Mae presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, hawliau i’r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i’w defnyddio a’i dysgu, ond hefyd i wrando arni, ei gweld, a’i phrofi fel rhan o ddiwylliant cyfoes, bywiog. Felly, mae presenoldeb yr iaith ar y teledu, radio, arlein a phob cyfrwng arall yn allweddol i’n gweledigaeth ni fel mudiad.
Dechreuwn drwy ddatgan ein syndod ynghlych penderfyniad y BBC i gynnal adolygiad o un o’i gorsafoedd radio yn unig. Nid cyfrifoldeb un orsaf radio yw’r allbwn Cymraeg ond y gorfforaeth yn ei chyfanrwydd. Mae’n berygl na fydd ystyriaeth o gyfraniad sianeli a llwyfannau eraill at y Gymraeg a diwylliant Cymru heb ystyriaeth o’r materion ehangach megis y syniad bod gan Radio Wales gyfrifoldeb dros ddarlledu allbwn Cymraeg.
Pryderwn hefyd fod rhai o’r cwestiynau yn ceisio arwain ymatebwyr mewn cyfeiriad nad yw’n ddymunol nac yn fanteisiol i’r orsaf, gan awgrymu’n anuniongyrchol y dylai neu y gallai ehangu apêl yr orsaf drwy wanhau neu lesteirio’r cynnwys neu natur Cymraeg.
Y ‘sgwrs genedlaethol’
Hoffem ddatgan yn glir bod Radio Cymru yn wasanaeth pwysig iawn ac y byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn yr unig orsaf radio genedlaethol Gymraeg, gan ei bod yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal y Gymraeg. Yn gyffredinol, nid lle mudiad fel Cymdeithas yr Iaith yw ateb y cwestiynau penodol a grybwyllir yn y sgwrs gan fod nifer ohonynt wedi eu hanelu at farn bersonol neu chwaeth unigolion. Mae’r cwestiynau hefyd yn rhy gul a mympwyol eu natur i allu cynnig ymatebion i’r her sy’n wynebu’r orsaf.
Gwelwn fod y sianel eisoes yn dioddef diffyg adnoddau – mae’n darlledu llai o oriau y dydd na Radio Wales, er enghraifft. Mae angen ehangu’r gwasanaethau ar bob llwyfan er mwyn eu cryfhau ac mae angen i reolwyr y BBC fod yn llawer iawn mwy uchelgeisiol yn hynny o beth, yn hytrach na rheoli dirywiad yn unig.
Tra bod allbwn Saesneg y gorfforaeth wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawdau diwethaf, yn ddiweddar mae’r allbwn Cymraeg wedi cael ei dorri. Pam nad ydy gwasanaethau Cymraeg wedi cynyddu ar yr un raddfa â’r ddarpariaeth Saesneg? Roedd methiant difrifol ar ran penaethiaid BBC Cymru i beidio manteisio ar gyfnod o dwf, ac felly mae’r toriadau presennol i’r gwasanaethau Cymraeg yn arbennig o anghyfiawn ac anghymesur. Petai buddsoddiad tebyg wedi bod i’r Gymraeg ar un raddfa â’r Saesneg, byddai’r BBC yn darparu ail orsaf Gymraeg erbyn hyn.
Fel corfforaeth, mae’r BBC wedi methu â chyflawni dros y Gymraeg. Mae nifer o unigolion cefnogol iawn i’r iaith yn, ac wedi, gweithio i’r gorfforaeth ond gwelwn fod problem strwythurol gan y gorfforaeth sydd yn atal twf yn eu gwasanaethau Cymraeg ac yn blaenoriaethu datblygiadau ar lefel Brydeinig. Ni ddylid edrych ar Radio Cymru ar wahân i wasanaethau eraill y BBC: gellid gwneud llawer mwy arlein i gefnogi rhaglenni, marchnata’n fwy effeithiol, a chreu cynnwys gwreiddiol, er enghraifft. Mae gwasnaethau arlein yn ffordd bwysig o sicrhau cynnwys mwy hygyrch i ddysgwyr a phobl llai hyderus eu Cymraeg. Ymhellach, dylai gwasanaethau Prydeinig a Chymreig eraill y BBC wneud llawer mwy i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg a Radio Cymru. Ni ddylai’r cyfrifoldeb hwnnw gwympo ar ysgwyddau Radio Cymru yn unig.
Radio Cymru
Trwy gyfyngu’r ‘sgwrs genedlaethol’ i radio yn unig, gwelwn mai agenda cul sydd gan y BBC. Swyddogaeth y gorfforaeth yn ei chyfanrwydd yw ‘adlewyrchu ein bywyd cenedlaethol’, nid un orsaf na chyfrwng yn unig. Mae’n bosibl, er enghraifft, mai’r ffordd orau o gyrraedd cynulleidfa newydd fyddai gwasanaethau arloesol arlein newydd, ond mae’r adran honno wedi ei hieithrio o’r ‘sgwrs’, ac wedi dioddef toriadau enbyd yn y blynyddoedd diwethaf ei hun. (Tra bod lawnsiad y ‘Cymru Fyw’ arfaethedig i’w groesawu, nid yw’n ymddangos fel petai’n fwy nag ymarferiad ailfrandio, gyda’r ‘buddsoddiad’ honedig yn lliniaru cyfran o’r toriadau blaenorol yn unig).
Credwn fod amryw o ffyrdd, gydag adnoddau priodol i Radio Cymru a gwasanaethau Cymraeg eraill, y gellid cryfhau’r ddarpariaeth, megis buddsoddiad go iawn mewn dulliau rhyngweithio a hyrwyddo arlein.
Nid yw’n syndod bod gwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth ddarlledu Brydeinig yn dioddef wedi iddynt gael eu trin yn eilradd am flynyddoedd. Rhwng 1990 a 2002 fe wnaeth y BBC mwy na dyblu nifer y gorsafoedd radio Saesneg sydd yn darlledu yng Nghymru. Pam nad oes cynnydd cyfatebol wedi bod yn y ddarpariaeth Gymraeg? Ni allwn ymddiried yn y BBC i sicrhau dyfodol darlledu yn Gymraeg wedi iddi drin ei gwasanaethau Cymraeg yn eilradd i’r rhai Saesneg am ddegawdau. Dylai’r BBC ryddhau cyllid cyfatebol o’u coffrau i sefydlu gwasanaethau rhyngweithiol newydd gan ddarparwr amlgyfrwng annibynnol, yn rhydd o unffurfiaeth Prydeinig y BBC.
Darparwr Newydd
Heb arwydd bod y BBC yn gallu nac yn dymuno darparu ail wasanaeth, bwriad y Gymdeithas yw canolbwyntio ar geisio sefydlu darparwr newydd a allai ehangu’r gynulleidfa Gymraeg a rhyddhau Radio Cymru (a’r BBC yn ehangach) rhag ceisio gwasanaethu’r holl gynulleidfa Gymraeg a phob grŵp oedran, a’r problemau mae hynny’n ei achosi. Byddai hyn yn caniatau i Radio Cymru ganolbwyntio ar gynulleidfa darged fwy penodol, ond hefyd yn sbarduno creadigrwydd gyda’r her o gystadleuaeth.
Ond ni ddylid edrych mewn termau mor gul ag ail orsaf radio Cymraeg. Mae potensial i ddarparwr newydd, amlgyfryngol, gyflawnu llawer mwy. Byddai strwythur gwahanol yn adlewyrchu’r angen am wasanaeth sy’n amlgyfryngol o’r cychwyn, gan ddefnyddio llwyfannau newydd i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.
Deallwn nad cyfrifoldeb y BBC yw hyn, ac ni chredwn y byddai’n iach i’r BBC ei darparu beth bynnag. Nid oes gennym ffydd chwaith y byddai’r BBC yn dymuno ehangu ei ddarpariaeth yn y fath modd. Ond mae cysyniad y ‘cyfryngau democrataidd’ fel yr amlinellwyd gan Raymond Williams yn fodel a fyddai’n llesol i ddinasyddion Cymru a’r Gymraeg. O ganlyniad, credwn y byddai creu darparwr newydd annibynnol yn cryfhau darlledu Cymraeg yn ei gyfanrwydd.
Byddai’n llesol i’r BBC, ac yn bwysicach, i’r Gymraeg a’i chymunedau, petai darparwr amlgyfryngol newydd o’r fath yn cael ei sefydlu. Byddai’n ehangu’r gynulleidfa sydd yn gwrando, yn gwylio ac yn defnyddio’u Cymraeg. Gallai ddarparu rhwydwaith cenedlaethol Cymraeg gan fanteisio ar gydgyfeiriant technolegol i gynnig llwyfan i brosiectau bro a chymunedol. Yn fwy na darlledwr un-ffordd traddodiadol, ei amcan fyddai cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau. Nid darlledwr er ei les ei hunan, ond er lles yr iaith, sydd ei angen.
