Strategaeth Iaith Ddrafft y Llywodraeth - ymateb

[Cliciwch yma i agor PDF]

Strategaeth Iaith Ddrafft y Llywodraeth

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
 

1. Cyflwyniad

1.1. Croesawn ymrwymiad y Llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Cefnogwyd ein gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg gan y prif bleidiau yn y Cynulliad cyn yr etholiad a bu nifer fawr o ymgeiswyr o bob plaid yn ei chefnogi ynghyd â nifer fawr o bobl eraill ar hyd a lled y wlad.

1.2. Mae’n bwysig cofio bod tri nod yn rhan o’n dogfen weledigaeth, a ysbrydolodd darged y Llywodraeth ynghyd ag ennyn cefnogaeth drawsbleidiol, gan gynnwys cefnogaeth y Gweinidog Alun Davies AC, sef:

  1. cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn

  2. atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i’w cymunedau

  3. defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd

Mae angen gweld gweithredu pwrpasol er mwyn sicrhau cynnydd ar y nodau hyn er mwyn troi'r uchelgais yn realiti.

1.3. Croesawn y pwyslais ar greu'r miliwn o siaradwyr. Mae cynllunio’r gweithlu, yn enwedig y gweithlu addysg a normaleiddio addysg cyfrwng Cymraeg ledled y gyfundrefn, yn rhan allweddol bwysig o'r agenda. Fodd bynnag, mae’n bwysig nad yw’r gwleidyddion yn anghofio am eu hymrwymiad i’r ddau nod arall o ran defnydd y Gymraeg ac atal yr allfudiad. Mae'r rhain hefyd yn hanfodol i ymgyrraedd at y miliwn.

1.4. Rydym wedi cyflwyno pedwar adroddiad1 i’r Llywodraeth ers mis Gorffennaf y llynedd, yn amlinellu agenda uchelgeisiol ond ymarferol. Ail-gyflwynwn y papurau hyn gyda'n hymateb; nid ydym yn bwriadu ail-adrodd cynnwys yr adroddiadau yn helaeth, ond erfyniwn ar y Llywodraeth I'w hystyried a'u gweithredu:

  1. Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 ymlaen

  2. Cryfhau Hawliau i'r Gymraeg – Dogfen Ymgynghorol ynghylch Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

  3. Iaith a Gwaith – Strategaeth Economaidd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

  4. Buddsoddi er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg

1.5. Yn ogystal, comisiynodd y Llywodraeth flaenorol sawl adroddiad gan arbenigwyr, ond ni weithredwyd nifer o'r argymhellion allweddol. Erfyniwn arnoch i weithredu'r adroddiadau a'r argymhellion allweddol a restrir yn atodlen 1 y ddogfen hon.

1.6. Credwn y dylai’r Llywodraeth ffurfio panel o arbenigwyr cynllunio ieithyddol, cynllunio'r gweithlu ac ystadegwyr er mwyn mireinio'r strategaeth iaith ddrafft.

2. Conglfeini’r Strategaeth – Pobl a Gofodau

2.1. Credwn y dylai conglfeini unrhyw strategaeth fod yn unol â'r hyn a amlinellom yn ein dogfen weledigaeth 'miliwn'. Yn y ddogfen honno, pwysleisiom "ddwy elfen: pobl a gofodau". Dywedom:

"Mae angen gwella sgiliau iaith ein pobl – ni ellid gwahanu tynged yr iaith o’r byd addysg a chynllunio’r byd gwaith."

"... mae angen datblygu a chryfhau cyd-destunau lle mai’r Gymraeg yw iaith naturiol y lleoliad – yn y gwaith, yn y cartref ac yn y gymuned."

2.2. Yn ogystal, dywedom:

"Er mwyn adfer iaith yn effeithiol mae angen adeiladu ar bedwar piler:

  1. Deddfwriaeth Ddigonol – gan gynnwys gofyn am fesurau megis sgiliau Cymraeg hanfodol ar gyfer rhagor o swyddi

  2. Cynllunio – cynllun gweithredu manwl a dealladwy i bawb er mwyn cyrraedd nod clir, gyda chamau clir ar y ffordd

  3. Adnoddau – faint sy’n cael ei fuddsoddi ac ym mha brosiectau

  4. Cefnogaeth a diddordeb y cyhoedd"

2.3. Ceir cynlluniau helaeth ynghylch sut i flaenoriaethu'r meysydd hyn yn ein dogfen 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 Ymlaen'.

2.4. Ymhelaethwn ar yr angen i fuddsoddi'n ariannol yn y strategaeth yn adran 8 isod.

3. Targedau

3.1. Dylai'r targedau gyfateb i dri phrif nod y ddogfen 'miliwn o siaradwyr' a nodir ym mharagraff 1.2 uchod, a gefnogwyd gan Weinidog y Gymraeg a'r Prif Weinidog. Yn ogystal, dylid edrych ar dargedau o ran cynyddu sgiliau pobl a gofodau lle mai'r Gymraeg yw'r brif iaith fel y nodir yn 2.1 uchod.

