S4C Pwy Dalodd Amdani? Hanes Ymgyrch Ddarlledu Cymdeithas yr Iaith

Rhagair Argraffiad Newydd

Wedi ffurfio llywodraeth newydd yn Llundain ym Mai 2010, penderfynodd y Glymblaid Geidwadol/Ryddfrydol gwtogi'n ddifrifol ar wariant cyhoeddus mewn ymateb i'r argyfwng ariannol a achoswyd ynghynt gan y banciau yn y sector breifat.

Bwriad y llywodraeth newydd oedd naill ai cwtogi'n ddifrifol ar gyllidebau cyrff cyhoeddus neu gael gwared â nhw'n gyfan gwbl. I'r Gweinidog Diwylliant newydd, Jeremy Hunt - g?r a gydnabai na wyddai fawr ddim am Gymru - rhyw gwango arall oedd S4C, ac fe aeth ati i geisio cwtogi ar ei chyllideb ac i geisio cael gwared â hi fel endid annibynnol. Ni wyddai ddim am gyfraniad y sianel at ddyfodol y Gymraeg, na dim chwaith am ei hanes hi - am y frwydr fawr a fu i'w sefydlu.

Yn fwy difrifol, daeth yn amlwg nad yw pobl ifainc yng Nghymru'n gwybod fawr ddim am y frwydr hon chwaith. Wrth i ni wynebu brwydr newydd felly dros y sianel yn 2010, penderfynwyd ailgyhoeddi'r llyfryn hwn er mwyn ein hatgoffa o'r frwydr a fu genhedlaeth yn ôl ac fel symbyliad ar gyfer brwydr heddiw. Boed hyn hefyd yn symbyliad i ni wrth wynebu'r dyfodol.

Ateb i anghenion yr '80au oedd S4C yn ei ffurf ar y pryd. Mae angen yn awr nid yn unig amddiffyn S4C ond hefyd ddatblygu cwmpawd ei gweithgarwch er mwyn sicrhau fod y Gymraeg ar flaen datblygiadau yn yr oes ddigidol newydd.

Meinir Ffransis - Argraffiad Tachwedd 2010

Pwyswch ar y ddolen isod i lawrlwytho copi PDF o'r llyfryn (3.5MB / 122 Tudalen A5):

S4C Pwy Dalodd Amdani? Hanes Ymgyrch Ddarlledu Cymdeithas yr Iaith