Darlith a draddodwyd yn fyw ar y we gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y Gell, Blaenau Ffestiniog ar Ionawr 15fed 2011, bron i hanner can mlynedd ar ôl darlledu darlith 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis ar y radio. Y nod oedd rhannu gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith ar sut i sicrhau Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy.
Hanner can mlynedd yn ôl, namyn blwyddyn, traddodwyd darlith a oedd i newid hanes yr iaith Gymraeg am byth. Darlith gan un dyn ydoedd, ond sbardunodd ei eiriau filoedd ar filoedd o bobl i wrthsefyll y bygythiad i'r iaith Gymraeg i fyw. Ie, trwy ddulliau chwyldro yn unig yr oedd llwyddo, a phenderfynodd ymgyrchwyr ifanc nad oeddent am ymostwng i'r drefn lygredig a oedd yn parhau i geisio cadw'r iaith Gymraeg yn ei lle. Gweithredwyd yn gadarnhaol o blaid newid. ymrwymwyd i'r dull di-drais gan beidio ag ateb trais â'r trais a ddangosodd y drefn i'r Gymraeg, ond gan fodloni i aberthu er mwyn cael cyfiawnder i'r iaith Gymraeg a chymunedau Cymraeg
Trwy'r gweithredu y bu Cymdeithas yr Iaith yn rhan ohono yn ystod yr hanner canrif ers traddodi Tynged yr Iaith, daeth ymwybyddiaeth a balchder newydd. Yn fwy na dim enillwyd hyder yn yr iaith Gymraeg, hyder o wybod nad iaith aelwyd ac iaith capel yn unig yw'r iaith Gymraeg, ond iaith a allai estyn ei hun i bob math o sefyllfaoedd fel unrhyw iaith arall. Roedd diwylliant y sin roc Gymraeg yn dangos sut roedd chwyldro'r iaith Gymraeg yn goresgyn rhagfarnau y rheiny oedd yn dweud nad oedd modd i'r Gymraeg ddod allan o'r aelwyd a'r capel. Taniodd Tynged yr Iaith ar weledigaeth y cenedlaethau wedi hynny, a gwn iddynt weld nad oes angen bodloni ar y drefn anghyfiawn ond fod modd, gyda'n gilydd, i drawsnewid sefyllfa er mwyn gadael i'r iaith Gymraeg i fyw. Yn fwy na dim, bu newid meddylfryd ymysg pobl Cymru a magwyd balchder yn yr iaith a'i diwylliant. Daeth y slogan 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg' yn rhywbeth i'w wireddu ym mhob maes o fywyd.
Trwy ymgyrchu dyfal a gwneud safiad dros y Gymraeg bu nifer o enillion. Mae'r enillion a fu yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn byw ar ryw ffurf. Ar ddechrau'r cyfnod newydd hwn, y gwir gwestiwn yw 'Pa fath o ddyfodol sydd i'n hiaith? Rydym ymhell iawn o sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol lawn y gellir ei defnyddio ym mhob agwedd ar fywyd. Ai ar ffurf symbolaidd yn unig y bydd ein hiaith yn byw? Ai diwylliant i leiafrif yn unig? Iaith y dosbarth neu iaith un neu ddau mewn swyddfa fydd y Gymraeg, yn hytrach nag iaith sy'n rhan o adfywiad cymuned gyfan. Ar hyn o bryd, dyma dynged yr iaith Gymraeg ac fe fydd y darlun yn gwaethygu. Dyma'r argyfwng sy'n ein wynebu ni nawr fel pobl sy'n caru'r Gymraeg. Rydym yn colli tir yn gyflym iawn.
