Rhagfyr 2 2013
Toriadau Arfaethedig Cyngor Rhondda Cynon Taf - Effaith Negyddol ar y Gymraeg
Annwyl Syr/Fadam,
Ysgrifennaf ar ran Rhanbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith Gymraeg er mwyn gwrthwynebu’r toriadau arfaethedig a amlinellwyd yn eich dogfen ymgynghori gan y byddant yn tanseilio defnydd a thwf yr iaith Gymraeg yn y sir. Fel mudiad, rydym yn gwrthwynebu llymder fel mater o egwyddor, ond rydym hefyd yn pryderu bod toriadau arfaethedig y Cyngor yn mynd i fwrw rhai o’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ac yn mynd i waethygu allgáu cymdeithasol.
Bydd y toriadau arfaethedig hyn yn cael effaith andwyol ac anghymesur ar y Gymraeg. Yn nyddiau’r dirwasgiad presennol, bydd rhieni yn cael eu gorfodi i anfon eu plant i’r ysgolion mwyaf cyfleus, yn hytrach nag ysgolion Gymraeg fel y dymunant, gan fod llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac felly maent yn dueddol o fod yn bellach i ffwrdd.
Felly, yn benodol, byddai diddymu trafnidiaeth am ddim i blant yn eu blwyddyn ysgol feithrin yn niweidiol i ysgolion cyfrwng Cymraeg achos bod yr ysgolion yn gyffredinol yn bellach i ffwrdd o gartrefi. Felly, byddai’r toriadau trafnidiaeth arfaethedig yn atal rhieni rhag dewis ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd yr amser a phellter ychwanegol ynghlwm â mynd â’u plant i’r ysgol.
Byddai torri gwasanaethau meithrin o 50% yn cael effaith ar ddatblygu’r Gymraeg ymysg plant o gartrefi di-Gymraeg. Mae yno brinder o lefydd meithrin llawn amser iaith Gymraeg yn yr ardal fel y mae. Byddai plant yn cael llawer llai o fynediad at yr iaith cyn dechrau ysgol.
Mae canran mawr o blant sydd yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Derbynnir taw trochi ieithyddol yn ystod blynyddoedd cynnar yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddysgu iaith, ac mae’r flwyddyn feithrin yn syrthio i’r band oedran lle mae plant yn sensitif iawn i ddatblygiad llafar. Byddai lleihau gwasanaethau yn gam yn ôl yn nhermau polisi’r awdurdod a fyddai’n golygu bod rhaid i athrawon a dysgwyr dreulio amser ac ymdrech ychwanegol yn hwyrach yn eu bywydau i gywiro’r diffyg.
Yn ogystal, byddai’r toriadau hyn hefyd yn arwain at gau llyfrgelloedd ac felly atal siaradwyr Cymraeg RhCT rhag cael mynediad at ddeunydd Cymraeg. Yn amlwg, byddai’r toriadau hyn yn amddifadu cenhedlaeth o blant rhag addysg a medru byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn gywir,
Euros ap Hywel
ar ran Rhanbarth Morgannwg-Gwent