Ymchwiliad S4C y Pwyllgor Materion Cymreig - Ymateb Cymdeithas yr Iaith

Ymchwiliad S4C y Pwyllgor Materion Cymreig
Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg - Tachwedd 2010

1. Rhagair

1.1 Daeth S4C i fodolaeth yn sgil ymgyrch boblogaidd hir a thrwy gonsensws gwleidyddol. Bu'r frwydr i sefydlu'r Sianel yn hir a chostus: llwyddodd y Gymdeithas a'i chefnogwyr i sefydlu'r achos yn y lle cyntaf dros yr angen am sianel ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg, a chreu consensws eang yng Nghymru o blaid yr achos hwnnw. Carcharwyd nifer o aelodau'r Gymdeithas - am rychwant o gyfnodau o ychydig ddyddiau hyd at 2 neu 3 blynedd, a bu'r gost yn ddrud iawn i nifer. Yn y cyd-destun hanesyddol hynny gosodwyd fformiwla ariannu S4C mewn statud; er mwyn sicrhau na fyddai ymyrraeth wleidyddol yn y dull y'i hariennir.

1.2 Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi llyfryn S4C: Pwy dalodd amdani? yn olrhain hanes yr ymgyrch dorfol a gallwch ei darllen ar-lein:
http://cymdeithas.org/pdf/s4c-pwy-dalodd-amdani.pdf

1.3 Mae S4C yn fuddsoddiad unigryw yn yr iaith Gymraeg ac yn gonglfaen i'r diwylliant Cymraeg., gan chwarae rhan allweddol yn hybu yr iaith Gymraeg. Yn ol y Cenhedloedd Unedig, mae'r iaith Gymraeg yn parhau i fod yn iaith o dan fygythiad (Atlas UNESCO Ieithoedd o Dan Fygythiad 2009) ac felly, mae angen camau arbennig i'w diogelu ar gyfer y dyfodol. Mae'r Deyrnas Unedig hefyd wedi llofnodi'r Siartr Ewropeaidd ar Ieithoedd Lleiafrifol a Rhanbarthol sy'n nodi dan Erthygl 11 y dylid darparu cyfryngau yn yr ieithoedd rhanbarthol gan barchu annibyniaeth ac ymreaolaeth y cyfryngau.

1.4 Mae miloedd o sianeli erbyn hyn ar ein sgrinau ac mae'n bwysig iawn i ni fedru cael y sicrwydd o weld a chlywed y Gymraeg ar S4C. Un o'r prif resymau dros ymgyrchu am sianel Gymraeg yn y saithegau oedd i'r Gymraeg ymestyn i gyfryngau newydd ac nad oedd yn cael ei weld fel iaith hen ffasiwn, ac mae S4C wedi bod rhan mawr o'r newid meddylfryd yna a rhoi hyder newydd yn nyfodol y Gymraeg. Mae addysg Gymraeg ar gynnydd yng Nghymru a hyn yn cael ei gefnogi yn fawr gan y S4C gyda rhaglenni i blant o'r crud gan ddechrau gyda Cyw, Planed Plant, ac yn ddiweddar, Stwnsh.

1.5 Pryderwn fod y gostyngiad yng nghyllideb S4C yn mynd i effeithio ar safon y rhaglenni a ddarperir. Rhaid cael arian teg er mwyn cynnal a datblygu yr amrywiaeth o raglenni sydd ar gael: dramâu fel Pen Talar a Teulu, digwyddiadau byw fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol a chwaraeon. Heb arian digonol, ni fydd y sianel yn gallu cystadlu â sianeli prif-ffrwd eraill o ran safon a chreadigrwydd. Wrth dorri arian S4C, rydych nid yn unig yn dirywio'r gwasanaeth ond yn ergyd uniongyrchol i'r iaith Gymraeg a fydd mewn sefyllfa bregys heb gyllideb gyflawn.

1.6 Mewn nifer o ffyrdd mae cynlluniau Llywodraeth y DG bresennol yn tanseilio yr ymdrechion trawsbelidiol a fu i roi lle priodol i'r iaith Gymraeg yn y cyfryngau. Yn y cyfryngau yn gyffredinol, mae'r iaith Gymraeg yn wynebu talcen caled, gyda dirwyiad eithafol yn narpariaeth yn y Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol megis Heart FM a Radio Ceredigion.  

1.7 Ystyriwn y toriadau i S4C fel gwahaniaethu yn erbyn gr?p ieithyddol lleiafrifol. Condemiwn y toriadau yn gyffredinol, ond rhaid i Llywodraeth Llundain ddeall fod y toriadau hyn yn mynd i gael effaith uniongyrchol ar yr iaith Gymraeg. Enghraifft prin yw S4C o fuddsoddiad economaidd sydd wedi ei wneud drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Mae hyn wedi hybu'r iaith Gymraeg yn y lleoliadau lle bu S4C yn buddsoddi. Credwn y bydd y toriadau'n gyffredinol yn cael effaith ar yr iaith Gymraeg oherwydd y sgil-effeithiau mewn cymunedau iaith Gymraeg.

1.8 Bydd cynlluniau eraill Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn effeiithio'r iaith Gymraeg oherwydd ei bod yn ddibynnol ar gymunedau lle y'i siaredir; bydd y polisi o annog pobl i symud i ffwrdd o'u cymunedau i chwilio am waith yn gwaethygu allfudiad pobl ifanc o'u cymunedau ac yn golygu dirywiad yr iaith Gymraeg yn y cymunedau hynny. Mae'n hanfodol bwysig felly i warchod buddsoddiad economi sy'n digwydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

1.9 Mae presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, hawliau i'r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i'w defnyddio a'i dysgu, ond hefyd i'w gwrando a'i gweld. Felly, mae presenoldeb yr iaith ar y teledu, radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol i'n gwledigaeth ni fel mudiad. Nid yw'r weledigaeth hon yn gyfyngedig i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn unig. Bydd prif nod y Comisiynydd Iaith newydd sydd ar fin cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys nod "i'r egwyddor y dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.". Nod sy'n adlweyrchu uchelgais ag amlinellwyd yn nogfen Iaith Pawb yn 2003 sef bod 'pawb ledled Cymru yn gallu defnyddio'r Gymraeg yn ystod eu bywydau cymdeithasol, eu horiau hamdden a'u gweithgareddau busnes'.

2. Na i doriadau

2.1 Mae'r Gymdeithas yn erbyn toriadau'r Llywodraeth yn gyffredinol: nid yw'n gyfiawn i ddisgwyl i leiafrifoedd, y tlawd, a phobl ar yr ymylon i dalu am gamgymeriadau y sector ariannol a'r llywodraethau oedd yn ei gwasanaethau. Er mai diffyg rheoleiddio'r farchnad rydd oedd wrth wraidd y dirwasgiad, yn groes i synnwyr cyffredin, mae'r llywodraeth y DG yn ymateb i'r argyfwng wrth dorri ymhellach ar amddiffynfeydd y gwan yn wyneb tueddiadau cyfalafol.

2.1 Fel dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Catalonia mewn tystiolaeth diweddar o flaen y Cynulliad Cenedlaethol:

"nid yw rhyddfrydiaeth ieithyddol, fel rhyddfrydiaeth economaidd, yn amhleidiol ... pan fydd dwy iaith yn cyd-fodoli mewn un gwlad, mae galw am weithredu cyhoeddus i amddiffyn yr un gwannach. Fel arall, fe''i gwthir, yn y lle cyntaf, i'r cyrion ac, yn y tymor hir, i ddifodiant."

2.2 Methiant y farchnad yw un o'r rhesymau sefydlwyd S4C yn y lle gyntaf. Cyn bodolaeth ein hunig sianel teledu Cymraeg, bu rhaid i raglenni Cymraeg cystadlu gyda rhaglenni Saesneg am arian a lle yn yr amserlen. Un o nifer fawr iawn o broblemau gyda chyd-gynllun Llywodraeth y DG - BBC ydy ail-greu'r un hen gystadleuaeth rhwng rhaglenni Cymraeg a Saesneg. Bydd hyn yn creu tyndra cystadleuol rhwng y ddwy iaith, rhywbeth sy'n gwrth-ddweud y neges o ddwyieithrwydd cyfartal sydd wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly'n gam enfawr yn ôl.

2.3 Rydym yn ymwybodol o gynllun y Llywodraeth i gwtogi ar gyllideb  y sianel o 24.4%, neu 42.5% mewn termau real (ffynhonell: BECTU), ffigwr yr oedd awdurdod y sianel yn darogan a allai bergylu bodolaeth y sianel. Ond yn ogystal a'r cwtogiadau, mae'r Llywodraeth yn rhoi cyfrifoldeb rheoli ac ariannu'r sianel yn rhannol ar y BBC.

2.4 Mae rhai yn dadlau y byddai'n bosib gwarantu annibynniaeth S4C o fewn cyfundrefn cyd-reolaeth y BBC. Nid ydym yn cytuno â hyn. Gwelwn yn glir wendidau y cynllun rhwng y BBC a Llywodraeth y DG wrth edrych ar sefyllfa ddarlledu cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Ers blynyddoedd, bu torri yn ôl ar allbwn Cymreig ei natur gan y BBC, sef rhaglenni sy'n adlweyrchu bywyd yng Nghymru ar y teledu. Nid ydynt yn gallu dibynnu ar y BBC i ddiogelu rhaglenni Cymreig yn y Saesneg, felly pam y dylen ni ddisgwyl iddynt ddiogelu rhaglenni Cymraeg? Mae sefyllfa darlledu yng Nghymru yn argyfyngus eisoes, mae'r cynlluniau newydd yn mynd i ladd unrhyw obaith am blwraliaeth o fewn y cyfryngau yng Nghymru.

2.5 Sefydlwyd y sianel ar ol etholiad 1979 gyda ymrwymiad i sefydlu'r sianel ym maniffesto pob un o'r pedair prif blaid yng Nghymru. Heddiw, nid oedd sôn am gynlluniau i gwtogi yn eithafol ar gyllideb y sianel, cyd-reolaeth o dan ymddiriedolaeth BBC, na chyflwyno deddf gwlad a fyddai caniatau i Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu'r sianel yn llwyr ym maniffesto unrhyw blaid.

3. S4C Newydd

3.1 Rydym yn cydnabod bod gwendidau ym model a rheolaeth presennol S4C, galwn felly am S4C newydd, sef darlledwr/cyhoeddwr Cymraeg aml-gyfryngol, datganoledig i Gymru.

3.2 Rydym yn galw am S4C newydd yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

    SICRWYDD ARIANNOL - Ni ellir rhedeg sianel deledu heb sicrwydd ynglyn â chyllid digonol. Mae'r cytundeb presennol yn rhoi arian pendant i S4C hyd at 2015. Credwn bod angen fformiwla ariannol i S4C fydd yn rhoi sefydlogrwydd hir dymor iddi wneud ei gwaith yn hyderus.
    ANNIBYNIAETH - Mae annibyniaeth gwasanaethau cyfryngau cyhoeddus Cymraeg yn hanfodol er mwyn sicrhau plwraliaeth gyfryngol a democrataidd. Rhaid i Awdurdod S4C ac S4C fod yn annibynnol o'r BBC ac eraill yn olygyddol, strategaethol a chreadigol.
    DATGANOLI - Mae'n hanfodol, er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r gallu i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu yng Nghymru, bod grymoedd deddfu dros y cyfryngau yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
    BBC FFEDERAL - Mae'n hanfodol bod datganoli grym yn digwydd o fewn y BBC gyda system ffederal fel y dewis gorau, er mwyn sicrhau tegwch a chydbwysedd,
    SAFON - Mae cyfryngau Cymraeg sydd o safon gyfatebol i'r cyfryngau a geir yn yr iaith Saesneg yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg.
    DIGIDOL - Mae creu ecosystem gyfryngol amrywiol yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg. Mae buddsoddiad sylweddol mewn cyfryngau digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn briod iaith pob cyfrwng.
    CYDWEITHIO - Mae cydweithrediad rhwng sefydliadau cyfryngol a thu hwnt yn hanfodol er mwyn galluogi ein cyfryngau i fod mor gryf â phosib, ond cydweithio nad yw'n peryglu annibyniaeth y darparwr Cymraeg.
    DATGANOLI'R SIANEL O GWMPAS CYMRU - Credwn fod pencadlys presennol S4C yn Llanisien yn anaddas ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru ac y dylid datganoli rhannau gwahanol o'r broses o redeg gwasanaeth cyfryngau Cymraeg cyhoeddus.