Yn rhan o'r argyfwng sydd yn ein hwynebu ar hyn o bryd yw'r ffaith fod yr hyn sy'n cael ei weld yn cael ei wneud yn arwynebol yn unig - nid yw'n mynd yn ddigon pell. Nid yw'n Llywodraeth ni ein hunain yn gweithredu gyda gweledigaeth ac ysbryd. Maent yn gwneud digon i ymddangos eu bod yn mynd i wneud gwahaniaeth, yn addurno'u gweithredoedd â'r geiriau cywir i geisio tawelu lleisiau'r lleiafrif sydd am eu herio. Maent yn ein hargyhoeddi i gredu eu bod yn gwneud eu gorau dros ein cymunedau a'n gwlad. Dydy hynny mewn gwirionedd ddim gwell na'r siopau a'u harwyddion Cymraeg prin sy'n ein twyllo i feddwl eu bod yn cynnig gwasanaeth digonol i ni ac y dylen ni fod yn ddiolchgar amdano, nid ei gwestiynu na mynnu gwell. Gwelwn hyn o ddydd i ddydd:
- Cwmnïau sydd yn cynnig canran bach o dai yr honnir eu bod yn fforddiadwy mewn datblygiad tai newydd nad sy'n adlewyrchu galw yn lleol
- Cynghorau yn addo y caiff ysgol bentrefol ei chadw ar agor, ond bydd ysgol arall mewn cymuned gyfagos yn cael ei chau er mwyn i hyn ddigwydd - nid dim ond gweithredu yn arwynebol sydd yma ond rhoi dwy gymuned yn erbyn ei gilydd.
- Cynlluniau iaith sydd yn caniatáu i siopau enfawr ymfalchïo eu bod yn rhoi ambell arwydd Cymraeg yn eu siopau.
Does dim dwywaith fod y Gymraeg a'n cymunedau yn colli tir ers tipyn o amser. Rydym yn gweld y problemau sydd yn wynebu'r Gymraeg o ddydd i ddydd yn ein cymunedau a bellach maent yn rhywbeth rydym wedi arfer ag ef. Rydym yn dygymod â'r ffaith nad oes fawr ddim yn cael ei wneud am y peth. Er hynny nid yw anwybyddu'r sefyllfa yn mynd i ddatrys unrhyw beth, dim ond cadarnhau'r dynged yma, ac er bod yr heriau sydd yn wynebu ein cymunedau wedi newid cryn dipyn ers darlledu fersiwn gwreiddiol yr araith rydym yn dal i weld gwir argyfwng. Oherwydd hyn, mae angen araith 'Tynged yr Iaith' newydd er mwyn ein deffro i'r argyfwng newydd sy'n ein hwynebu.
Gadewch i ni ymhelaethu ymhellach ar natur yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae'r term 'dwyieithog' yn rhan o rethreg y Cynulliad a nifer o feysydd eraill wrth sôn am eu perthynas â'r Gymraeg. Fodd bynnag, profiad nifer o bobl yw nad yw'r Gymraeg yn ddim ond rhywbeth ymylol i nifer o'r cyrff sy'n honni eu bod yn ddwyieithog. Yn anorfod, ystyr y term dwyieithog yw mai Saesneg yw iaith y gwaith neu'r gweithgarwch a bod y Gymraeg yn ychwanegyn ar ben hyn, yn wasanaeth eilradd, yn un neu ddau arwydd, yn un neu ddau swyddog sy'n gallu delio â phobl sy'n achosi trafferth am y Gymraeg. Iaith ymylol yw'r Gymraeg yn y cyd-destun hwn.
Daw hyn yn amlwg mewn nifer o achosion. Yn achos cofnod y Cynulliad, penderfynwyd dileu'r cofnod ysgrifenedig Cymraeg ond cadw'r cofnod yn y Saesneg. Dyma neges glir oddi wrth ein sefydliad cenedlaethol fod y Saesneg yn hanfodol, ond nad yw'r Gymraeg yn hanfodol.
Yn y Mesur Iaith Gymraeg newydd, cafwyd consesiwn gan Lywodraeth y Cynulliad wrth iddynt gyfaddawdu o ran statws swyddogol ond gwrthodasant yr hawliau ymarferol i roi sylwedd i'r statws hynny. Mae hyn yn cadarnhau mai eisiau gweld yr iaith Gymraeg fel symbol yn unig y maent, heb roi arfau i bobl ddefnyddio'r iaith Gymraeg.
Ers 1993, preifateiddiwyd nifer o'r cyrff a oedd yn cynnig gwasanaethau Cymraeg, ac felly collwyd llawer o dir. Yn achos BT yn benodol, bu cyfnod lle'r oedd rhan helaeth o'u gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg i bawb . Bellach, rhaid gwneud cais arbennig am wasanaeth Cymraeg a datgelwyd y llynedd fod gwasanaethau Cymraeg yn costio mwy i'r defnyddiwr na gwasanaeth Saesneg. Yn achos y gwasanaethau telegyfathrebu newydd daeth môr o ddeunyddiau uniaith Saesneg. Y gobaith yw y byddai Comisiynydd Iaith Gymraeg newydd yn medru rhoi hawliau i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, ond nid yw siopau yn rhan o'r pwerau sydd gan y Cynulliad dros yr iaith Gymraeg felly hanner y job a wnaed. Mae'n llwyr ddibynnol ar bersonoliaeth y Comisiynydd yn awr oherwydd ef neu hi, ar y cyd â'r Cynulliad a fydd yn pennu gofynion gwasanaeth Cymraeg ar y sector telegyfathrebu. Fe fydd lobi fawr ar ran y cwmnïoedd telegyfathrebu yn ceisio gwanhau'r dyletswyddau a bydd dinasyddion eto wedi eu gadael heb hawliau i wneud yn si?r fod y gwasanaeth Cymraeg yn deg iddyn nhw.
Ym Mhrifysgol Bangor, mae prosiect ar y gweill o'r enw Pontio sydd yn fuddsoddiad yn y celfyddydau ym Mangor ac yn rhan o gynllun adfywio cymunedol. Dyma enghraifft o gynllun a allai gael ei weinyddu yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg, pe bai'r ewyllys i wneud hynny. Yn hytrach, mae'r rhan fwyaf o swyddi hyd yn hyn wedi eu nodi fel rhai lle nad oes rhaid cael unrhyw sgiliau Cymraeg i gael y swydd. Dyma enghraifft o'r perygl o'r tocenistiaeth sydd i'r iaith yn rhan o'r argyfwng rydyn ni'n ei wynebu nawr. Mae pob gweithgaredd, beth bynnag y bo'r maes, yn digwydd drwy gyfrwng iaith, ond dydyn ni byth yn dweud fod buddsoddiad yn fuddsoddiad iaith Saesneg, oherwydd dyna'r iaith de facto. Yr iaith Saesneg yw'r iaith economaidd felly nid yw'n cael ei farcio fel cyfrwng buddsoddiad. Mae gwaith sy'n digwydd drwy'r iaith Gymraeg yn tueddu o fod mewn bocs, neu'n is-gategori, gan bwysleisio nad iaith prif-ffrwd yw'r iaith Gymraeg.
Ym maes addysg, gwnaed llu o enillion oherwydd dycnwch rhieni i frwydro am addysg cyfrwng Cymraeg. Serch hynny, mae perygl yn awr y byddwn yn colli tir yn sgìl yr agenda addysg 14-19 oed, preifateiddio'r gwasanaeth gyrfaoedd, hyfforddiant yn y gweithle a'r rhuthr enfawr i gau ysgolion pentrefol Cymraeg. Nid yw'r Gymraeg yn cael ei gweld fel sgil addysg sy'n hanfodol ar gyfer byw yn y Gymru ddwyieithog hon. Rhaid optio i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg ac yn aml mae'n rhaid teithio allan o gymuned er mwyn gallu cael yr addysg honno. Yn fwyfwy, caiff y Gymraeg ei gweld fel cyfrwng addysg arbennig yn hytrach na chyfrwng byw.
Colli tir yr ydym ni yn sicr. Mae peryg i'r un buddugoliaeth mawr eiconig, sef y sianel Gymraeg, S4C. Bellach, mae'r sianel mewn sefyllfa anodd iawn oherwydd y toriadau sydd wedi eu gorfodi gan y Llywodraeth Geidwadol /Ddemocrataidd Rhyddfrydol yn Llundain. Dyfodol ansicr sydd gan y sianel ar hyn o bryd ar ôl iddi gael ei throsglwyddo i'r Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig. Os collwn y frwydr hon bydd yr holl adnoddau a ddynodir ar gyfer yr iaith Gymraeg mewn peryg. Nodwn nad dyma'r S4C y brwydrwyd yn hir amdani. Dylai'r buddsoddiad unigryw hwn i'r iaith Gymraeg fod yn ymwybodol iawn o'r rôl y gall chwarae i wireddu cymunedau cynaliadwy o'i reoli yn ddoeth a chyfiawn.
Yn yr un modd yr ymgyrchodd Cymdeithas yr Iaith am sianel Gymraeg yn y saithdegau fel bod y Gymraeg ar flaen y gad yn y cyfryngau, rydym ninnau angen sicrhau fod y Gymraeg yn gyfrwng yn yr oes ddigidol a'n bod yn defnyddio'r cyfryngau digidol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae angen gwneud yn fawr o'r posibiliadau newydd er mwyn parhad yr iaith yn y degawdau i ddod.
Rydym yn byw mewn degawd o doriadau ar draws gwledydd Ewrop - oherwydd tueddiadau a gormodeddau'r farchnad. Mae'r Gymdeithas yn chwarae rhan mewn brwydr draws-fudiadol yn erbyn y toriadau hyn yn gyffredinol: nid yw'n gyfiawn nac yn foesol i ddisgwyl i leiafrifoedd, y tlawd, a phobl ar yr ymylon i dalu am gamgymeriadau'r sector ariannol a'r llywodraethau oedd yn ei gwasanaethu. Er mai diffyg rheoleiddio'r farchnad rydd oedd wrth wraidd y dirwasgiad, yn groes i synnwyr cyffredin, mae llywodraeth y DG, yn ogystal â nifer o lywodraethau eraill, wedi ymateb i'r argyfwng drwy dorri ymhellach ar amddiffynfeydd y gwan yn wyneb tueddiadau cyfalafol. Roedd yn dderbyniol i adael i'r diwydiant glo, y glowyr a'u cymunedau, ddioddef a marw oherwydd anghenion y farchnad, ond nid y bancwyr. Gadewch i'r rhai ar yr ymylon ddioddef yn enw perffeithrwydd y farchnad, ond nid y rhai sydd yn ei rheoli!
Mae'r colli tir ar ei amlycaf os edrychwn ar ein cymunedau Cymraeg. Ni all neb wadu fod ein cymunedau ar drai o ganlyniad i lu o ffactorau, ac yn sicr fe fydd y cyfrifiad nesaf yn dangos y cwymp pellach yn y canran o siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau traddodiadol Cymraeg. Fel drych o'r hyn sydd wedi'i gyflawni o ran statws yr iaith, rydyn ni wedi ennill yr egwyddor - sef statws cynllunio i'r Gymraeg. Rhaid mynd yn ffurfiol trwy'r broses o ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg ym maes cynllunio, ond yn ymarferol mae grymoedd y farchnad yn yr economi ac ym maes cynllunio yn erydu cymunedau Cymraeg. Mae'r doethineb confensiynol yn pwysleisio pwysigrwydd tyfiant economaidd - ar unrhyw delerau - a gweithrediad dilyffethair y farchnad rydd. Golyga'r doethineb hwn mai anghenion y farchnad ac nid anghenion pobl a'u cymunedau sydd yn rheoli datblygiad economaidd. Mae'r drefn hon yn tanseilio cynaladwyedd ein cymunedau. Caiff grym ei ganoli i ffwrdd oddi wrth gymunedau lleol, a chwalu sail economaidd y cymunedau hynny ynghyd â rhagolygon yr iaith Gymraeg. Yr un grymoedd strwythurol sydd yn tanseilio cymunedau Cymraeg ag sydd yn bygwth pobloedd a'u diwylliannau a'u hamgylcheddau ar draws y byd. Mae ein brwydr yn wedd Gymreig ar frwydr fyd-eang dros drefn economaidd sydd yn gwasanaethu pobl yn hytrach nag yn eu rheoli. Cawn ein coloneiddio gan frandiau - anghenion a grëwyd gan y corfforaethau amlwladol sydd tu allan i'n cymunedau a thu hwnt i'n rheolaeth.
Yn wir, does dim rhaid i ni ddamcaniaethu am y dyfodol. Mae'r arwyddion gweladwy o'n cwmpas ym mhob man. Gallem gyfeirio at liaws o sefyllfaoedd trwy Gymru a tebyg yw eu stori:
Yn ein trefi, yn y gorffennol, byddai canol y dref yn ganolbwynt i fywyd y trigolion ac i'r wlad o gwmpas. Buasai'r masnachu oll wedi digwydd mewn siopau cymharol fach yng nghanol y dre - siopau a fyddai, gan fwyaf, dan berchnogaeth leol. Er na fyddai fawr ddim arwyddion Cymraeg, ni fyddai llawer o arwyddion o unrhyw fath; byddai'r sgwrsio yn Gymraeg yn nifer ohonynt a'r incwm yn aros yn y gymuned.
Mewn nifer o drefi erbyn hyn digwydd rhan helaethaf y masnachu tu allan i'r dref ei hun, mewn siopau mawr tebyg i Tesco a Morrisons. Siopau sydd yn cynnig popeth i bawb ac sydd yn denu cwsmeriaid lleol gydag addewidion o gynnyrch rhad ac yn eu tynnu o'r dref. Mae'r cwmnïau hyn yn rhoi peth statws symbolaidd i'r Gymraeg, digon er mwyn argyhoeddi cwsmeriaid eu bod yn gwneud eu rhan ond eto nad sydd wedi ceisio integreiddio o gwbl i'r gymuned. Mae'r holl waith difrifol o ddydd i ddydd yn digwydd drwy'r Saesneg. Mae'r trigolion lleol sydd yn gweithio yno yn gwneud y tro â swyddi isel eu statws a chyda nifer oriau bach iawn tra bod y staff sy'n rheoli yn dod o'r tu allan ac yn cael eu penodi yn ôl anghenion y siop i wneud arian, nid anghenion y bobl leol. Mae'r incwm a ddaw o bocedi lleol yn diflannu'n electronig o fewn eiliadau i gyfrifon yn Lloegr.
O gwmpas y siopau hyn y daw gwasanaethau newydd sydd yn gweld cyfle i wneud elw hawdd ac sydd hefyd yn ddwyieithog mewn enw ond yn Saesneg mewn sylwedd. Pan fydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu efallai y bydd adeilad Ysgol Gymraeg newydd hefyd yn creu ynys yn y dref newydd Saesneg ac yn tynnu plant o'r cymunedau o gwmpas. Efallai y daw mwy o dai hefyd - ond heb unrhyw ffocws cymunedol. Bydd rhai yn gwasanaethu gweithwyr 9-5 sydd ond yn drigolion yn ystod y nosweithiau; neu yn gwasanaethu fel ail-dai sydd ond yn gweld defnydd achlysurol. Nid yn unig y bydd y defnydd cymunedol o'r Gymraeg yn dirywio, ond hefyd yr holl ymdeimlad o gymuned. Ni fydd yma lawer o drigolion sefydlog, a bydd hyn yn arwain at golli'r gymuned sefydlog.
Mae canolbwynt - ac yn wir canol - y dref wedi symud pellter sylweddol i ffwrdd o Gymreictod a chymuned naturiol i fyd corfforaethol sydd yn talu gwrogaeth i'r Gymraeg ond sy'n hollol Saesneg yn ei hanfod. Hon bellach fydd 'y dref'.
Yn ôl at y dref wreiddiol, sydd efallai yn 'hen dref' dwristaidd a fydd yn weddol ffyniannus yn ystod yr Haf, ond bydd y siopau bach yn mynd a dod a newid yn aml, gan gau ar ôl i'w chwsmeriaeth dwristaidd adael am y tymor. Ambell siop gadwyn rad a siop angenrheidiol fydd yr unig siopau parhaol ac a fydd yn denu cwsmeriaid yn achlysurol. Ond mae'n debyg y bydd nifer o siopau gwag.
Mae posibilrwydd mai dim ond arian o gynllun i geisio adfywio'r dref fydd yn ei chynnal am rai blynyddoedd, nes i'r gronfa honno ddod i ben. Dirywio bydd hanes yr 'hen dref' wedyn.
Heblaw bod y dref yn rhan o ddatblygiad newydd i ddenu pobl nol i'r dref. Datblygiadau fydd yn golygu adeiladu ar gyrion y dref er mwyn cynnig 'gwell profiad' i gwsmeriaid wrth siopa. Siopau cadwyn fydd y rhain eto, siopau sydd yn rhan o'r meddylfryd o gynnig gwasanaethau dwyieithog arwynebol yn unig. Yn rhan o'r datblygiad hwn bydd llefydd bwyta a maes parcio yn rhan o'r pecyn er mwyn cadw pobl yn y dref, ond a fydd mewn gwirionedd yn cadw pobl yng nghlydwch y complecs. Eto, nid y dref go iawn fydd hon ond estyniad ohoni, a'r un fydd tynged y dref go iawn wrth i bobl gael eu tynnu oddi yno.
