Annwyl Syr/Fadam,
Hoffwn nodi pwysigrwydd cynnal Cyfrifiad cynhwysfawr fel sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd bob deng mlynedd i ni fel mudiad a hefyd yr holl gyrff, mudiadau ac unigolion sy’n ymgyrchu, astudio ac ymddiddori yn yr iaith Gymraeg.
Mae’r ystadegau ynghylch y Gymraeg a gallu pobl ynddi yn bwysig iawn er mwyn i ni ddadansoddi sefyllfa’r Gymraeg ledled Cymru ac yn fanwl iawn yn ein cymunedau.
Nodwn yng Ngwlad y Basg eu bod nhw’n cynnal Cyfrifiad bob pum mlynedd sy’n rhoi iddynt ystadegau mwy rheolaidd ac felly llawer iawn gwell am yr hyn sy’n digwydd i’w hiaith frodorol leiafrifoledig. O safbwynt cynllunio ieithyddol, mae hynny’n rhoi darlun llawer iawn cliriach o effaith polisïau iaith pob lefel o lywodraeth. Credwn felly y dylid cynnal y Cyfrifiad bob pum mlynedd er mwyn rhoi darlun cynhwysfawr cliriach o sefyllfa’r Gymraeg.
Yn ein Maniffesto Byw, a gyhoeddwyd yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2011, nodwn y dylid mynd ymhellach, gan argymell y dylid:
“Cefnogi cymunedau i gynnal cyfrifiadau cymunedol eu hunain er mwyn asesu cyflwr y Gymraeg a llunio argymhellion ar gyfer ei chryfhau gan gychwyn ar hyn yn y cymunedau gyda'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd.”
Hefyd, mae angen cysondeb ynghylch y cwestiynau a ofynnir fel bod y gymhariaeth rhwng y Cyfrifiadau yn glir. Nodwn fod newidiadau yng ngeiriad y cwestiynau yn achosi problemau cymariaethol, felly ni fyddwn am weld newid i eiriad y cwestiynau am y Gymraeg a sgiliau iaith Gymraeg.
Gan fod nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn byw yng ngwledydd eraill Prydain - amcangyfrifir bod mwy na 100,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn y Deyrnas Unedig ond tu allan i Gymru - byddai’n defnyddiol pe bai’n bosibl i’r cwestiynau a ofynnir yng Nghymru am allu iaith Gymraeg gael eu gofyn yn Lloegr hefyd.
Credwn ymhellach y dylid datganoli cyfrifoldeb am drefnu’r Cyfrfiad i gorff sy’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unig yn hytrach na’r drefn Cymru a Lloegr bresennol.
Byddwn yn ffafrio symud at Gyfrifiad manwl bob pum mlynedd fel y cynhelir bob deng mlynedd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, petai rhaid i ni ddewis rhwng y ddau opsiwn a gynigir yn y papur, byddwn yn ffafrio cadw at un bob deng mlynedd yn bennaf arlein. Rydym yn gwrthwynebu yr opsiwn yn seiliedig ar ddata gweinyddol gyda sampl blynyddol. Byddai hynny’n hollol annerbyniol. Y prif reswm am hyn yw na fyddai’r dull hwn yn rhoddi ystadegau ar gyfer poblogaeth fechan, sef ardal OA, yr union ystadegau sydd eu hangen er mwyn deall sefyllfa’r iaith ar lefel gymunedol.
Robin Farrar
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg