
Mae barnwr wedi gwrthod cais gan ffermwyr i gynnal achos llys yn Gymraeg, mae hyn yn sarhad ar y Gymraeg ac yn enghraifft bellach o’r angen i gryfhau Mesur y Gymraeg 2011 ac ymestyn hawliau pobl Cymru i siarad yr iaith.
Ar Ddydd Llun, Ebrill 7fed, bydd 13 o ffermwyr yn ymddangos gerbron Llys yn Llanelli am wrthod mynediad i'w tir i gwmni GreenGen sydd eisiau gosod peilonau. Er eu bod yn dymuno bod yr achos llys yn cael ei gynnal yn Gymraeg, mae'r Barnwr Ardal, Mr Lincoln, wedi gwrthod y cais.
Nid yw'r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd wedi’i gynnwys o dan gyfundrefn Safonau’r Gymraeg, er y byddai modd eu cynnwys petai Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg yn penderfynu gwneud hynny. Ar hyn o bryd, gellir rhoi tystiolaeth yn Gymraeg, ond rhaid gwneud cais am ddogfennaeth yn Gymraeg ac am achos llys yn Gymraeg. O dan y drefn bresennol, gall Barnwr benderfynu gwrthod neu dderbyn ceisiadau o'r fath.
Dywedodd Sian Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:
"Dyma sefyllfa gwbl annerbyniol sy'n dangos bod ein cyfundrefn cyfiawnder fel mae hi yn gwahaniaethu yn erbyn siaradwyr Cymraeg. Mae'r ffaith bod rhaid gwneud cais am achos llys ac am ddogfennau yn Gymraeg yn y lle cyntaf yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol, heb sôn bod disgresiwn gan y Barnwr i wrthod hynny, fel yn yr achos yma, sy’n dangos bod diffyg hawl sylfaenol i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'n amlwg bod angen gosod Safonau’r Gymraeg ar y Gwasanaeth, fel nad oes modd trin y Gymraeg yn llai ffafriol, ac fel nad oes rhaid erfyn neu frwydro am wasanaethau Cymraeg ddylai fod yn hawl ac ar gael yn hawdd.”
Mae'r Barnwr wedi cadarnhau y bydd modd i'r ffermwyr ac unrhyw dystion eraill siarad Cymraeg yn y llys fore Llun, ac y bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn cael ei ddarparu, ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, ail orau yw hynny ac fe ddylid cynnal y gwrandawiad yn Gymraeg heb fod angen cyfieithu er mwyn sicrhau cyfiawnder i bawb.
Ychwanegodd Sian Howys:
"Nid dyma’r ffordd i fynd ati i sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol. Dylai mentrau o'r fath rymuso cymunedau lleol a chael eu harwain o'r gwaelod i fyny – nid gwasanaethu buddiannau corfforaethau mawr sy'n sathru ar gymunedau fel hyn a'u tanseilio gyda'u cynlluniau. Mae'r Gymraeg a pharhad cymunedau amaethyddol yn gymaint rhan o gynaladwyedd ag yw newid y ffordd rydyn ni’n cynhyrchu trydan. Mae sawl enghraifft yng Nghymru yn barod o brosiectau ynni adnewyddadwy yn cyfrannu at ffyniant cymunedau yn ogystal â chynhyrchu pŵer glân."