Ail-ddylunio'n gwefan

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi penderfynu bod angen adfywio ei gwefan.  Rydym felly yn chwilio am gwmni neu unigolyn i ail-ddylunio'r wefan, gan gadw at y system gefndirol bresennol Drupal.

Ein nod yw cael gwefan sy'n fodern o ran golwg, yn syml ac yn hygyrch. Rhaid hefyd gael popeth yn Gymraeg.

Dyddiad cau'r broses dendro: 22 Mawrth 2019

Am y ddogfen dendro llawn ac am fwy o wybodaeth, e-bostiwch post@cymdeithas.cymru neu ffoniwch 01970 624501