Ymateb Cymdeithas yr Iath i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Benfro:
O'r dechrau rhaid nodi bod diffyg uchelgais yng ngweledigaeth Cyngor Sir Benfro. Er mai pum mlynedd yw cyfnod y Cynllun Strategol mae nodi “Sicrhau fod pob disgybl yn gallu manteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg o’r safon uchaf ar draws yr Awdurdod.” fel y brif weledigaeth yn agored i ddehongliad.
Gallai ar y naill law olygu fod addysg Gymraeg ar gael ar draws y sir petai disgyblion yn optio mewn neu ar y llaw arall fod pob disgybl yn gadael y system addysg yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yr unig ffordd i sicrhau hynny yw i bob plentyn dderbyn addysg Gymraeg.
Rydyn ni'n amau mai'r dehongliad cyntaf sydd gan y Cyngor mewn golwg, fydd yn amddifadu plant o addysg Gymraeg.
Fel mae CSGA ar hyn o bryd bydd disgwyl i ddisgyblion a'u rhieni fynd ati'n rhagweithiol i sicrhau addysg Gymraeg mewn rhai ardaloedd o hyd. Gellid dadlau felly, drwy gyfeirio at fesur y galw mewn mannau penodol, na fydd y CSGA yn cael ei gyflawni, gan na fydd pob disgybl yn gallu manteisio'n llawn addysg gyfrwng Gymraeg.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu camau ymlaen. Mae ysgol gynradd Gymraeg wedi ei hagor yn Ninbych y Pysgod ac ysgol uwchradd newydd wedi ei chymeradwyo i'w hagor yn Hwlffordd yn 2018. Bydd y ddwy ysgol yn cynyddu cyfleodd, ond does dim sôn pendant am gynyddu'r ddarpariaeth ymhellach yn ystod cyfnod y CSGA, er bod sôn am fesur y galw am addysg Gymraeg mewn ardaloedd penodol. Mae mesur galw yn ffordd hir ac aneffeithiol o gynyddu addysg Gymraeg. Yr hyn dylai'r Cyngor wneud yw cynllunio i symud pob ysgol i gategori uwch o ddarpariaeth Gymraeg.
Mae Ysgol Bro Gwaun yn codi dro ar ôl tro fel enghraifft o ysgol ble mae angen mynd i'r afael â chategori iaith ar fyrder. Mae'r CSGA ei hun yn cydnabod bod disgyblion allai barhau ag addysg Gymraeg yn mynd i Ysgol Bro Gwaun ond does dim cynllun i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Rhaid cwestiynu hynny .
Rydym yn argymell cynllunio i newid ysgol Bro Gwaun o fod yn ysgol gategori EW i fod yn ysgol 2CH fel man cychwyn, gyda'r bwriad o gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg ymhellach yn raddol. Ymhellach rydyn ni'n argymell dilyn yr un strategaeth ar draws y sir er mwyn cynyddu darpariaeth Gymraeg.
Mae'r Llywodraeth eisoes wedi nodi ei fwriad i ddod â dysgu Cymraeg fel pwnc ail iaith i ben er mwyn creu un cymhwyster dysgu Cymraeg erbyn 2020. Er mai addysg ail iaith yw'r arfer yn Sir Benfro ar hyn o bryd, does dim rhaid i'r Cyngor aros nes 2020 cyn dechrau newid.
Ar hyn o bryd mae amrywiaeth sylweddol rhwng yr ysgolion uwchradd o ran amser dysgu drwy'r Gymraeg. Mae rhai disgyblion yn cael cyn lleied â thair awr y pythefnos tra bod eraill yn derbyn hyd at bum awr. Yn y tymor byr mae angen dechrau dysgu rhai modiwlau mewn pynciau penodol drwy'r Gymraeg. Nid yn unig byddai hyn yn cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg ond yn golygu y byddai trosglwyddo i'r cymhwyster Cymraeg newydd yn digwydd yn raddol a mwy esmwyth.
Mae'n siŵr bydd yr awdurdod yn cytuno ei bod yn amhosib i blant ddatblygu yn siaradwyr Cymraeg heb iddynt gael cyfle i atgyfnerthu'r hyn sydd wedi ei dysgu'n ddyddiol drwy ddysgu cyfrwng Cymraeg.
Synnwn hefyd gyda'r geiriad:
“Sicrhau bod cynlluniau'r Awdurdod ar gyfer Ysgolion 21 Ganrif yn hybu a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg mewn ardaloedd penodol e.e. Ysgol Hafan y Môr”
Dylai holl gynlluniau'r awdurdod ar gyfer addysg hybu a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg. Dylid gweld pob datblygiad fel cyfle i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg.
O ddarllen y CSGA fesul deilliant dyma rai sylwadau:
Deilliant 1: Mwy o blant 7 oed mewn addysg gyfrwng Cymraeg
Mae'r cyfnod yma yn allweddol o ran sefydlu addysg Gymraeg. Rhaid cymeradwyo'r bwriad i symud Ysgol Croesgoch o gategori EW i gategori cyfrwng Cymraeg a'r bwriad i newid categori iaith ysgolion cynradd ardal Abergwaun ond mae'r CSGA yn nodi “mae angen gwella canran dilyniant o’r cyfnod cyn statudol i addysg statudol yn ardaloedd Abergwaun ac Arberth”
Yr ateb amlwg yw ymgynghori i newid categori iaith ysgol Arberth (sydd yn ddwy ffrwd ar hyn o bryd) yn hytrach na mesur y galw cyn gwneud unrhyw beth.
Yn ôl ffigyrau'r CSGA mae 79% o blant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg Gymraeg yn ystod camau cynnar eu haddysg. Os nad yw plant yn derbyn addysg Gymraeg yn saith oed, bydd hi'n anoddach iddyn nhw ddatblygu'r sgil a dod yn rhugl yn Gymraeg. Maes o law byddan nhw'n colli cyfleoedd gwaith a chymdeithasol.
Mae angen dilyn y strategaeth o symud ysgolion ar hyd y continwwm ar draws y sir gyfan yn lle dibynnu ar rieni i ddewis addysg Gymraeg i blant er mwyn creu siaradwyr Cymraeg rhugl a hyderus.
Deilliant 2: Mwy o ddysgwyr yn parhau i wella eu sgiliau iaith wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
Yma mae cydnabod bod llai yn parhau i gael eu haddysg yn Gymraeg wrth symud o'r cynradd i'r uwchradd yn ardal Abergwaun am nad oes ysgol Gymraeg yno. Eto i gyd nid oes unrhyw fwriad i newid y sefyllfa, ac nid yw fel petai’n cael ei ystyried yn broblem. Mae'r angen i newid categori iaith Ysgol Bro Gwaun drwy ymgynghori yn hytrach na mesur y galw yn enghraifft o'r hyn ddylai ddigwydd ar draws y sir. Yn hytrach na gorfodi rhieni a disgyblion i ddewis a mynd yn erbyn y llif dylai addysg Gymraeg ddod yn norm. Er mai pum mlynedd yw cyfnod y CSGA gellid gosod seiliau ar gyfer y dyfodol drwyddo.
Deilliant 3 a 4: Mwy o fyfyrwyr 14-16 yn astudio ar gyfer cymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg a Mwy o fyfyrwyr 14-19 oed yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn ysgolion, colegau a dysgu seiliedig ar waith
Mae'r niferoedd sy'n astudio mwy na dau a mwy na phum pwnc drwy'r Gymraeg yn fach ac yn cynyddu ar raddfa fach iawn. Does dim syndod o achos diffyg cynnydd yn y sector cynradd. Fel nodwyd eisoes, mae'r sector cynradd yn allweddol i osod sail i barhau ag addysg Gymraeg.
Rydyn ni'n disgwyl gweld cynnydd yn nhargedau'r CSGA nesaf, gan mai dyna pryd bydd cohort cyntaf Ysgol Gymraeg Hwlffordd yn cyrraedd CA3 a CA4.
Mae hyn yn pwysleisio hefyd bod cynyddu’r niferoedd sy'n derbyn addysg Gymraeg drwy sefydlu ysgolion newydd yn broses araf ac felly bod angen cynllunio pendant i newid categorïau iaith ysgolion nawr os yw'r Cyngor am weld cynnydd yn y nifer o blant sydd yn derbyn addysg Gymraeg. Byddai mesur y galw yn arafu'r broses hynny fwyfwy ac felly cynllun i symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith sydd ei angen.
Mae'r CSGA yn parhau nes 2020, gallai tipyn o waith ddigwydd yn ystod yr amser hynny.
Un o amcanion yr adran yw cefnogi Ysgol Bro Gwaun i barhau fel y mae yn hytrach na newid. Eto, defnyddiwn y cyfle i ategu'r sylwadau bod colli cyfle yma i ddarparu addysg Gymraeg i blant drwy beidio mynd ati i newid categori iaith yr ysgol. Ategwn hefyd ein sylw mai'r un ddylai fod y strategaeth ar draws y sir.
Deilliant 6: Darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cyfrwng Cymraeg
Dydy 'targedu a chreu adnoddau', 'cynnal cyfarfodydd', 'monitro darpariaeth' ac ati ddim yn mynd i wneud gwahaniaeth i blant Cymraeg gydag anghenion dysgu ychwanegol.
Dim ond un ysgol arbennig sydd yn y sir, sef Ysgol Portfield yn Hwlffordd, a Saesneg yw iaith yr ysgol felly rhaid i blant sydd wedi eu hasesu ac wedi eu penodi i dderbyn addysg arbennig fynd i'r ysgol honno. Mae hynny'n golygu fod rhaid i blant sydd wedi bod yn derbyn addysg Gymraeg newid iaith, ac yn eu gosod tan anfantais.
Dylai'r Cyngor Sir sicrhau bod uned neu ffrwd gynradd Gymraeg yn Ysgol Portfield, a bod athrawon a staff cymwys i ateb gofynion disgyblion Cymraeg.
Problem arall yw bod y rhan fwyaf o blant ag anghenion arbennig yn cael eu haddysg mewn ysgolion prif-ffrwd gyda chymorth ychwanegol. Mae'r cyngor sir wedi cydnabod y bylchau sylweddol yn eu darpariaeth ADY ac yn nodi: 'wrth recriwtio staff i swyddi penodol rhoi ystyriaeth i allu ieithyddol ymgeiswyr'.
Dylai staff allu gweithio yn y ddwy iaith fel ei gilydd er mwyn sicrhau bod unrhyw blentyn yn gallu cael pob elfen o'u haddysg yn Gymraeg, ond yn fwy na hynny fel bod modd ymdrin â phlant y eu dewis iaith. Rydym yn argymell fod cefnogaeth i staff i hyfforddi er mwyn darparu hyn, a bod adnabod unrhyw ddiffyg hyfforddiant ac adnoddau priodol arbenigol fel bod modd rhoi pwysau i newid hynny.
Deilliant 7: Cynllunio’r gweithlu a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP)
Yma mae cyfeirio at adnabod a thargedu ysgolion ar gyfer gwella sgiliau ieithyddol ac at athrawon ymgynghorol iaith gyntaf ac ail iaith sydd yn darparu hyfforddiant yn y gweithle i staff mewn ysgolion wedi eu targedu ar sail angen/bwriad newid categori ieithyddol.
Yn unol â bwriad y Llywodraeth i roi'r gorau i ddysgu Cymraeg fel ail iaith fel bod pob disgybl yn dilyn cwrs Cymraeg i wahanol lefelau, bydd angen datblygu iaith staff fel bod modd newid ethos yr ysgol yn ogystal â newid iaith yr addysg. Nodwn nad oes gan rai athrawon y gallu i wella Cymraeg disgyblion ar hyn o bryd. Mae angen cynllunio rhag blaen er mwyn mynd i'r afael â hynny, a chefnogi staff er mwyn cynyddu eu hyder i ddysgu yn Gymraeg.
Gofynnwn am gefnogaeth y Cyngor Sir i bwysau Cymdeithas yr Iaith ar Lywodraeth ganolog i gymryd camau brys i ddarparu gweithlu ar gyfer addysg Gymraeg, gan gynnwys rhoi cyfrifoldeb i'r Coleg Cymraeg cenedlaethol i wireddu hynny.