Ymateb Cymdeithas yr Iaith i alwad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg am dystiolaeth am ddyfodol ein cymunedau

Pwyswch yma i lawrlwytho a darllen copi pdf o'n hymateb.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.

Cyflwyniad

Does dim ateb syml nac ateb a fydd yn cynnig datrysiad syml i ddirywiad ein cymunedau. Yn hynny o beth gofynnwn i chi fel Comisiwn fod yn uchelgeisiol ac yn agored i bob math o syniadau. 

Mae ffigyrau diweddar y Cyfrifiad wedi dangos bod nifer y cymunedau Cymraeg yn disgyn felly os mai’r bwriad yw cyfyngu’r ymateb i ‘gymunedau Cymraeg’, nifer sy'n lleihau sydd dan sylw.

Os ydyn ni o ddifri yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru rhaid i ni weithredu i wneud y Gymraeg, dros amser, yn iaith ar bob cymuned. 

Tu hwnt i ymarferoldeb categoreiddio neu ddiffinio cymued yn gymuned Gymraeg mae perygl i gymunedau sy’n agos at y trothwy ond ddim yn cael eu hystyried yn gymunedau Cymraeg yn teimlo’n eilradd, yn anobiethiol ac wedi eu diystyrru. 

Ar hyn o bryd, nid oes strategaeth genedlaethol i ddiogelu ac adfer ein cymunedau Cymreiciaf, a does dim her, anogaeth na chymorth chwaith i gymunedau eraill ddod yn gymunedau Cymraeg, heblaw am gamau cyfyngedig iawn ym maes addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus.

Sail polisïau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw y dylid "cynyddu'r defnydd" o'r Gymraeg a "rhoi cyfleon" i'w defnyddio; a bod y Gymraeg yn ystyriaeth ar wahân i bopeth arall. Mewn geiriau eraill, cydnabyddiaeth mai Saesneg yw'r norm ond y byddai rhywfaint o Gymraeg yn ddymunol; a bod y Gymraeg yn ôl-ystyriaeth i bolisi neu gynllun.
Dydy strategaeth o'r fath ddim yn hwb digonol i gymunedau ledled Cymru, ac mae'n drychinebus i'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn brif iaith cyfathrebu.

Ymhellach, dydy effaith ar y Gymraeg ddim yn ystyriaeth wrth lunio mwyafrif y strategaethau mewn meysydd fel tai, cynllunio, datblygu economaidd, ad-drefnu llywodraeth a chyrff cyhoeddus, na hyd yn oed addysg mewn rhai achosion.

Mae ein syniadaeth wleidyddol fel mudiad wedi ei seilio ar gymdeithasiaeth ac a ddatblygodd trwy ein profiad o ymgyrchu. Mae esboniad o gymdeithasiaeth ym Maniffesto 1982:

"Yn fyr, gwelodd Cymdeithas yr Iaith na phery'r Gymraeg oni bydd parhad i'r gymdeithas o bobl sy'n siarad yr iaith honno; golyga hyn amddiffyn seiliau materol y cymunedau. Y mae hyn yn wir am ein cymunedau ledled Cymru, o'r gymuned wledig Gymraeg i'r gymuned ddinesig Saesneg. Ni ellir adfer y Gymraeg ond yng nghyd-destun cymdeithas fyw, a bydd iachâd y Gymraeg ynghlwm wrth adferiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Dyna'r rheswm dros ddatblygu set o bolisïau a elwir yn gymdeithasiaeth, sef polisïau a fyddai'n rhoi'r grym i gymunedau i reoli eu tynged eu hunain, gan na chredwn y gall mympwy buddiannau'r farchnad a chyfalaf breifat fyth amddiffyn cymdeithasau Cymraeg."

Gellid ystyried cymdeithasiaeth felly yn rhan o’r traddodiad sosialaidd ehangach, ond mae hefyd yn cynrychioli damcaniaeth neilltuol Gymreig a Chymraeg.

Mae cymdeithasiaeth yn mynd i’r afael â seiliau materol ein sefyllfa, a’i heffaith ar y Gymraeg, ac yn cynnig mesurau economaidd a chymdeithasol fydd yn cryfhau’r iaith. Mae’n rhoi pobl a chymunedau wrth galon gwleidyddiaeth ac yn anelu at rymuso cymunedau yn ddemocrataidd, yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Os gallwn rymuso cymunedau i reoli eu tynged eu hunain ac i ddatblygu’r mesurau fydd yn eu cryfhau, bydd ein cymdeithas gyfan yn trawsnewid a bydd sail lawer yn fwy cryf i gyfiawnder a rhyddid o bob math.

Mae creu strategaeth ar gyfer ein cymunedau bellach yn fater o frys gan fod y cymunedau hynny sydd â'r Gymraeg yn brif iaith yn prysur ddirywio, ac mae angen amser sylweddol i gymunedau amrywiol eraill ledled y wlad ddatblygu i fod yn gymunedau Cymraeg.

Daeth y Gymraeg fel iaith gymunedol yn bwysig i'r Gymdeithas yn ystod y 70'au hwyr, a datblygodd hynny erbyn yr 80'au.

Fe wnaeth y Gymdeithas ddatgan yn Cymdeithasiaeth: Yr Ail Ffrynt yn 1986 y dylai cynnal cymunedau ddod yn un o brif amcanion polisi cyhoeddus.

Noda'r ddogfen mai trwy gymdeithasu â'i gilydd y mae pobl yn datblygu diwylliant a chydweithrediad cymdeithasol-economaidd sy'n cyfoethogi bywydau pob unigolyn. Un o ddibenion polisi cyhoeddus felly ddylai fod cynnal a datblygu cymunedau a bywyd cymdeithasol. Byddai'n nod pwysig mewn polisi economaidd, wrth drefnu gwasanaethau, trafnidiaeth, hamdden, addysg a threfnu fod grym gwleidyddol real gan gymunedau lleol. Gall dirywiad yr iaith Gymraeg fod yn arwydd 'papur litmus' o ddirywiad mewn bywyd cymunedol, a gall adfywiad yr iaith fod yn rhan o adfywiad cymunedol ehangach.

