Datganiad Carwyn Jones - Bwrw Ymlaen
Fel rhan o'ch cylch gorchwyl, gofynwyd i chwi ystyried dyfodol "Cymraeg Ail Iaith" yn y cwricwlwm, gan roi sylw i argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies "Un Iaith i Bawb".
Credwn fod sylwadau diweddar y Prif Weinidog ynghylch y ffordd yr addysgir y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn newid cyd-destun y drafodaeth ac yn awgrymu’n gryf y dylid addasu cylch gorchwyl yr adolygiad.
“Rydym hefyd wedi datgan yn glir bod rhaid i’r system gyfredol o addysgu a dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg newid. Mae’r Gymraeg yn rhan gwerthfawr o’n hunaniaeth a’n diwylliant, ac mae’n bwysig bod holl ddisgyblion Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg – yn cael cefnogaeth i siarad y Gymraeg yn hyderus.” – Prif Weinidog Cymru, "Bwrw Ymlaen", Mehefin 17, 2014
Gan fod y llywodraeth bellach yn derbyn fod yn rhaid i'r system newid, dylid diwygio eich cylch gorchwyl i argymell sut yn union y gellir mynd ati i unioni'r sefyllfa a gweithredu argymhellion yr Athro Sioned Davies.
Derbynnir yn gyffredinol bellach bod y Gymraeg yn etifeddiaeth gyffredin i bawb yng Nghymru. Ymestyniad ar hynny yw safbwynt y Gymdeithas ers blynyddoedd, sef bod hawl gan bawb yng Nghymru i allu siarad y Gymraeg a byw drwy gyfrwng yr iaith. Ni ddylai hap a damwain daearyddol yn y gyfundrefn addysg atal ein plant a'n pobl ifanc rhag gallu siarad Cymraeg.
Rhaid pwysleisio mai methiant addysgol yw trefn sy'n amddifadu'r mwyafrif o ddisgyblion Cymru o'r sgiliau hanfodol o fedru cyfathrebu a chyflawni eu gwaith yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Cydnabyddir gan adroddiad Sioned Davies, a bellach gan y llywodraeth ei hun, mai methiant yw'r holl drefn a chysyniad o "Cymraeg Ail Iaith".
Ers cyhoeddi ein papur ar ddileu Cymraeg ail iaith rydym wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol i'n syniadau. Mae datganiad diweddar Carwyn Jones uchod yn cefnogi yr un safbwynt. Er mwyn gwireddu datganiad y Prif Weinidog, mae angen gwireddu argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies fan lleiaf, gan ymestyn yr un egwyddorion i’r holl gwricwlwm.
Mae perthynas gymhleth rhwng cyfrwng a chynnwys addysg. Yn y Gymraeg cyplysir yn 'naturiol' 'iaith a diwylliant', mewn modd nad yw'n wir yn y Saesneg. Rydym yn dadlau dros addysg cyfrwng Cymraeg ond hefyd dros gynnwys Cymreig. Er bod cyfrwng a chynnwys yn gysylltiedig i bwrpas y cyflwyniad hwn fe'u trafodir, er cyfleustra, ar wahân.
Pwysigrwydd adroddiad yr Athro Sioned Davies
Yn 2013, edrychodd yr Athro Sioned Davies a'i grŵp o arbenigwyr yn fanwl ar sefyllfa addysg Gymraeg Ail Iaith ar ran Llywodraeth Cymru. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd rhybuddion yr Athro Davies, sydd bellach wedi eu cyfeirio atoch gan y Llywodraeth:
“Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”
“Rydym yn gwbl argyhoeddedig bod rhaid gwneud newidiadau sylfaenol ... er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ac er mwyn datblygu gweithlu dwyieithog at y dyfodol, ond yn fwy na dim er mwyn rhoi cyfle go iawn i bob plentyn yng Nghymru ddod yn rhugl ac elwa ar yr holl fanteision a ddaw yn sgil hynny.”
“Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith”
Cytunwn ag argymhellion grŵp yr Athro Davies. Credwn, wrth edrych ar y cwricwlwm yn ei gyfanrwydd, bod angen derbyn a gweithredu ar y prif argymhellion canlynol yn yr adroddiad, sef argymhellion 6 a 15:
“Argymhelliad 6 - Llywodraeth Cymru i adolygu’r rhaglen astudio Cymraeg, dros gyfnod o dair i bum mlynedd, a defnyddio’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm diwygiedig gan gynnwys:
-
un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer
-
disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog; a chanllawiau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant.
O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith."
“Argymhelliad 15 - Llywodraeth Cymru i: ddatblygu canllawiau arfer orau ar ddefnyddio Cymraeg y tu allan i wersi Cymraeg yng ngweithgareddau ysgolion, ac ar ddefnyddio Cymraeg ar draws y cwricwlwm, yn seiliedig ar y prosiect peilot i ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.”
Gresynwn yn fawr at ymgais Llywodraeth Cymru i gladdu argymhelliad 15 gan honni bod y gwaith eisoes ar y gweill yn ei hymateb ffurfiol i'r adroddiad: "Bydd consortia ac awdurdodau lleol yn parhau i osod targedau priodol ar gyfer gwella darpariaeth Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg drwy eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg."
Nid oes targedau i sicrhau 'mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg' yng nghynlluniau presennol y Llywodraeth. Nid yw'r ymgais honedig i 'osod targedau priodol i wella darpariaeth' yn gyfystyr o gwbl â sicrhau rhagor o ddysgu cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Yn wir, mae hon yn enghraifft glasurol o'r Llywodraeth yn ceisio esgus ei bod yn gweithredu argymhelliad pan nad oes bwriad ganddi ei weithredu mewn gwirionedd.
Bydd rhaid i'r adolygiad felly ystyried adroddiad yr Athro Davies yn ei gyfanrwydd a pheidio â chymryd yn ganiataol mai dim ond yr argymhellion a gyfeiriwyd at yr adolygiad gan y Llywodraeth sy'n berthnasol i gylch gwaith yr adolygiad.
Ein Safbwynt
Dylid darllen y pwyntiau hyn ochr yn ochr â'n tystiolaeth i'r adolygiad a arweiniwyd gan yr Athro Sioned Davies y gallwch ei weld yma.
Yr ydym yn falch fod gan Gymru bellach y gallu i ffurfio, a deddfu ar, gwricwlwm a fydd yn codi safonau addysg ac yn grymuso disgyblion ysgol gyda’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol i sicrhau y gallant gyfrannu at y Gymru newydd tra’n magu persbectif byd-eang.
Dylid sicrhau fod pob disgybl yn ymadael â’r ysgol gyda’r gallu i gyfathrebu a chyflawni gwaith yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mewn trydedd iaith a fydd yn amrywio o ysgol i ysgol yn ôl adnoddau. Mae’r nod o sicrhau fod pob dinesydd yn Ewrop yn dairieithog yn rhan o’r hyn a elwir yn Gytundeb Barcelona (gweler paragraff 7 o’r adroddiad hwn). Methiant addysgol yw’r drefn bresennol lle caiff cyfran sylweddol o ddisgyblion Cymru eu hamddifadu o’r sgil hanfodol o fedru cyfathrebu a thrin eu gwaith yn y Gymraeg a’u hallgáu felly o nifer o bosibiliadau economaidd a diwylliannol o ganlyniad i gwricwlwm sy’n dwyn yr enw sarhaus “Cymraeg Ail Iaith”. Nid yw hyn yn dderbyniol mewn gwlad ddwyieithog, fodern gan fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru. Yr ydym yn siomedig iawn na welodd y llywodraeth yn dda i drin y broblem hon – a amlygwyd yn Adroddiad yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan y llywodraeth ei hun – fel rhan o Gam 1 yr adolygiad cwricwlwm, oherwydd dylai gwella sgiliau llythrennedd a chyfathrebu olygu gwella sgiliau yn y ddwy iaith i bob disgybl. Trosglwyddwyd y mater yn awr i’ch pwyllgor chwi i unioni’r cam, a chymerwn y byddwch yn cydnabod yr arbenigedd a fu wrth wraidd creu argymhellion yr Athro Sioned Davies.
Galwn felly am sefydlu continwwm lle bydd pob ysgol yn symud tuag at gyflwyno peth o’r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg, a chyhoeddi mai’r bwriad fydd dileu’r cysyniad o “Gymraeg Ail Iaith”.
Rhaid gweithredu'r newid o'r oedran cynharaf gan mai dyna pryd y gellir sicrhau fod disgyblion yn caffael iaith yn fwyaf llwyddiannus. Pwysleisiodd adroddiad Sioned Davies nad oedd modd edrych ar Gyfnodau Allweddol 3 a 4 yn unig gan mai cyfyngedig fyddai'r llwyddiant heb gychwyn yn y Cyfnod Sylfaen, ac wedyn adeiladu ar hynny trwy ddatblygu sgiliau iaith. Ar hyn o bryd mae methiant i sicrhau dilyniant mewn addysg Gymraeg o'r cynradd i'r uwchradd gyda lleihad sylweddol yn y canrannau sy'n dilyn addysg cyfrwng Cymraeg wrth drosglwyddo i'r ysgolion Uwchradd. Yn wir, mae colli tir mewn rhai siroedd lle bo disgyblion rhugl yn y Gymraeg yn mynd i ysgolion Uwchradd nad ydynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn dilyn cwrs ail-iaith yn lle iaith gyntaf.
Mae methiant i gychwyn addysgu disgyblion i fedru cyfathrebu'n Gymraeg yn yr oedran cynharaf mewn gwirionedd yn ddedfryd oes i'w hamddifadu o'r sgil gan na all unrhyw raglen "Cymraeg i Oedolion" unioni'r cam. Tua 1% (os hynny) o'r boblogaeth ddi-Gymraeg sy'n llwyddo i ddod yn rhugl fel oedolion. Mae'n amhosib cynyddu'r ganran honno gan mai dim ond cyllid ar gyfer hynny a geir o du'r llywodraeth. Petai 5% o boblogaeth 18+ Cymru'n sydyn iawn yn penderfynu mynychu dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion byddai'n amhosib i gyrff Cymraeg i Oedolion ymdopi â hynny yn ariannol. Mae addysg Saesneg yn ddedfryd oes i'r mwyafrif. Yr unig ffordd i sicrhau tegwch cymdeithasol yw trwy sicrhau fod pob disgybl yn rhugl cyn gadael yr ysgol.
Mae hefyd dadleuon addysgol cryf dros sicrhau fod ein holl ddisgyblion yn caffael y Gymraeg. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos fod dwyieithrwydd yn gaffaeliad addysgiadol ac yn effeithio'n gadarnhaol ar ddeallusrwydd cyffredinol. Cyfeiriwn eich sylw at ymchwil yr Athro Jim Cummins (Adran Cwricwlwm, Addysgu a Dysgu Prifysgol Toronto) a gyflwynwyd i'r gynhadledd yng Nghaerfyrddin Medi 2013 ac i ymchwil a gyhoeddwyd gan Viorica Marian yn "Science Daily" Mai 20 2009 dan y teitl "Exposure to two languages carries far reaching benefits". Addysg o leiaf ddwyieithog sydd yn y gwledydd sydd ar ben rhestr cyrhaeddiadau PISA.Yr hyn a gynigiwn yw nid llai na’r norm rhyngwladol. Mae ystadegau llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn nodi'n glir fod Cymry dwyieithog yn llawer mwy tebygol o feddu ar gymwysterau uwch na Cymry uniaith Saesneg. Cyfeiriwn sylw at Bwletin Ystadegol SB 109/2013 - Siart 17 yn arbennig.
Cydnabyddwn y bydd angen ffurfio rhaglen i weithredu hyn dros gyfnod rhesymol o amser gan roi ystyriaeth briodol i ddarpariaeth adnoddau dysgu, athrawon cymwys, a chan gydnabod y bydd gwahanol siroedd o Gymru’n symud tuag at y nod ar wahanol gyflymdra a chan amlinellu camau cychwynnol gan gynnwys cynlluniau peilot.
