Twitter - rhyngwyneb Cymraeg

7fed Tachwedd 2017

Annwyl Dara Nasr,

Ysgrifennaf atoch i ofyn ichi gadarnhau eich bwriad i gynnig rhyngwyneb Twitter yn y Gymraeg.   

Yn dilyn galwadau gan eich defnyddwyr, fe wnaethoch ychwanegu'r Gymraeg i'r ieithoedd yn eich canolfan cyfieithu yn 2012. Ers hynny, mae cannoedd o bobol wedi gwirfoddoli i gyfieithu a gwirio dros 12,000 o ddarnau o iaith y platfform.

Mae wedi dod i'r amlwg eich bod am gau'r ganolfan cyfieithu heb esboniad diwedd y mis. Rwy'n mawr obeithio y gallwch sicrhau na fydd holl ymdrech ac amser y gwirfoddolwyr Cymraeg yn mynd yn wastraff ac y byddwch yn ymrwymo i roi y cyfieithiad Cymraeg ar waith mor fuan â phosib.

Mae'r galw a'r angen am ryngwyneb a chydnabyddiaeth o'r Gymraeg gan Twitter yn fwy nag erioed. Mae ystadegau yn dangos bod dros 14,200 o gyfrifon Twitter yn defnyddio'r Gymraeg a'u bod wedi trydar tua 5.7 miliwn o droeon rhyngddyn nhw. Ymhellach, mae nifer o fusnesau yn awyddus i ddefnyddio'r Gymraeg i farchnata eu cynnyrch ond yn cael eu rhwystro rhag medru hyrwyddo eu trydariadau Cymraeg. Nodaf y buodd trosiant Twitter UK gwerth £79.4m yn 2016.  

Mae'n ymddangos y bydd Twitter yn parhau i fod ar gael mewn dros deugain o ieithoedd, gan gynnwys y Fasgeg, Gwyddeleg, Galiseg a Chatalaneg.  

Hoffwn wybod beth yw eich cynlluniau ar gyfer cyrraedd disgwyliadau defnyddwyr Cymraeg, os gwelwch yn dda.

I write to ask you to confirm your intention to offer Twitter's user interface in Welsh.    

Following calls from your users, you added Welsh to the languages in your translation centre in 2012. Since then, hundreds of people have volunteered to translate and check over 12,000 pieces of language for the platform.

It has come to my attention that you are closing the translation centre without explanation at the end of the month. I very much hope that to you can ensure that all the effort and time of Welsh language volunteers will not go to waste and that you will commit to putting the Welsh language translation to use as soon as possible.

The demand and the need for an interface and recognition of the Welsh language by Twiter is greater than ever. Statistics show that over 14,200 Twitter accounts use the Welsh language and that they have tweeted around 5.7 million times between them. Furthermore, a number of businesses are keen to use the Welsh language for marketing their products but are prevented from promoting their Welsh tweets. I note that Twitter UK's turnover was worth £79.4m in 2016.  

It appears that Twitter will continue to be available in over forty languages, including Basque, Irish, Galician and Catalan.  

I would like to know what your plans are for meeting the expectations of Welsh language users please.  

Yr eiddoch yn gywir,

Aled Powell

Cadeirydd, Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith

Copi at:

Comisiynydd y Gymraeg

Gweinidog y Gymraeg

Suzy Davies AC

Sian Gwenllian AC

Bethan Jenkins AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru