Datganoli Darlledu
Mae datganoli darlledu yn un o brif ymgyrchoedd Grŵp Dyfodol Digidol y Gymdeithas. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru i bwyso a galw am ddatganoli darlledu i Gymru. Mae'n hanfodol fod gennym y grym yma yng Nghymru i benderfynu dros ddyfodol ein sianel Gymraeg a'n gorsafoedd radio lleol.
Gallwch ddarllen ein papur polisi ar ddatganoli darlledu yma.
Dyfodol Digidol
Mae’r we, radio, teledu, papurau newydd a phlatfformiau aml-gyfrwng yn hollol bwysig i’n hoes ni heddiw – dyma’n dulliau cyfathrebu a'n cymunedau rhithiol. Ond, ble mae’r Gymraeg yn y chwyldro digidol?
- Os yw’r Gymraeg yn iaith fyw ac i ffynnu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol mae’n rhaid ei defnyddio ar draws pob cyfrwng, rhaid ei gwneud yn briod iaith cyfryngau digidol yng Nghymru.
- Mae prinder cynnwys Cymraeg ar y we yn fater o ofid i nifer fawr; os nad yw’r Gymraeg yn weledol ac yn addasu i’r oes digidol, pa fath o ddyfodol fydd iddi?
- Rydym wedi colli cyfle dro ar ôl tro, gan adael i gwmnïau masnachol brynu gorsafoedd radio lleol, gan ddisodli a dileu llawer o ddarlledu Cymraeg a rhoi iddi elfen docenistaidd y tu allan i’r orau brig yn unig.
Am ragor o wybodaeth am ymgyrch Dyfodol Digidol y Gymdeithas, ebostiwch: post@cymdeithas.cymru
Dyfodol S4C
Ni ellir cymryd yr unig sianel deledu Gymraeg yn ganiataol – ein sianel ni, ein cyfrwng ni i fynegi’n hunain yw hi. Rhaid i’r sianel gael sicrwydd ariannol ac annibyniaeth olygyddol.
Mae'n bwysig ein bod yn galw am newidiadau i S4C; mae ganddi gyfrifoldeb i adlewyrchu bywyd cymunedau Cymraeg ar draws Cymru gyfan ac nid dim ond darlledu addasiadau Cymraeg o raglenni a diwylliant eingl-americanaidd.
Dogfennau
- « first
- ‹ previous
- 1
- 2
- 3
- 4