Tribiwnlys y Gymraeg: Cyfarwyddiadau Ymarfer 1 a 2

[Cliciwch yma i agor y ddogfen fel PDF] 

Tribiwnlys y Gymraeg 

Cyfarwyddiadau Ymarfer 1 a 2 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

1.Sylwadau Cyffredinol 

1.1. Dylai fod hawl gan unigolion a chyrff dderbyn y wybodaeth, gan gynnwys papurau a thystiolaeth ar lafar, yn Gymraeg. Mae nifer o'r cymalau yn y cyfarwyddiadau ymarfer yn atal hynny rhag digwydd. Er enghraifft, drwy adael i gyrff ddarparu gwybodaeth yn uniaith Saesneg, bydd y Tribiwnlys wedyn, yn syml, yn ei drosglwyddo i'r partïon. Yn wir, gallai hynny olygu bod y Tribiwnlys yn caniatáu i gyrff dorri'r Safonau neu'u cynlluniau iaith wrth ymwneud â'r Tribiwnlys. Byddai sefyllfa'r o'r fath yn chwerthinllyd, felly mae'n rhaid diwygio'r cyfarwyddyd ymarfer.   

1.2. Dylai fod cydnabyddiaeth yn y cyfarwyddiadau i ddyletswyddau cyrff i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, a bod disgwyl iddynt gadw atynt wrth ymwneud  â'r TribiwnlysFel arall, gallai achosi sefyllfa gwbl ryfeddol, lle byddai gan gorff yr hawl i ddarparu papurau yn uniaith Saesneg drwy law'r Tribiwnlys er y byddai eu darparu yn uniaith Saesneg y tu allan i'r Tribiwnlys yn groes i'r Safonau y mae dyletswydd arnynt i gydymffurfio â nhw. Cyfyd y sefyllfa hon oherwydd camsyniad athronyddol o safbwynt llunio'r rheolau, rheolau sy'n seiliedig ar gydraddoldeb honedig rhwng y Gymraeg a'r Saesneg nad yw'n bosib ei gynnal heb wahaniaethu'n gadarnhaol o blaid y Gymraeg. 

1.3. Eto, mae'n destun siom nodi bod nifer o gymalau yn y cyfarwyddiadau yn cymryd yn ganiataol mai'r Saesneg yw iaith gyffredin y genedl, yn hytrach na'r Gymraeg. Nid yn unig mae hynny'n gweithredu'n groes i fwriad Mesur y Gymraeg, ond, ymhellach, nid yw'n wir am yr achosion ble mai'r Gymraeg yw'r iaith gyffredin. Os nad yw'r Gymraeg yn iaith ddiofyn a chyffredin yn Nhribiwnlys y Gymraeg, ble fydd hi? 

1.4Credwn fod Cyfarwyddiad Ymarfer yn enghraifft glasurol o'r modd mae safbwynt ryddfrydol yn tanseilio'r iaith leiafrifol drwy beidio cydnabod bod angen gwahaniaethu cadarnhaol o blaid yr iaith leiafrifol er mwyn sicrhau tegwch iddi. Nid oes ychwaith gydnabyddiaeth o'r anghydbwysedd grym rhwng unigolion a chyrff yn y cyfarwyddiadau. 

1.5. Creu hawliau i'r Gymraeg yw nod Mesur y Gymraeg (2011) Cymru, nid creu hawliau i ieithoedd eraill.  Yn hynny o beth, mae Rheolau'r Tribiwnlys a'r cyfarwyddiadau cysylltiedig yn anghyfreithlon ac ni fydd yn bosib eu cynnal o dan her sy'n apelio at egwyddorion y Mesur. Byddai felly'n gallach newid y cyfarwyddiadau nawr. Rhaid cofio mai un o brif egwyddorion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yw 'peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg'; nid yw egwyddor 'cydraddoldeb' rhwng y Saesneg a'r Gymraeg yn berthnasol bellach. 

2.Sylwadau Manwl - Cyfarwyddyd Ymarfer 1 

Cwestiwn 1 Dylid ychwanegu dewis i dderbyn gohebiaeth yn ddwyieithog gan fod rhai unigolion nad ydynt yn gwbl hyderus eu Cymraeg, a ceir sefydliadau lle mae gan rai unigolion alluoedd iaith gwahanol. Dylid ychwanegu dewis i dderbyn cyfathrebiadau mewn iaith arall heblaw am Gymraeg neu'r Saesneg hefyd er mwyn cyrraedd pobl sy'n siarad ieithoedd eraill.   