3.2. Cytunwn fod angen targedu creu miliwn o siaradwyr, ond credwn fod angen:

  1. is-dargedau bob degawd, neu'n ddelfrydol bob pum mlynedd, ar y ffordd i'r miliwn o siaradwyr;

  2. defnyddio geiriad a diffiniad y Cyfrifiad o ran y gallu i siarad, er mwyn sicrhau cysondeb a meincnodi cynnydd yn erbyn y targedau yn ystyrlon;

  3. mynegi'r targed fel canran yn ogystal â nifer o bobl er mwyn cymryd ystyriaeth o'r newid mewn poblogaeth;

  4. anelu at darged uchelgeisiol erbyn 2041 sy'n rhoi hyblygrwydd i gynyddu'r targed ar gyfer 2051 ac, yn ogystal, rhoi mwy o sicrwydd bod twf yn nifer a chanran siaradwyr y Gymraeg yn ddigon i gyrraedd y miliwn erbyn 2050

  5. ystyried cysoni geiriad ac amseru 'arolwg defnydd iaith' y Llywodraeth fel bod modd monitro cynnydd bob pum mlynedd, yn enwedig o ystyried ansicrwydd am ddyfodol y Cyfrifiad.

3.3. Dylai'r Llywodraeth drafod union natur y targedau hyn gyda chynllunwyr iaith ac ystadegwyr, a chredwn y dylai'r arbenigwyr hynny ystyried y canlynol fel is-dargedau posibl:

  1. 800,000, neu 26% o'r boblogaeth, yn siarad Cymraeg (pa darged bynnag sydd uchaf) erbyn 2031

  2. 980,000, neu 32% o'r boblogaeth, yn siarad Cymraeg (pa darged bynnag sydd uchaf) erbyn 2041

3.4. Yn ogystal, dylid ystyried targedau o ran:

  1. defnydd dyddiol o'r Gymraeg;

  2. nifer y cymunedau lle siaredir y Gymraeg gan 70% o'r boblogaeth;

  3. nifer y cymunedau lle siaredir y Gymraeg gan 50% o'r boblogaeth;

  4. nifer a chanran y boblogaeth sy'n defnyddio gofodau lle mai'r Gymraeg yw'r brif iaith

  5. canran a niferoedd sy'n gweithio drwy'r Gymraeg

  6. addysg a hyfforddiant

  7. cynllunio'r gweithlu

  8. lleihau allfudo

  9. cyfraniad pob adran a chyrff eraill a ariennir ac a noddir gan Lywodraeth Cymru i nodau iaith y Llywodraeth

  10. defnydd iaith cyrff megis byrddau iechyd ac awdurdodau lleol

3.5. Heb amheuaeth, mae’n hanfodol bwysig cael targedau ar gyfer y meysydd addysg a chynllunio'r gweithlu.

4. Addysg Gymraeg i Bawb – Beth sydd angen ei wneud?

4.1. Y tu hwnt i fynd i'r afael â'r nifer sy'n gadael cymunedau Cymraeg a Chymru, mae angen o leiaf 15,000 i 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol arnom bob blwyddyn dros gyfnod o 30 mlynedd er mwyn cyrraedd y miliwn.

4.2. Un o'r prif ffyrdd o sicrhau hyn fyddai cynhyrchu llawer iawn mwy o siaradwyr drwy'r gyfundrefn addysg – yn hynny o beth mae angen gweithredu ar ddwy lefel:

  1. ehangu'n sylweddol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg benodedig ar bob lefel o'r blynyddoedd cynnar i addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau yn ogystal ag addysg i oedolion yn y gymuned; a

  2. normaleiddio addysgu cyfrwng Cymraeg ym mhob sefydliad addysg presennol fel nad yw'r un sefydliad addysg yn amddifadu ein pobl ifanc o'r Gymraeg

4.3. Credwn fod angen cynllun cynhwysfawr yn y maes hwn, a fyddai'n cael ei gyhoeddi fel rhan o Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd. Rydym yn falch bod y Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi cynllun gweithredu er mwyn paratoi'n iawn ar gyfer creu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl. Yn wir, mae ymrwymiad y Llywodraeth i gyflawni hyn yn cynnig cyfle mawr i wneud naid fawr ymlaen.

4.4. Cynllun Gweithredu – Addysg Cyfrwng Cymraeg i Bawb

4.5. Credwn mai'r egwyddorion canlynol ddylai fod yn sail i unrhyw gynllun gweithredu:

  1. hawl i'r Gymraeg i bob myfyriwr yng Nghymru – dylai pawb adael yr ysgol yn medru siarad a defnyddio'r Gymraeg yn hyderus;

  2. un continwwm dysgu Cymraeg, un cwricwlwm Cymraeg ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl, a fyddai’n disodli addysg ‘ail iaith’;

  3. peth addysg cyfrwng Cymraeg i bawb: pob ysgol yng Nghymru i gynnig rhan gynyddol o'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg;

  4. cyfleoedd allgyrsiol cyfrwng Cymraeg;

  5. statws cyfartal i'r Gymraeg yng ngweinyddiaeth fewnol ac allanol pob ysgol nad ydynt yn ysgolion penodedig Cymraeg;

  6. gosod targed unigol i bob sefydliad addysg gynyddu canran y pynciau a ddysgir drwy gyfrwng y Gymraeg

4.6. Camau Gweithredu Tymor Byr

Er mwyn cyrraedd prif darged y Llywodraeth, dylid cymryd y camau canlynol cyn gynted â phosibl:

  1. diweddaru'r strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn adlewyrchu targed miliwn o siaradwyr a thargedau eraill;

  2. codi disgwyliadau a mireinio trefn arfarnu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, gan sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn atebol ac yn cael eu galw i gyfrif os nad oes cynnydd;

  3. sefydlu dulliau a thargedau statudol ar gyfer sicrhau cynnydd cyflym iawn yn nifer a chanran y gweithlu addysg sy'n medru dysgu drwy'r Gymraeg, ac sy'n gwneud hynny, o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg i oedolion yn y gymuned a phrentisiaethau;

  4. sicrhau bod cyrff a ariennir ac a noddir gan Lywodraeth Cymru, megis y consortia addysg ac eraill, yn gweithredu er mwyn cyrraedd targedau'r Llywodraeth