A dyma fydd tynged ein trefi, yn ddi-os. Realiti Cymru fydd y dref newydd ar gyrion realiti'r gorffennol - gyda pharch symbolaidd yn unig i'r Gymraeg a phopeth o sylwedd yn Saesneg. Heblaw i ni weld buddsoddiad go-iawn sy'n mynd ymhellach nag arian. Cyn i'r buddsoddiadau hyn ddigwydd rhaid i ni weld gwerth ein cymunedau - yn ei phobl a phopeth sy'n rhan ohoni - a deffro eraill i hyn.
Cwestiwn sylfaenol "Tynged yr Iaith 2" yw pa fath ar ddyfodol a fynnwn i'r iaith? Ai statws symbolaidd ac is-ddiwylliant mewn byd mawr Saesneg, neu a ydym am ddal ar y cyfle olaf hwn i frwydro dros fywyd llawn i'r Gymraeg a bywyd newydd i'n cymunedau ? Dyma'r argyfwng sy'n ein hwynebu, ac mae'n rhaid i'n hymateb fod yn deilwng ohonom fel pobl sy'n caru'r iaith ac eisiau iddi barhau. Rydym yn ymwybodol iawn nad yw un ddarlith yn mynd i ateb unrhyw beth. Yn hytrach, rydym eisiau i'r prynhawn yma fod yn ddechrau gweledigaeth hirdymor i'r Gymraeg. Gweledigaeth sy'n gweld y Gymraeg yn hanfod o bob rhan o fywyd Cymru. Rydym eisiau gweld ein cymunedau yn cael eu hadfywio law yn llaw ag adfywiad yr iaith Gymraeg. Yn y gorffennol rydym wedi cyhoeddi maniffesto gwleidyddol bob degawd er mwyn ymateb i'r oes honno. Ac yn ysbryd y dull di-drais cydnabyddwn nad oes gennym yr atebion i gyd. Dyna pam rydym yn awyddus i Tynged yr Iaith 2 fod yn faniffesto esblygol. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn dathlu hanner can mlynedd ers traddodi'r ddarlith wreiddiol a hanner can mlynedd ers i wreichion Cymdeithas yr Iaith ddechrau deffro meddyliau pobl i bosibiliadau'r iaith Gymraeg. Camwn yn awr i gyfnod newydd i ddeffro cymunedau cyfan i ail-afael yn y Gymraeg a mynnu ei bod yn byw fel iaith gymdeithasol. Ein bwriad felly yw edrych eto ar hanfod y frwydr ac ar Dynged yr Iaith. Nid oes neb yn gallu cymryd lle Saunders Lewis felly cywaith yw'r araith hon a chywaith hefyd fydd y weledigaeth ar gyfer dyfodol ein cymunedau. Rydym felly yn gofyn i holl bobl Cymru fod yn effro ac yn barod i dderbyn yr her o fod yn rhan o'r weledigaeth.
Dewch gyda ni i ddeffro cymunedau ledled Cymru, i ryddhau'n hunain oddi wrth ddisgwyliadau'r farchnad ac i osod ein disgwyliadau ein hunain am ddyfodol ein cymunedau. Ni ddylem adael i'n hunain fod yn ddarnau o wyddbwyll yn y gêm gyfalafol sydd yn dinistrio ein cymunedau. Arfogwn ein hunain yn ein cymunedau a rhoi gwerth ar gymuned a sylweddoli gwerth bob dinesydd sy'n byw yn y gymuned honno. Sylweddolwn o'r newydd heddiw rym y slogan a ddatblygodd dros ddegawdau o ymgyrchu - " Os yw'r Gymraeg i fyw, rhaid i bopeth newid." Gwir a ddywedodd Saunders fod angen chwyldro i achub y Gymraeg. Sylweddolwn o'r newydd beth yw maint y chwyldro.