Ymgynghoriad ynghylch cynigion i ddiwygio trefniadau llywodraethu S4C

Ymgynghoriad ynghylch cynigion i ddiwygio trefniadau llywodraethu S4C

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi bod yn ymgyrchu ers deugain mlynedd ym
maes darlledu ac wedi chwarae rhan allweddol yn y frwydr i sicrhau S4C a gwasanaeth
Cymraeg ar y radio. Er pan y dechreuodd y Gymdeithas ymddiddori yn y maes yr ydym
wedi credu y dylai fod gan Gymru ei gwasanaeth darlledu annibynnol ei hun, un sydd yn
annibynnol i Lundain ac sy'n rhoi'r parch dyledus i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru. Felly
yr ydym yn ymateb i'r ymgynghoriad hwn gyda deugain mlynedd o brofiad y tu cefn i ni.
Mae presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru. Cred
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr
Cymraeg neu beidio, hawliau i'r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i'w defnyddio
a'i dysgu, ond hefyd i'w gwrando a'i gweld. Yn ogystal, credwn fod cynnwys Cymraeg
unigryw ar y cyfryngau yn cyfoethogi a chryfhau’r iaith. Felly, mae presenoldeb a
defnydd cynhwysfawr o’r iaith ar y teledu, radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol
i'n gweledigaeth ni fel mudiad.

1. Yr ymgynghoriad hwn

Bu braidd dim ymgynghoriad ag S4C na gwleidyddion o Gymru yn ystod y broses gynllunio i
gwtogi ar gyllideb y sianel. Ymhellach, bu’r cytundeb newydd rhwng S4C, y BBC a DCMS yn fait
accompli wedi ei orfodi ar bobl Cymru heb drafodaeth ddemocrataidd am ddyfodol S4C.
Nid oes rheswm i feddwl bod y Llywodraeth yn mynd i wrando ar ymatebion yr ymgynghoriad
ar ôl gwthio newidiadau a thoriadau i S4C drwyddo yn gwbl groes i farn cymdeithas sifil a phobl
Cymru. Mae gweinidogion wedi gwrthod cynnal deialog go iawn gyda phobl Cymru ynghylch y
cynigion hyn, ac yn hytrach wedi gwneud penderfyniadau gan lwyr ddiystyru barn pobl Cymru.
Yn fwy na hynny cafodd S4C ei drin yn eilradd wrth i’r BBC a Llywodraeth Prydain wneud
penderfyniadau tu ôl i gefn y darlledwr. Yn wir, ni ellir disgrifio’r berthynas rhwng y tri pharti yn
bartneriaeth am nad oedd dewis gan S4C ond i gytuno iddo, ac mae partneriaeth yn ei hanfod
yn rhywbeth y mae parti yn mynd iddo yn wirfoddol. Mae’r modd y trafodwyd S4C yn dangos yn
glir fod angen datganoli grymoedd dros ddarlledu yma i Gymru.
Mae’r Gymdeithas wedi gwneud cynigion positif ac amgen i sicrhau ffynonellau ariannol
ychwanegol i’r sianel gan gynnwys arddoll ar gwmniau darlledu a thelefathrebu i gyfrannu at
gyllideb S4C. Er hynny nid yw’r Llywodraeth wedi dangos unrhyw awydd i wrando na chwaith
ystyried y dulliau newydd hyn. Mae’n ymddangos fod y BBC a’r Llywodraeth, unwaith iddynt
benderfynu sut i ariannu S4C, nad ystyriwyd unrhyw opsiwn na barn arall.
Mae’r trosolwg yn y ddogfen ymgynghorol hon yn ymgais clir i ail-ysgrifennu hanes diweddar
S4C. Yn gyfleus iawn i’r Llywodraeth, nid oes sôn yn y ddogfen hon am gais anghyfreithlon
yr adran i dorri yn ôl ar gyllideb S4C o fewn un blwyddyn ariannol, yn gwbl groes i’r sefyllfa
ddeddfwriaethol ar y pryd. Ni ddangoswyd parch neu sylw priodol i’r gyfraith ar yr adeg hynny
gan Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain.

1.2 Y Gymraeg a’r Cyfryngau

Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng yn y cyfryngau - mewn nifer o ffyrdd mae cynlluniau
Llywodraeth y DG bresennol yn tanseilio yr ymdrechion trawsbleidiol a fu i roi lle priodol i'r iaith
Gymraeg yn y cyfryngau. Yn y cyfryngau yn gyffredinol, mae'r iaith Gymraeg yn wynebu talcen
caled, gyda dirwyiad eithafol yn narpariaeth yn y Gymraeg ar orsafoedd radio masnachol megis
Heart FM, Radio Ceredigion a Radio Sir Gar.

Cyn bodolaeth ein hunig sianel teledu Cymraeg, bu raid i raglenni Cymraeg gystadlu gyda
rhaglenni Saesneg am arian a lle yn yr amserlen. Mae'n destun pryder i ni felly y bydd y
cytundeb rhwng y BBC ac S4C yn arwain at greu tyndra cystadleuol rhwng y ddwy iaith,
rhywbeth sy’n gwrth-ddweud y neges o ddwyieithrwydd cyfartal sydd wedi datblygu yn ystod y
blynyddoedd diwethaf, ac felly’n gam enfawr yn ôl. Gellir gweld yn glir effeithiau negyddol arall y
farchnad rydd yng nghyd-destun radio lleol, lle mae allbwn Cymraeg wedi dirywio yn sylweddol
oherwydd diffyg rheoleiddio. Mae hefyd wedi amlygu tueddiad y farchnad i danseilio mentrau
Cymraeg eu hiaith, gan nad yw’r gyfraith yn amddiffyn natur ieithyddol y trwydeddau hyn.

1.3 Datganoli Darlledu i Gymru

Mae newidiadau a chwtogiadau diweddar i S4C a BBC Cymru yn profi nad oes gan
Lywodraeth Prydain ddealltwriaeth o anghenion unigryw Cymru. Bu consensws ar draws
cymdeithas sifil nad yw’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer S4C o fudd i’r Gymraeg na Chymru yn
ehangach. Cafodd y cynlluniau ar gyfer S4C eu beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng
Nghymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, degau o undebau a mudiadau iaith a degau o filoedd o
bobl a lofnodont ddeiseb, mynychu ralïau ac anfon cwynion at wleidyddion.
Yn ogystal, fe welir sefyllfa yn datblygu yn y farchnad radio ble mae’r Gymraeg yn fwy
ac yn fwy anghlywadwy oherwydd diffygion y gyfundrefn reoleiddio. Cyfaddefodd Rhodri
Williams, Pennaeth Ofcom yng Nghymru, yn ddiweddar:

“Ein dehongliad clir ni, yw does dim pŵer ganddon ni i wneud hwn [gosod
amodau iaith ar drwyddedau radio]” [tud. 4, Golwg, Tachwedd 3ydd 2011]

Ac wrth edrych ar fwriadau Ysgrifennydd Diwylliant y DU ar gyfer y Bil Cyfathrebu,
gwelwn eto diffyg dealltwriaeth o’r cyd-destun Cymreig, gyda phwyslais ar y farchnad
rydd a lleihau rheoleiddio, polisïau sydd yn tanseilio’r Gymraeg. Credwn fod angen
cyfrifoldeb yn ein corff democrataidd yma yng Nghymru er mwyn osgoi penderfyniadau
annoeth sydd yn cael eu gwneud heb ymgynghoriad a chymdeithas sifil yng Nghymru.

1.4 Radio Lleol a Theledu

Mae’r sefyllfa'r Gymraeg ar radio lleol yn drychinebus ac wedi dirywio yn sylweddol dros
y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn ofni y bydd patrwm o ddirywiad yn ail-adrodd ei hun gyda
theledu lleol, gan nad oes gan y Llywodraeth gynllun i osod amodau iaith ar y trwyddedau
hynny.

Amlygir y problemau yn achos y ffrae ddiweddar ynghylch Radio Ceredigion o dan
berchnogaeth Town and Country Broadcasting. Er fu ymgyrch dorfol lwyddiannus wedi ei
rhedeg yn erbyn ymdrechion i leihau’r allbwn Cymraeg yn gynharach eleni, mae toriadau
bellach yn digwydd oherwydd penderfyniad y cwmni i ollwng ei drwydded ac ei had-ennill mewn
tendr arall. Mae canlyniad y tactegau twyllodrus hyn yn gwbl groes i anghenion a dymuniadau
pobl. Er gwaethaf y ffeithiau hyn, mae Ofcom yn parhau i wrthod cynnwys cymal yn eu Cynllun
Iaith a fyddai’n golygu rhoi ystyriaeth i natur ieithyddol mewn trwyddedau radio lleol.
Credwn felly mai cyfundrefn Gymreig yn unig y gallai diogelu gwasanaethau Cymraeg eu
hiaith yn y pen draw. Ond, yn methu hynny, mae angen newidiadau i’r gyfraith fel bod
modd i awdurdod Cymreig mynnu ar ddarpariaeth Gymraeg ar bob gorsaf radio a teledu lleol.

2. Cwestiynau’r Ymgynghoriad

1) Caiff Paneli Dethol eu sefydlu ar gyfer pob penodiad unigol ac ar hyn o bryd maent yn
cynnwys: Cadeirydd y Panel Dethol (uwch-swyddog o DCMS), Cadeirydd S4C, Aseswr
Penodiadau Cyhoeddus Annibynnol a swyddog o Lywodraeth Cymru. Dan bartneriaeth
y BBC / S4C, cytunwyd y bydd gan y BBC rôl wrth ddethol aelodau'r Awdurdod. A ydych
yn cytuno y dylai'r Panel Dethol gynnwys cynrychiolydd o unrhyw gorff sy'n darparu
cyllid ar gyfer S4C?

Nid ydym yn cytuno y dylai’r BBC cael rôl mewn penodi unrhyw aelod o awdurdod S4C gan
eu bod nhw’n ddau ddarlledwr ar wahan.
Mae’r rheswm eu bod nhw’n ddarlledwyr annibynnol yn glir wrth edrych ar hanes sefydlu S4C.
Sefydlwyd S4C yn 1982 wedi ymgyrch hir, ac fe ‘i sefydlwyd mewn ffordd a fyddai’n golygu
na ellid cael ymyrraeth wleidyddol i’w threfniadaeth, ond yn 2010 cyhoeddodd Llywodraeth
geidwadol nad oedd am barhau i ariannu S4C ac y byddai’n newid deddf gwlad er mwyn gallu
cyflawni hynny.

Ymhellach cafodd S4C ei drin yn eilradd gan y BBC a’r DCMS gan fod trafodaethau a
phenderfyniadau wedi cael eu gwneud heb yn wybod i S4C. Er fod ddau barti yn honni fod
buddiannau y sianel ganddynt mewn golwg nid yw hyn yn ffordd o drin unrhyw ddarlledwr.
Mae gwerth nodi hefyd bod y cytundeb hwn wedi'i orfodi ar S4C mewn gwirionedd. Unwaith i’r
penderfyniad gael ei wneud fod y BBC yn bennaf gyfrifol am ariannu S4C, nid oedd opsiwn arall
yn cael ei ystyried.

Rydym hefyd wedi gweld fod y BBC ei hun yn wynebu toriadau ac wedi diswyddo staff yn
osystal â thorri ar rai gwasanaethau nad ydynt yn cael eu hystyried yn hanfodol.
Mae son eisoes am gydweithio rhwng y ddau sefydliad er mwyn lleihau costau. Byddai hynny
yn gallu arwain at lai o blwraliaeth yn y byd darlledu Cymraeg, rhywbeth sydd eisoes yn destun
pryder i nifer yn y diwydiant.

Credwn ymhellach y bydd yn rhoi lle i’r BBC dorri ar gyllid S4C drwy ei fod yn cyfrannu
gwasanaethau i’r sianel yn lle cyllid. Byddai’n golygu fod y BBC yn gallu arbed costau ac wrth
i’r darlledwr wynebu toriadau mae’n siwr ei fod yn syniad deiniadol. Er hynny, byddai yn cael ei
weld yn gyfystyr â rheoli gwariant y sianel.

Mae’r holl bethau hyn yn gwneud yn anodd felly i S4C fod yn gwbl sicr o ymrwymiad y BBC fel
eu prif ariannwr.

2) A ddylid ystyried unrhyw faterion eraill mewn perthynas â'r Awdurdod wedi ei
adlunio arfaethedig ar gyfer S4C?

Dylid, mae Awdurdod S4C wedi ei gyfyngu gan ffynhonell arian llai ac annibynadwy oherwydd y
penderfyniad i ddileu’r fformiwla ariannu yr oedd yn arfer bod mewn statud.

Nid yw’n glir beth fydd cyfraniad y Llwyodraeth o 2015 ymlaen, ffaith sydd yn creu ansicrwydd
i’r sianel a’r Gymraeg wrth edrych i’r dyfodol. Felly, er mwyn sicrhau'r dyfodol gorau a mwyaf
teg i'r sianel Gymraeg, dylai’r Llywodraeth sicrhau trwy’r Bil Cyfathrebu newydd fformiwla
gyllido annibynnol statudol ar gyfer y sianel Gymraeg, ar sail chwyddiant. Cefnogir yr awgrym o
osod fformiwla ariannu newydd mewn statud gan y cwmnïau teledu annibynnol (TAC), S4C eu
hunain, ASau o bob plaid a’r Pwyllgor Materion Cymreig.

Mae’r newidiadau a amlinellwyd yn yr ymgynghoriad wedi anelu’n unig at wthio’r toriadau a
rheolaeth y BBC drwyddo yn hytrach nag ehangu cylch gwaith S4C i gynnwys y cyfryngau arlein
fel ei bod yn gallu camu ymlaen fel darlledwyr eraill yn y meysydd eraill hyn. Rydym yn
awyddus iawn i weld S4C yn ymestyn ei gylch gorchwyl i gynnwys y cyfryngau digidol, fel ei fod
yn gyhoeddwr cyfryngau yn hytrach na bod yn gyfyngedig i sianel deledu yn unig. Credwn fod
angen hybu'r Gymraeg fel cyfrwng yn y meysydd hyn fel a nodwyd yn yr adroddiad diwethaf gan
Bwyllgor Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Cyngor Ewrop wrth ystyried y ddarpariaeth
o gyfryngau Cymraeg. Mae angen ystyried newid y berthynas Awdurdod / Sianel i un allai roi'r
hyblygrwydd i Awdurdod S4C ymestyn ei faes gorchwyl i gynnwys cyfryngau digidol.
Yr ydym felly’n galw am S4C newydd, sef darlledwr/cyhoeddwr Cymraeg aml-gyfryngol,
datganoledig i Gymru yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

● SICRWYDD ARIANNOL - Ni ellir rhedeg sianel deledu heb sicrwydd ynglŷn â chyllid
digonol. Credwn bod angen fformiwla ariannol i S4C mewn deddfwriaeth gynradd fydd
yn rhoi sefydlogrwydd hir dymor iddi wneud ei gwaith yn hyderus.
● ANNIBYNIAETH - Mae annibyniaeth gwasanaethau cyfryngau cyhoeddus Cymraeg yn
hanfodol er mwyn sicrhau plwraliaeth gyfryngol a democrataidd. Rhaid i Awdurdod S4C
ac S4C fod yn annibynnol o'r BBC ac eraill yn olygyddol, strategaethol a chreadigol.
● DATGANOLI - Mae'n hanfodol, er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r gallu i wneud y
penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu yng Nghymru, bod grymoedd deddfu dros y
cyfryngau yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
● BBC FFEDERAL - Mae'n hanfodol bod datganoli grym yn digwydd o fewn y BBC gyda
system ffederal fel y dewis gorau, er mwyn sicrhau tegwch a chydbwysedd,
● SAFON - Mae cyfryngau Cymraeg sydd o safon gyfatebol i'r cyfryngau a geir yn yr iaith
Saesneg yn hanfodol i barhad yr iaith Gymraeg.
● DIGIDOL - Mae creu ecosystem gyfryngol amrywiol yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg.
Mae buddsoddiad sylweddol mewn cyfryngau digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod
y Gymraeg yn briod iaith pob cyfrwng.
● CYDWEITHIO - Mae cydweithrediad rhwng sefydliadau cyfryngol a thu hwnt yn hanfodol
er mwyn galluogi ein cyfryngau i fod mor gryf â phosib, ond cydweithio nad yw'n peryglu
annibyniaeth y darparwr Cymraeg.
● DATGANOLI'R SIANEL O GWMPAS CYMRU - Credwn fod pencadlys presennol S4C
yn Llanisien yn anaddas ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru ac y dylid datganoli rhannau
gwahanol o'r broses o redeg gwasanaeth cyfryngau Cymraeg cyhoeddus.

3) Mae'r Ddeddf Cyrff Cyhoeddus yn gosod adran 61 (2) (1) newydd yn Neddf
Darlledu 1990 ac mae'n grymuso'r Ysgrifennydd Gwladol i ariannu S4C naill ai trwy
wneud taliadau ei hun neu ymrwymo i gytundeb gydag unigolyn/unigolion eraill
i'r unigolyn hwnnw wneud hynny (neu'r ddau). A ydych chi yn cytuno y dylai fod
yn ofyniad statudol bod unrhyw unigolyn / corff y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn
ymrwymo i gytundeb yn y dyfodol gyda nhw i ariannu S4C, yn meddu ar gytundeb
gweithredu gydag S4C?

Credwn fod fformiwla ariannu mewn deddfwriaeth gynradd yw’r elfen pwysig i sicrhau dyfodol
i’r sianel, pe cytunwyd hynny, ni fyddai angen cytundeb gweithredu. Felly, mae angen cynnwys
mewn statud fod arian yn dod i S4C gan y llywodraeth er mwyn cael sicrwydd ar gyfer y dyfodol.
Ni welwn sut mae’r cynllun gweithredu fel amlinellir yn sicrhau buddiannau ac annibynniaeth
y ddau ddarlledwr. Rydym hefyd wedi rhybuddio rhag drwg-deimlad o fewn y ddau sefydliad
- fod yr aelodau o’r ddau ddarlledwr yn teimlo eu bod yn colli allan ar gyllid neu adnoddau am
fod y darlledwr arall i’w ystyried. Mae teimlad hefyd y bydd y BBC yn cael goruchafiaeth dros
S4C oherwydd eu bod yn ariannu’r sianel. Er mwyn lleddfu pryderon a sicrhau nad yw moral
gweithwyr yn suddo mae cytundeb o’r fath yn hollbwysig.

Rydym yn galw am ddatganoli grym dros ddarlledu i Lywodraeth Cymru a byddem yn galw ar
y DCMS i ystyried hynny o ddifrif. Hyd nes bod hynny yn digwydd rydym yn disgwyl fod yr un
drefn ag oedd yn bodoli o’r blaen yn cael ei hadfer wedi’r dirwasgiad, sef bod llywodraeth San
Steffan yn ariannu’r sianel o’i goffrau ei hun. Gan mai’r dirwasgiad oedd y rheswm dros roi
newidiadau mewn lle byddai’n rhesymol i ddisgwyl i bethau fynd yn ol fel oeddynt.
Mae’r ymgynghoriad yn cyfeirio at ymddiriedolaeth y BBC yn cynnal asesiad perfformiad
blynyddol gan fesur perfformiad yn ol y cytundeb gweithredu. Ni chytunwn y dylai’r BBC wneud
hynny gan y byddai'n gosod gouchafiaeth iddynt dros S4C, yn lle, credwn y dylai S4C gynnal yr
asesiad ac adrodd yn ol i’r Llywodraeth yn uniongyrchol.