Er na fyddai’r BBC yn gallu gwireddu amcanion angenrheidiol y gwasanaeth newydd, dylai fod gan y gorfforaeth rhan i’w chwarae wrth gynorthwyo a hwyluso’r gwaith o sefydlu darparwr newydd. Dylai’r BBC gynnig adnoddau a chymorth i sefydlu menter newydd o’r fath, ac annog partneriaid i weithio mewn ffordd debyg. Byddai hynny’n llesol i’r Gymraeg a phlwraliaeth chyfryngau Cymru ond hefyd yn rhyddhau’r gorfforaeth a Radio Cymru i ddarparu gwasanaeth mwy pwrpasol.
Dylai’r BBC gynnig yr opsiynau a gynigwyd ganddynt yn 2008 i ITV ac eraill i’r darparwr Cymraeg newydd yn ogystal â darparwyr bro eraill megis Radio Beca. Yn ei chynigion yn 2008, dywedodd y gorfforaeth y byddai:
“Sharing the BBC's knowledge and expertise in digital production. ... If the BBC shared its knowledge and expertise with producers, broadcasters, publishers and manufacturers of broadcast and production equipment, much of this opportunity could be unlocked across the industry. Other broadcasters – and in particular other PSBs – could migrate more easily onto the new digital platforms and if other PSBs could achieve savings comparable to the BBC's, then their linear content budgets could go further. As a result, their ability to continue to support PSB could be significantly improved.
“Exploring ways of making some of the BBC's regional and local news materials available to other news outlets for repurposing and rebroadcast in ways which support the economics of regional news provision beyond the BBC.”
Gallai cynigion o’r fath i ddarparwr aml-gyfryngol fod o gymorth mawr wrth ei sefydlu o’r newydd a’i gynnal. Yn ogystal, credwn y dylai’r BBC gynnig adnoddau eraill i’r darparwr newydd a darlledwyr bro Cymraeg, megis gwasaethau darlledu a throsglwyddyddion.
Prif ddiben y gwasanaeth fyddai hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, gan anelu at gynulleidfa iau na Radio Cymru. Mae angen darpariaeth i chwarae rhan flaenllaw yn hybu defnydd o’r Gymraeg ymysg pobl yn eu harddegau ac yn eu hugeiniau cynnar, lle gwelwn y cwymp mwyaf o ran defnydd o’r Gymraeg. Gallai’r darparwr newydd hwn roi hwb i ddefnydd o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc yn enwedig. Yn anffodus, nid yw’r BBC yn gweld cryfhau’r Gymraeg a’u cymunedau fel rhan o’i swyddogaeth na’i ddiben. Mae angen sefydlu endid newydd felly a fydd yn rhoi hybu’r Gymraeg wrth ganol ei waith.
Mae Sianel 62 yn enghraifft o’r hyn sy’n bosibl. Gydag adnoddau priodol, gallai gwasanaeth ar lawr gwlad weithio fel rhwydwaith cenedlaethol gyda chynnwys cymunedol cryf ac agenda fywiog, arbrofol, trwy gyfrwng sain, fideo, gwefannau, a theclynnau o bob math. Byddai’n gyfraniad cyffrous newydd i ddiwylliant Cymru.
Ariannu’r Darparwr Newydd
Credwn y byddai nifer o ffyrdd o ariannu’r sianel, ond ffafriwn ardoll (lefi) ar gwmnïau ffonau symudol a darlledwyr preifat nad ydynt yn ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus. Amlinellir nifer o opsiynau mewn papur ar y cyd rhwng BECTU ac Undeb y Newyddiadurwyr (NUJ). Credwn y byddai modd codi’r math hwn o ardoll ar lefel Ewropeaidd; byddai hynny’n ardal ddaearyddol synhwyrol er mwyn ymdrin â’r farchnad telathrebu fel y mae wedi datblygu, ond hefyd byddai’n fodd o daclo’r toriadau sy’n cael eu gwneud i nifer o ddarlledwyr cyhoeddus ledled y cyfandir sy’n darlledu mewn ieithoedd sydd wedi eu lleiafrifoli. Gellid, yn ogystal, geisio ariannu’r darparwr newydd drwy grantiau addysgol a nawdd o ffynonellau eraill. Byddai cynnig y BBC i rannu archif, adnoddau a sgiliau hefyd yn gyfraniad sylweddol.
Diffyg uchelgais y BBC i’r Gymraeg
Pryderwn yn fawr nad yw rheolwyr y BBC yng Nghymru yn gwneud digon i frwydro dros ehangu gwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth fel y dylen nhw. Nodwn hefyd mai’r patrwm dros y degawdau diwethaf yw rheoli dirywiad gwasanaethau Cymraeg, tra bu buddsoddiad sylweddol gan y gorfforaeth mewn gwasanaethau Saesneg wrth iddynt ddyblu nifer y gorsafoedd Saesneg ers 1990.
Nid ydym yn argyhoeddedig bod rheolwyr y BBC, yn dilyn y sgwrs genedlaethol, yn mynd i geisio am ddigon o arian i sicrhau y caiff y gwasanaeth ei ehangu’n ddigonol. Maent eisoes wedi dweud na fydd yn bosibl sefydlu gorsaf radio arall, cyn hyd yn oed ymchwilio i’r posibiliadau. Cyn troi at ymddiriedolaeth y gorfforaeth felly, maent wedi cyfyngu ar eu hopsiynau i ddatblygu’r gwasanaethau Cymraeg.
Argymhellwn yn gryf felly y dylid sefydlu darlledwr amlgyfryngol newydd a fydd yn rhydd o geidwadaeth a diffyg uchelgais y BBC.
Ymatebion i gwestiynau penodol y 'sgwrs genedlaethol':
(i) A yw BBC Radio Cymru'n taro'r cydbwysedd cywir rhwng ei rhaglenni newyddion ac adloniant? Os na, beth ddylid ei newid?
Mae cwestiwn o’r fath yn amlygu’r gwendid a geir wrth ddibynnu ar un orsaf yn unig. Wrth gwrs, nid oes modd cydbwyso gwahanol fathau o raglenni ar un orsaf na bodloni anghenion yr holl gynulleidfa bosibl. Mae’r cwestiwn hefyd yn adlewyrchu meddylfryd cyfyng a chul iawn a ysgogodd y ‘sgwrs genedlaethol’ hon, gan ganolbwyntio ar Radio Cymru fel achos unigol yn hytrach na rhan o’r pecyn ehangach o gynnwys Cymraeg ar lwyfannau eraill.
Wrth gwrs, mae dyletswydd ar y BBC i ddarparu gwasanaeth a fydd yn bodloni ei siarter a'i hamcanion darlledu cyhoeddus. Gwyddom fod y gorfforaeth yn cynnal ymchwil manwl ynglŷn â dymuniadau'r gynulleidfa a'i defnydd iaith. Felly, cyn belled â bod y gorfforaeth yn bodloni ei hamcanion darlledu cyhoeddus, nid mater i fudiad fel y Gymdeithas yw dweud pa fath o gydbwysedd ddylai fod rhwng gwahanol fathau o raglenni. Gyrrir ein safbwynt ni gan y gred sylfaenol bod gan bob dinesydd hawl i wasanaethau cyfryngol cynhwysfawr yn Gymraeg.
Credwn fod perygl bod y gorfforaeth, drwy ofyn cwestiynau o'r fath, yn anymwybodol yn osgoi'r realiti bod angen rhedeg gwasanaeth da a darparu rhaglenni o safon er mwyn sicrhau llwyddiant. Dylid cydnabod bod lle i wella yn hynny o beth, yn hytrach na cheisio osgoi’r gwirionedd trwy feio’r cydbwysedd rhwng mathau o raglenni’n unig.
Hefyd, ni chredwn y dylai'r gorfforaeth or-ganolbwyntio ar niferoedd gwrando fel unig faen prawf yr orsaf/y ddarpariaeth. Prif bwrpas yr orsaf yw bodloni hawliau pobl i’r Gymraeg yn ogystal â hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Yn ogystal, dylid sylweddoli bod dyletswydd ar wladwriaeth Prydain i ddarparu o leiaf un orsaf radio Gymraeg o dan y Siarter Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol Ewrop a bod amcanion cyhoeddus y BBC yn ei gwneud yn anorfod bod rhaid i’r gorfforaeth gynnal gwasanaeth radio Cymraeg.
(ii) A yw cerddoriaeth Radio Cymru yn taro'r cywair iawn gyda chi a'ch teulu? Os na, beth hoffech chi glywed?
