Yr Ail Gylch o Safonau - Ymateb

Cyflwyniad 

1.1 Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros hawliau i'r Gymraeg ers dros 50 mlynedd. Credwn fod gan bob unigolyn sy'n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw yr hawl i glywed, i weld, i siarad, i ddysgu, ac i fwynhau ein hiaith genedlaethol unigryw - iaith a ddylai fod yn etifeddiaeth gyffredin i ni gyd. 

2 Natur yr Ymgynghoriad 

2.1 Credwn fod natur yr ymgynghoriadau hyn yn anodd i'r cyhoedd ei ddeall, a bod angen ail-edrych ar y broses. 

2.2 Credwn fod mantais yn y ffaith bod nifer o sectorau yn cael eu hymgynghori arnyn nhw ar yr un pryd. Mae hynny'n ei gwneud yn llawer mwy tebygol y gallai'r cyhoedd ymateb, gan fod llai o ymgynghori ar ragor o gyrff, yn wahanol i'r hen gyfundrefn o gynlluniau iaith lle cafwyd ymgynghoriad unigol ar gyfer pob corff. Anghytunwn felly gyda'r awgrym wnaed i dorri cylch 3 i lawr i ragor o ymchwiliadau llai; credwn y gallai hynny achosi gor-ymgynghori sy'n debyg o beri difaterwch ymhlith y cyhoedd. Yn wir, credwn y dylid ychwanegu cyrff megis y sector telathrebu, ynni a chwmnïau post eraill i gylch 3 er mwyn gwneud y cylch hwnnw yn fwy ystyrlon byth.  

2.3 Mae'n glir bod yr holiadur, er ei fod wedi gwella rhywfaint, yn parhau i fod yn anodd i'r cyhoedd ei ddeall. Awgrymwn y gallai fod modd i'r cyhoedd ateb un cwestiwn sy'n caniatáu i bobl gytuno bod angen gosod yr holl gategorïau o Safonau ar yr holl gyrff yn y cylch, gan adael iddyn nhw ddewis eithrio categori pe dymunent  

3. Crynodeb  

3.1. Credwn fod angen i bob corff a restrir yng nghylch 2 orfod cydymffurfio â phob categori o SafonauLle mae dewis rhwng haenau, dylai pob corff yng nghylch 2 fod ar y lefel uchaf, gan fod yr holl gyrff hyn yn derbyn arian cyhoeddus sylweddol. 

3.2. Diffiniad Cyfarfodydd Personol / Gwasanaethau Wyneb yn WynebMae gwendid anfwriadol yn y Safonau drafft sef nad oes Safonau sy'n sicrhau gwasanaeth Cymraeg wyneb yn wyneb y tu hwnt i gyfarfodydd personol wedi eu trefnu ymlaen llaw a gwasanaeth mewn prif dderbynfeydd. Beth am gaffi canolfan hamdden? Beth am brynu tocyn ar drênYn ogystal, o ran y maes iechyd yn benodol, mae'n hanfodol bwysig bod eglurder yn y Safonau bod apwyntiadau, ymgynghoriadau a phob cyswllt wyneb yn wyneb arall o'r fath yn dod o dan ddiffiniad cyfarfodydd personol. 

3.3 Contractio AllanMae cyrfcylch 2 ycontractio llawer o'u gwasanaethau allan, o fferyllfeydd a meddygon teulu i gwmnïau teledu annibynnol sy'n gweithredu ar ran S4C. Mae'n hollbwysig felly bod eglurder yn y Safonau bod dyletswyddau ar y cyrff hyn i osod amodau iaith wrth gontractio allan. 

3.4 GrantiauMae grantiau a wneir gan gyrff, megis Chwaraeon Cymru, yn hollbwysig er mwyn gwella defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned. Mae methiant i orfodi cyrff i roi amodau iaith wrth roi grantiau yn fwlch sylweddol yn y Safonau a fydd yn cael effaith negyddol ar yr iaith ar lawr gwlad. 

3.5 Polisïau Recriwtio. Mae polisïau recriwtio'holl gyrff yn cylch hwn o Safonau yn hanfodol er mwyn sicrhau twf yn nefnydd y Gymraegyn y gorffennol cafwyd arfer da gan Heddlu Gogledd Cymru, nad oedd wedi lledu i weddill Cymru ac sydd wedi, yn ôl pob sôn, llithro yn ôl o dan yr arweinyddiaeth bresennol 

3.6 Penodiadau Cyhoeddus. O ran penodiadau cyhoeddus i gyrff cylch 2, mae angen eglurder o ran sut mae'r Safonau yn ymwneud â'r maes hwn. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y Safonau wrth sicrhau bod penodiadau cyhoeddus gan y cyn-Weinidog Llywodraeth Lleol Lesley Griffiths yng nghyswllt penodiadau i'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. A dadleuodd Llywodraeth Cymru mai'r rheswm dros ollwng y gofyniad statudol bod gan y comisiwn o leiaun aelod sy'n medru'r Gymraeg oedd y byddai'r Safonau yn cyflawni'r ddyletswydd honno. Ac mae'r profiad diweddar o benodi'r Comisiynydd Plant newydd yn profi eto'r angen am eglurder yn y Safonau hyn ynghylch polisi recriwtio cyrff. 

3.7 Cyrsiau a Hyfforddiant. Mae nifer o'r cyrff a restrir yn cynnig cyrsiau a hyfforddiant i'w staff a'r cyhoedd, megis Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, lle nad oes darpariaeth ddigonol ar hyn o bryd. Ymhellach, mae hyfforddiant proffesiynol yn hynod o bwysig ym maes iechyd a sectorau eraill ac awgrymwn fod angen i'r Safonau sy'n gwarantu cyrsiau cyfrwng Cymraeg gynnwys cyrsiau datblygiad proffesiynol hyn.  

3.8 Llunio Polisi. Mae sicrhau bod cyrff yn ddarostyngedig i Safonau llunio polisi yn faes pwysig i nifer o'r cyrff hyn, megis Comisiynwyr Heddlu, Chwaraeon Cymru, Canolfan y Mileniwm a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n gwneud nifer o benderfyniadau polisi lle mae angen ystyriaeth well o'r Gymraeg.  

3.9 Iechyd. Mae iechyd yn faes hynod o bwysig chydnabyddir yn eang bwysigrwydd gwella'r ddarpariaeth Gymraeg, credwn felly fod rhaid i'r Safonau adlewyrchu'n llawn argymhellion adroddiad iechyd y Comisiynydd "Fy Iaith, Fy Iechyd: Ymholiad Comisiynydd y Gymraeg i’r Gymraeg mewn Gofal Sylfaenol" o ran recriwtio, hyfforddi, cynnig rhagweithiol ac ati.  

3.10 Prifysgolion / Undebau Myfyrwyr. Mae maes addysg uwch hefyd yn faes hanfodol ac mae angen Safonau a fydd yn sicrhau bod prifysgolion yn cymryd eu cyfrifoldeb at y Gymraeg o ddifri o ran rhoi cyfleoedd go iawn i'w myfyrwyr ddysgu Cymraeg yn rhugl ac o ran hyfforddi gweithlu'r dyfodol. Yn ogystal, mae'n hollbwysig bod undebau myfyrwyr yn cael eu cynnwys o dan ddyletswyddau iaith. Dyma gyrff dylanwadol sy'n cael symiau sylweddol o arian cyhoeddus; mae'n hanfodol felly bod Safonau ar brifysgolion yn eu gorfodi i osod dyletswyddau iaith tebyg ar undebau myfyrwyr. 

3.11 Cyrff sy'n derbyn dros £400,000 o arian cyhoeddus. Credwn fod llawer o gyrff y dylid fod wedi eu cynnwys yn y cylch yma o Safonau megis Undeb Rygbi Cymru. Credwn fod gwendidau difrifol ynghylch darpariaeth Gymraeg Gardd Fotaneg Cymru, cyrff a leolir mewn ardal o Gymru lle mae nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, nad sy'n cyflawni nifer o ofynion sylfaenol y byddai rhywun yn disgwyl gan gorff a ariennir gan y cyhoedd. Awgrymwn fod enghraifft yr Ardd Fotaneg yn amlygu gwendidau sylfaenol yn y Safonau o ran diffyg ymwneud â pholisïau recriwtio a'r cyfryngau cymdeithasol.  

3.12 Credwn fod y cyrff yn yr ail gylch o Safonau yn tanlinellu ein pryderon am gynnwys neu ddiffyg cynnwys y SafonauYmysg rhai o'n prif bryderon am y Safonau drafft hyn mae'r diffyg Safonau a fyddai'n:  

  • gosod amodau ar gontractau er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg;   

  • gosod amodau ar grantiau er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg;  

  • sicrhau polisïau cyflogaeth cryfach er mwyn i gyrff allu darparu gwasanaethau Cymraeg digonol;  

  • sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg;  

  • sicrhau bod gan bobl hawliau eang, clir, cynhwysfawr a dealladwy sy'n rhoi hyder iddynt ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd; 

  • sicrhau gwasanaeth wyneb yn wyneb cyflawn yn Gymraeg. Mae'r cyfyngiad ar wasanaethau wyneb yn wyneb Cymraeg i gyfarfodydd personol ac i brif dderbynfeydd yn unig yn golygu na fydd gwasanaethau a ddarperir mewn cyd-destunau eraill yn ddarostyngedig i'r darpariaethau'r Safonau. 

4. Sylwadau ynghylch y mathau gwahanol o Safonau 

 

4.1 Gohebiaeth 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Fel nododd y Gymdeithas yn ein hymateb i reoliadau'r Safonau yn ddiweddar, pryderwn yn fawr ynghylch y diffyg eglurder am gyfryngau cymdeithasol a ble maen nhw'n dod o dan y Safonau. Mae swyddogion y Llywodraeth wedi awgrymu wrthym y bydd Safonau gohebiaeth yn cynnwys cyfryngau cymdeithasol, ond credwn fod angen i hynny fod yn gwbl eglur yn y rheoliadau o ystyried eu pwysigrwydd. Yn aml iawn mae presenoldeb cyrff ar TwitterFacebook ac ati ymhlith eu gweithgarwch mwyaf cyhoeddus, ond mae llawer o gyrff Cylch 2 yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd. Er enghraifft tynnwyd ein sylw yn ddiweddar at y ffaith bod Heddlu Penygroes wedi bod yn trydar yn uniaith Saesneg, sefyllfa gwbl annerbyniol. 

4.2 Galwadau Ffôn 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Fel nododd y Gymdeithas yn ein hymateb, mae safon 11 yn llawer rhy isel i fod yn dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol ychwaith i un o'r cyrff hyn fod yn ddarostyngedig i safon 17 gan ei bod yn awgrymu na fydd y gwasanaeth Cymraeg ar gael bob amser.  

Ymddengys fod problemau gyda Heddlu De Cymru o ran ymateb i alwadau ffon yn Gymraeg - gwnaed cwyn gan un o'n haelodau yn lled-ddiweddar am y ffaith nad yw'n bosib cyrraedd yr un aelod o staff yn Gymraeg pan ddewisir opsiwn Cymraeg ar system ffôn awtomatig. 

4.3 Cyfarfodydd a gynhelir nad ydynt yn agored i’r cyhoedd yn gyffredinol 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae cyfarfodydd personol yn y maes iechydmaes addysg a'r maes cyfiawnder yn hynod o bwysig, a chredwn ei bod yn hynod o bwysig gosod y Safonau hyn ym mhob maes ond yn enwedig yn y meysydd hyn  

Yn wir, mae'r Safonau hyn yn hanfodol er mwyn gwella profiad pobl o ymwneud â chyrff wyneb yn wyneb.  

Nodwn nad oes safon a fyddai'n sicrhau darpariaeth Gymraeg wyneb yn wyneb tu hwnt i gyfarfodydd personol ac mewn derbynfeydd. Mae'n hanfodol bwysig bod gallu gan y Comisiynydd i gynnwys ardaloedd eraill lle darperir gwasanaeth megis dros y cowntermewn ystafell gyfweld gorsaf heddlu, a chyd-destunau amrywiol eraill. 

Rydym yn pryderu am eiriad y Safonau yma, sy'n sôn am 'wahodd' rhywun i gyfarfod. Beth am gyfarfodydd sy'n digwydd heb fod rhywun yn cael ei wahodd, a hyd yn oed heb fod y cyfarfod yn cael ei 'drefnu' ymlaen llaw o gwbl? Awgrymwn fod angen newid y Safonau sy'n nodi 'pan fyddwch yn gwahodd un person i gyfarfod' i 'pan fyddwch yn trefnu cyfarfod gydag un person', ac ati. 

Mae materion pwysig i'w hystyried yng nghyd-destun y Safonau hyn a rhai o gyrff Cylch 2. Er enghraifft, pan fydd rhywun yn cael ei gyfweld gan yr heddlu, dylai fod yn gwbl eglur drwy'r Safonau bod ganddynt hawl i gael eu cyfweld yn Gymraeg. Yr un modd, cyfarfodydd wyneb yn wyneb ar ffurf apwyntiadau neu ymgynghoriadau meddygol, gwasanaethau sy'n hanfodol eu darparu yn Gymraeg. Rydym yn cymryd bod y Safonau sy'n sôn am gyfarfodydd sy'n ymwneud â buddiant personol a llesiant yn cynnwys sefyllfaoedd o'r fath, ond o ystyried y teitl 'cyfarfodydd', credwn fod angen gwneud hynny'n hollol eglur i'r cyhoedd ac i'r sefydliadau dan sylw. Dylai fod yn glir bod hawliau i chi dderbyn gwasanaeth wyneb yn wyneb â'r heddlu.  

4.4 Cyfarfodydd a drefnir sy’n agored i’r cyhoedd 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Rydyn ni'n gwrthwynebu'n bendant y trothwyon a osodir yn y gwahanol haenau o Safonau o ran cyfieithu ar y prydMae'r Safonau hyn yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Unwaith eto, maent yn gorfodi rhywun i optio i mewn i wasanaeth Cymraeg, a hyd yn oed ar ôl optio i mewn, ni fydd sicrwydd o'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg os na fydd y trothwy wedi ei gyrraedd. Os oes un person neu fwy am siarad Cymraeg, bydd angen trefnu cyfieithydd ar y pryd, oni bai bod modd sicrhau bod pawb yn y cyfarfod yn siarad Cymraeg, ac felly bod modd cynnal y cyfarfod yn Gymraeg yn unig. 

4.5 Digwyddiadau cyhoeddus 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae angen eglurhad y bydd digwyddiadau a drefnir rhwng nifer o gyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i'r Safonau.  

4.6 Cyhoeddusrwydd a Hysbysebu 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. Mae hefyd angen eglurdebod hyn yn cynnwys creu unrhyw gyfryngau e.e. clipiau fideo. 

4.7 Arddangos deunydd yn gyhoeddus 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

4.8 Cynhyrchu a chyhoeddi dogfennau 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

4.9 Cynhyrchu a chyhoeddi ffurflenni 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae angen eglurder bod ffurflenni electronig yn dod o dan y Safonau hyn.  

4.10 Gwefannau a gwasanaethau ar-lein 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Credwn fod angen eglurder naill ai yn y Safonau hyn neu o dan y Safonau 'gohebiaeth'. Cawsom gwyn yn ddiweddar bod yr Heddlu yn ardal Penygroes yn trydar yn uniaith Saesneg. Yn amlwg, gyda'r cyfryngau cymdeithasol mor bwysig fel dull cyfathrebu erbyn hyn mae rhaid iddynt ddod o dan y Safonau er mwyn sicrhau bod cyrff yn cyfathrebu yn Gymraeg ac yn peidio â thrin yr iaith yn llai ffafriol na'r Saesneg. Gyda dulliau cyfathrebu yn newid mor gyflym ac ar wahanol lwyfannau, dylid sicrhau bod Safonau eang eu diffiniad ynghylch gwasanaethau ar-lein fel bod modd cadw lan gyda datblygiadau technolegol  

4.11 Arwyddion 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae angen sicrhau bod arwyddion electroniac arddangosfeydd clywedol mewn lleoedd megis amgueddfeydd yn dod o dan y categori hwn o Safonau. 

Yn yr un modd dylai uwch-deitlau ac is-deitlau mewn dramâu a pherfformiadau fod o fewn y diffiniad o arwyddion hefyd.  

4.12 Derbyn ymwelwyr 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Ni ddylai'r Safonau hyn fod yn gyfyngedig i 'brif dderbynfeydd' yn unig gan fod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn cymaint o gyd-destunau gwahanol. 

4.13 Hysbysiadau swyddogol 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Nodwn fod yr helynt diweddar ynghylch presgripsiynau yn amlygu bod rheoliadau presennol yn pennu mai yn uniaith Saesneg y maent yn cael eu hysgrifennu. Mae angen eglurhad ar gyrff mai'r Safonau hyn fydd yn cael eu gweithredu, yn hytrach na'r rheoliadau presennol.  

4.14 Dyfarnu ar geisiadau am grant 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae'n hanfodol bwysig bod diwygio ar y Safonau hyn er mwyn sicrhau bod gwasanaeth a gyflenwir drwy grant yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg. Hynny ydy, mae angen sicrhau bod amodau iaith Gymraeg yn cael eu gosod ar y grantiau a ddosberthir gan gyrff yn ail gylch y Safonau.   

Mae Chwaraeon Cymru yn gorff lle mae dosbarthiad grantiau yn hollbwysig o ran cynyddu defnydd a darpariaeth Gymraeg drwy glybiau a chyrff chwaraeon lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod y grantiau Chwaraeon Cymru yn cynnwys gofynion ac amodau cadarn a chlir o ran darpariaeth Gymraeg. Yn yr un modd cyrff fel Cyngor y Celfyddydau, y Gronfa Loteri Fawr ac ati. 

4.15 Dyfarnu ar dendrau am gontract 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae'n hynod o bwysig bod y Safonau yn cael eu cryfhau yn hyn o beth ar gyfer cyrff fel S4C sy'n gwneud cymaint o waith, ond lle mae nifer o'r cwmnïau nad ydynt yn gweithredu'n fewnol yn Gymraeg er y gallent wneud hynny. 

Yn y maes iechyd hefyd, ceir contractau ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol megis fferyllfeydd a meddygon teulu.   

4.16 Codi ymwybyddiaeth ynghylch gwasanaethau Cymraeg 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

4.17 Hunaniaeth gorfforaethol 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Dylai pob corff orfod rhoi'r Gymraeg yn gyntaf - syndod yw gweld corff fel yr Ardd Fotaneg yn gosod y Saesneg uwchben y Gymraeg.   

4.18 Cyrsiau 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn darparu nifer fawr o gyrsiau i gyrff gwirfoddol ond nid ydynt yn darparu nhw yn Gymraeg. Mae’n hynod o bwysig felly bod y Safonau hyn yn cael eu gosod arnyn nhw. 

Yn yr un modd mae Chwaraeon Cymru yn darparu cyrsiau i hyfforddwyr, sy'n hanfodol er mwyn gwella'r ddarpariaeth Gymraeg ar lawr gwlad.        

Mae'n bwysig bod y dehongliad o gyrsiau yn glir, gan fod perygl y gellid gweld cyrsiau sy'n agored i'r cyhoedd yn unig yn rhy gyfynggallai'r cyhoedd i rai o'r cyrff olygu diond y rhai sy'n aelodau o'r cyrff neu sy'n cael eu rheoli gan y cyrff.  

Dylai pob corff fod ar lefel uchaf y Safonau hyn, gan fod cyrsiau mor bwysig o ran gwella dealltwriaeth a defnydd o'r Gymraeg i bobl o bob oedran.                

4.19 Systemau annerch cyhoeddus 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Dylai pob corff orfod cyhoeddi'r Gymraeg yn gyntaf ar systemau annerch cyhoeddus. Mae hyn yn fater o bwys i statws cyffredinol y Gymraeg. 

4.20 Safonau llunio polisi 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Credwn fod nifer o gyrff a fyddai'n elwa o osod y Safonau hyn arnynt megis Canolfan y Mileniwm, y cyrff rheoli proffesiynoly Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Ardd Fotaneg a chyrff sy'n dyrannu grantiau megis Cyngor y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru. 

4.21 Safonau gweithredu 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

Sylwadau: 

Mae polisïau cyflogaeth yn hynod o bwysig i nifer fawr o gyrff yn y cylch hwn o Safonau  

Dylai cyrsiau datblygiad proffesiynol staff orfod cael eu darparu yn Gymraeg er mwyn sicrhau gwelliant yn sgiliau iaith y gweithlu presennol.   

Mae'n bwysig iawn bod Safonau 126 a 127 yn cael eu gosod ar gyrff iechyd a heddlu yn benodol fel bod datblygiad proffesiynol staff yn cael eystyried fel hyfforddiant sy'n gorfod cael ei ddarparu yn Gymraeg. 

Byddai newid geiriad y Safonau o gymorth fel eu bod yn egluro bod pob math o hyfforddiant proffesiynol yn cael eu darparu yn Gymraeg.  

4.22Safonau cadw cofnodion 

Rydyn ni’n cytuno y dylai’r sefydliadau yn y categorïau a nodir fod yn gwneud y gweithgaredd hwn yn Gymraeg. 

5. Sylwadau am y cyrff yng nghylch 2 

 

5.1 Awdurdodau’r HeddluAwdurdod Heddlu Niwclear Sifil, Awdurdod yr Heddlu Trafnidiaeth BrydeinigComisiwn Cwynion Annibynnol yr HeddluPrif Gwnstabliaid yr HeddluComisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 

Ceir cwynion cyson am ddiffyg gwasanaeth Cymraeg yr Heddlu - o ddiffyg heddweision sy'n siarad Cymraeg i wasanaethau ffôn a i wasanaethau ar-lein. Mae nifer o bobl mewn cyd-destunau bregus nad sy'n ymwybodol o'u hawliau iaith, felly mae'n hynod o bwysig bod y Safonau yn darparu gwasanaethau Cymraeg yn ddiofyn, yn hytrach gosod baich ar y defnyddiwr i holi am wasanaeth Cymraeg.  

Yn y gorffennol, cafodd enghraifft dda o bolisi cyflogaeth ei fabwysiadu gan Heddlu Gogledd Cymru ond nid oedd cefnogaeth i ledaenu'r polisi hwnnw i ardaloedd eraill. Rydyn ni ar ddeall y cafwyd llithro nôl o ran polisi cyflogaeth Heddlu Gogledd Cymru yn fwy diweddar, sydd ond yn tanlinellu pwysigrwydd cynnwys Safonau sy’n ymwneud â pholisi cyflogaeth mewn ffordd llawer mwy cadarn. 

5.2 Byrddau Iechyd LleolCynghorau Iechyd Cymuned, Ymddiriedolaethau’r GIG, Awdurdodau Iechyd ArbennigAwdurdod Gwasanaethau Busnes y GIGPartneriaeth cydwasanaethau GIG Cymru 

 

Dylai'r Safonau ar gyfer byrddau iechyd adlewyrchu canfyddiadau Ymholiad Iechyd y Comisiynydd. Mae hyn yn golygu y bydd angen creu Safonau penodol ar gyfer cyrff iechyd - mae modd troi sawl un o argymhellion yr ymholiad iechyd yn SafonauOs yw'r gyfundrefn Safonau i fod yn effeithiol yn y maes iechyd mae'n hanfodol hefyd eu bod yn datrys y gwendid sylfaenol a nodwyd yn yr adroddiad o ran contractau cenedlaethol gyda meddygon teulu a darparwyr gofal sylfaenol. 

5.3 Amgueddfa Genedlaethol Cymru 

Mae rôl bwysig i'r Amgueddfa Genedlaethol o ran cyfrannu at y Gymraeg fel iaith gwaithDyma gorff a ddylai fod yn gweithio tuag at weinyddu'n fewnol yn Gymraeg, gan ddechrau mewn rhai o'i amgueddfeydd, gan anelu yn y pen draw at weithredu yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg. Nid oes unrhyw arwydd yn ei gynllun iaith ei fod yn anelu at hynny, ac mae rhai o'n cefnogwyr wedi awgrymu wrthym bod statws y Gymraeg yn Amgueddfa Sain Ffagan, er enghraifft, yn gostwng yn hytrach nac yn codi. 

5.4 Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr 

Mae'n fater o gyfiawnder botroseddwyr ifanc yn cael gwasanaeth yn eu dewis iaith wrth ymwneud â'r wladwriaeth. Mae'n hollbwysig felly bod Safonau uchel yn cael eu gosod ar gyrff cyfiawnder fel y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. 

5.5 Canolfan Mileniwm Cymru 

Credwn y gallai'r corff hwn fod yn un y gallai symud at weinyddiaeth Gymraeg dros amser, ond nid oes mechanwaith yn y Safonau er mwyn sicrhau hynny. Mae hynny'n amlygu gwendid cyffredinol yn y Safonau: nid oes modd symud rhagor o gyrff ymlaen i wella eu defnydd o'r Gymraeg. Bydd yn rhy hawdd o lawer bodloni ar ddefnydd arwynebol o'r Gymraeg darperir ar ei gyfer yn y Safonau. 

O ran llunio polisi, nodwn y gallai Canolfan Mileniwm Cymru elwa o'r Safonau hyn wrth gynllunio eu perfformiadau fel y gall y Gymraeg a'i defnydd elwa o'u rhaglen yn fwy nag ar hyn o bryd. Mae'r Ganolfan yn sefydliad pwysig o ran hybu diwylliant yng Nghymru ond rydym wedi cael cwynion gan gefnogwyr yn nodi ei bod fel petai'n anymwybodol o'r ffaith ei bod yng Nghymru o gwbl, a phrin yw'r digwyddiadau Cymraeg proffil uchel sy'n cael eu cynnal ganddi. 

5.6 Colegau Cymru Cyfyngedig, Corfforaethau Addysg Bellach Coleg Sir GârColeg CeredigionThe National Institute of Adult Continuing Education 

I'r graddau bod y cyrsiau a ddarperir gan y Colegau hyn yn ddarostyngedig i'r Safonau, dylid sicrhau bod y cyrsiau hynny yn cael eu darparu yn Gymraeg yn unol â Safon 82.   

5.7 Comisiynydd Plant CymruComisiynydd Pobl Hŷn Cymru 

Mae Comisiynwyr yn sefydliadau o bwys yng Nghymru sy'n sefyll dros leiafrifoedd bregus. Mae'n hollbwysig bod y sefydliadau hyn yn gweithredu mewn modd sy'n parchu ac yn hyrwyddo hawliau iaith siaradwyr Cymraeg.  

Mae swyddogaethau Comisiynydd Plant Cymru. Dylai fod gofyniad i staff presennol ddysgu'r Gymraeg fel bod y cyrff yn symud at weithio'n fewnol yn Gymraeg.  

Rydyn ni wedi cwyno am y penodiad o Gomisiynydd Plant nad sy'n siarad Cymraeg, sy'n creu problemau . Dylai swyddi'r Comisiynwyr allu siarad Cymraeg, gan fod rhai,  

Mae Safonau Llunio Polisi yn hynod berthnasol i'r Comisiynwyr hyn. Gwelir llawer o adroddiadau ganddynt lle nad oes sôn am y Gymraeg o gwbl, a hynny mewn meysydd lle mae hawliau iaith yn cael eu tramgwyddo arnynt yn gyson.  

5.8 Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru 

Dywedwyd ar adeg y newidiwyd y gyfraith er mwyn gollwng y gofyniad iaith i aelodau'r Comisiwn y byddai'r Safonau yn ymwneud â sicrhau y byddai siaradwyr Cymraeg ar y Comisiwn. Felly, mae'n rhaid sicrhau bod Safonau yn sicrhau bod cyfran o'r bobl sy'n cael eu penodi i'r Comisiwn - a chyrff cyhoeddus eraill - yn siaradwyr Cymraeg. 

5.9 Y Comisiwn Etholiadol 

Mae angen sicrhau bod ffurflenni, adroddiadau a chyngor diweddaraf y Comisiwn yn cael eu darparu yn Gymraeg. Gweler enghreifftiau lle mae gwybodaeth a ddarperir gan y Comisiwn yn hen.  

