Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon

Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

1. Cyflwyniad 

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymraeg ers dros hanner ganrif.   

1.2. Croesawn y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i: 

  1. ddisodli'r cymwysterau 'Cymraeg Ail Iaith' gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021 yn seiliedig ar un continwwm dysgu'r iaith; a 

  1. cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg 

1.3. Nodwn, yn ystadegol, fod angen o leiaf 15,000 i 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol arnom bob blwyddyn dros gyfnod o 30 mlynedd er mwyn cyrraedd y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.  

1.4. Nodwn ymhellach bod strategaeth iaith ddrafft y Llywodraeth1 a gyhoeddwyd ym mis Awst eleni yn datgan bod: 

"[angen] cynyddu’n sylweddol nifer yr athrawon a’r ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn ein galluogi i addysgu rhagor o blant a phobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg."  

 

"Gweithredu yn y tymor byr: y pum mlynedd cyntaf ... Rydym yn glir bod y system addysg am fod yn allweddol o ran creu siaradwyr Cymraeg y dyfodol. Mae ein system addysg, wrth reswm, yn llwyr ddibynnol ar ein hathrawon. Ein blaenoriaeth fwyaf dros y pum mlynedd nesaf felly fydd cynyddu capasiti’r system addysg i ddiwallu’r angen i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, ac i ddiwallu’r angen i wella sut caiff y Gymraeg ei haddysgu yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg. Mae hynny’n golygu hyfforddi athrawon newydd a gwella sgiliau’r athrawon presennol."  

2. Sylwadau 

2.1. Er mwyn cyrraedd targedau a nodau polisïau'r Llywodraeth a nodir uchod, credwn fod angen newidiadau sylweddol er mwyn cynllunio'r gweithlu addysg yn iawn, sy'n cynnwys gweithredu'r cynigion canlynol:    

  1. Gosod targed statudol blynyddol o fis Medi 2017 ymlaen ar ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghanran a niferoedd y newydd-hyfforddedig sy'n medru dysgu drwy'r Gymraeg; 

  1. Ymhen bum mlynedd, sicrhau bod hanner athrawon ac ymarferwyr addysg newydd gymhwyso yn medru dysgu drwy'r Gymraeg, i fyny o oddeutu 20% ar hyn o bryd. Dylid hwyluso hyn drwy gynnig i bobl ddi-Gymraeg gymhwyso drwy ariannu ac integreiddio cyrsiau dysgu Cymraeg dwys a gloywi iaith yn y broses hyfforddi; 

  1. Ymhen y deng mlynedd nesaf, sicrhau bod holl athrawon ac ymarferwyr addysg eraill newydd gymhwyso yn medru dysgu drwy'r Gymraeg, gan barhau i gynnig i bobl ddi-Gymraeg gymhwyso drwy ariannu ac integreiddio cyrsiau dysgu a gloywi Cymraeg yn y broses hyfforddi;  

  1. Sicrhau bod yr adnoddau ychwanegol a gafodd Cymraeg i Oedolion yn y gyllideb ar gyfer 2016/17 ar gael i'r gweithlu addysg (gan gynnwys y gweithwyr hynny nad ydynt yn ymarferwyr dosbarth); 

  1. Sicrhau bod cyfran sylweddol o'r £20 miliwn ychwanegol ar gyfer gwella safonau ysgolion yn mynd at wella safonau o ran y Gymraeg; 

  1. Diwygio nod a natur y Cynllun Sabothol, er mwyn bod yn glir mai ei rôl yw sicrhau bod gweithwyr addysg ac athrawon yn cyrraedd rhuglder fel modd iddynt ddysgu drwy gyfrwng yr iaith wedi'r cwrs; 

  1. Defnyddio a datblygu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant mewn swydd oddi fewn i ysgolion ac ar draws clwstwr o ysgolion gan gynnwys dysgu mewn timau, dysgu o bell a mentora;  

  1. Targedu'r hyfforddiant mewn swydd yn y man cychwyn at yr athrawon sydd yn siarad Cymraeg ond nad ydynt yn hyderus neu wedi cael y cyfle i ddatblygu'r gallu i defnyddio'r Gymraeg ar lawr y dosbarth; 

  1. Sicrhau bod athrawon yn gweithio at gyrraedd safon 'Tystysgrif Sgiliau Cymraeg';  

  1. Cynnwys y Gymraeg fel mesur perfformiad ar gyfer pob ysgol, a hynny ar frys, ynghyd â sicrhau y bydd cynnwys Cymraeg yn rhan hanfodol o'r Fagloriaeth

2.2. Mae ein barn yn ddiamwys: ni fydd ddim hygrededd gan strategaeth iaith y Llywodraeth os nad yw'n gosod targedau statudol blynyddol ar gyfer cynyddu'r canran sy'n gadael addysg gychwynnol athrawon gyda'r gallu i ddysgu drwy'r Gymraeg. Mae'r cam hwnnw'n un gwbl sylfaenol a chreiddiol i'r strategaeth iaith: ni allwn gefnogi strategaeth sydd ddim yn gweithredu ar y targed cadarn penodol hwnnw. 

2.3. Rydym wedi cwrdd â Chadeirydd a Phrif Weithredwr Cyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar ac rydym yn pryderu nad oes awydd gwirioneddol nag arbenigedd ganddynt i fynd i'r afael â'r heriau hyn.  

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Ionawr 2017