4.5. O ystyried y cynnydd sylweddol sydd ei angen ym maes addysg, mae'n rhaid cymryd camau breision megis y canlynol:

  1. cynnydd cyflym o ran nifer a chanran y disgyblion sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob sefydliad addysg, gan gynnwys targedau statudol i ddysgu rhagor o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion nad ydynt yn rhai cyfrwng Cymraeg penodedig;

  2. mesurau eraill i normaleiddio dysgu ac addysgu cyfrwng Cymraeg drwy'r holl gyfundrefn addysg;

  3. mesurau i symud ysgolion ar hyd y continwwm o ddysgu rhagor o bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg;

  4. ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor gyda chanran is o addysg cyfrwng Cymraeg na 50%, neu drothwy uwch mewn siroedd lle mae mwyafrif yr ysgolion yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog;

  5. cynllunio i ddatblygu medrau'r gweithlu – gwneud cynnydd sylweddol, drwy amryw o ddulliau, yn nghanran y gweithlu addysg sy’n medru'r Gymraeg ac sy'n dysgu drwyddi;

  6. sefydlu'r hawl i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn ar gyfer pob oedran dysgu;

  7. ymestyn cyfrifoldeb Mudiad Meithrin er mwyn symud dros amser at addysg uniaith Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar a'r cyfnod sylfaen gyda nod tymor byr o ehangu'n sylweddol ar y defnydd o'r Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar gan gynnwys ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;

  8. cyflwyno'r cwricwlwm Cymraeg cyfun newydd yn 2018 ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021, gan ganiatáu symud yn gynt ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, ysgolion arloesi a rhai siroedd sy'n awyddus i wneud hyn;

  9. safoni categoreiddio ysgolion;

  10. diddymu'r angen i ymgynghori er mwyn symud ysgolion ar hyd y continwwm o ran dysgu rhagor o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg neu at addysg gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg;

  11. sicrhau bod cyllid ysgolion 21ain ganrif yn cefnogi targedau'r Llywodraeth o ran y Gymraeg ac addysg Gymraeg;

  12. ehangu canolfannau hwyrddyfodiaid a dulliau trochi er mwyn gwella sgiliau'r gweithlu addysg a disgyblion yn gyflym;

  13. targedu adnoddau Cymraeg i Oedolion ar wella sgiliau'r gweithlu addysg.

4.6. Yn ogystal, dylai unrhyw gynllun ymwneud â'r meysydd canlynol:

  1. Cwricwlwm ac Asesu

    1. gosod nodau dysgu a chynnydd clir yn seiliedig ar y cwricwlwm Cymraeg newydd

    2. defnyddio cymedroli clwstwr Cyfnodau Allweddol 2 a 3 a gwirio allanol i sicrhau nad yw disgyblion yn llithro'n ôl rhwng cyfnodau allweddol; a

    3. sicrhau darpariaeth briodol i bob disgybl, hyd yn oed os oes symud o’r cyfrwng Cymraeg i gyfrwng dwyieithog neu Saesneg

  2. Cymwysterau

    1. un cymhwyster cyfun Cymraeg i bob disgybl i fod ar gael o fis Medi 2018 ac yn weithredol i bawb o 2021 ymlaen

  3. Statws

    1. Mesurau perfformiad ysgolion

    2. Profion Cymraeg i bob disgybl ym mhob cyfnod allweddol

    3. Profion Darllen Cymraeg ym mhob cyfnod allweddol fel rhan o'r fframwaith llythrennedd

    4. Cynlluniau Datblygu Ysgol i esbonio sut bydd ysgolion traddodiadol cyfrwng Saesneg a ffrydiau Saesneg yn gwella’r ddarpariaeth o ran: darparu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg; ac ethos Cymraeg e.e. cyfleoedd anffurfiol i ddefnyddio'r iaith

  4. Gweithlu

    1. Cynllunio’r Gweithlu Addysg a gwella sgiliau – mae angen strategaeth gyfannol sy’n cynnwys ystyriaeth i’r Gymraeg ar bob lefel gan gynnwys adnabod y bylchau a’r meysydd mwyaf argyfyngus; cymhelliannau ariannol ac eraill i ymuno â'r gweithlu addysg; a chydnabod bod cyfyngiadau i'r cynllun sabothol a bod angen mentrau eraill i sicrhau gwelliant sylweddol

    2. Sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Ysgol yn nodi anghenion a darpariaeth hyfforddiant i ddatblygu'r Gymraeg

    3. Datblygu rhaglen hyfforddiant mewn swydd gynhwysfawr i gryfhau ac ymestyn sgiliau athrawon i ddysgu Cymraeg ac i ddefnyddio'r Gymraeg ar draws y cwricwlwm

    4. Datblygu rhaglenni Cymraeg i'r teulu gan dargedu rhieni a gofalwyr di-Gymraeg a phlant yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 1

    5. Sicrhau bod pob cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru yn cynnwys targedau statudol ar gyfer ymestyn medrau dysgu Cymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg

    6. Ystyried ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym maes cynllunio'r gweithlu gan adeiladu ar eu tystysgrif sgiliau athrawon

    7. Ehangu'r cynllun cam-wrth-gam er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol yn nifer ymarferwyr y maes sy'n gweithio drwy'r Gymraeg

4.7. Targedau Addysg Posibl

4.8. Er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth, mae angen gosod targedau addysg a fyddai'n creu'r 15,000 i 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn.