Cwestiwn 14b - gwall iaith: mewnosod "Dyfarniad gan y Comisiynydd fod methiant wedi bod i gydymffurfio â gofyniad safon" yn lle "Dyfarniad gan y Comisiynydd fod methiant wedi bod i i gydymffurfio â gofyniad safon;" 

3. Sylwadau Manwl - Cyfarwyddyd Ymarfer 2 

Cymal 8 - byddai'r paragraff yn ei ffurf bresennol yn galluogi cyrff, sydd o dan ddyletswydd i gydymffurfio â'r Safonau neu gynllun iaith, i gyflwyno cais yn Saesneg. Byddai hynny'n groes i fwriad Mesur y Gymraeg.  Hefyd, gallai olygu bod cyrff yn cael torri Safonau neu eu cynllun iaith wrth wneud cais i'r Tribiwnlys - sefyllfa ryfeddol a fyddai'n codi cwestiynau am gyfreithlondeb a hygrededd y broses. 

Argymhellwn ychwanegu brawddeg i'r paragraff fel ei fod yn darllen fel a ganlyn felly:   

"Rhaid cychwyn cais trwy gyflwyno hysbysiad cais ysgrifenedig i’r Tribiwnlys. Gall yr hysbysiad cais fod yn y naill iaith neu’r llall. Fodd bynnag, os yw corff yn ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith statudol neu wirfoddol, bydd disgwyl i'r cais gael ei gyflwyno yn Gymraeg. " 

Cymal 9 - yn yr un modd, byddai cymal 9 yn ei ffurf bresennol yn gorfodi'r Tribiwnlys gyfathrebu â cheisydd sy'n ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith yn Saesneg.  

Argymhellwn ychwanegu'r frawddeg i'r paragraff fel ei fod yn darllen fel a ganlyn:   

"Mae Rheol 12 yn rhagnodi’r wybodaeth y bydd yn rhaid ei chynnwys yn yr hysbysiad hwnnw, gan gynnwys yr iaith y mae’r ceisydd (neu gynrychiolydd y ceisydd) yn dymuno derbyn cyfathrebiadau oddi wrth y Tribiwnlys ynddi. Bydd y Tribiwnlys yn gweithredu’n unol â dewis y ceisydd (neu gynrychiolydd y ceisydd) oni bai fod y ceisydd (neu’r cynrychiolydd) yn hysbysu’r Tribiwnlys o ddymuniad i newid y dewis hwnnw. Fodd bynnag, os yw corff yn ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith statudol neu wirfoddol, bydd y Tribiwnlys yn cyfathrebu â'r ceisydd (neu gynrychiolydd y ceisyddyn Gymraeg." 

Cymal 10 - dylai'r Tribiwnlys weithredu'n fewnol yn Gymraeg, felly dim ond yn Gymraeg y dylid nodi manylion y ceisiadau. 

Cymal 12 - mae perygl y gallai'r geiriad presennol olygu bod dogfennau Saesneg gan gyrff sy'n ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith yn cael eu hanfon at y Comisiynydd yn Saesneg.  

Argymhellwn ddiwygio'r paragraff fel a ganlyn felly: 

"Bydd y copïau o’r hysbysiad cais ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig sy’n cael eu hanfon at y Comisiynydd yn gopïau o’r dogfennau hynny fel y daethant i law’r Tribiwnlys. Fodd bynnag, os yw corff yn ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith statudol neu wirfoddol, bydd y Tribiwnlys yn gofyn i'r corff ddarparu dogfennau  yn Gymraeg (oni bai bod darparu copïau gwreiddiol y dogfennau yn unig yn hanfodol er mwyn profi ffeithiau'r achos)" 

Cymalau 13, 14 a 15 - Dylid ychwanegu brawddeg er mwyn sicrhau mai'r Gymraeg yw'r iaith ddiofyn sy'n cael ei defnyddio wrth gyfathrebu â chyrff sydd â dyletswydd i gyfathrebu ag eraill yn Gymraeg. "Fodd bynnag, yn Gymraeg y bydd cyrff sy'n ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith statudol neu wirfoddol yn derbyn gohebiaeth oddi wrth y Tribiwnlys." 

