Y Gymraeg a Datblygu Economaidd
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen
I. Cyflwyniad
Yn ein hymateb polisi i ganlyniadau’r Cyfrifiad, mae’r Gymdeithas wedi cydnabod
pwysigrwydd yr economi a’i chryfhau er mwyn gwrth-droi’r cwymp y nifer y
siaradwyr a nifer y cymunedau Cymraeg.
Nid ydym fel mudiad yn credu mewn economi gyfalafol, ond yn hytrach, mewn
economi wedi ei seilio ar anghenion pobl a chymunedau. Gwelwn effaith negyddol y
system bresennol nid yn unig ar yr iaith ond ar anghyfartaledd o bob math, gan
gynnwys tlodi yng Nghymru a ledled y byd. Credwn fod angen chwyldro yn y system
bresennol er mwyn cyflawni dyfodol cynaliadwy i’n hiaith a’n cymunedau yn y pen
draw.
Maniffesto Byw
Yn ein Maniffesto Byw terfynol, galwn am gyfres o fesurau i gryfhau’r economi er
lles yr iaith:
* Sefydlu rhwydwaith o fusnesau Cymraeg a fyddai’n cynnig cefnogaeth ac
arweiniad o ran hyfforddiant a dechrau busnesau Cymraeg newydd. Dylid sefydlu
Ffederasiwn Cydweithredol Busnesau Cymraeg Cymru i fanteisio ar y brwdfrydedd
a'r gweithgarwch sydd eisoes yn y Gymraeg ar-lein i hybu a gwireddu hyn.
* Dylid cynnig mwy o gefnogaeth (yn ariannol a thechnegol) i'r sector
cydweithredol, gyda thargedau pendant i greu swyddi yn yr ardaloedd lle mae’r
Gymraeg ar ei chryfaf.
* Dylai'r llywodraeth gynnig cefnogaeth i gwmnïau symud o ardaloedd twf i lefydd
eraill yng Nghymru, ac fel rhan o'r cytundeb cefnogaeth dylsent sicrhau fod
canran o’r gweithlu â sgiliau cyfathrebu Cymraeg.
* Llywodraeth Cymru, pleidiau gwleidyddol, undebau a sefydliadau cenedlaethol i
lunio strategaeth economaidd sydd yn rhoi pwyslais ar ddatganoli swyddi oddi
mewn i Gymru
* Sefydlu Marchnad Lafur Cyfrwng Cymraeg – dylid mynd ati ar frys i fonitro’r
angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a
chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg gan gynnwys sicrhau
cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle.
* Dylid creu prentisiaethau drwy'r Farchnad Lafur Cymraeg a threfnu hyfforddiant
sgiliau cyfrwng Cymraeg ledled Cymru, yn benodol sgiliau hwyluso diwydiannau a
mentrau cydweithredol.
* Newid cylch gorchwyl y Mentrau Iaith i fod yn "Mentrau Iaith a Gwaith" gyda
chyfrifoldeb penodol a chyllideb i hyrwyddo mentergarwch trwy gyfrwng y Gymraeg
a hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg ym myd busnes. Adolygu cylch gwaith rhai o'r
mentrau gan adlewyrchu'r enghreifftiau o arfer gorau yn y maes.
* Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd a gwasanaethau
cyhoeddus eraill i lunio cynlluniau gweithredu tymor byr fel man cychwyn i
ddatblygu ac i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
* Cefnogi a chydweithio gydag undebau llafur i ddiogelu swyddi ac amodau gwaith
yn y sector cyhoeddus a datblygu dealltwriaeth ymysg y cyhoedd o bwysigrwydd y
swyddi hyn yn yr ardaloedd gwledig a'r ardaloedd Cymraeg yn arbennig.
* Polisi caffael pob corff a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru i roi
blaenoriaeth i gwmnïau o'r ardal lle mae'r gwaith yn cael ei wneud, ac i gwmnïau
o Gymru dros gwmnïau o bell - er mwyn lleihau'r pellter a deithir a sicrhau bod
swyddi yn cael eu creu yn ein cymunedau. Dylid sicrhau yn ogystal bod mwy o
gyfleoedd i gwmnïau bach a chanolig eu maint dderbyn tendrau yn ogystal â
chwmnïau mawr.
