Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod na ellid cynnal yr holl rwydwaith o ysgolion pentrefol fel y mae. Mae pwysau o bob cyfeiriad ar yr ysgolion ac nid ydym yn dymuno gweld dirywiad graddol, anochel. Mynnwn fod llawer o ysgolion pentrefol sy’n hollol hyfyw fel y maent, ond ni ellir cynnal y statws quo mewn llawer o’r ysgolion pentrefol eraill. Cytunwn yn llwyr fod yn rhaid rhesymoli - y ddadl yw rhwng rhesymoli negyddol trwy’r broses ddiddychymyg o gau ysgolion neu resymoli cadarnhaol trwy osod strwythurau newydd gan gydweithio gyda rhieni, llywodraethwyr a chymunedau lleol, a chan weld addysg gynradd yng nghyd-destun ehangach cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardaloedd gwledig.
Yn y ddogfen hon, fe ddadleuwn dros Resymoli Cadarnhaol gan ein bod yn gweld pwysigrwydd allweddol yr ysgolion pentrefol i gynnal llawer o gymunedau Cymraeg, a hefyd fel modelau addysgol a allent fod yn flaengar iawn, ac yn esiampl i ardaloedd trefol.
Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol 2008 (pdf - 112kb)
Village Schools - The case for Positive Rationalisation 2008 (pdf - 129kb)