Cymal 16 - eto mae perygl y gallai'r geiriad presennol olygu bod dogfennau Saesneg gan gyrff sy'n ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith yn cael eu darparu yn Saesneg. Felly dylid ychwanegu'r frawddeg ganlynol: 

"Fodd bynnag, os yw corff yn ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith statudol neu wirfoddol, bydd y Tribiwnlys yn gofyn i'r corff ddarparu'r holl ddogfennau hyn yn Gymraeg (oni bai bod darparu copïau gwreiddiol y dogfennau yn unig yn hanfodol er mwyn profi ffeithiau'r achos)" 

Cymal 17 - mae perygl y gallai'r geiriad presennol golygu bod dogfennau Saesneg gan gyrff sy'n ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith yn cael eu hanfon at bartïon eraill yn Saesneg.  

Argymhellwn ddiwygio'r paragraff fel a ganlyn felly: 

"Pan fydd Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn danfon copïau o’r dogfennau hynny at bartïon eraill (er enghraifft o dan Reol 22) byddant (yn ddarostyngedig i’r paragraff nesaf) yn gopïau o’r dogfennau hynny fel y daethant i law’r TribiwnlysFodd bynnag, os yw corff yn ddarostyngedig i Safonau neu gynllun iaith statudol neu wirfoddol, bydd y Tribiwnlys yn gofyn i'r corff ddarparu'r holl ddogfennau hyn yn Gymraeg (oni bai bod darparu copïau gwreiddiol y dogfennau yn unig yn hanfodol er mwyn profi ffeithiau'r achos)" 

Gwrandawiadau 

Cymal 19 - Credwn y dylid newid y rheol fel a ganlyn: 

"Cynhelir gwrandawiadau'r Tribiwnlys yn Gymraeg, ond gall tystion gyfrannu ar lafar at wrandawiad (partïon, cynrychiolwyr neu dystion) mewn iaith heblaw am y Gymraeg o wneud cais o flaen llaw. Er mwyn sicrhau hynny, bydd y Tribiwnlys yn darparu cyfieithu ar y pryd effeithiol o iaith arall i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r iaith arall ar gais."  

Cymal 20 - mae'n siomedig nodi nad ydy'r cymal hwn wedi rhoi ystyriaeth i'r dystiolaeth a roddwyd yn y sesiwn gynghori yn Wrecsam am gyfieithu ar y pryd y ddwy ffordd, fel sy'n arfer cyffredin ar gyfandir Ewrop. Credwn fod hawl gan bobl Cymru i dderbyn holl wybodaeth y Tribiwnlys yn Gymraeg boed hynny'n dystiolaeth ar lafar neu'n ysgrifenedig.  

Ymhellach, mae'r cymal hwn yn derbyn mai'r Saesneg yw iaith gyffredin Cymru yn hytrach na'r GymraegDyna'r union egwyddor y dylai Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, "peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg", ei atal rhag digwydd.  

Credwn y dylid ail-lunio'r cymal yn unol ag egwyddorion Mesur y Gymraeg gyda geiriad fel a ganlyn felly: 

"Gan mai yn Gymraeg y cynhelir gwrandawiadau'r Tribiwnlys, ni fydd yr hyn sy’n cael ei ddweud yn Gymraeg mewn gwrandawiad yn cael ei gyfieithu, fel arfer, i’r Saesneg. Ond os bydd tyst sydd am roi tystiolaeth yn Saesneg yn cael ei holi gan rywun sy'n ddefnyddio'r Gymraeg, bydd y cwestiynau’n cael eu cyfieithu i’r SaesnegNi chaiff parti neu gynrychiolydd holi yn Saesneg dyst sy’n ymddangos (yn ôl iaith datganiad ysgrifenedig y tyst hwnnw) ei fod am roi ei dystiolaeth yn Gymraeg. O dan amgylchiadau eithriadol lle nad oes modd i barti drefnu holi tyst yn Gymraeg, bydd y cwestiynau'n cael eu cyfieithu i'r Gymraeg." 

Cymal 21 - Dylid newid y cymal fel a ganlyn gan y dylai'r Tribiwnlys fod yn gweithredu'n Gymraeg yn unig, ond gan ddarparu gwybodaeth yn Saesneg ar gais.  

"Bydd y ddogfen sydd, yn unol â Rheol 47, yn cofnodi penderfyniad y Tribiwnlys, ac unrhyw atodiad sy’n cofnodi’r rhesymau dros y penderfyniad, yn Gymraeg. Bydd y Tribiwnlys yn darparu'r wybodaeth mewn ieithoedd eraill ar gais." 

18fed Medi, 2015 

Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg