Awst 1998. Agenda ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwyniad
GwÍl Cymdeithas y laith Gymraeg sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol fel un o'r digwyddiadau pwysicaf yn holl hanes diweddar Cymru. Credwn fod gan sefydlu'r Cynulliad botensial anferthol o ran datblygu llywodraeth deg a Chymreig ynghyd ’ hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru.
Yn benodol, credwn fod sefydlu'r Cynulliad yn cynnig cyfle arbennig iawn i drawsnewid sefyllfa'r iaith Gymraeg a sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg yn y Mileniwm nesaf.
Ers 1962, bu'r Gymdeithas yn ymgyrchu am gonsesiynau i'r iaith oddi wrth gynrychiolwyr y Llywodraeth Brydeinig yn Llundain ac yng Nghaerdydd. Ond, o hyn ymlaen, y Cynulliad Cenedlaethol fydd prif ffocws ein gweithredu. At y pwrpas yma, rydym yn lansio ymgyrch newydd; Popeth yn Gymraeg, y Gymraeg ym Mhopeth - yr Her i'r Cynulliad. Un o amcanion sylfaenol yr ymgyrch hon fydd sicrhau agenda glir a phendant i'r Cynulliad parthed yr iaith Gymraeg.
RÙl Allweddol y Cynulliad
Fel Cymdeithas, mynnwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru a'i fod yn hen bryd i'r Gymraeg gael ei normaleiddio fel prif iaith ein gwlad. Edrychwn at y Cynulliad i arwain a gweithredu strategaeth genedlaethol gynhwysfawr ac integredig fydd yn galluogi pawb yng Nghymru i gyfranogi yng nghyfoeth yr iaith gan fagu hyder cyffredinol ym mhwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Er mwyn cyflawni'r nod yma, bydd rhaid i'r Cynulliad sicrhau seiliau cymunedol cryf i'r iaith Gymraeg ar draws Cymru gyfan, ac, yn yr ystyr yma, y mae lles y Gymraeg yn mynd law yn llaw ’ lles gorau holl gymunedau Cymru.
Felly, yn ein barn ni, mae'n hanfodol fod y Cynulliad, o'r cychwyn cyntaf, yn cael ei sefydlu fel corff fydd yn gallu gweithredu'n effeithiol i ymrymuso'r iaith Gymraeg a hybu datblygiad cymunedau rhydd, cryf a Chymreig.
01. Normaleiddio'r Iaith Gymraeg
Polisi Dwyieithog
Credwn ei fod yn gwbl angenrheidiol fod y Cynulliad yn arddel a gweithredu polisi dwyieithog cyflawn o'r diwrnod cyntaf. Gwrthwynebwn unrhyw awgrym y dylid cyflwyno dwyieithrwydd mewn dull graddol a chondemniwn unrhyw ymesgusodi rhag dwyieithrwydd cyflawn ar sail cymal "rhesymoldeb" Deddf y laith Gymraeg 1993.
Rydym ni am weld aelodau etholedig a staff y Cynulliad yn gwneud y defnydd helaethaf posib o'r iaith Gymraeg, ac, felly, rhestrwn y canlynol fel yr elfennau y tybiwn ni sy'n hanfodol i bolisi dwyieithog i'r Cynulliad o'r diwrnod cyntaf yn ei gartref dros dro ac ymlaen i'r dyfodol:
offer a darpariaeth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r safon uchaf bosib i fod ar gael yn ystod holl drafodaethau'r Cynulliad a chyfarfodydd allanol y Cynulliad. Rhaid i hyn gynnwys cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i'r Gymraeg ar sail egwyddor dilysrwydd cyfartal annibynnol.
bod disgwyl i holl staff y Cynulliad fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Golyga hyn y dylai holl staff y Cynulliad fod yn ddwyieithog neu gael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn effeithiol yn ystod oriau gwaith fel amod o'u cytundeb. Dylai holl staff y Cynulliad hefyd fod yn ymwybodol o gyd-destun diwylliannol a gwleidyddol unigryw Cymru.
bod y Cynulliad yn gwneud defnydd swyddogol o deitlau yn yr iaith Gymraeg yn unig ar gyfer enwau swyddi a phwyllgorau'r Cynulliad.
arwyddion adeiladau'r Cynulliad a phob gwybodaeth gyhoeddus sydd yn ymwneud ’'r cyhoedd i fod yn ddwyieithog.
cofnodion pob trafodaeth, penderfyniad a deddfwriaeth eilradd a chynradd yn y Cynulliad i fod yn ddwyieithog, gan gynnwys yr Hansard.
cyfleusterau ar gael i staff ac aelodau'r Cynulliad i ddysgu a/neu gloywi Cymraeg o fewn oriau gwaith, yn y man gwaith, yn rhad ac am ddim.
bod disgwyl i unrhyw gwmnÔau neu asianteithiau sy'n cael eu cyflogi gan y Cynulliad i wneud gwaith ar ran y Cynulliad i fod yn gweithredu polisi dwyieithog fel amod ar eu cytundeb.
Dylid nodi mai'r ymarfer gorau yw gosod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfochrog ’'i gilydd neu gefn wrth gefn. Dylid osgoi gosod un iaith uwchben y llall, ond, os yw hyn yn anorfod dylai'r Gymraeg ymddangos uwchben y Saesneg.
Er mwyn sicrhau llwyddiant ac effeithiolrwydd y Polisi Dwyieithog o'r diwrnod cyntaf, galwn ar y Swyddfa Gymreig i sefydlu Grwp Tasg i gydlynu ymdrechion a syniadau er mwyn ymbaratoi at gyflwyno Polisi Dwyieithog yn y Cynulliad.
Cydnabyddwn oblygiadau'r ffaith fod y Gymraeg, i bob pwrpas, wedi cael ei halltudio o fywyd swyddogol Cymru tan yn ddiweddar iawn. Menter newydd a chyffrous iawn yw rhoi lle canolog i'r Gymraeg ym mywyd llywodraeth Cymru a dylai hynny fod ar y sail bod y Gymraeg a'r Saesneg yr un mor ddilys ’'i gilydd o ran eu statws annibynnol.
Mae rhai wedi codi amheuon ynghylch ymarferoldeb darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y Cynulliad gan honni hwyrach nad oes digon o bobl ar gael gyda'r arbenigedd yma yng Nghymru. Nodwn esiampl loyw Cyngor Gwynedd sy'n gweithredu polisi dwyieithog cryf a chreadigol gan gynnwys darpariaeth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn ei holl weithgaredd. Nodwn hefyd cyn sefydlu Sianel Pedwar Cymru y bu i rai godi cwestiynau tebyg o ran a fyddai digon o dechnegwyr Cymraeg eu hiaith ar gael. Yn sgÓl sefydlu S4C tyfodd diwydiant cyfryngol cryf a llwyddiannus yn yr iaith Gymraeg.
Yr hyn sydd ei angen yw ymdrech integredig a chyfnod o gynllunio pendant er mwyn adeiladu ar gryfderau sy'n bodoli, adnabod unrhyw anghenion datblygu a gosod ar waith strategaeth i ateb yr anghenion hynny. Does dim dirgelwch ynghylch sut i dorri tir newydd mewn modd llwyddianus, ond, rhaid wrth ewyllys wleidyddol i herio llesgedd a meddylfryd ceidwadol ac israddol.
O fewn y Cynulliad ei hun, credwn y byddai'n fanteisiol iawn sefydlu Pwyllgor arbennig i fonitro a gweithredu'r Polisi Dwyieithog yn yr un modd ag yr argymhellir trefniadau yn y Papur Ymgynghorol i fonitro ymddygiad a safonau aelodau'r Cynulliad.
Ni dderbyniwn fod unrhyw broblem ynghylch cyfieithu dogfennau cyfreithiol yn disgrifio deddfwriaeth eilradd neu gynradd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Mae gwaith eisoes ar gael ar eirfaoedd angenrheidiol a lle ceir anghenion pellach mae digon o gyfreithwyr dawnus Cymraeg eu hiaith a allai hefyd lunio geirfaoedd. Unwaith eto dyma waith i Grwp Tasg paratoi.
Galwn ar yr holl ymgeisyddion i'r Cynulliad ddatgan eu hymrwymiad i'r iaith Gymraeg ac i roi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg wrth ymwneud ’'r cyhoedd. Anogwn yr holl ymgeisyddion llwyddiannus nad ydynt yn medru'r Gymraeg ddysgu'r Gymraeg a gwneud defnydd o'r Gymraeg cyn gynted ’ phosib. Galwn ar yr holl ymgeisyddion sydd yn medru'r Gymraeg i ddangos eu hymrwymiad i'r iaith trwy ei defnyddio fel eu prif iaith yn y Cynulliad.
Fel mater o flaenoriaeth, dylai'r Cynulliad arwain ymgyrch marchnata eang wedi ei thargedu yn arbennig at bobl ifanc er mwyn meithrin hyder yn y Gymraeg a'u hannog i'w dysgu a'i defnyddio. Rhaid i'r Cynulliad sicrhau cefnogaeth ymarferol ac ariannol digonol i sefydliadau a chyrff holl gymunedau Cymru fedru gweithredu yn Ùl yr egwyddor o ddwyieithrwydd naturiol.
Pwyllgorau Pwnc a'r Dull Rhaglen
Dylai'r iaith Gymraeg dderbyn statws o'r radd uchaf o fewn un o Bwyllgorau Pwnc y Cynulliad gydag un o Ysgrifenyddion y Cynulliad yn amlwg gyfrifol am yr iaith Gymraeg. Ni ddylai'r Gymraeg ar unrhyw gyfrif fod yn is-bwyllgor i Bwyllgor Pwnc.
Maes gwaith amlwg i Bwyllgor Pwnc y Gymraeg fydd i ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei ffurf bresennol a sefydlu corff democrataidd yn ei le. Dylai'r corff hwnnw gynnwys mudiadau sydd yn hybu'r Gymraeg ynghyd ’ mentrau iaith cymunedol. Dylai staff Bwrdd yr laith gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad gan fod yn atebol i'r Cynulliad trwy'r Fforwm laith Ddemocrataidd. Byddai'r Fforwm yn bwydo syniadau i'r Pwyllgor Pwnc yn ogystal ’ vice versa. Un o dasgau cyntaf y Pwyllgor ddylai fod i ail-edrych ar Ddeddf yr laith Gymraeg 1993 gyda'r bwriad o'i diwygio a'i chryfhau. Rhaid i'r Cynulliad ddileu'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth "Cymraeg wrth ofyn" a dim ond "pan fo'n rhesymol ymarferol.". Y seiliau egwyddorol cywir i unrhyw Fesur laith effeithiol ydyw dwyieithrwydd naturiol cymunedol a hyrwyddo'r Gymraeg fel norm ac fel priod iaith Cymru. Rhaid i'r Gymraeg a'r Saesneg fod yn gyfan gwbl gyfartal o ran eu dilysrwydd annibynnol.
Ymhellach, dadleuwn yn gryf nad yw'n ddigonol i'r iaith Gymraeg gael ei chyfyngu o fewn termau un Pwyllgor Pwnc yn unig. Mae'r iaith Gymraeg yn amlwg yn cyffwrdd ’ phob maes megis addysg, yr economi tai a chynllunio. I greu dyfodol real i'r iaith Gymraeg rhaid wrth strategaeth draws-bynciol er cyd-gysylltu mentrau polisi mewn meysydd amrywiol. Felly, mynnwn mai'r ffordd effeithiol o ymdrin ’'r Gymraeg ydyw trwy gael rhaglen lorweddol sefydlog fel a argymhellir yn y Papur Ymgynghorol ar gyfer Ewrop, Cyfleodd Cyfartal, yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth. Y perygl amlwg o gyfyngu trafodaethau ar y Gymraeg i un Pwyllgor Pwnc yn unig yw mai dim ond trafodaethau yn ymwneud ’ statws yr iaith a hawliau ieithyddol siaradwyr unigol fyddai'n cael eu hamlygu. Pwysleisiwn mai ffenomenem cymdeithasol ydyw iaith. Ni ellir felly sicrhau dyfodol y Gymraeg mewn gwagle: rhaid wrth ymdriniaeth fydd yn creu'r amodau cymdeithasol ac economaidd cywir, a hynny yng nghyd-destun cymunedau cryf.
02. Trefn Addysg Annibynol a Democrataidd i Gymru
Disgwyliwn i'r Cynulliad gefnogi a gweithredu tuag at greu Trefn Addysg Annibynnol a Democrataidd i Gymru sy'n gyfundrefn addysg agored ac yn atebol i bobl Cymru.
Golyga hyn y dylai'r Cynulliad ddileu y Quangos Addysg a sefydlu Cyngor Addysg Democrataidd i Gymru.
Un o flaenoriaethau'r Cynulliad ddylai fod i sicrhau adnoddau digonol i ddatblygu dysgu Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws y sbectrwm addysg o'r oed meithrin at addysg oedolion. Y nod yw sicrhau bod cyfle teg a digonol gan bawb i gyfranogi o'n hetifeddiaeth Gymraeg gan amcanu i wneud y Gymraeg yn brif iaith holl bobl Cymru. Byddai hyn yn cynnwys gweithredu polisi cryf o ddysgu Cymraeg a thrwy'r Gymraeg gyda chefnogaeth adnoddau digonol yn holl ysgolion a cholegau Cymru fel bod pob disgybl ym mhob rhan o Gymru yn cael y cyfle i fod yn gwbl rhugl yn y Gymraeg erbyn 11 oed.
Blaenoriaeth arall i'r Cynulliad ddylai fod i sicrhau datblygu Cwricwlwm Cymreig sy'n gwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol gan roi lle arbennig i ddealltwriaeth gymunedol a fyddai'n cynnwys addysg wleidyddol, addysg amgylcheddol, addysg datblygiad byd ac astudiaethau heddwch.
Credwn fod profiad yn sylfaenol i addysg a bod angen galluogi pobl ifanc i sylweddoli eu potensial. I'r perwyl hwn, dylai'r Cynulliad sefydlu Fforymau Ieuenctid sefydlog ym mhob sir i edrych ar bob penderfyniad o bwys i'w cymunedau lleol. Dylid gorfodi Awdurdodau Addysg, Cynllunio, Tai, Hamdden Gwasanaethau Cymdeithasol i ymgynghori ’'r Fforymau Ieuenctid ar faterion perthnasol i anghenion pobl ifanc.
03. Deddf Eiddo a Chynllunio Economaidd
Disgwyliwn i'r Cynulliad gefnogi a gweithredu tuag at gyflawni polisÔau Deddf Eiddo y Gymdeithas.
Golyga hyn y dylai'r Cynulliad weithredu ar frys ar y cyd gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau:
ymchwil digonol i anghenion tai a gwasanaethau ein cymunedau yn hytrach na pharhau sefyllfa lle y codir tai di-angen gan ddifetha patrwm byw cynhenid ein cymunedau.
cryfhau statws cynllunio'r iaith Gymraeg gan felly atal y tueddiad i benderfyniadau lleol gael eu gwyrdroi gan Apeliadau i'r Swyddfa Gymreig.
ffordd o ail asesu a/neu ddileu yn gyfan gwbl hen ganiatadau cynllunio.
strategaeth genedlaethol i ddarparu digon o dai ar rent a chymorth i brynwyr tro cyntaf.
Dylai'r Cynulliad fynnu'r hawl i reoli'r farchnad dai ac eiddo yng Nghymru er budd cymunedau Cymru.
Dylai'r Cynulliad ddileu Tai Cymru fel Quango a chryfhau darpariaethau Cymdeithasau Tai Lleol yn y sector rhentu gan eu galluogi i brynu mwy o dai o'r stoc dai presennol yn hytrach na'u gorfodi i godi tai newydd.
Disgwyliwn i'r Cynulliad sefydlu Fforwm Economaidd Democrataidd i ddatblygu ystod eang o bolisÔau economaidd er mwyn cryfhau economi ein cymunedau gwledig a threfol a hynny ar sail yr egwyddor o gynaladwyedd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.
Galwn ar y Cynulliad i ddileu y Quangos sy'n gweithredu yn y maes yma a chryfhau gallu ymarferol ein cymunedau i reoli eu dyfodol eu hunain drwy gefnogi mentrau cymunedol gydag adnoddau digonol.
Rhaid i'r Cynulliad dalu sylw penodol i anghenion pobl ifanc am gyfleoedd gwaith teg a chartrefi addas o fewn eu cymunedau.
04. Cysylltiadau Rhyngwladol
Rydym am weld y Cynulliad yn siarad dros Gymru ac yn cryfhau hawliau'r Gymraeg mewn cyd-destun Ewropeaidd a byd-eang. Dylai'r Cynulliad sefydlu Pwyllgor Pwnc Cysylltiadau Rhyngwladol.
Golyga hyn y dylai'r Cynulliad sicrhau cynrychiolaeth gref ac uniongyrchol yn nhrafodaethau y gymuned Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig. Dylai'r Cynulliad chwarae rhan i gryfhau rÙl y Rhanbarthau yn Ewrop.
Dylai'r Cynulliad gynorthwyo i sbarduno symudiad yn Ewrop am Ddeddf Iaith i Ewrop gyfan fydd yn sicrhau statws cyfartal i holl ieithoedd Ewrop.
Ymhellach, credwn fod gan Gymru bersbectif gwerthfawr ar faterion o gyfiawnder cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd rhyngwladol a dylai'r Cynulliad ymgyrchu trwy sefydliadau fel Canolfan Cymru ar Faterion Rhyngwladol er mwyn hybu datblygiad cymdeithas byd-eang fwy teg lle rhennir adnoddau'n deg ac nid ecsploitir yr amgylchedd na phobloedd na gwledydd 'tlawd' y byd er cynnal cyfoeth gwledydd 'cyfoethog' y byd. Yn hyn o beth, mae lle i'r Cynulliad sefydlu sefydliadau newydd trwy Gymru er hybu cyfiawnder a heddwch yn y byd.
05. Diwylliant Cymreig Eang a Byw
Rhaid i'r Cynulliad fynnu rheolaeth a sicrhau democrateiddio cyfryngau teledu a radio yng Nghymru gan sefydlu, fel un cam, Fforymau Ieuenctid Darlledu er mwyn rhoi llais i farn pobl ifanc am natur a chynnwys rhaglenni radio a theledu yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dylai'r Cynulliad sicrhau cefnogaeth ariannol digonol i brosiectau diwylliannol cymunedol fel bod cyfle i ddiwylliant a chelfyddyd ffynnu ar lefel gymunedol yn ogystal ’ chenedlaethol.
Dylai'r Cynulliad ddatblygu ffyrdd newydd o hybu diwylliant ieuenctid byw yn y Gymraeg a'r Saesneg trwy gryfhau cefnogaeth i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyhoeddi ac adloniant.
Dylai'r Cynulliad ddatblygu ffyrdd o hybu diwylliant yng Nghymru sy'n gynrychioladol o bob agwedd ar fywyd yng Nghymru gan gynyddu yn benodol gyfleoedd i'r boblogaeth ddi-Gymraeg gyfranogi yn yr iaith Gymraeg. Byddai hyn yn cynnwys ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y byd darlledu ac adloniant a chyhoeddi a hynny trwy gyfryngau'r iaith Gymraeg a Saesneg.
Dylai'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o hybu datblygiadau penodol trwy'r iaith Gymraeg megis creu cyfleoedd i gael papur dyddiol Cymraeg, gwasanaeth darlledu teledu a radio cyflawn yn y Gymraeg ac adloniant ieuenctid yn y Gymraeg.
06. Ffyrdd Modern o Weithio
Ail ddatganwn fel Cymdeithas ein cred yn yr egwyddorion canlynol a byddwn yn galw ar y Cynulliad i sefydlu ei ddulliau gweithredu yn unol ’'r hyn a nodwn yma:
Democratiaeth gyfranogol
Disgwyliwn i'r Cynulliad ddod o hyd i ffyrdd creadigol i annog cyfranogiad pobl Cymru gyfan yn holl brosesau'r Cynulliad gan gynnwys cynnal fforymau lleol i fudiadau pwyso a chynrychiolaeth gymunedol o bob agwedd ar fywyd ein cymunedau. Dylai'r Cynulliad weithredu mewn ffordd wrth-orthrymol fyddai'n sicrhau cyfle cyfartal gwirioneddol i bawb gymryd rhan yn y Cynulliad. Golyga hynny, yn arbennig, drefnu oriau gwaith rhesymol a theg, gofal plant digonol ynghyd ’ darpariaethau i'r anabl.
Dylai'r Cynulliad hefyd sefydlu Cynulliad Cysgodol i bobl ifanc.
Ymhellach, awgrymwn fod y Cynulliad yn cynnal rhaglen o hybu democratiaeth gyfranogol parhaus a gallai hyn gynnwys cynnal gweithdai cymunedol, trefnu arddangosfeydd a theithiau lleol, cynnal gweithdai mewn ysgolion a cholegau, hybu trafodaethau cyhoeddus trwy'r cyfryngau a'r We, sicrhau darllediadau o'r Cynulliad ar lefel lleol a chenedlaethol a chynnal adolygiadau lleol blynyddol ar waith y Cynulliad yn unol ag ysbryd y broses ymgynghorol sydd wedi ei chynnal gan y Grwp Ymgynghorol.
Democratiaeth atebol lleol
Disgwyliwn i'r Cynulliad fod yn atebol i gymunedau Cymru gan gryfhau grym ein cymunedau i fod yn gymunedau rhydd gan felly fod yn hollol agored yn ei holl weithredoedd a datblygu perthynas ystyrlon rhwng haenau llywodraethol Cymru.
Mynegwn ein pryder bod Papur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol wedi dewis canoli grym mewn modd gormodol, yn ein tŷb ni, gyda'r Prif Ysgrifennydd, sydd wedyn yn treiglo grym i lawr trwy'r Pwyllgor Gweithredol a'r Ysgrifenyddion at y Pwyllgor Pwnc a, dim ond wedyn, at y cyhoedd a chyrff allanol a hynny mewn modd a dybiwn ni sy'n arwynebol iawn. Rhaid i'r Cynulliad dderbyn ei rym a'i awdurdod o'r gymuned ac oddi wrth ffynhonellau eraill o'r tu allan i'r Cynulliad os yw am fod yn offeryn llywodraethol effeithiol.
Gwyddom yng Nghymru o brofiad chwerw a phoenus bod mwy i ddemocratiaeth na bwrw pleidlais pob pum mlynedd. Wedi'r cyfan ffrwyth y profiad yma arweiniodd at sefydlu'r Cynulliad yn y lle cyntaf.
Dylai'r Cynulliad, felly, newid y pwyslais yn y cylch penderfyniadau i gryfhau ymhellach llais y gymuned a'r boblogaeth yn gyffredinol, ac, yn enwedig, llais carfanau a anwybyddir ar hyn o bryd gan y Llywodraeth. Fe ddylai'r grym fod yn amlwg yn cael ei ddatganoli o'r gwaelod i fyny.
Democratiaeth gynrychioladol
Disgwyliwn i'r Cynulliad gynrychioli a rhagfarnu'n gadarnhaol o blaid carfanau a ormesir yn ein cymunedau. Disgwyliwn felly i'r Cynulliad gynrychioli pob cymuned yng Nghymru.
Er mwyn hybu democratiaeth gynrychioladol rhaid i'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o gynnal deialog real a pharhaus gyda mudiadau pwyso sydd am lobio aelodau'r Cynulliad a gyda'r sector gwirfoddol. Dylai'r Cynulliad sicrhau lle ac adnoddau cefnogol i grwpiau lobÔo a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Democratiaeth ddatganoledig
Disgwyliwn i'r Cynulliad beidio canoli grym mewn un lle a galwn am ddatganoli'r Cynulliad ar dri safle drwy Gymru a galwn ymhellach am ddatblygiad o drefn wleidyddol lle datganolir grym i gymunedau Cymru drwy'r Cynghorau Cymuned a'r Awdurdodau Lleol.
Pryderwn fod y Pwyllgorau Rhanbarthol a argymhellir ym Mhapur Ymgynghorol y Grwp Ymgynghorol, waeth beth fo eu ffiniau, yn debygol o fod yn ddim mwy na siopau siarad. Yn hytrach na chynnal Pwyllgorau Rhanbarthol, credwn y dylai gwaith dydd i ddydd y Cynulliad gael ei ddatganoli o Gaerdydd gyda gwahanol adrannau o'r Cynulliad yn cynnal canolfannau mewn gwahanol rhannau o Gymru. Yn ein barn ni, mi fyddai hyn yn ffordd mwy ystyrlon o geisio magu ymdeimlad o berthyn i'r Cynulliad ar hyd ac ar led Cymru.
Democratiaeth ddeddfwriaethol
Cytunwn fod gan y Cynulliad fel y'i bwriedir trwy'r mesur presennol rym a dylanwad potensial pwysig o ran ei allu deddfwriaethol eilradd. Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai'r Cynulliad weithredu o'r cychwyn cyntaf fel corff sydd yn dymuno ennill yr hawl i basio deddfwriaeth gynradd. Mynnwn fod cymunedau Cymru a'r iaith Gymraeg angen grym deddfwriaeth gynradd i ateb gofynion eu lles gorau ac i herio'r anghyfiawnder a'r dinistr sydd wedi ein caethiwo fel cenedl gyhyd.
Galwn am gynyddu'r nifer o aelodau i'r Cynulliad er mwyn gweithredu cyfrifoldebau a gweithgareddau'r Cynulliad yn effeithiol.
Democratiaeth swyddogaethol
Dylai'r Cynulliad gydnabod na all yr un sefydliad cenedlaethol ynddi ei hun hyrwyddo a rhyddhau holl botensial pobl a chymunedau Cymru. Ar Ùl sefydlu Cyngor Addysg Democrataidd dylai'r Cynulliad fynd ati i sefydlu Fforymau Cenedlaethol eraill mewn meysydd fel Tai, Iechyd, Gofal, yr Amgylchedd, Trafnidiaeth, yr Economi a.y.b. Byddai'r fforymau yma yn cynnwys cynrychiolaeth eang ac amrywiol o'r sector statudol, gwirfoddol ac o'r gymuned er mwyn sicrhau deialog deinamig rhwng aelodau'r Cynulliad ’ phobl cymunedau Cymru yn Ùl eu profiad o ddydd i ddydd yng Nghymru.
Disgwyliwn i'r Cynulliad annog a diwygio Awdurdodau Lleol yng Nghymru hefyd i weithredu yn unol ’'r egwyddorion uchod.
Casgliadau
Ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif mae sefyllfa'r Gymraeg yn ddigon brau a bregus. Eto, nid oes dim byd anorfod am dranc y Gymraeg. O gael llywodraeth yng Nghymru sydd yn barod i fabwysiadu a gweithredu polisÔau clir a phendant parthed creu dyfodol i'r Gymraeg gallai'r Gymraeg fwynhau dyfodol llwyddiannus gan felly gyfoethogi bywydau pobl a chymunedau Cymru i'r Mileniwm nesaf.
Gwerthfawrogwn fod yr her i'r Cynulliad a amlinellwn yn y ddogfen hon yn un arwyddoc’ol a sylweddol. Fodd bynnag, mae'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg a'n cymunedau ar drothwy'r Mileniwm nesaf yn un dwfn yn sgil gostyngiad parhaus yng nghanran siaradwyr Cymraeg ein cymunedau. Ydi, mae'r iaith Gymraeg yn ennill tir mewn rhai ffyrdd. Ond, rhaid wrth strategaeth gynhwysfawr ac ymgyrchu integredig ar draws ystod eang o feysydd a sectorau os yw'r Gymraeg i gael dyfodol fel iaith gymunedol fyw. Ein dadl syml yw y dylai'r Cynulliad wneud popeth o fewn ei allu i gydlynu a symbylu a gweithredu'r fath strategaeth. Petai'r Cynulliad yn rhoi neges glir a phendant o'r dechrau ei fod yn gorff sy'n gosod pwyslais creiddiol ar y Gymraeg byddai hynny yn sicr o gael effaith gadarnhaol eang ar bob math o gyrff a sefydliadau eraill yng Nghymru yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mater yw hi o'r Cynulliad yn cynnig esiampl ac arweiniad positif gan felly feithrin hyder cyffredinol yng ngwerth a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg i bawb yng Nghymru.
Fel Cymdeithas, bwriadwn wneud popeth posib i bwyso ar aelodau a staff y Cynulliad i gefnogi a gweithredu ein hargymhellion. Ni thwyllwn ein hunain y bydd hon yn frwydr hawdd. Rydym yn sÙn am ddim llai na chwyldro os am herio a thrawsnewid canrifoedd o ormes, diffyg grym a gwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg. Ond rydym yn obeithiol iawn ynghylch potensial y Cynulliad a byddwn yn ehangu ein gweithgareddau fel mudiad gwasgedd trwy osod lobio'r Cynulliad fel ffocws amlwg pellach i'n hymgyrchu di-drais uniongyrchol.
Yn hynny o beth, edrychwn tuag at y Cynulliad i ddatblygu gwleidyddiaeth radical yng Nghymru wedi ei seilio ar egwyddorion Sosialaeth Gymunedol. Gwleidyddiaeth fydd yn ei hanfod yn ymateb i anghenion Cymru ac sy'n gweithredu dros sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol ac economaidd i bobl a chymunedau Cymru.
Yn ddiamheuaeth, bydd hanes yn siwr o farnu mai rhan allweddol o'r llinyn mesur ar lwyddiant ac arwyddoc’d y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr hyn a gyflawna'r Cynulliad dros sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg. Mynnwn yn awr fod yr amser wedi dod i bobl Cymru weithredu drostynt eu hunain lywodraeth gyfrifol, perthnasol a Chymreig, llywodraeth sy'n barod ac yn alluog i gyfarfod ’'r her o adeiladu'r Gymru newydd lle fydd "Popeth yn y Gymraeg a'r Gymraeg ym Mhopeth".
Si’n Howys
Cadeirydd Grŵp Democratiaeth
Cymdeithas yr laith Gymraeg