Ar 15 Ionawr 2011, bron i hanner can mlynedd ar ôl darlledu darlith Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis ar y radio, traddodwyd darlith arall Tynged yr Iaith 2 gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn y Gell, Blaenau Ffestiniog. Y nod oedd rhannu gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith ar sut i sicrhau Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy gan bwysleisio mai "dyfodol yr iaith yw dyfodol ein cymunedau".

Mae’r Maniffesto a lansiwyd gennym yn 2022, Cymru Rydd, Cymru Wedd, Cymru Gymraeg; 

yn nodi bod y Gymraeg yn parhau i gael ei hymylu mewn polisi cyhoeddus, yn hytrach na’i phrif ffrydio ar draws pob maes, er gwaetha ugain mlynedd a mwy o ddatganoli.

Mae’n mynd ymlaen i ddangos cysylltiad y Gymraeg â phob rhan o’n bywyd.

Er enghraifft, mae tanfuddsoddi mewn cymunedau wedi golygu torri ar neu golli gwasanaethau. Dydy hi ddim yn bosibl byw mewn nifer o gymunedau gwledig heb gar, sydd yn niweidiol i’r Gymraeg a’n cymunedau yn ogystal â’r amgylchedd.

Ond fel erioed, mae amryw bosibiliadau o’n blaenau, a phenderfyniad pobl Cymru yw hi pa lwybr y byddwn yn ei gymryd.

A her y Maniffesto i ni yw creu Cymru rydd, werdd, Gymraeg.

Cymuned o gymunedau yw Cymru.

Ein dymuniad/gweledigaeth ni yw bod pob cymuned yn datblygu i fod yn gymuned Gymraeg yn ei ffordd ac yn ôl ei chymeriad ei hun. Mae'n bwysig fod yr ewyllys yn codi o'r siroedd a'r cymunedau eu hunain, a'u bod yn cynllunio eu llwybr eu hunain, ond mae angen fframwaith cenedlaethol sy'n hybu'r symudiad.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwrthod y cysyniad o 'Fro Gymraeg' gan fod angen ystyried cymeriad pob cymuned, ac y byddai cyfyngu unrhyw ymateb i gymunedau Cymraeg yn atal datblygiad yng ngweddill Cymru.

Byddai 'Ardaloedd o Sensitifrwydd Ieithyddol' hefyd yn anfon neges anghywir, sef neges (fel gydag ardaloedd a ddynodir yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, SoDdGA) mai Saesneg yw'r norm a bod y Gymraeg yn anarferol.

Eto i gyd, dydyn ni ddim am gadw'r status quo.

Mewn cymunedau lleol daearyddol y mae pobl yn gyffredinol wedi datblygu cyfathrach a diwylliant gyda'i gilydd, ac mae gwreiddiau cymunedol yn bwysig i ddiwylliant a hunaniaeth Cymry. Bu cymunedau daearyddol lleol yn darparu cartrefi, gwaith, gwasanaethau, hamdden a diwylliant i fwyafrif mawr ein pobl.

Erbyn hyn y mae cymdeithas yn fwy aml-haenog, ond y mae'r gymuned ddaearyddol yn dal yn bwysig, yn enwedig i blant oed cynradd. Mae ysgol a chyfleustra cyn-ysgol yn hynod bwysig i drosglwyddo diwylliant, ac yn enwedig felly i blant mewnfudwyr.

Cynigiwn bod ystyried cymunedau yn nhermau cylchoedd consentrig. Mewn ardaloedd gwledig, y cylch cymunedol niwclear fel arfer fydd pentref, y cylch nesaf fydd cylch o bentrefi neu brif bentref ardal; y cylch nesaf fydd tre farchnad neu ddalgylch ysgol uwchradd, wedyn y sir, wedyn y rhanbarth. Mewn ardal drefol, gall cymdogaeth fod yn gylch niwclear a thref yn ail gylch.

Mae'r gwead cymunedol bellach yn fwy cymhleth gyda datblygiadau cymunedau gweithle, cymunedau hamdden, cymunedau ar-lein ac ati. Er hynny, cryfder diwylliant Cymraeg fydd diwylliant cymunedol, ac mae'n bwysig darparu cyfleusterau a chanolfannau cymunedol i gyfleu diwylliant a'r iaith.

Polisi cyhoeddus a'r cymunedau eu hunain ddylai adnabod pa fath ar wasanaethau a datblygiadau sydd fwyaf addas i bob cylch a beth fydd y cyd-ddibyniad rhwng y cylchoedd. Does dim un o'r cylchoedd hyn yn hunan-gynhaliol ynddynt eu hunain; ond mae'n bosib mai'r dalgylch tre farchnad neu ddalgylch ysgol uwchradd sy'n gylch mwyaf cyfan heb fynd yn rhy bell oddi wrth bobl.

Llwybr Datblygu'r Gymraeg

Argymhellwn felly sefydlu Llwybr Datblygu'r Gymraeg a fydd yn cynnwys pob ardal o Gymru ac yn anelu at gryfhau sefyllfa'r Gymraeg ym mhob rhan o'r wlad. Y nod hir dymor ym mhob rhan o Gymru yw cyrraedd sefyllfa lle mai’r Gymraeg fydd y brif iaith gymunedol. Mae cysyniad y llwybr (neu continwwm) yn un sydd wedi'i ddefnyddio ym maes addysg a gellir elwa o arfer da yn y maes hwnnw.

Wrth sefydlu llwybr o'r fath, awgrymir defnyddio'r canlynol fel egwyddorion ar gyfer y canllawiau newydd.

(i) Cynnwys rhestr o faterion sylfaenol sy'n effeithio ar y Gymraeg y dylid mynd i'r afael  â nhw ym mhob rhan o Gymru.

(ii) Sefydlu gwahanol gategorïau ieithyddol mewn amrywiaeth feysydd, a theilwra polisïau addysg, iaith weinyddol, prosiectau, tai a chynllunio yn ôl y categorïau ieithyddol hyn. Yn hytrach na dau gategori ('sensitif' neu beidio), dylai fod, o leiaf, dri neu bedwar categori y mae'n rhaid i bob ardal o'r wlad fod yn rhan ohono, gan roi ystyriaeth i'r Gymraeg ar wahanol raddfeydd.

(iii) Gall fod awgrymiadau o ran sut i bennu'r ardaloedd hyn, ond byddai'n rhaid rhoi hyblygrwydd, megis dewis rhwng niferoedd (a all fod yn fwy perthnasol o fewn ardaloedd trefol) a chanrannau fel maen prawf o ran penderfynu lle mae cymuned yn eistedd o fewn y llwybr.

(iv) Dylai fod rôl glir gan Gomisiynydd y Gymraeg i roi cyngor i awdurdodau cynllunio o ran sut i gategoreiddio cymunedau. Dylai hefyd fod rôl gan y Comisiynydd o ran cymeradwyo'r hunan-asesiadau a monitro'r cynnydd.

Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau i hybu'r Gymraeg eisoes, trwy Gynllun Hyrwyddo'r Gymraeg sy'n cael ei adolygu'n flynyddol a'i greu o'r newydd bob pum mlynedd.

Gallent hefyd annog cymunedau i symud i fyny trwy'r categorïau, e.e. trwy osod targed o gyrraedd y categori nesaf o fewn 5 mlynedd neu ddegawd. Byddai angen felly sicrhau cymhellion clir i gymunedau wneud hyn.

Un cymhelliant amlwg fyddai buddsoddiadau economaidd ariannol uwch wrth symud i fyny categorïau gyda’r buddsoddiad uchaf i’r categori uchaf. Ymysg posibiliadau mae sefydlu:

(i) dyletswydd statudol bod pob cronfa economaidd a gynhelir gan Lywodraeth Cymru yn cynorthwyo cymunedau i symud ar hyd llwybr datblygu’r Gymraeg ac i aros yn y categori uchaf

(ii) Cronfa Cymunedau Cymraeg Cymru Gyfan yn seiliedig ar brofiad Cronfa Arloesi Arfor sy'n cynorthwyo pob cymuned i symud ar hyd y llwybr ac i aros yn y categori uchaf.

Rhaid bod digon o gategorïau fel eu bod yn ddigon agos at ei gilydd fel y gellid yn ymarferol dringo trwy'r categorïau.

Credwn fod dadl dros ystyried hyd at oddeutu chwe chategori felly.

Awgrymwn bod penodi siroedd i gategorïau, ond bod hawl gan Gynghorau Sir i benodi gwahanol ardaloedd o'u sir i wahanol gategorïau yn ôl eu disgresiwn.

Bydd rhaid mabwysiadu nod a disgwyliad cenedlaethol bod ardaloedd yn symud i fyny'r categorïau dros amser. Ond byddai angen y gwaith mwyaf brys yn y cymunedau a ddynodid i fod y mwyaf bregus, a bod rhaglen frys i gryfhau'r cymunedau Cymraeg cyfredol trwy wneud y Gymraeg yn brif iaith ym mholisi addysg, gweinyddiaeth, tai, cynllunio ac economaidd sy'n effeithio ar ardal neu gymuned; a thrwy brosiectau arbennig e.e. o ran amaeth, defnydd cyfleusterau cymunedol, dysgu Cymraeg i fewnfudwyr, ac ati.

Rhaid derbyn y bydd mewnfudo, ond mae modd anfon arwydd clir i fewnfudwyr mai Cymraeg yw prif iaith y gymuned y symudant iddi.

Y bwriad yw mai trwy hunan-asesu y bydd categorïau'n cael eu dynodi, nid trwy orchymyn biwrocratiaid Llywodraeth Cymru, a'r gobaith yw mai balchder fyddai'n annog siroedd i fod eisiau codi trwy'r categorïau.

Does yna'r un ateb heb ei wendidau ac un perygl gyda'n cynnig ni yw y byddai llawer o sylw yn mynd at sut i ddynodi categorïau yn hytrach na beth yn union yw'r polisïau i'w gweithredu ynddynt. Mae angen felly dull syml a chyflym o ddynodi categorïau a modd rhwydd o symud trwyddynt; a sefydlu'r gallu i Gynghorau Sir ddynodi ardaloedd penodol mewn categori gwahanol.

E.e. gallai pobl Gwynedd ddynodi Gwynedd oll yn y categori uchaf, ond rhoi ardaloedd fel Dysynni, Bermo a Bangor mewn categori is, gyda'r bwriad a chynllun iddo godi i'r categori uchaf.

Nid ydym chwaith yn honni bod hwn yn fodel gorffenedig, nac yn hawlio monopoli na hawlfraint dros y cynnig yma, ond yn ei gyflwyno fel fframwaith i’w ystyried a’i ddatblygu.

Rhaid cydnabod wrth gwrs mai gweledigaeth ar gyfer y tymor hir ond y byddai angen cynllunio ar ei chyfer mewn da bryd.

Ar yr un pryd felly mae angen gweithredu brys gaiff effaith yn sydyn. Gyda hynny mewn golwg, cynigiwn syniadau a datrysiadau a allai gael eu gweithredu yn syth, fel camau tuag at y syniad o gontinwwm cymunedau.

Tai

Dros y blynyddoedd diweddar daeth hi’n fwyfwy amlwg bod tai yn ffactor sylweddol sy’n effeithio ar hyfywedd ein cymunedau.

Nid yw hon yn broblem nac yn ffenomena newydd, bu Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu am Ddeddf Eiddo ers y 1980’au. 

Yn y degawdau ers hynny mae’r bwlch rhwng prisiau tai ac incwm cyfartalog lleol wedi cynyddu drwy'r amser ac, o ganlyniad, mae llawer o’n siaradwyr Cymraeg cynhenid, yn enwedig ein pobl ifanc, wedi gorfod symud o’u cymunedau brodorol gan wanhau y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

Hanfod y broblem yw bod marchnad tai agored yn hystyried tŷ fel ffordd o wneud elw ohono yn hytrach na chartref, sydd o fantais i bobl gefnog. Mae angen trawsnewid y system dai ac eiddo yn ei chyfanrwydd er mwyn sicrhau rheolaeth dros y farchnad dai agored, rhoi anghenion lleol o flaen elw a thrin tai fel cartrefi yn hytrach nag asedau ariannol i wneud elw ohonynt.

Daeth y broblem tai yn fwy amlwg wrth iddi ddwysau yn sgil y pandemig, wrth i bobl fod eisiau ‘ffoi’ o ardaloedd poblog ac wrth i arferion gwaith ddod yn fwy hyblyg. A daeth hi’n fwyfwy amlwg mai anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol sydd wrth wraidd problemau tai wrth i:

  • dai mewn pentrefi glan môr gael eu prynu dros nos

  • alw am ail gartrefi a thai i’w gosod fel llety gwyliau tymor-byr gynyddu

  • landlordiaid preifat droi tenantiaid lleol allan o’u cartrefi dim ond er mwyn gosod eiddo fel llety gwyliau, er mwyn gwneud mwy o elw.

O ganlyniad i ddwysau problemau tai fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith ddiweddaru ein cynigion ar gyfer Deddf Eiddo, sydd i’w gweld yn llawn yma

Nod gyntaf ein Deddf Eiddo fyddai sefydlu’r egwyddor o hawl i gartre'n lleol trwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i weithredu ar gais pobl leol am gartref i'w brynu, ei rentu neu drwy gynllun hybrid, a bod hynny o fewn pellter ac amser rhesymol

Mae gan bob Awdurdod Lleol ddyletswydd i ddiwallu anghenion tai eu hardal. Mae eu prif swyddogaethau’n canolbwyntio ar ddatblygu a gweithredu strategaeth dai, dyrannu tai cymdeithasol presennol (stoc yr Awdurdod a chymdeithasau tai), gwasanaethau atal digartrefedd, darparu cyngor tai a datblygu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd mewn partneriaeth â chymdeithasau tai.

Ond dylai awdurdodau lleol fod llawer yn fwy rhagweithiol wrth adnabod anghenion ac amgylchiadau pobl leol, wrth ddod o hyd i atebion unigol addas a'u hwyluso. Byddai angen bod yn ddyfeisgar wrth ateb yr anghenion a chydweithio gyda darparwr tai cymunedol i ateb yr anghenion.

Yn y tymor byr iawn gallai cyrraedd anghenion fod yn anodd, felly dylai bod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i gyd-gynhyrchu Asesiad Cymunedol rheolaidd ym mhob ardal o'r sir gyda chymunedau; a'u bod yn sail i bolisïau tai, defnydd tir a pholisïau cyhoeddus fel trafnidiaeth ac addysg.

Mae cynnal adolygiad cyfnodol o anghenion tai yn ddyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol. Ers 2006, cynhaliwyd yr adolygiad hwn trwy Asesiad Marchnad Tai Lleol (AMTLl).

Mae AMTLl yn rhan hanfodol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu a Strategaethau Tai Lleol awdurdodau lleol. Mae yn ystyriaeth allweddol wrth ddyfeisio’r strategaethau gofodol ar gyfer Cynlluniau Datblygu ac ar gyfer dyrannu tir ar gyfer tai fforddiadwy a thai’r farchnad agored.

Fodd bynnag, dim ond amcangyfrifon eang, hirdymor y mae AMTLl yn eu rhoi o'r hyn y gallai'r angen lleol am dai fod yn y dyfodol - yn seiliedig ar ardaloedd swyddogaethol lle mae pobl yn byw ar hyn o bryd ac ar y rhagdyb y byddent yn fodlon symud cartref, yn hytrach nag ar gymunedau diffiniedig unigol. Er y bydd yr amcangyfrif hwn yn llywio'r cynllun datblygu, mae’n annhebygol o fod yn cyfateb yn uniongyrchol i angen neu ofyniad tai lleol.

Yn lle amcangyfrifon damcaniaethol o angen a galw, dylai Cynlluniau Datblygu a Strategaethau Tai awdurdodau lleol gael eu llywio gan dystiolaeth o anghenion lleol ar lefel cymunedau unigol.
Ar hyn o bryd mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn tueddu i anelu at greu canolfannau gwasanaeth, gan ddiystyru pentrefi a chymunedau llai. 

Byddai'r dystiolaeth hyn yn sail ar gyfer penderfynu ar ddatrysiadau tai priodol ar gyfer pob cymuned, adnabod cyfleoedd lleol i ddiwallu'r angen ac yna cyflwyno'r achos dros fuddsoddi arian cyhoeddus.

Dydy asesu’r angen ar lefel gymunedol ddim yn beth newydd nac anghyffredin. Mae Hwyluswyr Tai Gwledig yn y Gogledd Orllewin a’r De Orllewin yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i nodi anghenion lleol presennol, fel arfer mewn cydweithrediad â’r cynghorau cymuned a grwpiau cymunedol.

Byddai cynnal asesiad rheolaidd o anghenion bob cymuned yn darparu sylfaen dystiolaeth ‘go iawn’ ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu a Strategaethau Tai Lleol a fyddai, yn eu tro, yn sicrhau bod anghenion lleol yn llywio polisïau defnydd tir, targedau tai fforddiadwy a blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn cartrefi newydd. 

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hallgau fwyfwy rhag gallu sicrhau cartref addas i’w rentu neu ei brynu oherwydd anfantais economaidd a chymdeithasol. Y farchnad dai heb ei rheoleiddio yw prif achos chwyddiant prisiau y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Mae angen gosod amodau ar berchnogaeth a gwerthiant er mwyn rhoi’r hawliau cyntaf i bobl leol neu sefydliadau a arweinir gan y gymuned i brynu neu rentu tai, tir ac eiddo felly. Byddai hynny’n golygu mai gan bobl leol mae'r cyfle cyntaf i brynu neu rentu eiddo sy’n dod ar y farchnad yn y gymuned honno.

Yn ymarferol byddai'n ofynnol i'r gwerthwr (unigolyn, sefydliad preifat neu gorff cyhoeddus) ei hysbysebu'n lleol am hyd at 6 mis. Yn ystod y cyfnod hwn byddai moratoriwm ar werthu'r eiddo i unrhyw un heb gysylltiad lleol tra bod y gwerthwr yn ystyried cynigion gan unigolion lleol a darparwyr tai cymunedol. Byddai'n ofynnol i'r gwerthwr dderbyn cynnig i brynu gan ymgeisydd lleol neu ddarparwr cymunedol sy'n cyfateb i brisiad annibynnol o'r eiddo neu'n fwy na hynny.

Dylai rhaglenni buddsoddi tai yr awdurdodau lleol ddyrannu digon o gymhorthdal, ar ffurf grantiau a benthyciadau, i alluogi ymgeiswyr lleol a darparwyr tai cymunedol i gyfnewid contractau cyn diwedd y cyfnod moratoriwm. Yn ogystal, os yw'r eiddo'n cael ei brynu gan ddarparwr tai cymunedol dylai fod yn amod grant i weithredu polisi gosod sy'n blaenoriaethu pobl leol cyhyd a bod yr Asesiad Cymunedol yn parhau i ddangos anghenion lleol heb eu diwallu.

Yn ogystal â bod yn fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu dylai cartrefi fod yn fforddiadwy i'w cynnal. Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol i wneud hynny yw bod tai yn gynaliadwy i fyw ynddynt.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau (yr egwyddor datblygu cynaliadwy).

Mae’r Deddf yn gosod saith o nodau llesiant sydd, gyda’i gilydd, yn darparu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y cyrff cyhoeddus i weithio tuag ati. Mae nifer o'r nodau yn uniongyrchol berthnasol i'n galwad am Ddeddf Eiddo:

  • Cymru lewyrchus: cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd)

  • Cymru o gymunedau cydlynol: cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da

  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu: cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden

Yn amlwg, mae pob ymyrraeth sy’n ymwneud â gwella’r stoc dai presennol neu ddarparu cartrefi newydd yn berthnasol i’r nodau llesiant mewn rhyw ffordd:

  • yn gymdeithasol e.e. ateb anghenion lleol, fforddiadwy i bobl leol, cynnal gwasanaethau lleol

  • yn economaidd e.e. buddsoddi mewn cymunedau, cefnogi contractwyr a chyflenwyr lleol

  • yn amgylcheddol e.e. lleihau carbon, lliniaru tlodi tanwydd, diogelu cynefinoedd naturiol), ac

  • yn ddiwylliannol e.e. ateb anghenion lleol, cynnal cymunedau Cymraeg.  

Felly, dylai fod yn ofynnol i bob ymyriad tai arfaethedig gael ei asesu yn erbyn yr egwyddor datblygu cynaliadwy a’r nodau llesiant. Dylai hyn gynnwys polisïau tai a defnydd tir mewn Cynlluniau Datblygu, ceisiadau cynllunio a gyflwynir ar gyfer cartrefi newydd, rhaglenni buddsoddi mewn Strategaethau Tai Lleol a phrosiectau tai fforddiadwy newydd.

Yn syml, ni ddylid mabwysiadu unrhyw bolisi tai, ni ddylid rhoi caniatâd cynllunio na chymeradwyo unrhyw brosiect tai sy’n derbyn arian cyhoeddus lle na ellir dangos eu bod yn bodloni’r egwyddor datblygu cynaliadwy ac yn cefnogi cyflawni’r nodau llesiant.

Yn ogystal, dylai’r ddyletswydd i ymgymryd â datblygu cynaliadwy a gweithio tuag at y nodau llesiant gael ei hymestyn i bob sefydliad sy’n cyfranogi yn y system dai ac eiddo gan gynnwys tirfeddianwyr preifat, datblygwyr tai a darparwyr tai cymunedol.

Yn yr un modd, dylai’r Gymraeg fod yn brif ystyriaeth ym mhob datblygiad. Mae enghreifftiau o gynlluniau o amryw feintiau sydd yn honni rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg trwy gynnal asesiad o effaith iaith nad yw’n ddim mwy nag ymarfer ticio blwch.

Mae “Cymru'r Dyfodol - Y Cynllun Cenedlaethol 2040" er enghriafft yn blaenoriaethu ardaloedd dinesig trwy’r Ardaloedd Twf Cenedlaethol; ac yn pwysleisio’r angen am well cysylltedd rhwng ardaloedd yn y gogledd-ddwyrain yng a Caer, Lerpwl a Manceinion.

Yn yr un modd mae cynlluniau dinas-ranbarthau fel Dinas-Ranbarth Abertawe, sydd yn cynnwys Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, yn esgeuluso cymunedau trefol, gweledig ac ôl-ddiwydiannol a dydy’r Gymraeg ddim yn un o’r prif ystyriaethau, os o gwbl. 

Yn aml does dim ystyriaeth o gwbl i’r effaith ar ein cymunedau chwaith. Parhau i ddirywio fydd ein cymunedau dan y cynlluniau yma felly, oni bai bod hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol allweddol yn cael eu cryfhau. 

Mae traddodiad hir o gymunedau Cymreig yn prynu, datblygu a rheoli asedau lleol er mwyn darparu gwasanaethau hanfodol megis tafarndai, siopau cymunedol a phrosiectau ynni adnewyddol.

Serch hynny prin yw’r esiamplau cyfredol o fentrau tai dan arweiniad y gymuned. Ffurfiwyd Cymdeithas Tai Gwynedd yn 1971 ac mae’n parhau i weithredu gan ddarparu cartref i ddegau o deuluoedd lleol dros y 50 mlynedd ddiwethaf. Cafodd nifer o gymdeithasau tai gwledig eu sefydlu yn y Gogledd a’r De-Orllewin yn ystod yr 1970au ac 80au ond nid oes yr un o’r sefydliadau gwreiddiol yn bodoli heddiw, ac mae’u hasedau tai wedi’u trosglwyddo i gymdeithasau tai rhanbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cydnabod gallu cymunedau lleol i fynd i’r afael â’u hanghenion tai eu hunain ac wedi ymrwymo i barhau i gefnogi mentrau a arweinir gan y gymuned. Dylid gofalu nad yw unrhyw raglen i hyrwyddo a chefnogi mentrau tai cymunedol a chydweithredol newydd yn eu hatal yn y pen draw rhag cynnig amrywiaeth o atebion lleol priodol nac yn gwanhau rheolaeth a dylanwad y cymunedau sy’n eu sefydlu.

Ar hyn o bryd mae grwpiau cymunedol sydd am gael mynediad i dir ac eiddo yn dibynnu'n llwyr ar drosglwyddo asedau cymunedol o gyrff cyhoeddus neu ar dirfeddianwyr dyngarol. Gall cymunedau lleol fod o dan anfantais pan fo tirfeddiannwr (preifat neu gyhoeddus) yn penderfynu gwerthu darn o dir neu adeilad y gellid ei ddefnyddio ar gyfer tai fforddiadwy: yn bennaf oherwydd awydd y perchennog i werthu cyn gynted â phosibl ar y farchnad agored.

Yn yr Alban, ac i ryw raddau yn Lloegr, mae polisïau’n bodoli i alluogi trosglwyddo tir ac asedau i berchnogaeth gymunedol sydd yn gosod cynseiliau defnyddiol gyda’r bwriad o wella’r pwerau sydd gan gymunedau yng Nghymru.

Yn Lloegr ceir Hawl Gymunedol i Bidio a gall grŵp cymunedol restru ased o werth cymunedol

a gwneud cais i gael ei drin fel cynigydd posibl, yna bydd moratoriwm 6 mis llawn yn weithredol lle gall y perchennog barhau i farchnata a thrafod gwerthiannau, ond ni chaiff gyfnewid contractau.

Yn yr Alban mae’r polisi Hawl Gymunedol i Brynu yn galluogi cymunedau sy’n cofrestru buddiant cymunedol mewn tir ac eiddo i gael yr opsiwn cyntaf i’w brynu pan gynigir y tir neu eiddo i’w werthu. 

Er hynny, mae angen buddsoddiad er mwyn galluogi mentrau cymunedol i arfer eu hawliau i berchenogi tai, tir ac asedau cymunedol.

Y Grant Tai Cymdeithasol yw’r prif grant cyfalaf a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu tai cymdeithasol a fforddiadwy. Mae cymdeithasau tai hefyd yn benthyca cyllid preifat i adeiladu cartrefi newydd a gwneud i arian cyhoeddus fynd ymhellach.

Mae'r cyllid grant hwn yn hanfodol i sicrhau bod cynlluniau'n hyfyw a lefelau rhent yn parhau i fod yn fforddiadwy.

Bydd mentrau tai cymunedol a chydweithredol mewn cymunedau Cymraeg yn wynebu her sylweddol i godi arian ar gyfer prynu tir ac eiddo a datblygu cartrefi gwirioneddol fforddiadwy felly. Gallant efelychu y prosiectau ynni adnewyddadwy a thafarndai cymunedol sydd wedi llwyddo codi arian trwy werthu cyfranddaliadau cymunedol. Fodd bynnag, oherwydd y costau sylweddol yn gysylltiedig â darparu cartrefi fforddiadwy, bydd angen iddynt gael mynediad at gymorth ariannol ychwanegol.

Dylai Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru gynnig cymorth ariannol i fentrau cymunedol Cymraeg ar ffurf grantiau, buddsoddi ecwiti a benthyciadau â llog isel.  

Yn benodol, dylai Llywodraeth Cymru sefydlu gronfa debyg i Gronfa Dir Yr Alban, sydd yn ariannu prynu tir ac adeiladau a fyddai’n cyfrannu at gynaliadwyedd cyffredinol cymuned neu alluogi cadw neu ddarparu gwasanaethau lleol allweddol. Gall Cronfa Dir yr Alban gefnogi prynu llawer o fathau o dir ac adeiladau yn amrywio o ystadau mawr a choedwigaeth i siopau a hybiau cymunedol. Rhaid i unrhyw dir neu adeilad a brynir allu darparu lefel o incwm sy'n sicrhau nad yw'n dod yn rhwymedigaeth i'r gymuned yn y tymor hir.

Mae lefelau buddsoddiad a gynhyrchir yn lleol yn ddangosydd pwysig o gefnogaeth a chapasiti lleol. Fel isafswm, dylai 5% o'r cyllid ddod o ffynonellau eraill gan gynnwys ymdrechion codi arian y grŵp cymunedol, cyfranddaliadau cymunedol, gostyngiadau wedi'u negodi ar y prisiad, neu arianwyr eraill.

Bydd sefydlu banc cymunedol yng Nghymru, Banc Cambria, yn gyfle unigryw i hwyluso buddsoddiad lleol mewn asedau cymunedol. Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â Banc Cambria i ddatblygu cronfa fenthyca llog isel ar gyfer pobl leol a mentrau tai a arweinir gan y gymuned. Byddai'r gronfa yn benodol  ar gyfer ariannu costau prynu, gwella neu adeiladu tai fforddiadwy ac adnoddau cymunedol eraill.

Bydd y cronfeydd cyhoeddus a phreifat hyn yn hanfodol os yw mentrau cymunedol i wireddu’r cyfleoedd a fydd yn cael eu creu drwy gyflwyno polisïau tebyg i’r Hawl Gymunedol i Brynu.

Mae'r ffocws ar dai yn ymwneud â pherchnogi tai yn bennaf, ond mae angen rheoli lefel rhenti, safonau tai ac amodau tenantiaeth i sicrhau cartrefi fforddiadwy o safon yn y sector rhentu preifat a'r sector tai cymdeithasol hefyd.

Gwelwyd pobl yn cael eu troi o'u cartrefi rhent heb reswm penodol, er mwyn i'r landlord osod yr eiddo fel llety gwyliau neu AirBnB a chodi eu prisiau, er mwyn cynyddu eu helw.

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar y 1af o Ragfyr 2022 gan greu system gwbl newydd ar gyfer tenantiaethau preswyl lle bydd y rhan fwyaf o denantiaethau a thrwyddedau presennol yn cael eu trosi’n gontractau meddiannaeth.

Ceir dau fath o gontract meddiannaeth: ‘Contract Diogel’ a ‘Contract Safonol’. Bydd y math o gontract meddiannaeth sydd ar waith yn dibynnu a yw’r eiddo yn eiddo i landlord cymunedol neu landlord preifat.

Disgwylir y bydd landlordiaid preifat fel arfer yn ymrwymo i gontractau safonol, ond gallant ddewis ymrwymo i gontract diogel. Gall y landlord derfynu contract safonol gydag achos, neu heb achos, ar ôl cyfnod penodol o rybudd..

Mae’r Contract Diogel a gyflwynir gan y Ddeddf Rhentu Cartrefi wedi’i fodelu ar y denantiaeth ddiogel gyfredol a gyhoeddir gan Awdurdodau Lleol. Yn gyffredinol, dim ond am reswm penodol y gall y landlord ddod â’r contract i ben. Mae hyn yn rhoi’r sicrwydd meddiannaeth cryfaf i ddeiliad y contract.

Dylid diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i roi’r hawl i denantiaid landlordiaid preifat dderbyn Contractau Diogel. Byddai gwella sicrwydd deiliadaeth yn gwneud y sector rhentu preifat yng nghymunedau Cymru yn opsiwn llawer mwy sefydlog a deniadol i drigolion lleol nad oes ganddynt y modd i ystyried prynu tŷ.

Yr Economi

Mae’r economi’n hanfodol er mwyn creu’r amodau cymdeithasol priodol lle gall siaradwyr Cymraeg aros mewn cymunedau Cymraeg, neu ddychwelyd i’r cymunedau hynny. Er nad ydym yn gallu rheoli pob ffactor sy’n dylanwadu ar dwf economaidd, mae yna bethau y gallwn ddylanwadu arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau, y pwys a roddir ar y Gymraeg, lleoliad swyddi yn y sector cyhoeddus, clystyrau, sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel sgil gwerthfawr mewn datblygiadau mawr, a chyfleoedd i ddefnyddio’r sgiliau hyn.

Yn aml mae yna ragdybiaeth gyffredinol fod twf economaidd a chynnydd mewn cyflogaeth yn dod â sgil effeithiau cadarnhaol i’r gymuned ac i’r Gymraeg.

Prin fod yna dystiolaeth o hynny, hyd yn oed yn sgil grantiau busnes cynllun Arfor, ac yn wir mae un o argymhellion Adroddiad ar raglen Arfor yn dweud fod angen ‘deall y berthynas rhwng yr economi a’r Iaith yn well’.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi argymell ymyrraethau cenedlaethol yn y gorffennol, yn amrwyio o ddatganoli swyddi o Gaerdydd, sefydlu Menter Ddigidol Gymraeg yn y gorllewin ac ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerdydd er mwyn gwella cysylltedd.

Ond mae pethau y gellid eu gwneud ar lefel sirol hefyd. 

Mae cynlluniau fel Cynllun 10 Tref Sir Gaerfyrddin yn fodel posibl i'w ystyried a'i efelychu mewn ardaloedd eraill. Ei nod yw gwrthbwyso'r pwyslais ar ddatblygu dinesig a ddaw yn sgil cynllun Dinas-ranbarth Bae Aberawe.

Hyd y gwyddom Sir Gâr yw'r unig sir sydd wedi mynd ati i greu cynllun o'r fath hyd yma, ac rydyn ni'n croesawu eu gweledigaeth, ond yn gweld bod lle a chyfle i gynnig mwy o fudd i'r ardaloedd o amgylch yn y trefi yn hytrach na chanolbwyntio ar y trefi eu hunain.

Credwn y dylai unrhyw gynllun tebyg fod dan reolaeth a chyfrifoldeb Awdrudod Lleol yn hytrach na Llywodraeth ganol.

Bydd hi'n bwysig casglu data wrth asesu cynlluniau penodol a datblygu ymyriadau perthnasol; a gosod criteria a allai fod o gymorth wrth asesu cynlluniau arfaethedig, gyda golwg ar  beth fydd ei ardrawiad potensial( positif a negyddol) ar yr Iaith yn yr ardal benodol.

Gellir ystyried cyfraniad at, er enghraifft:

  • gynyddu defnydd yr Iaith yn gyhoeddus
  • gynyddu defnydd yr Iaith ar lefel  bersonol
  • gynyddu defnydd yr Iaith o fewn y gweithle.
  • arwain at gyfleoedd newydd i siaradwyr Cymraeg
  • arwain at ddenu siaradwyr Cymraeg yn ôl i’r ardal
  • rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg aros yn yr ardal
  • creu swyddi newydd a gweithgarwch economaidd
  • creu cyfloedd cyflogaeth sydd angen sgiliau Cymraeg
  • cyfle i hyfforddi neu brentisiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ogystal, ar hyn o bryd mae nifer o gymunedau Cymru yn ddibynnol ar un neu ddiwydiant yn unig, ac ar ddiwydiannau nad ydyn nhw'n gynaliadwy nac yn fuddiol i'r gymuned a'r bobl leol yn bennaf.

Dylai mentrau sy'n cael eu harwain gan y gymuned ac yn hybu defnydd o’r Gymraeg fod yn ganolog i unrhyw ddatblygu a buddsoddi mewn cymuedau. Dydy'r Gymraeg ddim yn rhywbeth ar wahân felly nid creu canolfannau a gweithgareddau Cymraeg sydd eu hangen ond intigreiddio'r Gymraeg i'r hyn sy'n bod yn barod; neu greu mentrau a chynnal prosiectau sydd o fudd i'r Gymraeg a bod y Gymraeg yn ganolog iddynt.

Mae gwaith arloesol partneriaethau cymunedol llwyddiannus ym Mro Ffestiniog, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle yn gweithredu ar yr egwyddor o ddatblygu cymunedol a chefnogi’r economi sylfaenol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn fodelau i'w hefelychu.

Addysg Gymraeg

Rhaid cydnabod pwysigrwydd addysg Gymraeg i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol hefyd wrth gwrs.

Ar hyn o bryd mae 80% o’n plant yn parhau i gael eu hamddifadu o’r sgil o siarad Cymraeg yn hyderus. Mewn cymaint o wledydd ar draws y byd, mae dwyieithrwydd ac amlieithrwydd yn norm cymdeithasol - sut felly y gall Llywodraeth Cymru gyfiawnhau peidio rhoi’r un sgiliau i bob plentyn?

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i weithredu i newid hyn eleni trwy'r Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig.

Dymunwn weld y prif egwyddorion isod yn y Ddeddf Addysg er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus:

Gosod nod statudol fod pob ysgol yn mynd ar daith at fod yn un cyfrwng Cymraeg dros y 27 mlynedd nesaf.

Mae tystiolaeth rhyngwladol yn dangos mai addysg cyfrwng sy’n arwain at greu siaradwyr rhugl. Nid newid dros nos fyddai hyn, ond proses o gynllunio’n fwriadus er mwyn symud y gweithle a’n hysgolion ar daith dros amser.

Creu un continwwm dysgu ac asesu Cymraeg.

Ar hyn o bryd, mae bwlch sylweddol rhwng cyrhaeddiad y rhai sy'n astudio Cymraeg ail iaith a'r rhai sy'n astudio Cymraeg iaith gyntaf. Ym mis Medi 2013, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i addysg ail iaith, a gyflawnwyd gan grŵp annibynnol dan gadeiryddiaeth yr Athro Sioned Davies. Un o argymhellion allweddol adroddiad yr ymchwili oedd disodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm ar gyfer dysgu’r Gymraeg.

Er bod y Llywodraeth wedi cytuno i ddileu Cymraeg ail-iaith a symud i greu un continwwm iaith maen nhw wedi gweithredu’n groes i hyn drwy ganiatáu cwricwlwm Cymraeg gwahanol i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg.

Creu fframwaith cenedlaethol sy'n gosod targedau ar bob awdurdod lleol i gyrraedd y nod.

Heddiw, mae pob Awdurdod lleol yn creu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg sydd i fod i nodi sut y bydd yn cynyddu darpariaeth Gymraeg. Er hynny, mewn rhai achosion mae targedau yn isel, a does dim goblygiadau os nad ydy'r targedau yn cael eu cyrraedd.

Yn y ddeddf newydd, gall Llywodraeth Cymru greu fframwaith cenedlaethol sy'n gosod targedau ar bob awdurdod lleol i gyrraedd y nod fel bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Rydyn ni'n ehangu ar hyn ac yn dangos mewn modd cwbwl ymarferol beth sy’n bosibl i Lywodraeth Cymru ei gyflawni dros ein plant mewn Deddf Addysg a luniwyd gyda chymorth Cymrawd Cyfraith Cymru, Keith Bush. Mae'r Ddeddf i'w gweld yma.

Wrth gwrs nid iaith addysg yn unig yw'r Gymraeg. Rydyn ni wedi nodi eisoes bod Cymdeithasiaeth: Yr Ail Ffrynt yn dweud mai trwy gymdeithasu â'i gilydd y mae pobl yn datblygu diwylliant a chydweithrediad cymdeithasol-economaidd sy'n cyfoethogi bywydau pob unigolyn.

Gall addysg Gymraeg gynyddu gallu pobl i wneud defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol, ond mae'n rhaid creu'r amodau i bobl allu defnyddio'r Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae nifer o weithgareddau all-gyrsiol fel chwaraeon, cerdd a drama, sy'n cael eu trefnu gan ysgolion trwy Awdurdodau Lleol yn digwydd yn Saesneg. Dylid gosod disgwyliadau ar Awdurdodau Lleol i ddarparu gweithgareddau allgyrsiol yn Gymraeg.

Sylwadau clo

Pwysleisiwn eto bod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg, ac i gloi, ategwn ein sylwadau cynharach nad oes un ateb all ddatrys pob problem, a rhyng-gysylltiad ac effaith popeth ar bob elfen arall ac felly bod angen ystod eang o fesurau i adfer cymunedau ar draws Cymru. 

Cymdeithas yr Iaith
Ionawr 2023