4.9. Credwn felly y dylid cryfhau ac adeiladu ar y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg bresennol, gellid gosod targedau megis y canlynol ar gyfer deilliant 1 strategaeth ddiwygiedig:

Targed Enghreifftiol:

Canran y disgyblion 7 mlwydd oed sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg benodedig:

35% erbyn 2021 (tua 4,000 o siaradwr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn);

50% erbyn 2026 (tua 9,500 o siaradwr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn)

70% erbyn 2031 (tua 16,000 o siaradwr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn)

100% erbyn 2036 (tua 26,500 o siaradwr Cymraeg ychwanegol bob blwyddyn)

4.10. Wrth reswm, byddai rhaid i unrhyw dargedau ar gyfer deilliant 1 y strategaeth gael eu hadlewyrchu yn ogystal yn neilliannau eraill y Strategaeth er mwyn sicrhau dilyniant drwy bob cyfnod allweddol.

4.11. Bydd rhaid adolygu strwythur a sail gyfreithiol Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg er mwyn sicrhau bod y mesurau a'r targedau mwy uchelgeisiol hyn yn cael eu rhoi ar waith.

4.12. O ran targedau ehangach er mwyn normaleiddio'r Gymraeg yn yr holl gyfundrefn addysg, dylid ystyried targedau a fyddai nid yn unig 'ymateb i'r galw', ond hefyd arwain a chreu'r galw. Credwn felly dylai'r Llywodraeth sefydlu targedau fel y ganlyn:

  1. Ymhen y pum mlynedd nesaf, dylid:

    • Sicrhau bod hanner athrawon ac ymarferwyr addysg newydd gymhwyso yn medru dysgu drwy'r Gymraeg, i fyny o oddeutu 20% ar hyn o bryd. Dylid hwyluso hyn drwy gynnig i bobl ddi-Gymraeg gymhwyso drwy ariannu ac integreiddio cyrsiau dysgu Cymraeg dwys a gloywi iaith yn y broses hyfforddi;

    • Sicrhau bod pob athro sy'n siaradwr Cymraeg, ond nad ydynt yn datgan eu bod yn gallu dysgu drwy'r iaith, yn derbyn hyfforddiant fel eu bod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

    • Sicrhau bod pob athro cynradd sydd gyda chymhwyster TGAU ail iaith yn derbyn hyfforddiant fel eu bod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

    • Targedu cyrsiau dysgu a gloywi ychwanegol Cymraeg i Oedolion ar y gweithlu addysg newydd gymhwyso yn ogystal â hyfforddiant i rai sydd eisoes yn y gweithlu;

    • Sefydlu amod ar arian cyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif – ni ddylai’r un ysgol na sefydliad addysg newydd agor gyda chanran is o addysg cyfrwng Cymraeg na 50%, neu drothwy uwch mewn siroedd lle mae mwyafrif yr ysgolion yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog;

    • Symud tuag at gyfnod meithrin cyfrwng Cymraeg yn unig drwy ehangu cyfrifoldeb Mudiad Meithrin;

    • Gosod lleiafswm o 10% o bynciau cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'r sector addysg (heblaw am y cyfnod cyn-ysgol, sylfaen ac addysg gynradd lle bydd targedau uwch);

    • Sicrhau bod rhaglen cymhwyso pob gweithiwr addysg yn cryfhau sgiliau cyfathrebu Cymraeg a bod modiwlau o fewn pob cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

    • Sefydlu cymhelliannau cytundebol, ariannol ac eraill er mwyn sicrhau bod pobl sy'n cymhwyso i ddysgu drwy'r Gymraeg yn aros yng Nghymru, gan ystyried ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y maes

    • Ymestyn cyfrifoldebau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i addysg bellach a holl addysg ôl-16

    • Darparu 10% o brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

    • Darparu 10% o gyrsiau addysg i oedolion yn y gymuned drwy'r Gymraeg

    • Sicrhau bod Cymraeg i Oedolion yn creu o leiaf 4,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl (lefel uwch) newydd bob blwyddyn drwy dargedu effeithiol

 

  1. Ymhen y deng mlynedd nesaf, dylid:

    • Sicrhau bod holl athrawon ac ymarferwyr addysg eraill newydd gymhwyso yn medru dysgu drwy'r Gymraeg, gan gynnig i bobl ddi-Gymraeg gymhwyso drwy ariannu ac integreiddio cyrsiau dysgu a gloywi Cymraeg yn y broses hyfforddi

    • Gosod lleiafswm o 25% o bynciau cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'r sector addysg (heblaw am y cyfnod cyn-ysgol, sylfaen ac addysg gynradd lle bydd targedau uwch)

    • Sefydlu amod ar arian cyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif, neu drwy reoliadau, na ddylai ysgol na sefydliad addysg newydd gael ei hagor gyda llai na 70% o'r addysg drwy'r Gymraeg

    • Cynnal y cyfnod meithrin drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig

    • Darparu 25% o brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

    • Darparu 25% o gyrsiau addysg i oedolion yn y gymuned drwy'r Gymraeg

    • Sicrhau bod Cymraeg i Oedolion yn creu o leiaf 7,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl (lefel uwch) newydd bob blwyddyn

 

  1. Ymhen yr ugain mlynedd nesaf, dylid:

    • Sicrhau addysg gynradd gyfan gwbl gyfrwng Cymraeg i bob plentyn

    • Gosod lleiafswm o 50% o bynciau cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'r sector addysg (heblaw am y cyfnod cyn-ysgol, sylfaen ac addysg gynradd lle bydd targedau uwch)

    • Darparu 50% o brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

    • Darparu 50% o gyrsiau addysg i oedolion yn y gymuned drwy'r Gymraeg

    • Sicrhau bod Cymraeg i Oedolion yn creu o leiaf 10,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl (lefel uwch) bob blwyddyn

