn cadarnhad y byddwch yn cywiro'r gwallau hyn ar unwaith, gan sicrhau bod yr arweiniad cywir a diweddaraf ar gael i alluogi swyddogion ac Aelodau'r Cyngor i gydio ynddo i'w arfogi gyda'r gweithredu, gan roi blaenoriaeth i hyrwyddo'r Gymraeg yn eu gwaith.
O ran cynnwys y Polisi ei hun, mae'n bwysig bod egwyddor gwaelodol Mesur y Gymraeg yn cael ei ategu a'i adlewyrchu'n llawn ynddo mewn llythyren yn ogystal ag ysbryd. Fel cyngor sir sy'n llwyddo'n gymharol dda i sicrhau statws y Gymraeg eisoes, yn hytrach na gorffwys ar eich rhwyfau, dylech fanteisio ar y ddeddfwriaeth newydd i sicrhau eich bod yn mynd ymhellach na'r gofyn dan yr hen Ddeddf Iaith. Disgwyliwn eich gweld yn cydio yn y cyfle nawr drwy gadarnhau y daw'r Gymraeg yn unig iaith weinyddu mewnol y Cyngor, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd yng Ngwynedd, er enghraifft.
Hoffwn dderbyn cadarnhad yn ogystal gennych felly, cyn i chi fynd â'r Polisi gerbron y Cyngor llawn er cymeradwyaeth, y byddwch yn cryfhau'r cymal canlynol o'r hen Gynllun Iaith:
"3.2.4 Nod y Cyngor yw sicrhau mai Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Er mwyn cyflawni hyn bydd y Cyngor yn monitro cynnydd yn flynyddol. (CI 2.2.1)"
Galwn arnoch hefyd i hepgor y cymal dilynol sy'n tanseilio'n llwyr ac yn gwrth-ddweud eich bwriad i weinyddu yn Gymraeg:
"3.2.8 Serch hynny, bydd gan aelodau staff y Cyngor yr hawl i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg cyn belled ag y bo hynny'n gyson â darpariaethau'r polisi hwn ac nad yw'n amharu'n sylweddol ar effeithiolrwydd cyfathrebu mewnol. (CI 2.2.2)"
Yn yr un modd, gyda chymal 3.2.10:
"Bydd pob gohebiaeth ysgrifenedig mewnol cyffredinol yn ddwyieithog, p'un ac ydyw ar bapur neu ar ffurf e-bost. Bydd staff yn cael eu hannog i anfon gohebiaeth at ddarllenwyr Cymraeg yn y Gymraeg. (CI 2.2.4)"
Dylech weithredu eich ymrwymiad ar ddechrau'r Polisi Iaith i newid iaith weinyddu mewnol y Cyngor, drwy gryfhau'r cymal uchod i nodi y bydd disgwyliad ar bob aelod staff i anfon gohebiaeth at bob darllenydd yn y Gymraeg – er mwyn cadarnhau mai'r Gymraeg fydd iaith weinyddu naturiol a di-ofyn y Cyngor Sir.
Manteisiwn hefyd ar y cyfle i'ch atgoffa ynglŷn â statws swyddogol y Gymraeg a'r egwyddor "na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg" mewn perthynas â sawl cymal arall yn y Polisi Iaith drafft. Yn achos Cymalau 4.3.7; 4.4.8; 4.7.1 a 4.7.2, dylid ychwanegu "yn ddwyieithog neu'n Gymraeg" i'r cymalau hyn.
O ystyried bod y Mesur hefyd yn datgan y "dylai personau sy'n dymuno byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg wneud hynny", mae'n rhaid ichi hepgor yr is-gymal "pan yn ymarferol i wneud hynny" o ran adran 4.7.4 y Polisi.