O ran sicrhau fod athrawon yn gymwys i weithredu hyn, dylid symud tuag at drefn lle bydd cymhwyster i addysgu yng Nghymru’n cynnwys y gallu i gyflwyno addysg yn Gymraeg. Bydd angen llunio cyrsiau hyfforddiant dwys mewn swydd ar gyfer athrawon presennol. Gellid cychwyn yn y meysydd/pynciau y byddai angen eu cyflwyno'n gyntaf trwy gyfrwng y Gymraeg e.e. Addysg Gorfforol, Astudiaethau Bro ac ati. Er mwyn i hyn fod yn effeithiol bydd yn golygu rhyddhau athrawon o’u dyletswyddau addysgu, ar batrwm y Cynllun Sabothol, er mwyn cael hyfforddiant i ddod yn siaradwyr Cymraeg ac wedyn i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Credwn y byddai angen chwe mis o hyfforddiant dwys amser llawn i gyflawni hyn. Er mwyn gwireddu’r cynlluniau uchelgeisiol hyn mae angen gweledigaeth ac arweiniad. Er mwyn hybu datblygiad proffesiynol, dylid trosglwyddo cyfrifoldeb am hyfforddiant athrawon i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Gellir canfod adnoddau ariannol tuag at y gwaith trwy sianelu llawer o’r gwariant presennol ar “Gymraeg i Oedolion” at bobl a fydd yn addysgu eu hunain (Gweler ein papur tystiolaeth i'r adolygiad o ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion).
O ran darpariaeth adnoddau dysgu, galwn am greu Canolfan Genedlaethol Adnoddau Addysgu Cymraeg – a all fod yn aml-safle – a hynny ar unwaith.
Mewn ardaloedd lle daeth addysg gynradd Gymraeg yn norm i bob disgybl, y blaenoriaethau i ddechrau fydd:
(1) Sicrhau cyfundrefnau i barhau hyn at y sector uwchradd ac oedran 14-19 trwy sicrhau:
a. cynnydd yn nifer yr ysgolion uwchradd sy'n dysgu o leiaf 80% o'r cwricwlwm i bawb yn Gymraeg
b. llunio rhaglenni i symud ysgolion uwchradd 2b i fod yn rhai 2a i ddechrau trwy gofrestru'n ddi-ofyn pob disgybl a ddaw o ysgol gynradd Gymraeg mewn ffrwd Gymraeg
(2) Sicrhau trefniant o leiaf mor effeithiol â threfniadau presennol Gwynedd i gymhathu hwyr-ddyfodiaid mewn canolfannau arbennig cyn eu dychwelyd at eu hysgolion cymunedol;
(3) Rhaglen frys i sicrhau fod yr ysgolion cynradd ac uwchradd Saesneg yn y siroedd hyn yn dechrau cyflwyno peth o'u cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg fel bod llai o gymhelliant i rieni symud plant o'u cynefin at ysgol uwchradd o'r fath;
(4) Sicrhau nad yw Colegau'n dyfarnu fod unrhyw fyfyriwr wedi cwblhau cwrs yn llwyddiannus heb ddangos y gallu i gyflawni'i waith yn Gymraeg;
(5) Sicrhau bod Colegau a darparwyr preifat yn parchu polisïau iaith ysgolion y maent yn trefnu cyrsiau ynddynt.