3.3 Rydym yn gryf o'r farn fod angen adolygiad llwyr o strwythur comisiynu, strategaeth a rôl Awdurdod S4C, gan gynnwys modelau amgen ar gyfer Awdurdod S4C a gweinyddu gwariant ar gyfryngau Cymraeg. Cydnabyddwn fod diffyg atebolrwydd wedi bod rhwng S4C â'i chynulleidfa yn y blynyddoedd diwethaf ond nid drwy bartneriaethu â'r BBC y mae gwneud hynny.

3.4 Rydym yn awyddus iawn i weld S4C yn ymestyn ei gylch gorchwyl i gynnwys y cyfryngau digidol, fel ei fod yn gyhoeddwr cyfryngau yn hytrach na bod yn gynfygedig i sianel deledu yn unig. Credwn fod angen hybu'r Gymraeg fel cyfrwng yn y meysydd hyn fel a nodwyd yn yr adroddiad diwethaf gan Bwyllgor Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Cyngor Ewrop wrth ystyried y ddarpariaeth o gyfryngau Cymraeg. Mae angen ystyried newid y berthynas Awdurdod / Sianel i un allai roi'r hyblygrwydd i Awdurdod S4C ymestyn ei faes gorchwyl i gynnwys cyfryngau digidol.

3.5 Dylid dynodi canran sylweddol o fformiwla ariannu Awdurdod S4C i'w fuddsoddi mewn cyfryngau digidol er mwyn adeiladu cynulleidfa'r dyfodol, gan sicrhau bod teledu llinellol yn parhau'n gryf. Dylid penodi cyfarwyddwr digidol er mwyn datblygu hyn.

3.6 Credwn y dylid ystyried rhannu cyfrifoldebau S4C rhwng tair canolfan ar draws Cymru, gan weinyddu adrannau mewn lleoliadau amrywiol hytrach na thaenu swyddi yn denau. Byddai'n help pe bae gweinyddiaeth ganolog S4C yn agosach i'r cwmniau annibynnol sy'n cael eu comisiynu i greu rhaglenni iddynt.

Cynlluniau diweddaraf Llywodraeth Prydain

4. Y Mesur Cyrff Cyhoeddus

4.1 Rydym yn cytuno gyda nifer o sylwadau diweddar yn Nh?'r Arglwyddi am y Mesur Cyrff Cyhoeddus ac yn cytuno gyda gwelliannau Roger Roberts a fyddai'n eithrio S4C o'r Mesur.

4.2 Mae'r Mesur yn ceisio ymdrin â S4C yn yr un modd ag adrannau eraill y Llywodraeth. Camsyniad cyfreithiol, ariannol a hanesyddol yw delio â darlledu Cymraeg fel yn y ffordd hyn.

4.3 Nid yw'n addas, nac yn adlewyrchu'r modd a sefydlwyd y sianel ychwaith, i wthio cynlluniau am S4C drwy'r Mesur Cyrff Cyhoeddus.

4.4 Yn gyntaf, ni ddylid gadael i Ysgrifennydd Gwladol trwy is-ddeddfwriaeth benderfynu ar strwythur, cyllideb a bodolaeth y sianel a sefydlwyd mewn deddf am resymau cymdeithasol a diwylliannol pwysig tu hwnt.

4.5 Cytunwn gyda chasgliadau pwyllgor cyfansoddiadol T?'r Arglwyddi a feirniadodd yn hallt y syniad y dylid gwaredu a chyrff mewn is-deddfwriaeth.

4.6 Yn ail, perygl iawn yw gosod y cynsail y dylai fod gan y Llywodraeth yn unig, hawl i benderfynu ar gyllideb sianel teledu gyhoeddus yn flynyddol. Byddai penderfyniad o'r fath yn codi cwestiynau difrifol am annibyniaeth wleidyddol y darlledwr.

4.7 Yn drydydd, amhosib yw deall pam bo'r llywodraeth am ddatgan nawr eu bod am ddiwygio cyllideb y sianel a sicrhau partneriaeth rhwng S4C a'r BBC. Ar yr un pryd maent wedi penderfynu cynnwys y sianel yn atodlen 7 y Mesur. Trwy wneud hyn, mae'r Llywodraeth yn caniatáu i Ysgrifennydd Gwladol i godi ffi am wasanaeth S4C, preifateiddio'r gwasanaeth neu ei diddymu'n llwyr.

4.8 Oni fyddai'n well ystyried dyfodol ac annibyniaeth S4C yn y ddeddf ddarlledu nesaf o fewn y blynyddoedd nesaf? Gan fod gymaint o faterion fel annibyniaeth y sianel yn ogystal ag ystyriaethau ehangach fel effaith ar yr iaith Gymraeg a phlwraliaeth y cyfryngau yng Nghymru, byddai'n ddoethach ystyried dyfodol S4C mewn amserlen sy'n caniatau i bobl yng Nghymru gael rhoi eu mewnbwn i ddyfodol y sianel yn hytrach na penderfyniadau brys gan Weinidogion yn y Llywodraeth a Phenaethiaid y BBC.

5. Cyd-reolaeth y BBC

5.1 Mae'r penderfyniad i symud cyllideb a rhan o reolaeth S4C i'r BBC hefyd yn tanseilio annibyniaeth y sianel, ac yn y pen draw mae'n fygythiad pellach i lefel yr ariannu ar gyfer rhaglenni a deunydd Cymraeg. Ofnwn y byddwn yn mynd yn ôl i sefyllfa cyn pasio deddf S4C, lle bydd yn rhaid i raglenni iaith Gymraeg gystadlu am arian â rhaglenni iaith Saesneg. Ofnwn na fydd gan S4C yr annibyniaeth olygyddol ddigonol chwaith er mwyn gwneud penderfyniadau sydd orau ar gyfer y sianel Gymraeg. Yn ogystal, mi fydd yn creu achosion o wrthdaro buddiannau yn arbennig felly lle mae S4C yn cynhyrchu deunydd Cymraeg allai fod yn debyg i ddeunydd Saesneg. Mae S4C yn cystadlu gyda'r BBC am gynulleidfa a thalent mewn rhai achosion - pwy fyddai'n cael y gair olaf mewn achosion fel hyn pe nad oes gan S4C annibynniaeth i gymeryd penderfyniadau rheoli heb sêl bendith y BBC. Ni fyddai'n deg o gwbl pe bae bwrdd gweithredol S4C yn gyfuniad o awdurdod S4C a chynrychiolwyr o'r BBC. Ni fyddai'r BBC yn derbyn ar unrhyw delerau i'r Llywodraeth gael cynrychiolaeth ar yr ymddiriedolaeth, felly nid yw'r deg gofyn i S4C gael ei reoli mewn unrhyw ffordd sy'n gyd-reaolaeth â'r BBC.

5.2 Mae'r diffyg annibyniaeth a warantir gan gynlluniau'r llywodraeth yn glir o lythyr Michael Lyons at awdurdod S4C. Dywed y llythyr taw "Ymddiriedolaeth y BBC yw gwarcheidwad ffi'r drwydded ac o ganlyniad bydd angen iddi gael tros olwg o'r ffordd y mae'r arian hwn yn cael ei wario." Mewn termau eraill, penderfyniad y BBC ar lefel Prydeinig fydd faint o arian gaiff ei wario, sut caiff ei wario a phwy gaiff wneud y gwario ar ddarlledu Cymraeg.

5.3 Cytunwn a sylwadau Elystan-Morgan (9 Tach. 2010 : Colofn 140-1, Hansard):

"A legislative framework was set up that guaranteed funds for [S4C] that would be adequate for it to carry out its commission. Indeed, its independence was guaranteed by statute. The viability of that channel is now challenged and jeopardised by the fact that that financial guarantee disappears. The independence is jeopardised by the fact that it is contemplated that it should be merged with the BBC as a very junior, meagre partner. Its independence cannot possibly be real in those circumstances; indeed, the major decisions may well be taken by the broadcasting trust in London. I do not believe that I overstate for a moment the anxieties that are felt in Wales concerning that loss of independence. ...  The continued viability and independence of S4C is crucial to the very existence of the Welsh language. The Welsh language is spoken by some 580,000 persons, including three or four of us in this House. It is one of the oldest living languages in Europe-it stems back to its Indo-European origins about 1,500 years ago. It was a living language 1,000 years ago, when French was only a patois of Latin. In those circumstances, I ask the House to consider that it is part of its trust in relation to the Welsh language to regard the situation of S4C as being wholly unique. Parliament has the sovereignty to amend all the legislative structures but, in so doing, it would be reneging on the solemn compact that was made between a very honourable gentleman and the people of Wales 28 years ago."

5.4 I sicrhau'r dyfodol gorau a mwyaf teg i'r sianel Gymraeg, galwn ar y Llywodraeth i sicrhau'r canlynol:

- Annibyniaeth rheolaeth ac annibyniaeth olygyddol lwyr i S4C heb ymyrraeth oddi wrth y BBC na'r Llywodraeth;

- Fformiwla gyllido annibynnol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant.

6. Diweddglo

6.1 Mae'r sianel Gymraeg yn cael ei drysori gan bobl yng Nghymru oherwydd ei fod yn gyfrwng sy'n dod â'r Gymraeg yn fyw i bobl sy'n siarad Cymraeg, i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg, i ddysgwyr, i fabanod, plant, bobl ifanc a henoed ym mhob rhan o Gymru. Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, os ydynt yn siarad y Gymraeg ai peidio. Pwrpas S4C yw darparu rhaglenni yn yr iaith Gymraeg. Dyna pam y cafodd ei sefydlu ar ôl blynyddoedd o brotestio ac ymgyrchu, yr unig sianel i gael ei chreu o ganlyniad i ymgyrch dorfol o'r fath.

6.2 Yng Nghymru, rydym yn byw ein bywydau mewn dwy iaith. Mae angen gwasanaeth teledu Cymraeg a gwasanaeth teledu yn y Saesneg i gynrychioli Cymru. Nid oes angen aberthu'r sianel Gymraeg er mwyn cael mwy o deledu Saesneg yng Nghymru fel mae rhai yn mynnu. Dyletswydd Aeloldau Seneddol o Gymru yw i sicrhau cynllun darlledu teg ar gyfer pawb sy'n byw yng Nghymru.

6.3 Mae'n hanfodol i S4C gael fformiwla gyllido ddigonol ac i fod yn annibynnol o'r BBC. Mae Llywodraeth y Ceidwadwyr a'r Democratiaid yn dangos diffyg parch tuag at bobl Cymru o ran darlledu yn benodol ac wedi tanseilio detganoli ar y mater hwn. Mae angen plwraliaeth yn ein cyfryngau a'r maes cyfryngau, ac i'r cyfryngau iaith Gymraeg a Saesneg siarad i Gymru gyfan.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Tachwedd, 2010