Gwahoddiad i ‘ymuno â’r frwydr dros yr iaith’ mewn neges blwyddyn newydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwahodd pobl Cymru ‘i ymuno â’r frwydr dros yr iaith’ yn ei fideo newydd. Mae’r fideo, a gyhoeddir fel neges blwyddyn newydd, yn cyd-fynd â'r weledigaeth a grisialwyd yn ‘Mwy na Miliwn — Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’.

Mae’r fideo, a ddyluniwyd gan Cadi Dafydd Jones, yn dilyn straeon Elinor, Rhydian, Siân a Sarah wrth iddyn nhw oll geisio byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae cost gwersi Cymraeg a diffyg gofodau Cymraeg yn rhwystr i Elinor, sy’n fam sengl, tra bod yr argyfwng tai a diffyg prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn bygwth gorfodi Rhydian, Siân a Sarah i adael eu cymunedau, gan fynd â’r iaith gyda nhw.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol Jones:

O’r fam sengl sydd eisiau dysgu Cymraeg, i’r cwpwl ifanc sy’n methu fforddio prynu tŷ a’r disgybl chweched dosbarth sy’n dewis eu llwybr gyrfaol: mae pobl Cymru yn dyheu naill ai am gael dysgu Cymraeg neu fwynhau rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un o’r bobl hyn ac i bawb sy’n byw yng Nghymru, yn ddi-eithriad — rydyn ni eisiau gweld pawb yn gallu byw yn Gymraeg.

"Rydyn ni’n galw felly ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu ein gweledigaeth ‘Mwy na Miliwn — Dinasyddiaeth Gymraeg i Bawb’ yn llawn. Mae hyn yn golygu dyfnhau’r agenda bresennol ac ehangu ar yr hyn sydd yn y cytundeb cydweithio rhwng y Blaid Lafur a Phalid Cymru. Mae angen canolbwyntio ar ddefnydd bob dydd o’r iaith yn ein cymunedau, ein gweithleoedd a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac estyn y Gymraeg i bawb, nid y rhai ffodus yn unig.

"Gwyddom fod rhwystrau yn wynebu pobl rhag cael mynediad at yr iaith — yn rhwystrau daearyddol, economaidd, neu ddosbarth cymdeithasol —  a bod rhain yn effeithio rhai grwpiau fel cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groenliw yn enwedig. Nid oes strwythurau na pholisïau ar waith i sicrhau bod gan bawb fynediad ystyrlon i ddysgu, mwynhau a defnyddio ein hiaith genedlaethol. Mae hyn yn fater o anghyfiawnder cymdeithasol mae’n rhaid ei daclo — mae angen estyn dinasyddiaeth Gymraeg i bawb.

"Diffyg cynnal, cefnogi a chreu gofodau uniaith Gymraeg yw ochr arall y geiniog hon. Dywedir yn llawer rhy aml nad yw’r Gymraeg yn iaith gynhwysol felly mae nifer o bobl o dan yr argraff bod cynnal gofodau — o gymunedau daearyddol, i weithleoedd i ddigwyddiadau — uniaith Gymraeg yn annerbyniol. Mae sicrhau mynediad gwirioneddol i’r iaith i bawb yn hanfodol i’r gwaith o gynyddu nifer y gofodau lle mai’r Gymraeg yw’r iaith arferol.”

“O sicrhau cartref i bawb yn eu cymuned i gyflwyno gwersi Cymraeg am ddim i bawb, o greu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg i gynyddu presenoldeb yr iaith ar y we, ac o greu mil o ofodau Cymraeg i fuddsoddi mewn swyddi Cymraeg da ym mhob rhan o’r wlad — dyma rai o’r pethau rydyn ni’n galw amdanyn nhw fel rhan o ‘Mwy na Miliwn’. Mae gan y Llywodraeth y grym i wireddu’r weledigaeth hanfodol hon, ac mi fyddwn ni’n gweithio dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau eu bod nhw’n gwneud hynny.

“Ar ddechrau blwyddyn newydd hoffwn i wahodd pobl Cymru, waeth beth fo  gallu eu Cymraeg, i ymuno â ni yn yr ymgyrch dros yr iaith a gwireddu gweledigaeth ‘Mwy na Miliwn’."

Gwyliwch y fideo yma