Y Cynllun Cymorth Prynu

Cyflwyniad

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod gan y Cynllun Cymorth Prynu rôl allweddol i'w chwarae wrth hyrwyddo mynediad prynwyr tro cyntaf i'r farchnad dai.

Cafodd y cynllun ei sefydlu ym 1993 ac ers hynny mae nifer o awdurdodau lleol wedi gwneud defnydd ohono. Erbyn y flwyddyn 2003/2004 roedd 10 o awdurdodau yn gweithredu'r cynllun, sef Caerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Mynwy, Penfro, Powys ac Ynys Môn.

Er mwyn ei weithredu mae angen i'r awdurdod lleol neilltuo cyfran o'r Grant Tai Cymdeithasol ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu. Wedyn bydd y Cynulliad yn darparu arian cyfatebol a fydd yn dyblu'r gyllideb wreiddiol. Yna bydd y cymdeithasau tai yn gweinyddu'r cynllun ar ran yr awdurdod lleol.

Yn wreiddiol, roedd y cynllun yn caniatau i bobl fenthyg 30% o bris cartref, ond ers 2001 cynyddodd y ganran honno i 50%. Prif nod y newid hwn oedd:

  • i gynorthwyo'r rhai oedd yn byw mewn cymunedau gwledig a oedd yn wynebu cystadleuaeth am dai o'r tu allan i'r ardal.
  • i helpu i gwrdd ’'r angen am dai fforddiadwy mewn ardaloedd ble mae prinder, trwy gynorthwyo pobl i brynu fyddai fel arall yn cael blaenoriaeth am dai cymdeithasol.
Y Sefyllfa Bresennol

Yn 2003/2004 roedd cyllideb y Cynulliad yn cynnwys cyfraniad o £56.4 miliwn tuag at y Grant Tai Cymdeithasol. Yn yr un cyfnod dyranwyd £1.5 miliwn fel arian cyfatebol a oedd wedi ei anelu'n benodol at y Cynllun Cymorth Prynu.

Cred Cymdeithas yr Iaith nad yw'r gyllideb bresennol yn ddigonol ac nad yw'n galluogi'r Cynllun Cymorth Prynu i gael effaith gwirioneddol.

Er engrhaifft, yn ystod 2002/2003 gwariodd Cyngor Sir Ceredigion 80% o'i Grant Tai Cymdeithasol ar y Cynllun Cymorth Prynu. Eto i gyd, hyd yn oed ar ol defnyddio cyfran sylweddol o'r Grant Tai Cymdeithasol, roedd hyn ond yn gymorth i brynu 46 o unedau. Y cyfartaledd o ran cymorth a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn oedd £29,153, ond pan ystyrir fod cyfartaledd prisiau tai yng Ngheredigion bellach wedi codi dros £100,000 gellir gweld nad yw'r gyllideb bresennol yn darparu digon o gymorth.

Ymhellach, gellir dadlau nad yw amodau presennol y cynllun yn gweddu realiti'r farchnad. Golyga hyn nad yw hynny o arian sydd yn cael ei ddarparu yn cael y cyfle i wneud gwahaniaeth.

Yn ôl y Sefydliad Tai Siartredig ceir anhawsderau yn dod o hyd i dai sydd o fewn i derfynau costau y cynllun. Daw hyn yn anoddach fyth pan ystyrir sefyllfa bresennol y farchnad dai, lle mae prisiau yn codi ar raddfa gyflym iawn. Er engrhaifft, yn ystod 2002 nododd Cyngor Gwynedd mai dim ond 23 o unedau a oedd ar werth ym Mhen Llyn am bris is na £65,000. Mewn sefyllfa o'r fath, prin iawn yw'r tai hynny y mae'r Cynllun Cymorth Prynu yn gymwys ar eu cyfer. O ganlyniad mae angen addasu trothwy'r cynllun er mwyn gweddu realiti'r farchnad dai.

Camau Gweithredu

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Cynulliad i gymryd y camau canlynol er mwyn cryfhau'r Cynllun Cymorth Prynu ac er mwyn sicrhau ei fod yn gwneud cyfraniad mwy effeithiol:

  • Yn ei gyllideb nesaf, dylai Llywodraeth y Cynulliad sicrhau cynnydd sylweddol yn yr arian sydd yn cael ei ddarparu ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.
  • Dylid sicrhau bod amodau'r Cynllun Cymorth Prynu yn cyfateb i realiti'r farchnad dai yn lleol, o ran faint o arian sydd gan bobl yr hawl i'w fenthyg. Mae hyn yn cynnwys codi'r ganran fenthyg, a chodi'r uchafswm benthyg.
  • Dylid sicrhau bod yr anoddau hynny a ddarperir ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu yn cael eu defnyddio yn y modd mwyaf effeithiol ac yn cael eu hanelu at gymunedau sydd dan bwysau. Mae cynnal ymchwil manwl a chyson i'r angen lleol am dai yn allweddol er mwyn cyflawni hyn.