Mewn siroedd eraill dylid gweithredu fel a ganlyn:
(1) Estyn y rhwydwaith o ysgolion penodedig Cymraeg fel bod y dewis a'r gallu ymarferol gan rieni o sicrhau fod eu plant yn gallu ymdrochi'n llwyr yn y Gymraeg;
(2) Dileu'r pwnc "Cymraeg Ail Iaith". Bydd pob myfyriwr yn astudio "Cymraeg" fel yr astudiant "Saesneg" ac anelir at wahanol raddau o hyfedredd yn y Gymraeg;
(3) Mewn ysgolion heblaw am y rhai penodedig Cymraeg (yn y sector cynradd ac uwchradd, er y gall fod mwy o bwyslais i ddechrau ar y cynradd) fod symud o fewn blwyddyn i ddechrau cyflwyno peth o'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyfeirir yn enghreifftiol at Addysg Gorfforol a Thechnoleg. Ar lefel cynradd, cynigir y dylid dysgu Astudiaethau "Bro" yn Gymraeg - a hynny er mwyn gwreiddio ymlyniad y disgybl tuag at yr iaith yn ei gynefin. Fel hyn y daw pob disgybl i fedru defnyddio'r Gymraeg. Anelir yn y pen draw at drefn lle bydd pob ysgol yn dysgu lleiafswm o 30% o'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn yr ardaloedd hynny felly sy'n ddigon poblog i gynnal dewis rhwng gwahanol fodelau, y dewis fyddai rhwng ysgolion sy'n addysgu 80%-100% o'r cwricwlwm yn Gymraeg a rhai sy'n addysgu 30% trwy gyfrwng y Gymraeg. Terfynir y drefn gostfawr ac aneffeithiol o gael ffrydiau cyfochrog Cymraeg a Saesneg yn astudio'r un pynciau yn yr un ysgol. Ni byddai dewis o amddifadu disgybl o'r sgil addysgol hanfodol o fedru trin ei waith yn Gymraeg - yn yr un modd a na fyddai'n dderbyniol i amddifadu disgybl o'r gallu i drin gwaith yn Saesneg na'i amddifadu o sgiliau technoleg gwybodaeth. Cydnabyddir y Gymraeg yn gyfrwng hanfodol;
(4) Rhoddid rhybudd, o fewn amserlen resymol, na byddai cefnogaeth gyllidol gyhoeddus i unrhyw gylch meithrin a oedd yn rhagfarnu'n erbyn y Gymraeg.
Bydd oblygiadau deddfwriaethol i nifer o’r argymhellion hyn ac angen dull democrataidd sy’n cynnwys graddfa ddigonol o atebolrwydd i weithredu’r trawsnewid. Collwyd arbenigedd nifer o gyrff addysgol a fu, ac aeth llawer o gyfrifoldebau ar wasgar i’r sector preifat. Mae hyn oll yn milwrio’n erbyn unrhyw gynllunio deallus a chydlynus.
Un o effeithiau creu dwyieithrwydd ac amlieithrwydd gweithredol fydd codi safonau addysgol yng Nghymru. Mae ymchwil wedi dangos mai caffael iaith yw’r cam unigol mwyaf y gellid ei gymryd i ddatblygu sgiliau addysgol – yn wir, addysg ddwyieithog (o leiaf) sydd i'w gweld yn y gwledydd sydd ar ben rhestr cyraeddiadau PISA. Dyma osod agenda Gymreig mewn cyd-destun rhyngwladol; yr hyn a gynigiwn yw nid llai na’r norm rhyngwladol.
Addysg ar gyfer democratiaeth gyfranogol yng Nghymru
Mae Cam 2 yr Adolygiad Cwricwlwm hefyd yn gyfle i weddnewid cynnwys a dull cyflwyno’r cwricwlwm fel bod pobl ifainc yn cael eu grymuso gyda’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol i ddeall a gwybod sut i gyfranogi o’r ddemocratiaeth Gymreig newydd, ar lefel genedlaethol ac ar lefel gymunedol.
Mae hyn yn amserol iawn gan fod diffyg democrataidd ar lefel genedlaethol gyda llai a llai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a dirywiad ac allfudiad o lawer o’n cymunedau lleol. Mae angen cwricwlwm Cymreig newydd a dull newydd o’i gyflwyno er mwyn adfywio Cymru a’n cymunedau.
Bu dirywiad mawr o safbwynt hyn yn addysg Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn gynnar yn y 1990au, sefydlwyd “Dealltwriaeth Gymunedol” fel un o’r themâu trawsgwricwlaidd yng Nghymru (“Dinasyddiaeth” oedd y thema gyfatebol yn Lloegr). Dros yr 20 mlynedd, bu dirywiad mewn addysg drawsgwricwlaidd a meithrin sgiliau i edrych ar “ddarluniau mawr”, ac mae pob “llwyddiant” wedi’i fesur yn fwyfwy yng nghyd-destun cul pynciau. Mae angen troi’r llanw yn awr. Mae hyn yn berthnasol iawn i gylch gorchwyl yr adolygiad hwn gan ei fod yn cyfeirio at argymell "sut y mae disgyblion yn gallu llwyddo fel dinasyddion yn y byd...".
Galwn am rymuso disgyblion gyda’r wybodaeth hanfodol am weithrediad cyfundrefnau a thueddiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol sy’n effeithio ar fywydau eu cymunedau a meithrin ynddynt sgiliau beirniadol o gasglu a dadansoddi tystiolaeth, ffurfio barn, gweithredu mewn tîm a dealltwriaeth o sut i ddylanwadu. Rhaid bod cynnwys Cymreig i fframwaith cenedlaethol ar gyfer cwricwlwm cymunedol, sy’n gosod y cyfan mewn cyd-destun rhyngwladol. Bydd angen gwybodaeth o’r Gymraeg a’r Saesneg i ddeall y ffynonellau a dealltwriaeth gynyddol o drydedd iaith i feithrin y persbectif rhyngwladol.
Galwn am ddatblygu adnoddau dysgu digidol blaengar ar lefel genedlaethol a chymunedol gan dynnu ar arbenigedd S4C, cwmnïau teledu annibynnol a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Galwn am ddatblygu ysgolion yn rhan o adnoddau cymdeithasol ar gyfer addysg gydol oes a datblygu cymunedol.
Grŵp Addysg
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Mehefin 2014
Cwestiynau'r Holiadur
Cynigiwn yn ychwanegol sylwadau mewn ymateb i nifer o'r cwestiynau ar eich holiadur ond pwysleisiwn fod ein prif dystiolaeth i chwi uchod, ac mae'r rhesymeg sy'n sail i'r ymatebion hyn yn gynwysiedig ym mhrif gorff ein tystiolaeth.
C1a. Ar wahân i gymwysterau, beth yw’r tri pheth mwyaf pwysig y dylai pobl ifanc eu cael o ganlyniad i’w hamser yn yr ysgol?
1) Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg
2) Dealltwriaeth ar sut y medrant ddylanwadu ar benderfyniadau mewn democratiaeth gymunedol a chenedlaethol.
3) Magu perspectif rhyngwladol ac yn dysgu trydedd iaith yn rhan o'r datblygiad hwn.
C2a. Beth yw’r tri pheth gorau am addysg yng Nghymru?
1) Fod dal rhyw elfen o reolaeth ddemocrataidd ar addysg yng Nghymru - o'i gwrthgyferbynnu a'r dren dameidiog sydd yn Lloegr gydag ymyrraeth gynyddol gan fuddiannau'r sector breifat
2) Fod cyfranogiad cryf gan rieni a chymunedau lleol yn addysg y disgyblion - er bod hyn yn cael ei wanhau gan gamau i gau ysgolion cymunedol a phentrefol gan ganoli addysg.
3) Fod elfen o ddwyieithrwydd yn ehangu gorwelion a deallusrwydd disgyblion, ac mae angen ymestyn hyn at pob disgybl.
C2b. Beth yw’r tri phrif beth sydd angen eu newid i wella addysg yng Nghymru? Sut fyddech chi’n mynd ati i’w newid?
1) Sicrhau fod yr holl ddisgyblion yn caffael y Gymraeg
2) Cyflwyno cwricwlwm yn fwyfwy trwy addysg drawsbynciol er mwyn datblygu sgiliau dadansoddi a beirniadu a dod i gasgliadau ymhlith disgyblion. Mae seilio addysg ar bynciau unigol yn cyfyngu ar y sgiliau hyn.
3) Magu perspectif cydwladol, a chynigiwn yn gyfraniad at hyn yr angen am ddysgu trydedd iaith
C3a. Faint o ryddid ddylai ysgolion ei gael i benderfynu ar yr hyn y dylen nhw fod yn ei addysgu?
Y rhyddid i gyflwyno'r cwricwlwm trwy ddealltwriaeth o'r gymuned leol, ac fel y mae tueddion cenedlaethol a rhyngwladol yn effeithio arni.
C4a. Yng Nghymru, mae plant 3 i 7 oed yn astudio Meysydd Dysgu eang yn y Cyfnod Sylfaen. Yn dilyn hyn ceir ffocws ar bynciau unigol am weddill eu haddysg gynradd ac uwchradd. Ydych chi’n meddwl mai dyma’r ffordd iawn i drefnu ein cwricwlwm?
Am y rhesymau a roddir yng nghorff ein tystiolaeth, gwrthwynebwn yn bendant y bwyslais ar bynciau unigol.