Eto, credwn fod cwestiwn o’r math yn codi sgwarnog er mwyn osgoi cyfaddef bod safon rhaglenni yn hollbwysig yn y ddadl hon. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn fodlon gwrando ar raglenni da pa iaith bynnag y darlledir y caneuon ynddynt.
Wedi dweud hynny, mae’n haelodau am nodi y clywir llawer iawn o’r un caneuon drosodd a throsodd ar yr orsaf. Deallwn fod hynny’n rhannol oherwydd bod yr orsaf yn defnyddio peiriant i ddewis y gerddoriaeth. Yn gyffredinol, credwn y dylai fod pwyslais ar ganeuon yn cael eu dewis gan bobl o fewn timau cynhyrchu wedi eu hyfforddi’n dda.
Mae amrywiaeth eang iawn o ganeuon Cymraeg ar gael, a chredwn fod angen clywed yr amrywiaeth honno o gerddoriaeth ar ein gwasanaeth radio. Rhan o ddyletswydd Radio Cymru yw meithrin talent ifanc, felly dylai amrywiaeth o gerddoriaeth newydd fod yn rhan flaenllaw o arlwy’r orsaf.
(iii) Gan edrych i'r dyfodol, a ydych chi'n cytuno y dylai Radio Cymru ehangu ei apêl, gan gynnwys y rheiny sy'n llai hyderus yn y Gymraeg?
Mae hwn yn gwestiwn camarweiniol, ac yn pwysleisio’r cyfiawnhad dros ddarparwr arall. Ni all y BBC gynnig gwasanaeth a fyddai’n bodloni anghenion pawb gyda’r adnoddau presennol, a gellid dadlau mai corfforaeth biwrocrataidd gyda chysylltiad cryf â newyddiaduriaeth a materion cyfoes yw’r gorfforaeth leiaf tebygol o allu cyrraedd cynulleidfa a fyddai’n croesawu darpariaeth lai ffurfiol.
Mae’r cwestiwn yn osgoi’r hyn sydd yn gwbl amlwg, sef y dylai gwasanaethau Cymraeg y BBC yn eu cyfanrwydd ehangu eu hapêl, yn hytrach na rhoi’r baich ar Radio Cymru’n unig. Credwn fod y dyletswydd pennaf dros ehangu apêl Radio Cymru i gynulleidfa lai hyderus ar ysgwyddau llwyfannau eraill y BBC megis Radio Wales. Oni ddylai Radio Wales ddarparu rhaglen i ddysgwyr Cymraeg fel bod modd iddynt eu harwain at gynnwys a ddarlledir ar Radio Cymru?
Ymhellach, credwn fod pawb – boed yn hyderus neu’n llai hyderus yn Gymraeg – eisiau gwrando a gwylio rhaglenni da a chynnwys da. Mae gan y Gymdeithas nifer fawr o aelodau sydd wedi dysgu’r Gymraeg (Cymry Cymraeg newydd), sydd am glywed rhaglenni o safon fel Cymry Cymraeg eraill yn hytrach na chael eu bychanu gan ddarpariaeth wedi’i glastwreiddio.
Un ffordd o apelio at gynulleidfa lai hyderus eu Cymraeg yw datblygu adnoddau a chynnwys arlein. Dylid buddsoddi’n helaeth mewn darpariaeth ychwanegol arlein a fyddai o gymorth i ddysgwyr yn ogystal ag yn adnodd i ysgolion. Dylid ystyried cadw cynnwys ar alw am gyfnod hirach na’r saith diwrnod presennol ac ymchwilio i’r posibiliad o ddarparu is-deitlau Cymraeg syml ar gyfer dysgwyr.
Ni fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi unrhyw ymdrech i geisio gwanhau allbwn Cymraeg BBC Cymru. Yn hytrach, fel yr amlinellir uchod, credwn y dylid ehangu’r ddarpariaeth. Byddem yn gwrthwynebu’n ffyrnig unrhyw ymgais i gwtogi ar oriau darlledu Cymraeg yr orsaf neu unrhyw doriadau pellach i’r ddarpariaeth arlein.
(iv) Os ydych chi'n cytuno, sut dylai Radio Cymru newid neu addasu ei rhaglenni i wneud i'r cynulleidfaoedd newydd hyn deimlo bod croeso iddyn nhw a'u bod nhw'n cael eu cynnwys?
Gweler yr ymatebion uchod.
Greg Bevan
Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Awst 2013