* Dylai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ddilyn esiampl Cyngor
Gwynedd drwy symud at weinyddu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.
* Dylid bod yn fwy rhagweithiol wrth ddenu pobl ifanc i mewn i’r diwydiant
amaeth gan gynnwys rhoi amodau wrth y taliad sengl a fyddai'n ei gwneud yn
fanteisiol i ffermwyr hŷn gydweithio gyda phartneriaid ifanc.
* Dylid gweithredu Safonau Iaith cryf a chynhwysfawr er mwyn cynyddu y nifer o
swyddi Cymraeg a sefydlu hawliau i bobl Cymru allu defnyddio'r Gymraeg ar draws
y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol gan normaleiddio'r Gymraeg ym mhob
ran o fywyd. Trwy’r safonau, dylid sefydlu hawliau clir i bobl ar lawr gwlad, a
fydd yn cynnwys yr hawl i weithgareddau hamdden fel gwersi nofio i blant yn y
Gymraeg, yr hawl i weithwyr ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r
hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.
* Llunio cynllun gweithredu i annog cyflogwyr Cymru, gan gynnwys y sector
cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i hyrwyddo gwerth masnachol defnyddio'r
Gymraeg. Annog y cyhoedd i gefnogi busnesau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo'r
Gymraeg ac sy’n gwneud ymdrech i ddefnyddio'r Gymraeg.
* Dylai pob awdurdod lleol gynnal ymchwil ar unwaith i fesur llif a chylchrediad
ariannol gwahanol ardaloedd. Byddai cynnal ymchwil o’r fath yn arwain at well
dealltwriaeth o sut yn union mae eu gwariant a’u cymorthdaliadau yn effeithio ar
lewyrch ein cymunedau. Er enghraifft, i ba raddau y mae’r budd o wariant
cyhoeddus yn llifo allan, yn hytrach na chylchredeg yn y gymuned, a hynny er
mwyn ystyried pa gorff neu gwmni sy’n derbyn arian cyhoeddus. Yn yr un modd,
dylai cyrff dylanwadol, fel prifysgolion, ysbytai ac awdurdodau lleol, gynnal
awdit manwl i ddarganfod i ba raddau y mae eu polisïau presennol, o ran stocio,
prynu a chontractio, yn cefnogi'r economi leol gan lunio strategaeth er mwyn
gwneud defnydd o gynhyrchwyr a gwasanaethau lleol. Lle mae ffigyrau yn bodoli yn
barod, dylid mynd ati i weithredu arnynt yn syth.
* Dylid sefydlu darparwr newydd amlgyfryngol a fyddai’n ehangu’r gynulleidfa
sydd yn gwrando, yn gwylio ac yn defnyddio’u Cymraeg, a darparu rhwydwaith
cenedlaethol Cymraeg gan fanteisio ar gydgyfeiriant technolegol yn cynnig
platfform i brosiectau bro a chymunedol. Yn fwy na darlledwr un ffordd
traddodiadol, ei bwrpas, heb os, fyddai cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau.
II. Enghreifftiau Penodol - cyfleoedd am newidiadau
Daw yn amlwg bod polisi caffael yn broblem fawr i’n cymunedau; ceir sawl
enghraifft lle collwyd cyfle i gadw arian yn ein cymunedau er budd yr economi
leol.
(a) Yr Eisteddfod Genedlaethol
Mae stondinau bwyd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn enghraifft o hyn gan
iddynt dueddu i fod yn rhai a ddarperir gan gwmnïau o’r tu allan i Gymru ac
felly mewn nifer o achosion yn torri rheol iaith yr Eisteddfod o’i herwydd.
Gwyddom hefyd fod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ymgeisio am arian cyfalaf er
mwyn prynu cyfarpar - megis pafiliwn mawr, pabell lên, toiledau - a fyddai’n
arbed arian iddynt yn y pen draw, ond yn bwysicach, a allai fod yn adnodd i
nifer o ddigwyddiadau eraill ac a fyddai’n cadw arian yng Nghymru yn lle bod yr
arian yn mynd i gwmni y tu allan fel y mae ar hyn o bryd.
