Etholiad 2021: Dadansoddi maniffestos y pleidiau

A ninnau yng nghanol etholiad, mae’n angenrheidiol argyhoeddi’r pleidiau o’n gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf a’r angen i flaenoriaethu’r Gymraeg yn hytrach na’i gadael yn ôl-ystyriaeth. Fel dinasyddion a phleidleiswyr, mae’r grym yn ein dwylo ni; mae’n hollbwysig ein bod felly’n ystyried record yr ymgeisyddion ar, a’u gweledigaeth ar gyfer, y Gymraeg cyn ein bod yn bwrw’n pleidlais. Ydyn nhw'n cefnogi'n gweledigaeth Mwy Na Miliwn — Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb? Ydyn nhw am wirioneddol wreiddio’n hiaith yn ein cymunedau a dileu unrhyw rwystr sy’n bodoli all ei wneud yn anodd i rywun ddysgu neu ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd? Dyma’r math o gwestiynau y bydd angen inni eu holi pan ddaw at bleidleisio: wedi’r cyfan, mae’r gwleidyddion yn atebol i ni fel dinasyddion a phleidleiswyr ar ddiwedd y dydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi credu erioed bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ym mhob rhan o’r wlad. Mae’r cynigion yn ein dogfen weledigaeth ‘Mwy Na Miliwn — Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’ yn cynrychioli’r camau mawr, ond cyraeddadwy, sydd eu hangen i wireddu’r weledigaeth honno o ddifri, drwy amlinellu’n glir y camau y dylid eu cymryd er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a defnydd bob dydd o’r iaith, yn ogystal â chyflwyno Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb. Dyma her a dyma gyfle i’n gwleidyddion, a phob un ohonom sy’n galw’r wlad hon yn gartref. 

Ond a yw’r weledigaeth arloesol, flaengar hon i’w gweld ym maniffestos y pleidiau? 

Isod, byddwn yn dadansoddi maniffestos y Blaid Lafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd:

AtodiadMaint
Beth yw gweledigaeth y pleidiau ar y Gymraeg.pdf108.01 KB