5.10 Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth 

Rydym ar ddeall bod y gwasanaeth a ddarperir ar y ffôn gan y corff yn dameidiog, ac yn amlygu gwendid o ran ei bolisi cyflogaeth.  

5.11 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 

Yn ystod oes y corff hwn, cafwyd anghysondeb ynghylch i ba raddau ystyrir y Gymraeg o fewn ei waith polisi. Dros y blynyddoedd diweddar, mynegwyd pryderon am y diffyg ystyriaeth a roddwyd i'r Gymraeg yn eu hadroddiadau, ac wrth gasglu barn y cyhoedd am gamwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg. Mae gosod y Safonau llunio polisi felly yn hynod o bwysig.  

5.12 Corfforaethau addysg uwch 

Mae'r sector yma yn hollbwysig o ran ei dylanwad ar ddyfodol yr iaith. Mae cyfraniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn lliniaru peth o'r niwed mae prifysgolion Cymru yn ei wneud i'r Gymraeg, ond y tu hwnt i hynny mae mwyafrif y prifysgolion, gyda chyllidebau anferth, yn gwneud y lleiaf posibl i gydnabod bodolaeth ein hiaith genedlaethol.  

Mae'r prifysgolion mewn sefyllfa wych i hyfforddi ei myfyrwyr i ddod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys y degau o filoedd o fyfyrwyr o wledydd eraill (y bydd llawer ohonynt yn aros yng Nghymru ar ôl graddio) yn ogystal â degau o filoedd o Gymry di-Gymraeg sydd wedi eu gadael i lawr gan system "addysg ail iaith" yn yr ysgolion, ac sy'n haeddu ail gynnig i ddysgu iaith eu gwlad. Dylai fod cyrsiau helaeth yn cael eu cynnig i fyfyrwyr ddysgu Cymraeg, yn ychwanegol at bwnc eu gradd, yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol, gan gynnwys cyrsiau dwys dros yr haf. Mae angen safon felly a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gorfforaethau addysg uwch gynnig cyrsiau o'r fath, mesur eu defnydd, adrodd ar eu canlyniadau a gweithio tuag at welliant parhaus o ran niferoedd sy'n dysgu i ruglder. 

Mae'r prifysgolion hefyd mewn sefyllfa rymus o ran paratoi gweithlu'r dyfodol mewn meysydd penodol. Ym maes hyfforddi athrawon, deallwn fod cwotâu yn bodoli sy'n ei gwneud yn ofynnol hyfforddi canran benodol o athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn helpu i sicrhau y bydd cyflenwad digonol o athrawon cyfrwng Cymraeg. Mae angen cwotâu tebyg ar gyrsiau eraill - meddygaeth, bydwreigiaeth, optometreg, y gyfraith - er mwyn darparu gweithlu a fydd yn ateb gofynion Cymru. Credwn y dylid gosod safon felly ar brifysgolion yn mynd i'r afael â hyn. 

Wrth gwrs, mae creu amgylchedd Cymraeg mewn sefydliadau addysg uwch yn ymestyn ymhellach na'r dysgu. Mae pwysigrwydd neuaddau preswyl Cymraeg wedi ei bwysleisio yn ystod flwyddyn ddiwethaf gan fyfyrwyr Aberystwyth, ac mae darpariaeth nifer o brifysgolion yn y maes hwn ar hyn o bryd yn gwbl annigonol. 

Cyrff hollbwysig o ran eu dylanwad ar y Gymraeg yw undebau myfyrwyr. Mae rhai o gefnogwyr y Gymdeithas wedi tynnu ein sylw at hyn gan awgrymu iddynt gael ar ddeall gan swyddogion y Comisiynydd nad oes bwriad cynnwys undebau myfyrwyr o dan Safonau yn y dyfodol agosO ystyried bod cynlluniau iaith presennol prifysgolion yn cynnwys adran am undebau myfyrwyr, canlyniad hyn fydd eithrio undebau myfyrwyr yn llwyr o ddyletswyddau iaith, sefyllfa gwbl annerbyniol o ystyried yr arian cyhoeddus sylweddol sy'n mynd i undebau, a'u dylanwad pellgyrhaeddol. Gofynnwn i chi felly ailystyried a rhoi sylw brys i'r mater hwn, naill ai drwy sicrhau bod undebau myfyrwyr yn dod yn ddarostyngedig i Safonau cyn gynted â phosibl, neu osod Safon ar brifysgolion a fydd yn eu gorfodi i osod amodau iaith ar undebau wrth roi grant iddynt. 

5.13 Y Swyddfa Gyfathrebiadau 

Mae gan y Swyddfa Gyfathrebiadau rôl bwysig wrth ddyfarnu trwyddedau radio a teleduMae angen iddo fod yn glir bod gosod amodau iaith ar drwyddedau yn dod o dan naill ai'r Safonau Llunio Polisi neu'r Safonau Contractau er mwyn sicrhau nad oes llithro yn ôl o'r addewidion a wnaed yn y cynllun iaith sydd gyda nhw ar hyn o bryd.   

5.14 Cyfoeth Naturiol Cymru 

Cyn cael ei lyncu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, roedd Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn gweithio tuag at ddefnydd mewnol cynyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Deallwn fod llithro'n ôl sylweddol wedi digwydd ers hynny. Mae angen y dyletswyddau uchaf posibl ar y corff dylanwadol hwn er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio dros gyfnod o amser tuag at weinyddu'n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg. 

5.15 Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyfyngedig 

Rydym wedi cael cwynion gan ein cefnogwyr ers blynyddoedd am y cwmni hwn a'u hanallu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg derbyniol. Mae'n bwysig gosod Safonau arnynt felly er mwyn datrys hyn. 

5.16 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

Nodwn nad oes llawer o staff yn y Gymdeithas sy'n gallu ymwneud â'r cyhoedd yn Gymraeg. Credwn yn hynny o beth bod angen i'r Safonau sicrhau bod gwell cynllunio o'r gweithlu.  

5.17 Y Gronfa Loteri FawrCyngor Celfyddydau CymruCronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol  

Dyma gyrff sy'dyrannu arian sylweddol iawn yng Nghymru, ond sy'n gwneud llawer o'u penderfyniadau ariannu heb ystyriaeth i gyfraniad eu grantiau at hybu neu niweidio'r Gymraeg. Gobeithiwn weld y Comisiynydd yn rhoi sylw i hyn wrth osod Safonau llunio polisi ar y cyrff hyn. 

5.18 Cyngor Ceiropractig CyffredinolCyngor Deintyddol CyffredinolCyngor Meddygol CyffredinolCyngor Nyrsio a BydwreigiaethCyngor Optegol CyffredinolCyngor Osteopatheg CyffredinolCyngor Proffesiynau Iechyd a GofalCyngor Gofal CymruCyngor Addysgu Cyffredinol CymruAwdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a GofalY Cyngor Fferyllol Cyffredinol 

Fel cyrff sy'n rheoli proffesiynau, mae'n hollbwysig bod dyletswyddau ar y cyrff hyn a fydd yn arwain awell cynllunio gweithlu ar gyfer dibenion Cymru ddwyieithog. 

5.19 Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau 

Dyma gorff sy'n cael dylanwad ar y broses o wneud cais i brifysgolion. Mae'n hollbwysig bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu yn Gymraeg, a bod Safonau llunio polisi yn cael eu gosod er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn rhoi'r cymorth angenrheidiol i sefydliadau addysg uwch a'r Coleg Cymraeg allu gwneud eu gwaith o ran hybu'r Gymraeg. 

 

5.20 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 

Dyma gorff mawr sy'n cynrychioli'r sector gwirfoddol ac felly mae'n hollbwysig bod y Safonau uchaf posibl yn cael eu gosod arno. 

Pryderwn yn fawr am y diffyg darpariaeth hyfforddiant Gymraeg a ddarperir gan y corff hwn. Nid yw'r cyrsiau a restrir ar eu gwefan yn nodi a ydy'r cyrsiau yn cael eu darparu drwy'r Gymraeg ai peidio. Ond mae swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi holi yn ddiweddar ac ymddengys nad oes yr un o'u cyrsiau yn ystod y flwyddyn i ddod yn cael eu darparu drwy'r Gymraeg. Credwn felly ei bod yn hynod o bwysig i Safon 82 gael ei gosod ar y corff hwn.  

5.21 Darparwyr gwasanaethau gyrfaoedd [Career Choices Dewis Gyrfa Cyf] 

Rydyn ni'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan eich panel a edrychodd ar y maes iechyd. Mae'n bwysig bod y Safonau'n adlewyrchu casgliadau'r adroddiad hwnnw er mwyn sicrhau gweithlu dwyieithog yn y maes iechyd. 

5.22 Cyngor Llyfrau CymruLlyfrgell Genedlaethol Cymru 

Pryderwn nad oes Safonau digon uchel eu natur i sicrhau bod y Llyfrgell Genedlaethol a'r Cyngor Llyfrau yn gweinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg. Maent yn sefydliadau sy'n gwneud defnydd helaeth o'r Gymraeg o ddydd i ddydd, ac mae angen gosod hynny ar sail gadarn ac adeiladu arno. 

Mae cefnogwyr wedi codi pryderon bod y llyfrgell yn llithro'n ôl o ran ei hymrwymiad i'r Gymraeg o dan yr arweinyddiaeth bresennol - rhywbeth sydd i'w weld mewn newidiadau fel y ffaith bod tudalen sblash y wefan wedi diflannu yn ddiweddar, a bod y wefan yn mynd i'r Saesneg yn ddiofyn erbyn hyn. 

Yn yr un ffordd, bu helyntion ynghylch penodiadau i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell. Credwn fod y profiadau hynny yn dangos y byddai cyrff fel y Llyfrgell yn elwa o Safonau cadarnach a lefel uwch er mwyn sicrhau bod y corff yn cael ei reoli a'i weinyddu drwy'r Gymraeg yn unig. Ymhellach, nodwn fod y cyn-Weinidog Llywodraeth Lleol wedi addo y bydd y Safonau yn ymwneud â'r broses penodiadau cyhoeddus er mwyn gosod trothwyon ar gyfer y nifer o siaradwyr Cymraeg. Credwn fod angen i'r Safonau gynnwys lefel uwch lle mae'r cyrff sy'n gweinyddu'n Gymraeg gyda pholisi recriwtio sydd ond yn recriwtio gweithwyr sy'n medru'r Gymraeg, a hefyd bod y penodiadau cyhoeddus yn cyfateb i'r polisi hwnnw yn ogystal. 

5.23 Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 

Mae nifer o'n haelodau wedi codi pryderon am ddarpariaeth Gymraeg yr Ardd Fotaneg sydd wedi ei lleoli mewn ardal lle mae'r Gymraeg yn wynebu heriau eithriadol. Yn wir, credwn fod angen trawsnewid agwedd y corff tuag at y Gymraeg. Yn wir, dylai'r corff fod yn gweinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg, ond deallwn fod hynny'n bell iawn o fod yn wir. 

Credwn ei bod yn hynod o bwysig cynnwys y Gerddi o dan y Safonau. Eto, deallwn fod nifer o'r problemau yn deillio o broblemau gyda pholisi cyflogaeth y corff. Yn 2011, gwnaed cwynion gan un o'n haelodau am y materion hyn, ac mae'n debyg nad oes llawer wedi newid. 

Nodwn fod y negeseuon ar dudalen Facebook yr Ardd Fotaneg yn uniaith Saesneg, neu Saesneg yn bennaf; a hynny er gwaethaf addewid a wnaed i un o'n haelodau ym mis Gorffennaf 2011. Gwelwn fod trydariadau'r corff yn ffafrio'r Saesneg dros y Gymraeg yn ogystal.  

Nodwn fod hunaniaeth gorfforaethol yn rhoi'r Saesneg uwch ben y Gymraeg. Ar ben hynny, mae gwefan y corff yn mynd yn ddiofyn i'r fersiwn Saesneg ac nid yw nifer fawr o adrannau'r wefan ar gael yn Gymraeg o gwblMae'r defnydd tameidiog yma o'r Gymraeg yn dangos naoes dim wedi newid ers yr addewid a roddwyd i'n haelod yn 2011 y byddai darpariaeth gyfan gwbl Gymraeg: 

"... I am pleased to inform you that we do have a completed mirror version of the site (not yet for public access) which is in both English and Welsh and is currently being beta-tested. When this goes live, it will be thoroughly bilingual and will include on-line ticketing and payment receipt mechanisms that will likewise be in both English and Welsh" - 24ain Mehefin 2011, Swyddog, Gardd Fotaneg Cymru 
 
"You will be aware that, as of yesterday, postings on Facebook are appearing in both the English and Welsh language. This follows the appointment of a bilingual marketing assistant." - 5ed Gorffennaf 2011, Swyddog, Gardd Fotaneg Cymru 
 

Yn amlwg, nid yw'r addewidion uchod wedi eu gwireddu.  

Mae'n debyg felly yn hytrach na chael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg, bod y sefydliad yn un sy'n cael effaith negyddol ar yr iaith oherwydd y ffordd mae'n cael ei weinyddu. Yn hynny o beth, mae'n hollbwysig bod yr holl Safonau lefel uchaf yn cael eu gosod ar y corff gydag amserlen dynn i'w cyflawni oherwydd bydd rhagor o oedi. Credwn y bydd y Safonau llunio polisi yn bwysig hefyd er mwyn sicrhau newid agwedd a pholisïau. 

Mae ystyried problemau di-ri'r corff hwn yn amlygu gwendidau sylfaenol yn y Safonau fel y safant: nid oes dim byd yn y Safonau a fyddai'n sicrhau bod cyfrifon cyfryngau cymdeithasol cyrff yn cadw at yr egwyddor na ddylent yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Nodwn hefyd nad oes dim a fydd yn cynorthwyo cyrff i symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg ychwaith.  

5.24 Chwaraeon Cymru 

Fel y nodwyd yn flaenorol mae'r corff hwn yn hollbwysig o ran yr effaith ar lawr gwlad, drwy grantiau a hyfforddiant ac ati. Mae'n hanfodol bod y Safonau uchaf posibl yn cael eu gosod ar y corff. 

5.25 Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru 

Mae'r Cyngor yn ariannu sefydliadau addysg uwch Cymru a'r Coleg Cymraeg. Mae'n hollbwysig felly eu bod yn gallu darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'u bod yn ddarostyngedig i Safonau llunio polisi. 

5.26 Opera Genedlaethol Cymru Cyfyngedig 

Dylid sicrhau bod uwchdeitlau Cymraeg ar unrhyw berfformiadau yng Nghymru lle mae uwchdeitlau Saesneg. Dylid sicrhau hefyd bod unrhyw waith allgymorth gydag ysgolion ac ati yn cael ei wneud yn Gymraeg. 

5.27 Sianel 4 Cymru 

Mae S4C yn sefydliad mawr ei ddylanwad sy'n gwario symiau sylweddol o arian. Codwyd cwestiynau gan ein haelodau ynghylch ymrwymiad y sianel i ddefnydd o'r Gymraeg yn fewnol, rhywbeth y mae'n hollbwysig mynd i'r afael ag ef. Yn yr un modd, mae'n hollbwysig bod cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy'n gwneud gwaith i S4C hefyd yn dod o dan ddyletswyddau i symud tuag at ddefnydd mewnol o'r Gymraeg yn eu gweithgareddau dan gontract i'r Sianel Gymraeg. 

5.28 Y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig 

Dyma sefydliad mawr a dylanwadol, a allai fod yn gweithio yn llawer mwy drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylid gosod y Safonau uchaf posibl ar y BBC gan sicrhau eu bod yn gwneud defnydd cynyddol o'r Gymraeg yn fewnol. 

5.29 Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyngor ar Bopeth CAG CymruGofal CymruGwasanaeth Gwirfoddol BrenhinolHafal 

Mae'n hollbwysig bod unrhyw gyrff sy'n ymwneud â phobl fregus ac mewn gwendid yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

6. Sylwadau Eraill  

6.1 Enwi Rhagor o Gyrff sy'n derbyn arian cyhoeddus 

Nodwn fod nifer o gyrff sydd heb eu henwi o dan y categori sy'n derbyn dros £400,000 o arian cyhoeddus.  

Credwn fod Undeb Rygbi Cymru yn un o'r cyrff amlwg y dylid eu cynnwys o dan y cylch nesaf o Safonau gafod angen gwella eu darpariaeth Gymraeg yn sylweddol. Rydym yn ymwybodol bod nifer o sioeau megis Gŵyl y Gelli Gandryll sy'n derbyn arian cyhoeddus sylweddol, nid yn unig mewn grantiau ond ffyrdd anuniongyrchol eraill.  

Credwn fod angen i'r Comisiynydd wneud ymdrech bellach i ddod â llawer mwy o gyrff sy'n derbyn arian cyhoeddus o dan gyfundrefn y Safonau.