(b) Prentisiaethau
Ceir enghraifft bwysig arall yn y diffyg cyfleoedd i wneud prentisiaethau
cyfrwng Cymraeg yng Nghymru. Dros y tair blynedd diwethaf, allan o 90,477 o
brentisiaethau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, dim ond 354 oedd trwy gyfrwng y
Gymraeg, llai na phedwar ymhob mil o brentisiaethau.
(c) Polisïau Cyflogaeth / Marchnad Lafur
Mae diffyg cadernid polisïau cyflogaeth yn lleihau defnydd y Gymraeg mewn nifer
o sefyllfaoedd. Gwelwn y gallai cyrff cyhoeddus gael dylanwad ar y sector
preifat
Ar hyn o bryd, ni welir ymdrech i geisio pontio rhwng y strategaeth addysg
Gymraeg a'r gweithle. Cymerwch Gynghorau Torfaen a Merthyr, Bws Caerdydd, neu'r
Gwasanaeth Iechyd fel enghreifftiau o gyrff sydd yn methu â chyflawni
gwasanaethau sylfaenol yn Gymraeg er bod cymaint o dwf mewn addysg Gymraeg. Mae
problemau'r sefydliadau hyn yn deillio o'u polisïau cyflogaeth ac er bod nifer
fawr o blant yn gadael ysgolion yn rhugl yn Gymraeg nid oes ffordd i sicrhau
defnydd o'u sgiliau ieithyddol. Mae hyn yn gam gwag o safbwynt sefydliadau sydd
â mawr angen am aelodau o staff dwyieithog, ond hefyd mae'n golygu nad oes
cyfleoedd gan y myfyrwyr i barhau â'u Cymraeg ar ôl gadael addysg. Gwelwn
gyfle mawr i ddatrys y problemau trwy’r safonau iaith newydd.
(d) Defnydd Mewnol
Gwelwn fod mawr angen newid agweddau a pholisïau mewnol nifer o gyrff. Yn
rheolaidd, ceir enghreifftiau o fusnesau â pholisïau i atal neu wahaniaethu yn
erbyn y rhai sydd eisiau siarad Cymraeg ymysg ei gilydd.
Mae grym Comisiynydd y Gymraeg yn hyn o beth yn gyfyngedig, ond yn bendant, mae
angen i’r gymuned fusnes wneud ymdrech ar lefel genedlaethol i wella’n sylweddol
agweddau busnesau at ddefnydd y Gymraeg yn y gweithle
Credwn hefyd bod angen ymestyn polisi Cyngor Gwynedd ac eraill o ran gweinyddu’n
fewnol trwy’r Gymraeg.
(e) Safonau Iaith - cyfle i gryfhau presenoldeb y Gymraeg ymysg busnesau
Mae’r safonau iaith arfaethedig yn gyfle i greu marchnad lafur fewnol a hybu
defnydd y Gymraeg ymysg busnesau. Dylai’r grŵp hwn gydnabod pwysigrwydd y
safonau yn y ffordd y gallan nhw gryfhau lle’r Gymraeg ym myd busnes, a
photensial ehangu’r effaith hynny trwy ymestyn cwmpas Mesur y Gymraeg i’r holl
sector breifat.
Credwn hefyd y dylid sefydlu rhwydwaith o fusnesau Cymraeg a fyddai’n cynnig
cefnogaeth ac arweiniad o ran hyfforddiant a dechrau busnesau Cymraeg newydd.
(f) Cyfrifoldeb dros y Gymraeg o fewn y Llywodraeth
Credwn y gellid ystyried symud cyfrifoldeb dros y Gymraeg o fewn y Llywodraeth
i’r Gweinidog dros yr Economi neu’r Prif Weinidog er mwyn cryfhau’r cysylltiad
rhwng polisi economaidd y Llywodraeth a’i effaith ar yr iaith.
III. Sut gallai’r defnydd o’r Gymraeg a dwyieithrwydd helpu busnesau i dyfu a
chefnogi datblygu economaidd?
Rydym yn credu bod gan y Gymraeg werth cynhenid i bobl a chymunedau Cymru, a
dyheadau a hawliau’r bobl a’r cymunedau hynny sy’n cyfiawnhau gwarchod y
Gymraeg, nid buddion economaidd. Yn wir gall gosod “twf economaidd” fel prif
nod, heb sicrhau bod y twf yn gynaliadwy a bod y buddion yn cael eu rhannu, fod
yn niweidiol nid yn unig i’r iaith ond i bobl a chymunedau hefyd - datblygu
cynaliadwy ddylai’r nod fod. Dyna’r hyn rydym wedi’i amlinellu yn ein hymateb
i’r Bil Datblygu Cynaliadwy, gan bwysleisio bod effaith datblygiadau ar y
Gymraeg yn rhan o effeithiau amgylcheddol ehangach a ledled y byd.
O safbwynt economaidd, un o’n prif arbenigeddau yng Nghymru, ac arbenigedd ein
pobl ifanc yn enwedig, yw’r Gymraeg. Credwn y byddai buddion economaidd yn
deillio o wneud y Gymraeg yn hanfodol mewn rhagor o weithleoedd gan y byddai’n
creu marchnadoedd llafur mewnol, ac yn pontio rhwng y Strategaeth Addysg Gymraeg
a’r Strategaeth Iaith. Mae ein haelodau yn treulio llawer o amser yn siarad â
chyrff, ac mae’n amlwg nad yw’r cyrff hynny yn manteisio’n ddigonol ar sgiliau'r
nifer gynyddol o blant sydd yn gadael ysgolion cyfrwng Cymraeg. Trwy greu rhagor
o swyddi lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, gellid sicrhau dilyniant a chysylltiad
cryf rhwng addysg a’r gweithle.
Dylid astudio’n fanwl yr hyn sydd wedi llwyddo mewn gwledydd eraill, e.e. Gwlad
y Basg, lle mae twf yn yr iaith yn mynd llaw yn llaw ag economi gref. Dylid
cofio hefyd nad arbenigedd sy’n berthnasol i Gymru yn unig yw cynnal iaith
genedlaethol dan fygythiad - mae nifer o sectorau lle gellid rhannu arfer da â
gwledydd a rhanbarthau eraill yn Ewrop a thu hwnt, a gwerthu gwasanaethau iddynt
hyd yn oed.
Mae’r safonau iaith arfaethedig yn cynnig cyfle i ennill busnes i Gymru gan y
bydd gofyn am wasanaeth Gymraeg yn creu mwy o waith i gwmnïau yng Nghymru. Mae
Llywodraeth Cymru mewn lle delfrydol i gyflawni hyn. Dylid edrych ar y cyfleoedd
a ddaw gyda’r safonau hyn a’r oblygiadau ar gwmnïau rhyngwladol, fel ffordd o
sicrhau eu bod yn buddsoddi’n ôl yng Nghymru drwy gaffael gwasanaethau a
hyfforddiant iaith.
Mae sector y diwydiannau creadigol yn un o 9 sector allweddol, yn ôl y
Llywodraeth. Byddai datganoli darlledu i Gymru yn dod â manteision economaidd yn
y pen draw. Credwn fod angen mynd ymhellach i ddefnyddio grym y diwydiant
creadigol i hybu defnydd y Gymraeg. Dyna pam rydym yn awgrymu yn ein Maniffesto
Byw sefydlu darlledwr aml-gyfryngol newydd a fyddai’n cryfhau’r sector yn
ogystal â hybu defnydd y Gymraeg ymysg pobl ifanc.
Mae’r sector dwristiaeth yn un arall o’r sectorau allweddol. Gellid dod â
buddion ychwanegol i gymunedau Cymru trwy gryfhau’r cysylltiad rhwng twristiaeth
ac iaith a diwylliant - byddai datblygu model tebyg i ecodwristiaeth, lle mae
ymwelwyr yn profi ac yn parchu’r iaith, yn annog ymweliadau hirach, gwariant
lleol, ac yn cefnogi sectorau allweddol eraill (e.e. amaeth) ar lefel lleol.
IV. Sut gallai datblygu economaidd gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg?
Un o’r prif ffactorau sydd yn tanseilio defnydd o’r iaith a niferoedd siaradwyr
yw allfudo. Rhaid cofio hefyd y gallai denu rhagor o siaradwyr Cymraeg sy’n byw
tu allan i Gymru yn ôl i Gymru gynyddu’r nifer sy’n siarad yr iaith yma (a hynny
llawer iawn ynghynt nag y gellid ei wneud trwy ddysgu’r iaith i oedolion, er
enghraifft). Dengys dadansoddiad ystadegol mai allfudo yw’r ffactor mwyaf sy’n
cyfrannu at y gostyngiad blynyddol yn y nifer sy’n siarad yr iaith, ac mai
siaradwyr Cymraeg yn symud yn ôl yma i fyw yw’r ffynhonnell fwyaf o siaradwyr
newydd yng Nghymru pob blwyddyn.
Felly, mae darparu a gwarchod swyddi, yn enwedig mewn cymunedau Cymraeg eu
hiaith, yn hollbwysig i’w ffyniant. Dyna pam rydym yn galw am ragor o gefnogaeth
(yn dechnegol ac yn ariannol) ar gyfer mentrau cydweithredol.
Yn ddiweddar, rydym wedi clywed am drafferthion rhai cymunedau sy’n dymuno
sefydlu melinau gwynt er budd y gymuned. Er enghraifft, mae cymunedau Hermon a
Llanaelhaearn wedi wynebu problemau - gan gynnwys diffyg cymorth a chostau uchel
cychwynnol - wrth geisio dechrau’r prosiectau ynni sydd yn atal y cymunedau codi
arian a chreu swyddi yn yr ardal.
Credwn ymhellach bod angen newid cylch gorchwyl y Mentrau Iaith i fod yn
"Mentrau Iaith a Gwaith" fel bod modd iddynt chwarae rôl gynyddol yn y maes hwn
gan adeiladu ac ymestyn ar y gwaith clodwiw a wneir gan ychydig fentrau yn
barod.
V. Sut gallai’r sector cyhoeddus gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy ei effaith
ar yr economi leol?
Rydym wedi argymell nifer o ffyrdd y gallai’r sector gyhoeddus gynyddu defnydd y
Gymraeg drwy ei heffaith ar yr economi leol.
Cyllideb
Mae pob ceiniog a warir gan gyrff cyhoeddus yn cael effaith o ran iaith. Ar hyn
o bryd, heb amheuaeth, mae rhan helaeth o’r gwariant hynny gan gyrff cyhoeddus
Cymru yn hybu’r Saesneg, iaith gryfaf y byd.
Cymerer un enghraifft a ddaeth i’r amlwg wedi ymholiadau gan y Gymdeithas -
prentisiaethau. Dangosodd ein hymchwil mai dim ond 354 allan o 90,477
prentisiaeth a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru oedd trwy gyfrwng y Gymraeg dros y
tair blynedd diwethaf. A dim ond 0.3% o wariant ar Ddysgu yn Seiliedig ar Waith
a ariannodd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg.
Yn y Maniffesto Byw, rydym wedi galw am adolygiad o effaith iaith cyllideb
Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’n hawgrym
yn hynny o beth, er bod gennym bryderon am annibyniaeth yr adolygiad a
pharodrwydd y gwasanaeth sifil i newid.
Mae nifer fawr iawn o enghreifftiau o ddigwyddiadau a gynhelir gan gyrff
cyhoeddus a noddir ganddynt lle nad oes presenoldeb i’r Gymraeg lle dylai fod.
Polisi Caffael
Fel amlinellir uchod, credwn fod angen cryfhau polisïau caffael yn hynny o beth,
fel y soniwn yn ein Maniffesto Byw. Yn hynny o beth, mae’r gosod y Gymraeg fel
hanfod unrhyw gytundeb yn rhoi mantais i gwmnïau o Gymru, a hefyd yn fuddiol i
ddyfodol yr iaith.
Felly, dylid ystyried mesurau deddfwriaethol er mwyn sicrhau bod cymunedau lleol
yn gallu elwa’n well o gontractau sector cyhoeddus.
VI. Enghreifftiau o arferion da o ran cyflogi gweithwyr sy’n siarad Cymraeg
Credwn fod nifer o gyflogwyr y gellid adeiladu ar eu gwaith da gan gynnwys
Cyngor Gwynedd a nifer o gwmnïau bychain sydd â gwreiddiau cymunedol. Mae Heddlu
Gogledd Cymru wedi cymryd camau yn y cyfeiriad iawn hefyd.
Mehefin 2013
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg