Mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r alwad ddiweddaraf am sylwadau i gryfhau a mireinio’r Strategaeth uchod, cyn ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Cyngor fis Medi.
Serch hynny, mae’n rhaid i mi ddatgan y pryder mwyaf am ddrafft diweddaraf y Strategaeth; nid yn unig yr anwybyddwyd yn llwyr y pwyntiau a godwyd gennym er mwyn gwella’r drafft a aeth i Bwyllgor Sgrwtini Partneriaeth ac Adfywio’r Cyngor ym mis Gorffennaf, ond roeddem yn gresynnu o weld bod y Cyngor wedi gwanhau’r Strategaeth rhwng y drafft a gytunwyd gan y Fforwm Iaith Partneriaethol a’r Pwyllgor Sgrwtini. Cyflwynaf y gwelliannau hanfodol canlynol i’r Strategaeth, gan hyderu y byddwch yn gweithredu ar ddymuniadau Aelodau Etholedig y Cyngor a’r Fforwm Iaith Partneriaethol.
Addysg
Cred y Gymdeithas bod modd creu dinasyddion gwirioneddol a hyderus ddwyieithog, wrth gyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg - yn ychwanegol i’r Gymraeg fel pwnc - i ddisgyblion ysgol.
Cefnogir y farn honno gan ymchwil ar draws y byd, ynghyd â thystiolaeth yn agosach at adref. Er enghraifft, canfu Estyn (2014, t.18) fod cydgysylltiad pendant rhwng medrusrwydd yn y Gymraeg a nifer y pynciau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg, gan fod manteisio ar gyfleoedd i’w defnyddio yn drawsbynciol yn cynnal ac yn ymestyn rhuglder ieithyddol. Dywed Strategaeth Addysg Cyfrwng CymraegLlywodraeth Cymru hefyd:
‘Addysg cyfrwng Cymraeg o’r blynyddoedd cynnar, gyda dilyniant ieithyddol cadarn drwy bob cyfnod addysg, sy’n cynnig yr amodau gorau ar gyfer meithrin pobl ifanc sy’n wirioneddol ddwyieithog’ (2010, t.15).
Er mwyn sicrhau Addysg Gymraeg i Bawb ym Môn, ac fel bod pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gallu cyfathrebu, siarad, defnyddio a gweithio’n hyderus yn y Gymraeg felly, mae angen newidiadau strwythurol i’r ddarpariaeth yn ysgolion y Sir. Mae’r Strategaeth hon yn cynnig cyfle i ysgogi’r newidiadau hynny a thargedu’r gweithredu mewn modd effeithiol. Fel mae’n sefyll, adrodd ar yr hyn sydd eisoes yn bodoli wna’r strategaeth yn hytrach na gosod camau pendant ar gyfer beth sydd angen digwydd yn y dyfodol, erbyn diwedd oes y Strategaeth.
Er fod drafft terfynol y Strategaeth i’r Fforwm Iaith Partneriaethol yn ymrwymo’r Cyngor i weithredu yn y cyswllt hwn i raddau, yn achos Ysgol Uwchradd Caergybi a’r ysgolion cynradd yng nghyffuniau Caergybi yn benodol, roeddem yn gresynnu o ddarganfod yr hepgorwyd yr ymrwymiad erbyn drafft diweddarach o’r Strategaeth. Ceir gorganolbwyntio hefyd ar gyflwyno’r Gymraeg fel pwnc, yn hytrach nag ar addysg cyfrwng Cymraeg - sy’n groes i amcanion a deilliannau un arall o strategaethau iaith y Cyngor, sef Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg 2014-17 Cyngor Sir Ynys Môn. Mae’n angenrheidiol i’r Cyngor gefnogi ysgolion dalgylch Caergybi, ynghyd â’i holl ysgolion, i symud ar hyd y continwwm ieithyddol yn unol â safonau cenedlaethol cydnabyddedig - er mwyn gwireddu’r weledigaeth o Addysg Gymraeg i bawb ym Môn.
Rhaid, felly, gosod gwelediaeth glir yn y strategaeth er mwyn mynd i’r afael â’r broblem ym Môn sef bod gormod o ddisgyblion yn gadael ysgolion uwchradd y sir wedi eu hamddifadu o’r sgiliau angenrheidiol i fyw a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rhaid cryfhau amcanion a dangosyddion y Strategaeth hon cyn y gellir ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith, fel a ganlyn:
Nod Cyffredinol |
Amcan i’w gyflawni erbyn diwedd blwyddyn 1 |
Cyfrifoldeb |
Dangosydd perfformiad |
Cysoni a ffurfioli categoriau ieithyddol holl ysgolion Ynys Mon, yn unol â diffiniadau cenedlaethol Cefnogi ysgolion i symud ar hyd y continwwm ieithyddol, gan adeiladu ar Ddeilliannau, Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-17 CSYM Cryfhau statws y Gymraeg yn y rhaglen ad-drefnu ysgolion
|
Adolygu a chytuno ar ddiffiniadau darpariaeth ieithyddol ysgolion Môn Diweddaru ‘Llawlyfr Mynediad Ysgolion’ y Cyngor, o safbwynt cyfrwng iaith ysgolion Cytuno ar amserlen i gryfhau statws iaith pob un o ysgolion Môn, ar sail blaenoriaeth Adolygu deilliannau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-17 i gael darlun o’r sefyllfa bresennol, e.e. Faint o ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg. Diweddaru canllawiau creu cynigion ad-drefnu ysgolion y Cyngor |
Y Cyngor ac Ysgolion yn arddel diffiniadau cyson a chywir ynghylch y ddarpariaeth ieithyddol, yn unol â thudalennau 12-14 dogfen Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg (Llywodraeth Cymru, 2007)http://gov.wales/docs/dcells/publications/150203-defining-schools-welsh-medium-cy.pdf Llawlyfr Mynediad Ysgolion Cyngor Sir Ynys Mon a diffiniadau’r ysgolion eu hunain yn cydymffurfio ag arweiniad Llywodraeth Cymru 100% o ysgolion cynradd Mon yn rhai dynodedig cyfrwng Cymraeg 100% o ysgolion uwchradd Môn yn rhai dynonedig cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog (2A/2B) Holl ysgolion newydd y Cyngor yn rhai ‘cyfrwng Cymraeg’, yn unol â diffiniad Llywodraeth Cymru (2007) |
Y Gweithle
Mae’n gwbl hanfodol cryfhau’r cymal yn y Cynllun Gweithredu ynghylch Cymreigio gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir dros amser, yn unol â dyheadau Aelodau Etholedig y Cyngor. Mynegwyd y dymuniad hwnnw yn glir ym Mhwyllgor Craffu Partneriaeth ac Adfywio y Cyngor, a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2016, pan roddwyd y Strategaeth gerbron y Cynghorwyr ar gyfer ymgynghori. Pwysleisiodd yr Aelodau y dylid gosod targedau pendant i newid iaith weinyddol y Cyngor, fesul adrannau cyfan, gyda’r nod o gael sawl adran gyfan yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn diwedd oes y Strategaeth hon yn 2021.
Ymhellach, cafwyd galwad gref i uchafu’r ymdrechion i newid iaith weinyddu’r Cyngor gan holl Aelodau Etholedig y Cyngor, fel y dengys eu cefnogaeth unfrydol i welliannau i Bolisi Iaith Gymraeg y Cyngor i’r perwyl hwnnw, mewn cyfarfod diweddar o’r Cyngor Llawn.
Yng ngoleuni’r uchod, nid yw’r targed presennol ar dudalen 11 y Cynllun Gweithredu i ‘[s]efydlu gwaelodlin o’r nifer sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, yn llafar ac ysgrifenedig, trwy ddatblygu holiadur i’w ddosbarthu’ yn ddigon uchelgeisiol o’r hanner. Golyga newid iaith weinyddu fewnol newid diwylliant a chyfeiriad yn llwyr, gydag arweiniad ar frig y Cyngor; nid yw’n gynaliadwy mynd i’r afael ag ef ar lefel unigolion - fel y gwna’r Strategaeth bresennol.
Holl bwrpas cael gweinyddiaeth fewnol Gymraeg yw normaleiddio defnydd yr iaith yn y gweithle yn ei gyfanrwydd, gan ei gwneud yn hollol naturiol defnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol ac mewn ystod o sefyllfaoedd ymhob agwedd ar y gwaith, ac ymhlith yr holl weithlu, tra bo’r gwasanaeth sy’n wynebu’r cyhoedd yn parhau i fod ar gael yn ddwyieithog. Mae’n dilyn, felly, bod angen i holl amgylchedd waith yr unigolyn hwyluso ac atyfnerthu’r nod hwnnw; nid yw’n rhywbeth y gall unigolion ei gyflawni eu hunain. Golyga hynny, ymhlith pethau eraill: wneud y Gymraeg yn hanfodol ym mhob swydd ddisgrifiad a chytundeb swydd; y caiff cyfarfodydd mewnol eu cynnal yn Gymraeg; bod Mewnrwyd y gweithwyr yn uniaith Gymraeg a bod adroddiadau yn cael eu drafftio yn y Gymraeg. Fel mae’n sefyll, ceir cymal niwlog a simplistig yn y Strategaeth ‘i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng ngweinyddiaeth fewnol y Cyngor’, heb weledigaeth gadarn nac amlinelliad o’r camau fydd yn cyflawni’r weledigaeth honno dim ond ‘nifer o benodiadau Cymraeg hanfodol’.
Profwyd manteision gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn sefydliadau eraill a gellir dadlau’n gryf fod gweithredu trwy’r Gymraeg yn cael effaith gadarnhaol i gynnal a chryfhau’r Gymraeg yn y gymuned ehangach, ond mae’n rhaid i’r Cyngor ei hun roi’r arweiniad. Er enghraifft, byddai blaenoriaethu newid iaith weinyddol yr Adran Datblygu Cynaliadwy i’r Gymraeg erbyn 2021 yn ddatganiad clir o fwriad i glymu iaith a datblygu economaidd, rhywbeth nad yw’n eglur yn nghefnogaeth y Cyngor i ddatblygiad Wylfa Newydd ar hyn o bryd.
Er mwyn gwireddu dymuniad Aelodau’r Cyngor, ac efelychu’r hyn a wnaed yn llwyddiannus mewn awdurdodau cyhoeddus eraill sy’n gweinyddu’n fewnol yn gyfan gwbl drwy’r Gymraeg ers degawadau lawer, rhaid cynnwys y gwelliannau canlynol i’r Cynllun Gweithredu:
Nod Cyffredinol |
Amcan i’w gyflawni erbyn diwedd blwyddyn 1 |
Cyfrifoldeb |
Dangosydd perfformiad |
“Nod y Cyngor yw sicrhau mai Cymraeg fydd prif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor, ar lafar ac yn ysgrifenedig.” (Cymal 3.2.4, Polisi Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Ynys Môn, 2016)
|
Y Cyngor wedi mabwysiadu diffiniad clir o ‘weinyddu mewnol Cymraeg’ i gwmpasu pob agwedd ar waith adrannau’r Cyngor, gan ystyried arfer dda yn genedlaethol Cadarnhau’r Gymraeg yn iaith weinyddol un Adran Arweiniol (e.e Addysg) Cytuno ar gynllun gweithredu i sefydlu’r Gymraeg yn iaith weinyddu adrannau eraill y Cyngor erbyn blwyddyn 2, 3, 4 a 5 y Strategaeth Paratoi pecyn hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer staff i wella ac ymestyn eu sgiliau yn y Gymraeg (boed hynny ar lafar neu’n ysgrifenedig), yn barod ar gyfer y newid Gwneud cais i Lywodraeth Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg am adnoddau ychwanegol er mwyn cyflawni’r Nod Cyffredinol
|
100% o staff y Cyngor yn ymwybodol o’r hyn a olygir gyda chysyniad ‘gweinyddu mewnol Cymraeg’ yng Nghyngor Môn ac wedi’u hargyhoeddi gan bwysigrwydd y weledigaeth Un Adran Arweiniol (e.e Addysg) yn gweinyddu’n gyfangwbl Gymraeg, yn unol â’r diffiniad a fabwysiadwyd gan y Cyngor Cynllun gydag amserlen bendant i’w chyhoeddi ar draws y Cyngor i sicrhau fod pob un o adrannau’r Cyngor yn gweinyddu’n Gymraeg erbyn diwedd oes y Strategaeth yn 2021, neu mor fuan â phosib wedi hynny. Staff yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael (Cyrsiau Gloywi ayyb) ac yn manteisio ar y cyfleoedd hynny
|
Y Gymraeg yn y gymuned
Oherwydd y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd rhwng Gwynedd a Môn, datblygiad Land and Lakes a datblygiad Wylfa Newydd, mae’n debygol iawn y bydd y canran yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn gostwng eto yn y cyfrifiad nesaf. Yn sicr does dim tystiolaeth i ddweud bydd y datblygiadau hyn yn cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg ar yr ynys ac ar hyn o bryd nid yw’r strategaeth iaith dan sylw yn cynnig mesurau ddigon cryf i gael gobaith o wrth weithio effeithiau’r datblygiadau hyn ar natur ieithyddol Môn.
Mewn perthynas â’r nod o fabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol sy’n parhau i gynnal polisiau er lles yr iaith Gymraeg, gan gynnwys asesu effaith ieithyddol cynigion datblygu perthnasol adeg ceisiadau cynllunio’ – credwn fod angen i’r asesiadau hyn fod yn annibynnol nid wedi eu comisiynu gan y datblygwyr eu hunain. Nid asesiadau annibynnol yw’r rhain ond rhai sy’n cyfiawnhau dyheadau’r datblygwr ac yn aml wedi eu hysgrifennu gan bobl nad ydynt yn arbenigo mewn cymdeithaseg iaith.
Ar hyn o bryd nid yw’r strategaeth yn dangos sut y bydd modd asesu effaith iaith y cynllun datblygu lleol neu gynigion datblygu adeg ceisiadau cynllunio.
Dylai’r asesiad fod yn un annibynnol gan aseswr sydd â phrofiad mewn asesiadau iaith o’r fath. O ganlyniad, dylai’r Cyngor fynd ati i gydweithio â’r Comisiynydd Iaith ac eraill i ddod i ddatrysiad ar y mater hwn, e.e. Trwy lunio rhestr o arbenigwyr sydd â’r arbenigedd mewn cymdeithaseg iaith i gyflwyno darlun gwrthrychol o effaith unrhyw ddarblygiad posib ar y Gymraeg fel bod modd i’r Pwyllgor Cynllunio wneud penderfyniad fwy ystyrlon ar sail y Gymraeg. Gallai’r Datblygwyr ariannu’r gwaith ond ei fod yn cael ei weinyddu’n annibynnol gan y Cyngor.
Credwn hefyd bod angen cynnig hyfforddiant i gynghorwyr ar y Bil Cynllunio newydd sy’n rhoi sail statudol am y tro cyntaf erioed i ystyried effaith datblygiadau ar y Gymraeg.
Edrychwn ymlaen at weld y gwelliannau hollol hanfodol uchod i’r Strategaeth wedi’u gwneud erbyn adeg ei chyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith fis Medi.