Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1. Cyflwyniad

1.1. Rydym yn croesawu'r cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad hwn. Credwn fod y rheolau'n amlygu rhai gwendidau ym Mesur y Gymraeg, yn benodol yr hawliau a'r ffyrdd israddol o apelio sydd gan ddefnyddwyr ac unigolion o gymharu â sefydliadau a chwmnïau. Galwn ar i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r Mesur er mwyn rhoi, fan leiaf, yr un hawliau a chyfleoedd apelio i unigolion a defnyddwyr y Gymraeg â sydd gan gyrff a chwmnïau.

1.2. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau i'r Gymraeg ers dros 50 mlynedd. Credwn fod gan bob unigolyn sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw yr hawl i glywed, i weld, i siarad, i ddysgu, ac i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw, iaith a ddylai fod yn etifeddiaeth gyffredin i ni gyd.

2. Sylwadau Cyffredinol

2.1. Credwn fod y rheol iaith fel y'i hamlinellir yn Rheol 6(1) yn anghyfreithlon gan ei bod yn groes i brifegwyddorionMesuryGymraeg2011, sefmai'rGymraegyw'riaithswyddogolyngNghymruyn hytrach nag unrhyw iaith arall. Credwn ymhellach fod y rheol honno yn methu â chydnabod yr hawliau i'r Gymraeg wrth ymdrin ag achosion gerbron y Tribiwnlys, y mae'r Tribiwnlys ei hunan i fod i'w gwarchod. Dylai fod hawl i dderbyn yr holl bapurau a gwybodaeth wrth ymdrin â'r Tribiwnlys yn Gymraeg, ac mae'n syndod nad oes cydnabyddiaeth o'r hawl sylfaenol honno yn y rheolau.

2.2 Dylai'r rheolau annog cyfranogaeth yn Gymraeg, gan wneud darpariaeth i bobl sy'n hyderus wrth siarad Cymraeg ond yn llai hyderus gyda thermau technegol neu wrth ysgrifennu - o bosib gan ddarparu cyfaill iaith Gymraeg i ddysgwyr neu bobl sy'n llai hyderus eu Cymraeg yn ôl yr angen.

3. Sylwadau Manwl

3.1. Rheol 3(2) - credwn y dylid ychwanegu'r canlynol at y rhestr fel nad oes modd i bartïon ddadlau bod parti sy'n mynnu defnydd o'r Gymraeg yn ymddwyn yn annheg.

"(f) parchu statws swyddogol y Gymraeg"

"(g) hawliau partïon i ddefnyddio,gweld a chlywed y Gymraeg"

3.2. Rheol 6(1) - Credwn fod y rheol iaith hon yn anghyfrei thlon, gan ei bod yn anwybyddu egwyddorion sylfaenol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, megis statws swyddogol y Gymraeg, yr egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, a'r bwriad i'r Mesur sefydlu hawliau i'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd. Dydy Mesur y Gymraeg ddim ond yn sefydlu un iaith swyddogol yng Nghymru, sef y Gymraeg, felly nid oes sail gyfreithiol i osod iaith arall ar yr un lefel. Os yw'r Tribiwnlys am geisio rheoleiddio'n gyson ag egwyddorion Mesur y Gymraeg, bydd rhaid ailystyried sut mae'r rheol hon wedi ei llunio. Os nad oes ailystyriaeth ac ail-lunio, byddwn yn ystyried unrhyw gamau cyfreithiol y gallwn ni eu cymryd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ag egwyddorion y ddeddfwriaeth sylfaenol. Awgrymwn felly y dylid ail-lunio'r rheol fel a ganlyn:

"6 (1) Iaith swyddogol y Tribiwnlys yw'r Gymraeg

(2) Mae gan bob parti neu dyst yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn nhrafodion y Tribiwnlys, wrth gyfathrebu gyda'r Tribiwnlys, a'r hawl i dderbyn yr holl wybodaeth ynghylch achosion a thrafodion y Tribiwnlys yn Gymraeg

(3) Bydd y Tribiwnlys yn gweithio yn unol â'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yn ei weithdrefnau ac wrth arfer ei swyddogaethau"

3.3. Nodwn fod rheol 7(1) yn gwneud darpariaethau ar gyfer gweithdrefnau amgen er mwyn datrys anghydfodau. Credwn nad oes angen rhoi cymaint o bwyslais ar y elfen hon gan fod natur y drefn cyn apêl i'r Tribiwnlys yn cynnig nifer o gyfleoedd i ddatrys anghydfod drwy weithdrefn amgen eisoes. Fodd bynnag, nid yw'n glir a oes angen diwygio'r rheolau drafft. Un posibiliad yw cyfeirio at unrhyw gyfleoedd a oedd gan y partïon i ddatrys anghydfod cyn i'r achos ddod gerbron y Tribiwnlys fel ffactor i'w hystyried wrth ddefnyddio'r pwerau o dan y rheol hon.

3.4. Rheol 16(1) - nid yw'n glir pam nad oes prawf tebyg i bob math o achos a fydd yn cael ei ystyried gan y Tribiwnlys. Heb brawf o'r fath, ymddengys y bydd unigolion yn gorfod bodloni trothwy uwch na chyrff a chwmnïau.

3.5. Rheol 24(a)(i) - gellid ychwanegu i'r rhestr o ystyriaethau hyn a yw'r parti yn siaradwr Cymraeg a fyddai'n elwa o gymorth gydag iaith ysgrifenedig neu dechnegol yn Gymraeg.

3.6. Awgrymwn fod angen prawfddarllen y rheolau hyn yn fanwl, dyma'r gwallau rydym wedi sylwi arnynt:

Rheol 17 (1) - mewnosod 'caiff' yn lle 'saiff'
Rheol 19 (5), pedwaredd linell - mewnosod 'gwrandawiad' yn lle 'gwrandaw' Rheol 21 (2) - mewnosod 'dod i law' yn lle 'dod u law'
Rheol 22 (1)(c) - mewnosod 'parti' yn lle 'party'
Rheol 40 (4) - dileu'r gair 'yn' ar ôl 'ymddangos'
Rheol 40 (5) - mewnosod 'o dan' yn lle 'o dam'
Rheol 61(1) - mewnosod 'Tribiwnlys' yn lle 'Tribunal'

 

Diweddglo

4. Mae'n rhaid i'r Tribiwnlys adlewyrchu'n llawn ysbryd ac egwyddorion Mesur y Gymraeg 2011 megis statws swyddogol y Gymraeg, hawliau i'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'n bwysig felly bod y rheolau'n gadarnach o ran gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg ac yn gwbl eglur o ran hawliau defnyddwyr i ymdrin yn llawn â'r corff yn Gymraeg.

Grŵp Hawliau i'r Gymraeg

Ionawr 2015