Ymhellach, mae'r cymalau isod ynghylch diwylliant mewnol y corff ac arwyddion yn hollol groes i'r nod ydych yn ymrwymo iddi yng nghymal 3.2.4 o weinyddu mewnol Cymraeg dros amser:
"5.1.4 Bydd y Cyngor yn sicrhau ac yn hyrwyddo amgylchedd dwyieithog gweledol yn swyddfeydd ac adeiladau'r Cyngor. Arddangosir arwydd sy’n datgan (yn ddwyieithog) fod croeso i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn y dderbynfa a bydd staff yn y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth derbynfa Cymraeg yn gwisgo bathodyn sy’n cyfleu hynny. (Safonau 67 a 68) (CI 4.6.2)
"5.1.5 Mewn llecynnau arddangos, bydd y deunydd a arddangosir yn ddwyieithog. (CI 4.6.2)
"6.3.1 Bydd holl arwyddion mewnol ac allanol y Cyngor (gan gynnwys arwyddion/ marciau ffyrdd) yn gwbl ddwyieithog. (CI 5.2.1)"
Yn sicr, ddylech chi ddim mynnu bod pob poster yn gorfod ymddangos yn Saesneg yn Swyddfeydd y Cyngor fel y gwna'ch Polisi drafft ar hyn o bryd.
O ran cymal 6.11 pan fydd y Cyngor yn cynhyrchu fideos:
"6.11.1 Bydd ffilmiau, fideo, tapiau a deunydd clywedol sy'n gysylltiedig â gwasanaethu'r cyhoedd un ai yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf, neu yn Gymraeg a Saesneg ar wahân (pa un bynnag sydd yn briodol). Bydd y naill iaith neu'r llall ar gael bob amser beth bynnag fo iaith y gynulleidfa. Pan fo'r gynulleidfa yn ddwyieithog, dylid defnyddio'r ddwy iaith gan ddefnyddio'r Gymraeg yn gyntaf. (CI 5.9)"
Nid oes gofyn arnoch i gynhyrchu pob fideo yn Saesneg felly dylid diwygio'r cymal hwn i ganiatáu i'r Cyngor gynhyrchu fideos Cymraeg yn unig yn ychwanegol i rai dwyieithog.
Ni ddylech ychwaith danseilio defnydd cymunedol y Gymraeg drwy orfodi'r Saesneg ar fudiadau Cymraeg, drwy fynnu bod pob adroddiad a dogfennaeth a gyflwynir i gyfarfodydd cyhoeddus y Cyngor yn ddwyieithog – a hynny mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn iaith y mwyafrif. :
"7.8.3 Disgwylir i gyrff cyhoeddus gyflwyno pob gohebiaeth ac adroddiad yn ddwyieithog ac anogir cyrff yn y sectorau gwirfoddol a phreifat i gyflwyno gohebiaeth yn ddwyieithog hefyd, yn unol â’r egwyddor o drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. (CI 6.6.2)"
Dyna yw canlyniad – anfwriadol, efallai – y cymalau uchod.
Cymeradwywn eich bwriad, wrth lunio Polisi Iaith Gymraeg, nad ydych am i'r Cyngor syrthio'n ôl o ran y ddarpariaeth Gymraeg wrth i'r Safonau ddisgwyl llai oddi wrthych mewn rhai mannau. Fodd bynnag, edrychwn ymlaen at eich gweld yn defnyddio'r cyfle a geir yn y gyfundrefn gyfreithiol newydd i gryfhau'r gweithredu oedd yn digwydd dan eich Cynllun Iaith ymhellach i hybu'r Gymraeg ym mhob agwedd ar waith y Cyngor.
Byddai unrhyw Bolisi gan y Cyngor sy'n tanseilio defnydd y Gymraeg, yng ngoleuni cyfundrefn gyfreithiol newydd sydd wedi'i chynllunio gyda'r nod o hyrwyddo hynny, yn gwbl annerbyniol. Mae dyletswydd arnoch i barhau i gynnig arweiniad i sefydliadau cyhoeddus a phreifat ym Môn a thu hwnt o ran sut y dylid mynd ati'n frwd i hyrwyddo'r Gymraeg ac edrychwn i dderbyn cadarnhad ar fyrder mai dyma a wnewch.
Yr eiddoch yn gywir,
Menna Machreth, Cadeirydd, Rhanbarth Gwynedd-Môn, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Manon Elin, Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg