Y Ddarlith a Newidiodd Hanes Cymru
Ar Chwefror 13, 1962, gwahoddwyd Saunders Lewis, yr ysgolhaig, dramodydd, bardd a gwleidydd, i draddodi darlith flynyddol y BBC ar y radio. "Tynged yr Iaith" oedd ei destun a brawychodd y genedl wrth awgrymu marwolaeth yr iaith yn gynnar yn yr unfed ganrif ar hugain. Erfyniodd ar y gwrandawyr i ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd. Fe fyddai colli'r iaith meddai "yn sioc a siom i'r rheini ohonom ni sy'n ystyried nad Cymru fydd Cymru heb y Gymraeg". Cafodd ddylanwad mawr ac fe sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn sgîl y ddarlith hon.
Dyma drawsgrifiad o'r ddarlith honno a gyhoeddwyd yn Haf 1972, gyda ailargraffiadau yn Hydref 1985, a Gwanwyn 1997.
"[Yr iaith Gymraeg yw'r] unig fater politicaidd y mae'n werth i Gymro ymboeni ag ef..."
"Eler ati o ddifri a heb anwadalu i'w gwneud hi yn amhosibl dwyn ymlaen fusnes llywodraeth leol na busnes llywodraeth ganol heb y Gymraeg. Hawlier fod papur y dreth yn Gymraeg neu yn Gymraeg a Saesneg. Rhoi rhybudd i'r Postfeistr Cyffredinol na thelir trwyddedau blynyddol oddieithr eu cael yn Gymraeg. Mynnu fod pob gwŷs i lys yn Gymraeg..."
"Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw. Trwy ddulliau chwyldro yn unig mae llwyddo..."
Y ddarlith fwyaf arwyddocaol gafwyd yn hanes yr iaith Gymraeg. Newidiodd gwrs hanes Cymru -- ac mae nawr ar gael ar y We Fyd-Eang
Mae'r ddogfen hon ar gael fel ffeil PDF: lawrlwytho'r ddogfen