Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg

Mae'r llywodraeth yn rhoi canllawiau ar gyfer nod, polisiau, targedau a diwyg y cynlluniau hyn yn eu dogfen sy'n cynnwys dogfen 27 tudalen o ganllawiau (2011).

Safbwynt sylfaenol Cymdeithas yr Iaith yw nad yw'r ddogfen hon na'r canllawiau hyn yn berthnasol yn y flwyddyn 2015 gan fod y sefyllfa wedi newid yn gyfangwbl yn dilyn cyhoeddi adroddiadau Sioned Davies a Graham Donaldson ar lefel cenedlaethol, a chyhoeddi strategaethau sirol newydd megis Cynllun Sir Gaerfyrddin.

Mae'r canllawiau'n egluro'n gyson mai nod y Cynlluniau Strategol yw ymateb i'r "galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg" a chreu systemau i gyflawni hyn.

Safbwynt sylfaenol Cymdeithas yr Iaith yw na ellir bellach cyfystyru "y Gymraeg mewn addysg" gyda "galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg". Yn hytrach y mae angen strategaeth i sicrhau fod pob disgybl yn datblygu'r sgil addysgol hanfodol o fedru cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg ac yn Saesneg yn union fel y disgwylir fod meistroli sgiliau hanfodol eraill fel mathemateg a thechnoleg gwybodaeth. Syniad hen-ffasiwn iawn yw dibynnu ar "alw" arbennig i gyflwyno sgil hanfodol.

Mae cyfystyru "Y Gymraeg mewn addysg" a "galw am addysg cyfrwng Cymraeg" yn anghywir bellach ar ddau gyfri -

(1) Anghywir yw'r rhagdybiaeth fod addysg brif ffrwd yn gyfrwng Saesneg ym mhob man a bod angen "galw" am addysg cyfrwng Cymraeg. Mewn rhannau helaeth o Gymru (Gwynedd, Ynys Mon, Ceredigion, y rhan fwyaf o Sir Gaerfyrddin, a rhannu o siroedd Conwy, Dinbych, Powys, Penfro a NPT) addysg cyfrwng Cymraeg yw'r norm ar lefel cynradd o leiaf. Mae holl sail y cynlluniau strategol am ymateb i "alw" felly yn amherthnasol ac yn gam yn ol yn y siroedd hyn.

(2) Mae adroddiadau Sioned Davies a Graham Donaldson wedi egluro mai methiant addysgol dybryd yw "Cymraeg Ail Iaith". Mae'r Athro Sioned Davies yn gala am gontinwwm o wahanol lefelau o hyfedredd mewn "Cymraeg" fel bod pob disgybl yn datblygu'r sgil. Mesurydd llwyddiant (ac felly targedau) fyddent faint o lefelau y byddai disgyblion yn codi trwyddynt. Er mwyn cyflawni hyn y mae'r Athro Davies yn cydnabod y bydd yn rhaid symud at drefn lle caiff pob disgybl rywfaint o addysg trwy gyfrwng y Gymraeg fel y deuant i fedru defnyddio'r iaith. Yn y cyd-destun hwn, syniad hen ffasiwn iawn yw cynllunio'n strategol yn unig ar gyfer 
lleiafrif y mae eu rhieni'n "galw" am addysg cyfrwng Cymraeg. Yn eu hymateb o adroddiad yr Athro Davies y mae'r llywodraeth yn honni y gellir trin materion felly trwy Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn 
addysg, ond mae canllawiau'r llywodraeth ei hun ar gyfer y Cynlluniau hyn yn egluro nad yw hynny'n wir. Mae angen datblygiad polisi newydd gan y llywodraeth i sicrhau na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o'r 
gallu i gyfathrebu a gweithio'n Gymraeg.

Mae Llywodraeth Catalunya gyda nod mwy uchelgeisiol o "normaleiddio" iaith Gatalaneg fel "prif gyfrwng" addysg yn y wlad. Lle bo hyn yn hollol realistig yn y siroedd yng Nghymru a enwir uchod, ni byddai 
adnoddau (nac efallai ewyllys) i weithredu newid felly yn syth trwy Gymru i gyd. Fodd bynnag, yng ngweddill Cymru, dylai unrhyw gynllun strategol ar gyfer y Gymraeg mewn addysg fod yn fwy uchelgeisiol nag 
ymateb yn unig i leiafrif sy'n galw'n arbennig. Yn yr ardaloedd hyn, ni ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl o'r gallu i weithio'n Gymraeg. Byddai felly dewis rhwng ysgolion pennaf Gymraeg ac ysgolion pennaf Saesneg ond bod pob ysgol yn datblygu'r sgil i weithio'n Gymraeg ac yn Saesneg. 
 

Byddai canllawiau newydd i Gynllun Strategol i ddangos sut y byddid yn darparu ar gyfer y naill sector a'r llall. Yn dilyn esiampl Sir Gaerfyrddin, dylai ysgolion - fel disgyblion - fod ar gontinwwm tuag at gyflwyno mwyfwy o'u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Trwy gynllunio proffesiynol o'r fath, yn hytrach na thrwy ddulliau amryfal o fesur "galw" y dylid gweithio'n strategol at gynyddu canrannau disgyblion a asesir yn Gymraeg, tra'n sicrhau fod y sgil sylfaenol gan bob disgybl.

Cymdeithas yr Iaith
18.6.15