Ymateb cychwynnol i raglen "moderneiddio" ysgolion cynradd Sir Conwy

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon ymateb cychwynnol i raglen "moderneiddio" ysgolion cynradd Sir Conwy. Mae amserlen y cyngor o ran adolygu holl ysgolion cynradd y sir i'w weld ar wefan y Cyngor, a defnyddir yr un iaith arferol am yr angen i gwtogi ar lefydd gwag a gwella adeiladau a chanrifoedd newydd ! Mae bygythiad ymhlyg i nifer o ysgolion pentrefol Cymraeg y sir, ond nid enwyd eto unrhyw ysgolion.

Mae'r Gymdeithas wedi danfon yr ymateb cychwynnol canlynol at yr arolwg, a gobeithir y bydd eraill yn ategu'r pwyntiau hyn -

"Mae'r broses a ddefnyddir i benderfynu ar strategaeth yn gwbl allweddol er mwyn ceisio atebion cytun sy'n denu cefnogaeth. Mae modd i chwi ddysgu hefyd wersi o gamgymeriadau a wnaed mewn mannau eraill yng Nghymru. Yn y cyd-destun hwn, hoffem wneud nifer o sylwadau ynghylch y broses yr ydych yn ei amlinellu ar eich gwefan.

1) Dylid llongyfarch y Cyngor am osod allan raglen glir am sut i lunio a chyflwyno strategaeth gan egluro sut y gall rhieni, llywodraethwyr, cymdeithasau gwirfoddol a'r cyhoedd leisio eu barn ac ymateb ym mhob rhan o'r broses. Gan ei fod wedi ceisio gorfodi strategaeth oddi uchod, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gorfod rhoi heibio bellach ei linyn amser o ran "moderneiddio" addysg a dibynna ar neidio i mewn pan fydd unrhyw ysgol mewn gwendid dros dro. Cynhaliodd Cyngor Sir Gwynedd raglen helaeth o gyfarfodydd ymgynghorol cychwynnol, ond y mae wedi colli ymddiriedaeth gyhoeddus gan nad yw'r ddrafft strategaeth yn cyfateb o gwbl i'r farn a leisiwyd yn y cyfarfodydd hyn. Y wers a ddysgir yw ei fod yn bwysig cadw a chyhoeddi COFNODION y cyfarfodydd hyn.

2) Yr ydym yn pryderu am yr eitem olaf yn y rhestr o'r dyddiadau allweddol sef y bwriad i gyhoeddi strategaeth gynhwysfawr "Ysgolion Cynradd Conwy yn y Dyfodol". Gobeithiwn y bydd y ddogfen hon yn ymgyfyngu i faterion strategol heb geisio manylu ar gynigion penodol ar gyfer pob ysgol yn y sir. Y camgymeriad a wnaed yng Nghaerfyrddin a Gwynedd oedd cyhoeddi cynllun cynhwysfawr gan ddynodi ar unwaith cau neu ad-drefnu degau lawer o ysgolion. Oni wneir hyn trwy gytundeb byddai unrhyw broses o'r fath yn cymryd ddegawd i'w wireddu gan gymaint y faich weinyddol o baratoi papurau, cynnal cyfarfodydd, gwerthuso ymatebion a dyfarnu apeliadau ar bob ysgol unigol. O ganlyniad, mae hyn yn tanseilio dyletswydd statudol llywodraethwyr i "ddatblygu" eu hysgolion os bydd eu hysgolion wedi'u clustnodi ar gyfer cau mewn rhai blynyddoedd. Gwell o lawer yw cael y ddogfen sirol yn gyfyngedig i faterion strategol ac yna fynd ymlaen fesul cylch yn y sir i gyhoeddi cynlluniau manylach.

3) Mae'r adran 3.2 yn y Daflen Wybodaeth "Beth yw ein Dewisiadau" yn anghyflawn. Dylid pwysleisio fod lluaws o atebion potensial a bod angen llunio - gwaelod i fyny - ateb sy'n cyfateb i anghenion pob cylch. Rhoddwn yr enghreifftiau hyn -
* Dylid pwysleisio fod yr holl gysyniad o ffederasiwn yn un hyblyg a gellir llunio'r fath ar ffederasiwn sy'n gweddu i amgylchiadau lleol e.e. cynllun unigryw Ysgol Carreg Hirfaen.
* Nid oes cyfeiriad at y ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad ar fin cyhoeddi canllawiau newydd - ar gyfer ymgynghori - i alluogi ysgolion cylchynol i gydweithio mewn modd strwythuredig - rhannu prifathro, cyllideb neu lywodraethwyr - heb ildio eu hannibyniaeth ac felly'n cadw gwell warant o barhad i'r dyfodol.
* Gan mai gwelliannau adeilad sy'n gyrru llawer o'r agenda, dylai fod ymdriniaeth a'r bosibiliad o gydlynu cyflwynant gwasanaethau cyhoeddus yn adeiladau ysgolion pentrefol mewn modd strwythuredig gan dynnu arian o gyllidebau addysg gymunedol, datblygu cymunedol ac ail-hyfforddiant, arian Ewropeaidd a'r sector wirfoddol.

Cynigiwn i'ch sylw hefyd y dogfennau canlynol:

1) Ein dogfen sylfaenol yn gosod strategaeth ar gyfer datblygu ysgolion pentrefol yn gadarnhaol.

2) Ein hastudiaeth yn Sir Gaerfyrddin o effaith cau ysgolion pentrefol ar y Gymraeg.