Hyd yn oed gyda chymorth gan yr awdurdodau, ni fydd prynu ty yn ymarferol i bawb. Er engrhaifft, pan fo person yn derbyn budd-daliadau neu'n gweithio ar gytundeb tymor-byr, gall fod yn anodd iawn cael morgais. Yn wir, o ganlyniad i dlodi, cyflogau isel a phrisiau afresymol y farchnad, mae angen sylweddol am eiddo ar rent yng Nghymru.
Y Sefyllfa BresennolAr draws Prydain, ceir diwylliant eiddo sydd yn rhoi pwyslais mawr ar berchentyaeth. Ymhellach, caiff hyn ei adlewyrchu mewn polisi cyhoeddus sydd ddim yn rhoi digon o ystyriaeth i ddarparu tai ac eiddo ar rent. Yn wir, dwysaodd hyn dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd gwerthu tai cyngor heb i dai eraill gymryd eu lle yn y stoc ar rent.
Er engrhaifft, yn ôl Cyngor Bro Morgannwg, os bydd nifer y tai a gollir drwy'r Hawl i Brynu yn parhau ar y gyfradd bresennol, ni fydd tai cyngor ar ôl o gwbwl gan yr awdurdod ymhen deng mlynedd. Yn ôl Cyngor Gwynedd mae'r awdurdod wedi colli, ar gyfartaledd, 120 o dai y flwyddyn ers 1996. Golyga hyn fod yr Hawl i Brynu wedi gweddnewid cydbwysedd nifer o gymunedau, gyda rhai ystadau wedi eu tynnu o'r sector tai cymdeithasol yn gyfan gwbwl. Yn ogystal, golyga'r cynnydd cyson mewn prisiau mai nid dim ond cael eu tynnu o'r sector rhentu mae'r tai yma, ond eu bod hefyd yn dod yn fwyfwy anfforddadwy i bobl leol. Ymhellach, ni ellir dibynu ar y sector rhentu preifat i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth hon.
Wrth gwrs, mae gan y Cynllun Cymorth Prynu gyfraniad pwysig i'w wneud yn helpu pobl i gael mynediad i'r farchnad dai. Serch hynny, ni all y cynllun hwn fod yn ateb i bopeth. Mewn nifer o achosion ñ er engrhaifft pan fo diffyg tai fforddadwy neu pan fo person ar incwm isel ñ ni fydd pobl yn medru prynu ty hyd yn oed os ydynt yn medru menthyg tua 50% o'i bris. Pwysleisiwyd hyn gan Federasiwn Cymdeithasau Tai Cymru a nododd yn 2002:
...mewn rhai ardaloedd mae'r cynnydd mewn prisiau tai yn golygu nad yw'r Cynllun Cymorth Prynu yn opsiwn i unigolion ar incwm isel.
Er mwyn ceisio delio ’ sefyllfa o'r fath, mae'n hollbwysig ein bod yn darparu eiddo ar rent rhesymol i bobl leol. Yn ogystal, mae angen sicrhau bod rhentu yn opsiwn ymarferol a dymunol. Nododd y Sefydliad Tai Siartredig yr angen i gymryd camau o'r fath:
Tra bod mynd ar drywydd perchentyaeth i bawb yn cael y dylanwad mwyaf ar bolisiau ...... bydd y cyfle i dai ar rent gyfrannu at greu cymunedau sefydlog, cynaladwy a chytbwys yn cael ei golli.
O ganlyniad, cred Cymdeithas yr Iaith bod angen sefydlu'r 'Hawl i Rentu'.
Ar hyn o bryd, wrth ddarparu eiddo ar rent, defnyddir y rhan fwyaf o'r gyllideb gan Gymdeithasau Tai i adeiladu stadau newydd sydd yn aml wedi eu lleoli ar gyrion cymunedau. Ar y cyfan, nid yw'r polisi yma yn arwain at wneud y defnydd gorau o'r stoc dai bresennol yn enwedig mewn ardaloedd lle ceir canran uchel o dai gwag. Ymhellach nid yw adeiladu stad ar ôl stad o dai yn llesol o safbwynt cynaladwyedd cymunedol.
Yn hytrach, dylid anelu i ddarparu tai i'w rhentu o'r stoc presennol, oni bai fod honno'n anigonol neu'n anaddas. I'r perwyl hwnnw, cred Cymdeithas yr Iaith bod angen darparu mwy o adnoddau er mwyn galluogi'r Cymdeithasau Tai i brynu tai sydd ar werth yn ein pentrefi a threfi er mwyn eu gosod i deuluoedd lleol.
Camau GweithreduGalwa Cymdeithas yr Iaith ar y Cynulliad i gymeryd y camau canlynol er mwyn rhoi'r hawl i bobl leol gael cartref ar rent rhesymol ac mewn cyflwr boddhaol:
Yn ei gyllideb nesaf, dylai Llywodraeth y Cynulliad ddarparu cyllid ar gyfer cronfa newydd a fydd yn helpu pobl i rentu tai ac eiddo yn eu cymunedau lleol. Dylai'r gronfa hon alluogi cymdeithasau tai i brynu unedau sydd ar werth yng nghanol ein trefi a'n pentrefi a'u gosod i deuluoedd lleol. Yn ôl y drefn yma, byddai'r teulu yn gwneud cais i rentu ty sydd ar y farchnad ac yna byddai elfen o gymhorthdal trwy'r gronfa newydd i sicrhau rhent teg.
|