 

  1. Ymhen y tri deg mlynedd nesaf, dylid:

    • Sicrhau addysg gyfan gwbl Gymraeg ym mhob rhan o'r sector addysg

    • Sicrhau bod yr holl brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

    • Darparu'r holl gyrsiau addysg i oedolion yn y gymuned drwy'r Gymraeg

    • Sicrhau bod Cymraeg i Oedolion yn creu o leiaf 13,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl (lefel uwch) bob blwyddyn

5. Cynllunio'r Gweithlu

5.1. Nodwn fod angen mesurau i gynllunio'r gweithlu llawer iawn yn well. Roedd hynny'n neges glir a ddaeth allan o'r broses o lunio ac ymgynghori ar ein dogfen 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg'. Rydym wedi argymell deddfu er mwyn gosod proses yn ei lle er mwyn datrys y problemau hyn yn ogystal â mentrau eraill megis ariannu prosiect Marchnad Lafur Gymraeg Mentrau Iaith Cymru.

5.2. Yn ein hymateb i'r strategaeth, hoffem roi sylw penodol i'r gweithlu addysg gan ei fod yr un o'r meysydd pwysicaf i'w cynllunio'n iawn os ydym am gyrraedd y targed 'miliwn'. Yn hyn o beth, mae'n bwysig nodi casgliadau adroddiad Furlong ynghylch y sefyllfa:

"... [mae'r] cymhellion ariannol a gynigir ar hyn o bryd i ymgeiswyr AGA yn fwy hael mewn rhai achosion yn Lloegr nag yng Nghymru. O ganlyniad, mae arweinwyr rhaglenni’n dweud bod rhai o’u hymgeiswyr gorau yn y diwedd yn dewis ymadael â Chymru i hyfforddi. Bydd llawer wedyn yn dewis cymryd swydd addysgu yn Lloegr hefyd."

Felly, mae system ar hyn o bryd, yn cyfrannu at allfudo rhai pobl o'r system addysg yng Nghymru. Allwn ni ddim fforddio colli pobl a allai fod yn dysgu drwy'r Gymraeg.

5.3. O ran y blynyddoedd cynnar, mae'n rhaid ehangu cynllun 'Cam wrth Gam' a gwneud y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer ymarferwyr yn y maes fel bod modd, dros amser, symud at ddarpariaeth uniaith Gymraeg.

5.4. Mae oddeutu 1,500 o athrawon newydd yn cael eu hyfforddi yng Nghymru bob blwyddyn ac mae tua 83% o'r rhai sy'n cael eu hyfforddi yn dod o Gymru, sy'n golygu eu bod nhw eu hunain wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Yn ôl ystadegau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru roedd 33.3% (12,292) o’r athrawon ar eu cofrestr ym mis Mawrth 2016 yn ‘siaradwyr Cymraeg', ond dim ond tua 27% sy'n datgan eu bod yn gallu dysgu drwy'r iaith, gyda chanran sylweddol llai yn dysgu drwy'r iaith (cyn lleied â 18% yn y sector uwchradd). Felly, mae seiliau cryf eisoes yn eu lle ar gyfer gwneud cynnydd cyflym yn nifer yr ymarferwyr addysg sy'n medru dysgu drwy'r Gymraeg ac sy'n gwneud hynny.

5.5. Er bod targedau gan Lywodraeth Cymru o ran cyfanswm y bobl sy'n cael eu hyfforddi drwy gynlluniau Addysg Gychwynnol Athrawon, nid oes targed o ran y ganran sy'n medru dysgu drwy'r Gymraeg. Mae'n rhaid sefydlu targedau i gynyddu'n sylweddol y ffigurau hyn gyda mentrau a chymhellion ariannol eraill er mwyn cynorthwyo sefydliadau i gyrraedd y targedau.

6. Hawliau – Cryfhau Mesur y Gymraeg
 

6.1. Rydym ar ddeall bod y Llywodraeth yn bwriadu cryfhau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn dilyn yr ymgynghoriad hwn ynghylch y Strategaeth Iaith. Rydym wrthi'n llunio ein polisi terfynol ynghylch cryfhau'r Mesur, ond mabwysiadwyd y polisi canlynol yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni:

"Noda'r Cyfarfod Cyffredinol:

(i) fwriad Llywodraeth Cymru i ddechrau ar y broses o gryfhau Mesur y Gymraeg ddechrau'r flwyddyn nesaf;

(ii) er gwaethaf cymhlethdod y gyfundrefn Safonau a'r mannau gwan amlwg ynddynt, bod nifer o gryfderau i'r gyfundrefn; a

(iii) bod allanoli a phreifateiddio yn ei gwneud yn holl bwysig bod y ddeddf iaith yn cwmpasu'r sector breifat gyfan.

Felly, creda'r Cyfarfod Cyffredinol y dylid cryfhau Mesur y Gymraeg, ac adeiladu ar y gyfundrefn Safonau, drwy:

(i) Sefydlu hawliau cyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg er mwyn sicrhau bod cyrff yn gwella yn barhaus o ran darparu gwasanaethau, llenwi’r mannau gwan anochel a ddaw yn sgil y Safonau, a sicrhau bod hawliau pobl i’r Gymraeg yn ddealladwy

(ii) Ymestyn y Mesur i weddill y sector breifat er mwyn normaleiddio a chryfhau defnydd y Gymraeg ym mhob rhan o fywyd

* gan enwi ar wyneb y Mesur fanciau, archfarchnadoedd, mân-werthwyr a chwmnïau sydd â throsiant uwch na ffigwr benodol fel blaenoriaethau tymor byr

* sefydlu grym a dyletswydd ar wyneb y Mesur i ychwanegu holl gyrff y sector breifat fel categorïau o berson y gellid eu hychwanegu at Atodlen 8 y ddeddfwriaeth

(iii) Sicrhau annibyniaeth penodiad y Comisiynydd gan y Cynulliad ac annibyniaeth cyllido oddi wrth y Llywodraeth

(iv) Sefydlu Cyngor y Gymraeg a chanddo gyllideb a chyfrifoldeb i hyrwyddo a hybu’r Gymraeg, gan ddiddymu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg a Phanel Cynghori’r Comisiynydd

(v) Fesurau i sicrhau mwy o swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol a chynllunio’r gweithlu’n llawer gwell; yn ogystal â chymryd camau i hyrwyddo i gyflogwyr bod y gosodiad, wrth hysbysebu swydd: 'Cymraeg yn Hanfodol i'r Swydd Hon' yn hollol gyfreithiol, ar ôl asesu anghenion y swydd.

(vi) Fesurau i amddiffyn a hybu gweithredu mewnol uniaith Gymraeg a gofodau eraill uniaith Gymraeg

(vii) Ddyletswydd i enwi adeiladau, tai, lleoedd a strydoedd yn Gymraeg mewn datblygiadau, ynghyd â diogelu enwau Cymraeg sy’n bodoli eisoes"

6.2. Gresynwn nad yw'r Llywodraeth wedi sicrhau bod Safonau'r Gymraeg wedi eu gosod ar gwmnï​​au telathrebu bron i chwe blynedd ers pasio Mesur y Gymraeg, er gwaethaf ymrwymiad yn y Strategaeth Iaith flaenorol i'w gweithredu erbyn mis Ebrill 2017. Mynnwn amserlen ar gyfer gweithredu yn y maes hollbwysig yma cyn gynted â phosibl.

6.3. Ni ddylai cynyddu'r pwyslais ar hyrwyddo'r Gymraeg ddod ar draul y gwaith hollbwysig o reoleiddio. Cytunwn fod angen sefydlu corff i hyrwyddo'r Gymraeg, ond ni dylai hynny olygu llai o wariant ar swydd Comisiynydd y Gymraeg, ac ni ddylid ei ddefnyddio chwaith fel esgus i wanhau Safonau'r Gymraeg.

7.Meysydd sydd ar goll yn y strategaeth

7.1. Mae angen i'r strategaeth ymdrin â'r canlynol, neu roi rhagor o bwyslais arnynt:

  1. Cynnwys lleiafrifoedd ethnig;

  2. Taclo tlodi;

  3. Yr economi, gan gynnwys ei heffaith ar leihau allfudo a chynyddu defnydd o iaith gwaith

  4. Pobl ifanc;

  5. Technoleg a Digidol; a

  6. Symudoledd Poblogaeth

8. Buddsoddi yn y Strategaeth

8.1. Er mwyn i'r strategaeth lwyddo, mae'n rhaid cael buddsoddi digonol. Rydym wedi amlinellu ein cynigion yn ein dogfen "Buddsoddi er mwyn creu miliwn o siaradwyr Cymraeg".

8.2. Yn gryno, rydym wedi galw am osod nod a dyddiad targed i gynyddu dros amser ganran y gyllideb ar brosiectau penodol i hyrwyddo'r Gymraeg o 0.16% o'r gyllideb i 1%. Fel cyfanswm, credwn fod angen, dros amser, dros £100 miliwn y flwyddyn er mwyn rhoi cynlluniau digonol ar waith yn iawn.

8.3. Yn ogystal, dylai'r strategaeth osod nod i bob corff cyhoeddus fuddsoddi 1% o'u cyllidebau mewn mentrau i hyrwyddo'r Gymraeg

8.4. Credwn fod angen i gyllidebau prif-ffrwd gael asesiad o'u heffaith ar y Gymraeg a gweithredu i sicrhau gwelliant yn sgil hynny. Er enghraifft, mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod gofal plant cyfrwng Cymraeg yn ganolog i'w hymrwymiad i ddarparu 30 awr o ofal plant am ddim, yn ogystal â sicrhau canran llawer uwch o'i 100,000 o brentisiaethau yn rhai cyfrwng Cymraeg.

9. Ymatebion i Gwestiynau’r Ymgynghoriad

 

Cwestiwn 1 – Ydych chi’n cytuno gyda’r dull o greu strategaeth hirdymor ar gyfer y Gymraeg?

Ydyn, ond mae angen gweithredoedd pendant er mwyn gwneud y strategaeth yn un ystyrlon.

Cwestiwn 2 – Ar wahân i filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, does dim targedau penodol ynghlwm wrth y strategaeth ddrafft hon ar hyn o bryd. Yn eich barn chi, a oes unrhyw dargedau neu gerrig milltir penodol y dylid eu defnyddio er mwyn mapio’r siwrne a mesur ein cynnydd tuag at filiwn o siaradwyr?

Oes, gweler Adran 3 uchod.

Cwestiwn 3 – Ydych chi’n cytuno’n gyffredinol â’r chwe maes datblygu a amlinellir yn y strategaeth – sef Cynllunio, Normaleiddio, Addysg, Pobl, Cefnogi, a Hawliau?

Gweler ein strwythur yn adran 2 uchod.

Cwestiwn 4 – Sut allwch chi gyfrannu at gyflawni’r weledigaeth sydd yn y strategaeth?

Byddwn ni'n parhau i bwyso ar y Llywodraeth a chyrff eraill i gymryd camau dewr ymlaen i gyflawni'r tri phrif nod yn ein dogfen 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 ymlaen' ac i newid agweddau at y Gymraeg.

Byddwn ni'n parhau i gynnal amryw o ddigwyddiadau cymdeithasol megis cyrsiau i ddysgwyr a gigs sydd ddim yn ddibynnol ar arian cyhoeddus.

Cwestiwn 5 – A oes amcanion neu gamau nad ydym wedi eu nodi yn y ddogfen hon y dylid eu cynnwys er mwyn gwella cynllunio mewn perthynas â’r Gymraeg?

Oes, gweler adran 7 uchod.

Cwestiwn 6 – Yn eich barn chi, sut arall allwn ni wella ewyllys da at y Gymraeg er mwyn ei “normaleiddio” ymhellach?

Gweler ein holl ddogfennau polisi diweddar. Ymhellach, gweler adran 6 uchod.

Fel dywedom uchod mae angen gofodau lle mai'r Gymraeg yw'r prif gyfrwng cyfathrebu ac mae'n rhaid ei bod wedi gwreiddio yn y gymuned, y gweithle a chyd-destunau eraill. Credwn fod angen cefnogi rhagor o gyrff cyhoeddus a phreifat, ynghyd ag adrannau mewn cyrff, i weinyddu'n fewnol yn Gymraeg.

Wrth reswm, mae’n rhaid buddsoddi mewn gweithgareddau ar lawr gwlad drwy fudiadau fel y Mentrau Iaith.

Croesawn sefydlu corff hyrwyddo'r Gymraeg ar wahân i Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae'n hollbwysig nodi nad yw ewyllys da, yn enwedig mewn meysydd fel y sector breifat, yn ddigonol ar ben ei hunan er mwyn sicrhau newid. Mae rhaid deddfu os ydym am weld gweld gwir welliant o ran normaleiddio'r Gymraeg mewn nifer o sectorau, yn enwedig busnesau mawrion preifat. Yn wir, mae'n rhaid derbyn nad oes ewyllys da gan rai cyrff a bod deddfu felly yn greiddiol.

Cwestiwn 7 – Beth arall sydd ei angen er mwyn trosi’r agweddau da sydd gan bobl at y Gymraeg yn siaradwyr?

Gweler ein dogfen 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 ymlaen' a'n hymatebion uchod. Wrth reswm, un elfen bwysig yw sicrhau bod pob plentyn sy'n gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn rhugl gyda'r gallu i weithio a byw eu bywydau drwy'r Gymraeg.

Cwestiwn 8 – A oes amcanion neu gamau nad ydym wedi eu nodi yn y ddogfen hon y dylid eu cynnwys er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Oes, gweler adrannau 4 a 5 uchod.

Cwestiwn 9 – A oes amcanion neu gamau nad ydym wedi eu nodi yn y ddogfen hon y dylid eu cynnwys er mwyn cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio Cymraeg?

Oes, gweler adran 6 uchod ynghyd ag argymhellion ein dogfen 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 ymlaen', yn enwedig y cynigion o ran cryfhau Mesur y Gymraeg, rhagor o gyrff yn gweithredu'n fewnol yn Gymraeg, neuaddau preswyl Cymraeg i fyfyrwyr, sefydlu Cronfa ar gyfer asedau cymunedol ac eraill.

Cwestiwn 10 – A oes amcanion neu gamau nad ydym wedi eu nodi yn y ddogfen hon y dylid eu cynnwys er mwyn rhoi gwell seilwaith i bobl ddefnyddio’r Gymraeg?

Oes, gweler ein hymateb uchod.

Cwestiwn 11 – A oes amcanion neu gamau nad ydym wedi eu nodi yn y ddogfen hon y dylid eu cynnwys er mwyn gwella hawliau siaradwyr Cymraeg?

Oes, gweler adran 6 uchod. Noder bod rhaid deddfu er mwyn creu, gwarchod ac ymestyn hawliau pobl i siarad Cymraeg.

Cwestiwn 12 – Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cyfres o bolisïau manwl mewn meysydd penodol dros gyfnod y strategaeth hon. Pa bolisïau ydych chi’n meddwl y dylem eu blaenoriaethu i’w cyhoeddi dros bum mlynedd cyntaf y strategaeth?

Mae'n bwysig bod unrhyw bolisi yn arwain at weithredu, nid oes diben cyhoeddi polisi er mwyn cyhoeddi polisi. Fodd bynnag, o ran materion polisi y mae angen gweithredu arnyn nhw, credwn fod y canlynol ymhlith y meysydd pwysicaf:

  1. Cynllunio'r Gweithlu

  2. Cynllunio'r Gweithlu Addysg

  3. Diweddaru a Chryfhau'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

  4. Polisi Buddsoddi'n Ariannol yn y Gymraeg

  5. Cynllun Gweithredu er mwyn symud at Addysg Gymraeg i Bawb

Yn ogystal, gweler Atodlen II isod o ran blaenoriaethau gweithredu.

Cwestiwn 13 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.

Gweler ein dogfennau a'n sylwadau uchod.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Hydref 2016

 

 

Atodlen I:

  1. Adroddiadau Allweddol sydd angen eu gweithredu

  1. Cynyddu nifer y cymunedau lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith (2013)

  2. Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd

  3. Un iaith i bawb: adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4

  4. Casgliadau'r Cynhadledd Fawr - Iaith fyw: dweud eich dweud

  5. Adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol

  6. Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Pwyllgor Addysg, Senedd Cymru)

  7. Fframwaith strategol olynol Mwy na geiriau.... ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol

  8. Mwy na geiriau - Fframwaith Strategol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol.

  9. Fy Iechyd, Fy Hawl – Ymholiad Comisiynydd y Gymraeg (2014)

2. Argymhellion Allweddol nas gweithredwyd

1.Grantiau - Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Gymraeg a Datblygu Economaidd:

"Mae'r Grŵp yn argymell y dylai fod yn ofynnol i fusnesau sy'n cael grant gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog. Dylai unrhyw arwyddion neu ddeunyddiau hysbysebu sy'n gysylltiedig â phrosiect sy'n derbyn cymorth grant fod yn ddwyieithog."

2.Addysg Gymraeg i Bawb – Adroddiad yr Athro Sioned Davies (2013):

"Argymhelliad 15

Llywodraeth Cymru i:

gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg."

3.Buddsoddi rhagor o arian yn y Gymraeg – Cynhadledd Fawr

"1.12

Cyllid ac adnoddau

Un thema gyffredinol, a chwbl allweddol, a fu’n rhedeg drwy’r holl gyfraniadau ym mhob cyfrwng oedd mater adnoddau. Nodwyd droeon, fod angen adnoddau digonol, gan gynnwys adnoddau cyllidol digonol, i weithredu’n effeithiol a dwyn y maen i’r wal.

Cafwyd galwadau cyson gydol y broses ar i’r Llywodraeth gynyddu ei buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg er mwyn sicrhau gweithredu effeithiol. "

4. Hawl i wasanaethau ar ffonau symudol yn Gymraeg – Strategaeth Iaith Llywodraeth Cymru (2012 – 2017)

Pwynt gweithredu 34 y strategaeth: "Gwneud safonau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar gwmnïau’r sector preifat sy’n rhan o gwmpas Mesur y Gymraeg, gan gynnwys cwmnïau telathrebu, gweithredwyr bysiau a threnau, a chwmnïau cyfleustodau..."

5.Cynnal Cymunedau Cymraeg - Grŵp Gorffen a Gorchwyl Llywodraeth Cymru: "Cynyddu nifer y cymunedau lle defnyddir y Gymraeg fel prif iaith" (2013)

Hybu datblygiad Bangor, Aberystwyth a Chaerfyrddin fel dinas-ranbarthau

Cysoni darpariaeth addysg 3-14 oed ledled Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin fel y daw pob disgybl yn rhugl ac yn hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cytuno ar dargedau i ehangu gweithlu dwyieithog a gweithredu mewnol dwyieithog gydag asiantaethau perthnasol o fewn i gwmpas Safonau’r Iaith Gymraeg

Cynyddu nifer y sefydliadau sy’n gweithredu’n fewnol yn Gymraeg

Cynyddu’r defnydd mewnol o’r Gymraeg fel cyfrwng gwaith a gweinyddu

Cynyddu hyder gweithwyr i ddefnyddio mwy o’u Cymraeg

Llywodraeth Cymru i ddarparu adnoddau digonol i sefydlu hyd at 6 o Gynlluniau Hybu’r Gymraeg mewn ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol arbennig.

 

Atodlen II. Blaenoriaethau Polisi: Prif Alwadau Polisi o'r ddogfen “Miliwn o Siaradwyr Cymraeg”

1. Deddfu er mwyn cynorthwyo gweithredu argymhellion adroddiad Yr Athro Sioned Davies ynghylch dysgu'r Gymraeg gan sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg, peth addysg cyfrwng Cymraeg i bawb a gosod targedau statudol eraill er mwyn gwella'r ddarpariaeth.

2. Ymrwymo i barhad y Coleg Cymraeg yn y tymor hir ac ymestyn ei gyfrifoldebau , gan gynnwys mesurau i annog myfyrwyr i barhau â'u hastudiaethau drwy'r Gymraeg, megis sefydlu amod ariannol drwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i sicrhau cynnal a chynyddu’r nifer o neuaddau Cymraeg eu hiaith boed hynny drwy brifysgolion neu’r Coleg Cymraeg.

3. Cyflwyno Bil Cartrefi Fforddiadwy i Bawb a fyddai’n cynnwys nifer o fesurau i wneud y stoc tai presennol yn fforddiadwy i bobl leol, ynghyd â gwreiddio’r gyfundrefn ar anghenion lleol, gan gynnwys sefydlu’r hawl i rentu, rhoi’r cyfle cyntaf i bobl leol brynu tai a sefydlu mai seilio datblygiadau ar anghenion lleol ddylai fod y prif egwyddor sy’n arwain ein polisïau tai ac eiddo.

4. Sefydlu Cronfa Ariannu Cynnal Gwasanaethau ac Adnoddau Cymunedol sy’n cynnig symiau cymharol fach o arian i grwpiau cymunedol er mwyn cynnal gwasanaethau a gofodau lle mai’r Gymraeg yw prif iaith y lleoliad neu grŵp

5. Sefydlu darlledwr aml-blatfform newydd

6. Diwygio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 er mwyn ymestyn ei sgôp, sefydlu hawl cyffredinol i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg a gwella’r broses o osod Safonau ar gyrff Gweithle

7. Cyflwyno Bil Cynllunio’r Gweithlu a fyddai sefydlu targedau a chyfrifoldebau clir er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg, gan adeiladu ar y farchnad lafur Gymraeg a arweinir gan Fentrau Iaith Cymru

8. Dylai unrhyw ad-drefnu Llywodraeth leol gynyddu’r nifer o awdurdodau sy’n gweithio drwy’r Gymraeg gan osod cymalau mewn deddfwriaeth er mwyn sicrhau hynny